Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BOREU SADWRN y fan bellaf. Fob arcbebioo a thsilindati am Yr Udgobw i'w hanfon i'r Goeuchwtliwr, 74, High Street, Pwllheli. Pob gobehiaeth i'w cyfeirio- YB (Jdgobn Office, PWLLIJITLI. Bydd yn dda genym dderhyn goheV>- iaethaa oddiwrth ohebwyr ar fatet ion lleol o ddyddordeb cyhoeddoa.
NODION A HANESION. I
NODION A HANESION. Ymosod ar Ysgolfeistr. Yn Heddlys Bangor, y dydd o'r blaen, cyhuddid John Jones, Penrhos Garnedd, o ymosod ar Peter Edwards, athraw Ysgol y Faenol. Yn ol fel y tystiwyd aeth y cyhuddedig i'r ardd at Mr Edwards ar y 4ydd cyfisol, a gotyn- odd iddo paham yr oedd ef a'i gynorth- wywr yn curo ei frawd bach beunydd, ac yna tarawodd yr ysgolfeistr i lawr. Addefai y diffynydd ei fod yn euog, a dirwywyd ef i ios. a'r costau. Boddi'n Afon Conwy. Bu foddi dyn ieuanc o Lerpwl yn yr afon Conwy yr wythnos ddiweddaf ) wrth ymdrochi Yr oedd ef a dau gyraill iddo wedi mynd i forio mewn pleserfad, ac aeth y trancedig, Mr Douglas Crossley, i ymdrochi oddiar y bad. Canfu ei gyfeillion nad oedd Crossley yn gallu nofio'n ddigon da, ac aeth un o honynt i gweh bychan yn barod i'w helpu os byddai mewn perygl. Gynted a'i fod yn y eweh gwelid fod y bachgen ieuanc yn suddo. Daeth i'r wyneb eilwaith, a phan yr oedd y bad ar fin ei gyraedd suddodd am y tro olaf. Ceisio Lladd ei Hun. Yn Ngwrecsam, y dydd o'r blaen, cyhuddid dyn o'r enw Cecil Herbert Wilkinson, Lerpwl, o fod wedi ceisio lladd ei hun. Yn ol tystiolaeth gyr- iedydd modur o'r enw Walter Williams, yr oedd y diffynydd yn eistedd mewn tafarn yn Marford, a bara a, chaws o'i flaen. Yr oedd yn wylo, ac yn sydyn tynodd gyllell o'i boced, a thynodd hi ar draws ei wddf. GataetodJ y tyst yn ei fraich ac aeth rhywun a'r gyllell oddi- arno. Ymhen rhyw ddeng munud wedi hyny gwelodd y diffynydd drachefn yn eistedd ar ochr y ffordd. Yr oedd yn wylo ac yn edrych yn flinderus., a'i wddf yn gwaedu. Pan ofynodd y tyst iddo beth oedd y mater dywedodd Wilkinson ei fod heb waith a gofynodd am gyllell i dori ei wddw gyda hi. Gotynodd yr un peth i un o'r enw Richard Williams wedi hyny. Aeth y ddau ddyn a'r diffynydd mewn cerbyd i Gwrecsam, a phan yr oeddynt yn agos i lofa Gresford ceisiodd Wilkinson daflu ei hun o flaen peiriant oedd yn mynd hyd y ffordd, a cheisiodd daflu ei hun i lyn ymhel!ach draw ar y ffordd, ac o'r di,it edd daeth heddgeidwaid yno a chymeiwyd ef i ddiogelwch. Dy- wedai y cyhuddedig yn y llys ei fod yn methu cael gwaith ac nad cedd ganddo ddim i'w wneud ond rhoi terryn ar ei fywyd. <* Troion y Byd. Y mae boneddiges o waedoliaeth uchel yn Ftrainc yn byw mewn ystabl, a'i hunig gynhaliaeth 3-iv yr ychydig ymboith a gaiff yn elusen gan hwn a'r llall. Y mae ei phetthynasau a'i chyf. eillion oil yn gyfoethog iawn ac yn I fawr eu rhwysg, a bu hithau ar un adeg yr harddaf a'r fwyaf ei pharch yn nghynuJiiadau parchusaf ac uchelaf y wlau, ad daeth tro ar tyd iddi, ac aeth yn dlswd. -•«> ei df",t'là 3 1 chyteillion gynt, oral i y mae pawb wedi ei hangbofio hi, druan. S er v cadwodd ei nunan-barch a'i henw'n ddi-staen drwy ei hull helyntion. ♦ Baban mewn Parsel. Yn Salford, yn hwyr un noson caed baban oddeutu chwech W) thoos od wedi ei roi mewn parsel wrth ddrws ty. Clywodd teulu'r ty siffrwd wrth y drws ac wedi mynd yno i edrych beth oedd y mater nid oedd neb yn y golwg, ond wedi craffu gwelent barret ar lawr, ac ynddo faban byw, geneth fach iach yr olwg, wedi ei lapio mewn papur li" yd. Hysbyswyd yr heddgeidwaid o'r dig- wyddiad, a chymerwyd y baban i'r tloty. GwaUgofddyn mewn Ysgol. Aeth gwallgofddyn i ysgol genethod yn Bremen, a chyn i neb feddwl beth oedd ei twriad dechreuodd saethu hefo llawddryll at y genethod. Neidiodd un o'r athrawon ato, ond cafodd ei saethu yn gorff. Yna troes y dyn gwallgot at y plant bach, a saethodd dri o honynt yn farw. Yn eu mawr ddychryn a'u braw rhuthrai y plant a'r athrawesau I yn orwyllt am y dr) sau, a syithiodd un athrawes i lawr y giisiau a thorodd ei g wddf. Wedi hyny rhedodd v gwall- gofddyn i'r heol, ac ymosodwyd arno gan dorf fawr o bobl, ac yr oeddynt bron wedi ei ladd cyn i'r heddgeidwaid ei waredu a'i lusgo i orsif yr heddlu. Hawl i Ladd y Ci. Yn Llys Manddyledion Cpernarfon ddydd Gwener gpfynai W. Price Jones, ffermwr o Landwrog, y swm o 5p. oddiar William A Jones, ffermwr arall, fel gwerth ci a ladd ivyd gan y diffynydd. Yr amdditfyniad oedd y daliwyd y ci yn camdrin defaid, ac addefai y diftyn- ydd iddo ei ladd dan yr amgylchiadau hyny. Dywedodd y barnwr fod gan y ffermwr berffaith hawl i ladd y ci os oedd yn camdrin defaid fel yr honid ei fod, a rhoes ddyfarniad o blaid y diffynydd. Suffragette yn Diane. Dywedir tod Miss Lenton, y suffragette, draddodwyd i garchar yn Mrawd!ys Leeds, a'r hen ryddhawyd drachefn am ei bod yn gwrthod bwyta, wed: dianc o'r ty yr aeth iddo o'r car- char. Gwylid y ty yn barhaus gan yr heddgeidwaid, ond diangodd y ddynes oddiyno mewn dillad dyn. Marw'n ei Siop. Bu tarw Mr J. R. Jones, fferyllydd, o'r Wyddgrug, yn sydyn iawn yn ei siop nos Sadurn diweddaf. Yr oedd Mr Jones yn briod ac iddo dri o cIanI. Nid oedd ond pymtheg ar hugain oèd. Aeth at ei fusnes fel arfer ddydd Sadwrn, ond gan nad cedd yn teimlo'n dda aeth ei wrai g gydag ef yn y pryd- nawn. Rywbryd yn yr hwyr tarawyd ef yn wael iawn, a bu farw ymhen r ychydig funudau. Daliwch y Lleidr. Yn Southport y dydd o'r blaen gwelid dyn yn mynd o'r Lancashire & York- shire Bank, gyda bocs bychan yn ei law, ac yn mynd am gerbyd oedd yn sefyll gerllaw. Ond cyn iddo fynd i'r cerbyd dyma glerc o'r ariandy yn gwaeddi, "Plismyn! Piismyn!" Ar hyny dechreuodd nifer o bobl ruthro am y dyn, yr hwn a ddechreuodd rhedeg ymaith. Yr oedd yna dort wedi casglu erbyn hyn, a rhedodd tuag ugain o ddynion ar ei ol, gan waeddi, "Plis- myn!" Daeth dau gwnstabl yno a dal- iwyd y dyn. Hysbysodd y clerc iddo weld y dyn yn sefyll wrth gownter yr ariandy ac yn cymeryd arian o'r cash-box Pan welodd efe y tlerc rhoes ei law yn ei boced, ac yr oedd ganddo lawddryll. Ar hyny rhedodd y clerc i waeddi am gymorth. Rhoi Plasdy ar Dan. Pan oedd gyriedydd modur yn pasio palasdy mawr, yn Solihull, ger Birming- ham, canfu tod y lie ar dan. Aeth i hysbysu'r tan-ddiffoddwyr, ond pan ddaeth y rhai hyny yno canfuwyd fod y palasdy bron wedi ei Iw) r ddinystro. Caed papurau yn y lie yn hawlio pleid- lais i ferched a rhyddhad i'r suffragettes. Marwolaeth Arswydus. Yr oedd bachgen ieuanc yn Llundain, yn cael ei dynu ar ei feisicl wrth afael yn ngherb) d modur ei dad. Stopiodd y cerbyd modur yn sydyn i fodur arall basio, ac with wneyd hyny i lioes d! o ar y bachgen ieuanc nes y disgynodd o dan fodur mawr a yrid heibio. Aeth olwyn ol y modur tros ben y bachgen gan ei tadd mewn amrantiad. J » J Ei Ladd gan Faedd. Yr oedd baedd mawr yn cael ei gymeryd o'i gwt i orsaf y rheilffordd yn Hertford, ddydd Sadwrn, a cheis- iodd droi yn ol ar yr heol. Tarawyd ef hefo ffon ar ei drwyn gan ddyn o'r enw Mead i geisio ei rwystro. Rhuthrodd y baedd arno a thorodd ddarn mawr o'i glun ymaith. Aeth y baedd yn ol i'w gwt, ac aeth un o'r enw Arther Cooke i geisio ei gael alhin, er iddo gael ei rybuddio rhag mynd yn agos ato Rhuthrodd y baedd arno yntau. taflodd ef i lawr a brathodd ef yn erchyll yn ei goesau a'i gefn, gan dori damau mawr o'i gnawd ymaith. Saethwyd y baedd yn farw gan filwr. C %A -rr-- tie y bu I Cooke far^C^mhen dwy awr mwn poenau ofoadwy. < 9 Yn Erbyn Dadgysylltu'r Eglwys. Bu cyfarfod mawr yn Hyde Pai k, Llundain, ddydd Sadwrn, yn erbyn Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys. Yr oedd yno filoedd lawer o bobl, tua mil o blwyfi Liurdeinig yn cael eu cynrychioli ac yr oedd yno odJeutu mil ogantorion 0 Gymru yn ffuI fio corau Cymreig. Traddodwyd anerchiadau oddiar wahan- 01 lwytanau gan Esgob Llundain, Esgob Llanelwy, Esgob Tyddewi, Arglwydd Robert Cecil, Arglwydd Selborne, ac eraill Yr of-dd yn amlwg mai Esgob Llundain oedd y siaradwr mwyaf pob- logaidd. Damweiniau. Bu llawer o ddamweiniau ddydd Sadwrn diweddaf, i gerbydau modur a chcrbydau eraill, ond yn ftodus ni choll- odd neb ei tywyd ynddynt. Bu agos i gerbyd modur m.i%%r a niytid tros Bont Lu"dain i'r afon Dalwys, Yr oedd y griodydd yn ceisio pasio cerbyd arall ar y bunt, pan y toredd y ger a'i lly" iai a throes am y wa'; ond llwyddodd y gyu-dydd i stopio'r modur mewn pryd. Yr » edd llawer iawn o deithwyr ynddo, ac yr oeddynt edi eu d chryn yo fawr. Pan oedd cerbyd yn llawn o blant yn mynd i lawr gallr jn Dumfries, trees a chafodd y plant eu taflu allan o hono. Cafodd llawer o'i plant eu niweidio, rhai yn bur ddifrifol.
Priodfab ar Goll. I
Priodfab ar Goll. I EI GAEL YN NGHAERNARFON Yr oedd torf fawr wedi ymgynull yn eglwys y plwyf yn Runcorn y dydd o'r blaen i weled priodi deuddyn ieuanc parchus, ond ar ol aros am amser maith yn yr eglwys bu raid gohirio'r briodas am na wnaeth y priodfab ei ym- ddanghosiad Gadawodd y swyddfa y gweithini ynddi yn Lerpwl nos Fawrth, ac ni chlybuwyd dim o'i hanes hyd y Gwener diweddaf, pryd y cafodd cyfaill iddo yn Lerpwl lythyr oddiwrtho o'r Mona Hotel, Caernarfon, yn dweyd nas gallai gofio dim-nas gwyddai b'le yr oedd, o b'le daeth, nac i b'le yr oedd yn mynd. Hysbyswyd teulu'r briodferch, a'i deulu yntau, ac aelh ei dad, ei ddwy chwaer. a'i dad y'nghyfraith i Gaernar- fon, a chawsant wybod yn y Mona Hotel y bu Williams yn cysgu yno y noson flaenorol, ac nas gwelwyd ef ar ol brecwest y boreu hwnw. Ymhen rhyw ddwyawr deuwyd o hyd iddo yn eistedd ei hunan ar fainc, a'i law o dan ei ben. Aeth ei chwaer iengaf ato i siarad, ond yr oedd yn eglur iddi nad oedd ei brawd yn ei hadnabod. Ym- ddangobai ei fod wedi colli ei got yn Ilwyr. Aeth ei dad a'i dad-y'nghyfraith ato i ymddiddan drachefn, ond nid oedd yn eu hadnabod hwythau chwaith. Wrth ei holi nis gallai roi dim bron o'i hanes ar ol gadael y swyddfa yn Lerpwl. Cwynai fod ei draed yn ddol- urus ar ol cerdded. Nid oedd yn cofio y bu yn y tren o gwtl. Yr oedd wedi treulio dwy noson, meddai, yn yr awyr agored. 'Roedd ) n cofio fod rhyw ddyn wedi ei ddeffro yo hwyr un noson ar ffordd Llanberis, yr hwn gyda chymorth lamp ei feisicl a wnaeth iddo gwpanaid o cocoa. Gwlychodd y noson hono, gan ei bod yn gwlawio, a chafodd anwyd. Cofiai hefyd y bu yn Bettws y Coed. Y.r oedd yr anrheg briodas a roed iddo gan ei gyfeillion yn y swyddfa ganddo, ond nid oedd ef yn cofio o b'ie yr oedd wedi ei chael. Er nad oedd yn gallu amgyfTVed yn iawn pwy oedd ei berth- ynasau, aeth yn ol gyda hwy i Runcorn. --0--
Y Llygoden a'r Ewyllys.
Y Llygoden a'r Ewyllys. VSTORI HYNOD. Y mae tro ihyfedd wedi digwydd vn Chatsworth, a derllyn- y ffeithiau fel rhamant. Oddeutu ugain mlynedd yn ol cyfiog- odd Mr Chester, pen garddur y Due o Devonshire, eneth ieuanc brydferth o'r enw Miss Piince, i gadw ty iddo. Yr oedd yn amlwg fod ganddo feddwl mawr o honi, a chlvuid ef yn dweyd vn bathaus na byddai raid iddi bryderu am y dyfodol gan ei fod wedi darparu ar ei chyfer Fodd by nag, un diwrnod, pan yn mynd o gwmpas y lie i ddangos y blodau i ymwelwyr, syrthiodd Mr Chester i lawr yn farw. Methwyd a chael dim ymysg ei bapurau yn dangos pwy oedd i gael ei eiddo, yr hyn a gyfrifid yn werth pum' mil o bunau. Bu rhaid chwilio am ei berthynasau agosat, ac o'r diwedd deuwyd o hyd i berthynasau pell iddo yn Awstralia, i'r rhai yn ddiweddarach y trosglwyddwyd yr holl eiddo. Bu llawer o siarad yn yr ardal y pryd hwnw, medd y rhai sy'n cofio, am na wnaeth ei ewyliys a chofio am Miss Pi ince Yr oedd popeth yn ei gylch wedi ei Ivvyr anghofio erbyn hyn, ond ddydd Mercher diweddaf deuwyd o hyd i ewyliys y trancedig mewn ffordd hynod iawn. Yr oedd y pen garddwr presenol a'i glerc yn cael eu blino yn y swyddfa gan drwst yn y nenfwd, a chanfyddwyd mai llygoden oedd yn ei achosi, a phenderfynwyd ei dal. Aed i fyny i'r groglofft, ac aeth un o'r dynion ar ben ysgol i osod trap mewn twll oedd yn y mur. Wrth ddringo i fynu bu agos iddo a syrthio, ac wrth arbed ei hun tynodd ddarn mawr o'r calch i ffwrdd oddiar y mur, ac yno o'r tg o! i'r catch y caed yr ewyliys, yn yr hon yr oedd yr ymadawedig yn gadael ei holl eiddo i Miss Prince. Y mae Miss Pnr yo awr yn ftyw yn Lerpwl, a dy a ed y bydd iddi wrth g-»vr« -geisio cael yr yn ol, ond, os na lw)dda, oa bjr*W-4t £ di boent dim yn eu cylch.
IlDigwyddtad Cyffrous Arall…
I lDigwyddtad Cyffrous Arall I mewn Rhedegfeydd. I GWR ARFOG YN RHEDEG 0 FLAEN Y CEFFYLAU. Yn Ascot ddydd Iau diweddaf, bu digwyddiad cyffelyb mewn rhai agwedd- au i'r un gymerodd. !e yn rhedegfeydd Epsom ychydig ddyddiau'n ol. Pan oedd y ceffylau yn y rhedegfa am y Gwpan Aur, o fewn milltir i gyr- raedd yr ael, rhedodd dyn trwsiadus yr olwg arno, gyda baner fechan yn un law a llawddryll yn y llaw arall, o fiaen Tracey, y ceffyl cyntaf yn y rhedegfa, a gwaeddodd am i'w farchog stopio. Ceisiodd Whalley, y marchog ei osgoi trwy droi pen y ceffyl i'r naill du, ond methodd, a thrawyd y dyn i lawr a chwympodd y ceffyl a'i Ttrchog hefyd. Rhedodd amryw o'r C, l,lu eraill tros y dyn pan oedd ar law., a tharawyd ef yn ei ben gan garnau rhat o honynt, ond yr oedd yn fyw pan godwyd ef i fyny a chymerwyd et i'w ymgeleddu. Bu y marchog yn ffodus i allu arbed ei hun rhag cael ei anafu ond yn ysgafn. Enw'r dyn oedd Harold Hewitt, ac er fod baner y suffragettes yn ei law tybir nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo a'r merched hyny, ond ei fod yn erbyn rhedegfeydd ceffylau gymaint nes y mae wedi mynd ar ei ymenydd. Yr oedd Beibl yn ei boced ac arr.ryw bapurau yn llawn o nodiadau crefyddol.
Mr Lloyd George yn Amddiffyn…
Mr Lloyd George yn Am- ddiffyn ei Hun. CAMLIWIADAU MALEISUS EI I ELYNION. Yr wythnos ddiweddaf, bu trafodaeth yn y Senedd ynglyn ag ymddygiad Syr Rufus Isaacs a Mr Lloyd George, o brirthed i gyfranau Cwmni'r Marconi. Traddododd y ddau areithiau galluog mpwn amddiffyniad i'w hymddygiad. Addefent y gwnaeihont gamgymeriad ond nas gellid dw) n umhyw gyhuddiad mwy na hyny yn eu herbyn. Er fod Mr Lloyd George yn hollol rydd ac ago red yn ei addefiad o'i anoethineb, eto teimlid fod goslef heriol yn ei lais a arwyddai y carai gytarfod yr Wrthblaid mewn brwydr os y dymunent ei gyfar- fod ar unrhyw dir arall. Sylwodd y carai wneud ymchwiliad i'r traddod- iadau ynglyn ac achosion cyffelyb i'r achos hwn, ond byddai iddo ymatal rhag y dywedid ei fod yn osgoi cyfrifol- deb drwy ymosod ar ei wrthwynebwyr. Cyfeiriodd at yr awgrymiadau maleisus, gwenwynig, oedd wedi eu lledaenu'n hollol ddisail ynglyn a'r helynt, a hyny o'r tu cefn. Yr oedd wedi cael profiad chwerw am fisoedd-haeddai beth o hono, ond ni haeddai y rhan fwyaf na'r rhan waethaf o lawer. Cyhuddid ef o fod yn llwgr, ac nis gallai anwybyddu cyhuddiad felly. Taenwyd y cyhudd- iadau am fisoedd. Gellid yn hawdd dweyd y lledaenid hwy gan bersonau anghyfrifol, ond cawsant eu lledaenu mewn newyddiadur oedd yn eiddo i aelod o Dy'r Cyffredin. Gellid ei deimlo ymhob erthygl a ysgrifenid, ac er fod gagendor mawr rhwng Ilygredd ac amryfusedd, yr oedd ymgais i'w bontio ac i lithro'n esmwyth o'r naill i'r llall. Nis gallai anwybyddu hyny, gan mai hyny mewn gwirionedd oedd yn bwysig. Os yr oedd ei wrthwynebwyr yn ameu hyny bydded iddynt ddarllen datganiadau golygydd y newyddiadur a roes gychwyn i'r holl fusnes. Dywedai y golygydd mai y cyhuddiadau hyny wnaeth iddo ddechreu'r ymgyrch yn erbyn y contract. Yr oedd wedi cyfaddef nas gallai enwi neb oedd wedi dechreu y son. na rhoi unrhyw awdurdod dros y cyhuddiadau. Gofyn- wyd i'r golygydd a fuasid yn argraffu erthygl yn ymosod ar Mr Bonar Law, ac atebodd yn sicr na buasid. Mewn atebiad i gwestiwn o eiddo Mr Walter Guinness, o barthed i'r newyddiadur y cyfeiriai Mr LloyJ George ato, dywed- odd y Canghellor ei fod nid yn unig yn daillen o'r newyddiadur, ond o ddat-1 ganiad wnaed gan y golygydd pan yr ( oedd ar ei Iw. Yr oedd y pwyllgor, medd Mr Lloyd George, wedi gwnewd ymchwiliad manwl i'r cyhuddiadau hyn ac wedi dod i'r penderfyniad nad oedd rithyn o sail i hyd yn nod yramheuaeth leiaf. Addefai y g wnaeth gamgymer- iad drwy ymwneyd a'r cyfranau, ond gwnaeth hyny yn hollol onest ac yn hollol ddiniwed. Yr oedd pob dyn, wrth edrych yn ol ar ei fywyd yn can- tod ei fod wedi gwneyd camgymeriad- au. Yr hyn rhoddai fwyaf o boen iddo ef oedd y pryder achoswyd gan yr helynt i'w filoedd cyfeillion o'r tuallan ac o fewn i'r Ty, ac ofnodd yn fawr rhag i'w amrytusedd beri niwed i'r achosion hyny a garai mor fawr. Yr oedd yn gwybod na wnaeth ddim i ddwyn ystaen ar anrhydedd y Wein- yddiaeth. Bu, os mynent, yn ddi-fedd- wl ac yn ddi-ofal, ond bu yn agored ac yn onest. Rhoed bonllefau o gymeradwyaeth iddo ar derfyn ei araith.
Y Suffragettes ! Garchar.…
Y Suffragettes Garchar. I Yr wythnos ddiweddaf terfynwyd y prawf ar arweinwyr y suffragettes yn yr Old Bailey, Llundain, a chafodd yr oil eu dedfrydu i garchar. Qafodd y fleryllydd, E. G. Clayton, yr hwn a honid oedd wedi rhoi ei wybod- aeth am sylweddau ffrwydrol at was- anaeth y rhai wnaent ddifrod ar eiddo, ei ddedfrydn am -»s. • a hon oedd y ddedfryd drymaf. Dedtrydwyd y lleill fel y canlyn: Annie Kenney, deunaw mis; Beatrice H. Sanders, pymtheng mis; Harriet R. Kerr, deuddeng mis; Rachael Barrett, naw mis; Laura G Lennox, chwe mis; Alice Luke, chwe mis. Byddant oil yn cael eu carcharu yn y trydydd dosbarth yr hyn olyga na byddant yn cael y cyffelyb freintiau ag a ganiateid yn flaenorol i eraill. Bydd raid iddyn t I hefyd dalu costau eu prawf. Wrth draddodi y ddedfryd arnynt, i dywedai y Barnwr Phillimore, "Nid wyf yn meddwl y cewch yr un driniaeth ysgafn ag a gafodd eraill o'ch blaen. Os bydd i'r Ysgrifenydd Cartrefol ym- gynghori i mi, fel yn ami y bydd yn ymgynghori a'r Barnwr, bydd i mi gymeryd arnaf y cyfrifoldeb o ddweyd na chaiff y rhai mwyaf blaenllaw o honoch o leiaf eu gollwng o garchar o dan unrhyw amgylchiadau. Rhyngoch chwi eich hun a'ch cydwybod os tros- eddwch ddeddf y Creawdwr ynglyn a gwneud cam a'ch bywyd."
Chwareuon y Drefnewydd. I
Chwareuon y Drefnewydd. I Cynhaliwyd y chwareuon blynyddol yn y Drefnewydd dydd Sadwrn o flaen cynhulliad o tua deuddeng mil. Ynglyn a'r chwareuon cynhelid cystadleuaethau i seindyrf, corau meibion, corau cymysg ac i unawdwyr. Dyma fel y safai y seindyrf yn y gystadleuaeth :-i, Sein- dorf Fodden 2, Crossfield 3, Irwell Springs 4, Aberaman 5, Ferndale. Cor Maritime, Pontypridd, enillodd y wobr yn nghystadleuaeth y coreu meibion, a chor Llanidloes yn y gystad- leuaeth i gorau cymysg.
Advertising
CADWbH EICH ARENAU YN DDA, A HWY A'CH CADWANT CHWI YN DDA. II Pob I darlun fr II ddywed hanes. !Ai ??/ ?'' ? ??-???- /??.? ?"?? ? '?? ? ?' ? ? /?/W?  ? j??  '? "? MEDDYO: AI yna mae'r boen? Ah I Annhrefn yn yr Arenau yw. Defnyddiwch BELENI ARENAU CEFNBOEN DOAN (Doan's Backache Kidney Pills) at Boen yn y Cefn, Annhrefnau Troethol (Urinary Disorders), Grafel, Cryd Cymmalau, Dyfrglwyf (Dropsy). Pan y gwaela yr arenau (kidneys), gwaela yr holl gorph. Ymboena ycefn, cwyna yraelodau, trymhav llygaid, melyua y gwcdd. Nis gallwch aros wrth eich gwaith fel unwaith y gallasoch, na cherdded mor bell, na chysgu mor dda. Hwyrach y sylweh ar flinderau troethol (urinary troubles), grafel, a lliw llwch pridd- faen y dfltfr, a natur cliwyddedig y fferau. Mynych y ceir cur yn y pen, prydian pensyfr- danol, poenau cryd cyinmalau yn y 11 ywethau a'r cyssylltau. Mae eich archwaeth at fwyd yn neAvidiol, y galon yn gweithredu yn ddieitiir eweh yn glefychlyd, yn bruddglwvfus, yn ofuus, ac yn anfoddus. Y rhai hvn a llaweroedd o annlirefn- au creill ydynt arwyddion difFacl o anhwyldod yn yr arenau. Achosir hwynt gan weuwvn arenol yr hwn y metha yr arenau a i hidlo allan; ac nis gallwch fod yn iach nes y cryfheir hwynt i'w gwaith naturiol. Aiff Peleni Auks a u Cefnbokn DOAS yn uniougyrchiol i'r arenau, a gwnant hWYllt yn iach, gan eu hadfywio ac adeiladu eu nhcrth. Gyrant allan o honynt sumi dyfrol, glanhant yr arClIau, a lliniarant v fflameg (hjlriiitum/inn). I Yn y modd yma, rhydd Tki-kxi Doan (Doan's Pill) i'r arenau gwanllvd gvchwyniad newydd yn eu gwaith mawr o hidlo allan weuwynau arenol. Mae yr arenau yn organau mor dyner ac yu cael eu gweithio mor galed nes y mae anwvd, lieu ryndod, neu ysigiad, yn rhwystr idilvnt. ac yn eu taflu yn ot gyda'u gwaith. Dootli, fcllv, fyddai cadw blychiad o BELENI Akknau Cbfnboek DOAN (Boas of Dearit Buckachc Kidney Pills) yn y tj, a chymwryd dogn pryd bynnag nas toimlir i fyny i'r marc. Dylid ymarfer yn rheolaidd Beleni DOAN gan bawb sydd yn cyinervd ewrw, gwirodau (ipirit.*), neu de, gan fod y cyfryw ddiodydd yn cyi t'roi ac yn cnnynu arwynebau tyner yr arenau, a gellir dibynu ar Beleni DOAN i gadw draw bob effaith drwg. Mile v physig- wriaeth arenol hwn yn hollol lysieuol, a gall yr lion a'r ieuaingc ei arfer gyda diogelwch jperffaitli. Nid oes ganddo unrhyw weithrediad ar y coluddion. Mae Pkleni Arenol CEFN- bokn Doan yn fudd i bob un svdd raid iddo ymgrymu wrth ei waith ac i'r dosbarthiadau sydd yn agored i gyfnewidiadau sydyn yr hinsawdd. f A chynghorir y rhai hynv a wyddant i'w rhieni neu i'w hynafiaid ddioddef oddiwrth anhwylderau arenol i amddiffyn eu harenau drwy yniarferiad achlysurol o Beleni ARENAU Cki'n-roen Doan (Doan's Backache Kidney Pill,,) canys nid oes un afiechvd yn cael ei gyflwyno mor fynych o riant i blentyn na'r hwn sy'n tarddu o aneamwythderau yr arenau.  s? Backache ???tl?  T ?\ ?&? YR UNIG FLWCH ~9R) DIDWYLL. ?an holl :fferyllwyr ac yn y ??M-<* M< 2/) y blwch; 6 blwch 15/9 neu yn rhydd drwy y post yn syth oddiwrth y FOSTER McClellan Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London; W.
I Wyth yn Boddi mewn Glofa.j…
Wyth yn Boddi mewn Glofa.j PEDWAR ARALL YN CAEL EU; LLADD. Digwyddodd dwy ddamwain ddifrifoll iawn mewn glofeydd yn Swydd Efrog- yr wythnos ddiweddaf, U'rwy y rhai y collodd deuddeg o ddyi.'on eu bywyd. Yn Rotherdam torodd dwr o hen weithfeydd i'r lofa a elwid Carr House Pit, nos Lun. O'r deuddeg a weithiai yn y pwll nis gallodd ond pedwar ddianc yn fyw, a hyny ar ol ymdrech galed yn erbyn y llif. Gallasai un arall fod wedi cyraedd diogelwch, ond troes yn ol i rybuddio ei gyfeillion a daliwyd ef gan y llif a bu foddi. Catodd un bachgen bychan ei waredu gan y dyn a weithiai gydag ef, yr hwn a'i cariodd yr holl ffordd i ddiogelwch. Digwyddodd y ddamwain arall yn Normanton, brydnawn ddydd Mawrth. Yr oedd deg o ddynion yn cael eu tynu i fynu o'r pwtl ar derfyn eu gwaith yn Nglofa St. John, pan y daeth darn o bren mawr yn rhydd uwchben a dis- gynodd i lawr ar y glud a gariai y dyn- ion. Lladdwyd pedwar o honynt mewn amrantiad, ac anafwyd dau arall.
-0-i IY Suffragettes y n Dal…
-0- I Y Suffragettes y n Dal i Ddifrod i. Yn gynar foreu Sadwrn gwelwyd mwg yn esgyn trwy do fferyllfa Prif- ysgol St Andrews gan bysgotwyr oddi- ar y mor. Aethant i'r Ian i roi hysbys- rwydd am y peth, ond yr oedd y fferyllfa wedi ei llwyr ddifrodi. Ddydd Sadwrn hefyd canfuwyd y gwnaed ymgais i chwythu i fynu y rhag- fur ar gamlas Birmingham a Stratford- on-Avon. Yr oedd twll pum' troeJtedd: ar ei draws wedi ei wneud gau y ffrwyd- riad, a phe bae y mur wedi ei chwalu i buasai y dwr yn llifo trosodd am filltir-j oedd lawer. Cafwyd matsus, papur a sylweddau d f" E cyneuadwy, o fewn i'r organ yn Eglwys y Plwyf yn Southend, foreu Sadwrn Yr oedd canwyll fechan wedi cael ei goleu, ond yr cedd y gwynt wedi ei I diffodd drachefn. Ymhob un o'r acbosion hyn yr oedd erthyglau wedi eu taenu o gwmpas yn dangos mai'r suffragettes fu wrthi. Y mae pedair o'r merched a draddod- wyd i garchar yn yr Old Bailey yr wyth- i nos o'r blaen wedi eu gollwng yn rhydd gan yr Ysgrifenydd Cartrefol, oherwydd eu bod yn gwrthod bwyta.
[No title]
--u Y mae son, a mawr obeithir ei fod yn ffaith, y bydd i dri o weithydd Lteyn gael eu hail gychwyn yn fuan.
Cael Gwr a Gwraig wedi eu…
Cael Gwr a Gwraig wedi eu Lladd. Ddydd Iau diweddaf canfuwyd gwr a gwraig o'r enw Mr a Mrs Davies wedi eu lladd mewn bungalow yn Southborne, ar gwr Sir Sussex. Yr oedd Mr a Mrs Davies, y rhai oedd oddvt tu haner cant oed, yn byw er's peth amser mewn bungalow a elwid yr Haven. Yr oeddynt yn bobi dawel a neillduedig iawn, ac er nad oedd neb wedi eu gweled er's tua thair wythnos ni pharodd hyny unrhyw syndod ac ni wneid ymholiad yn eu cylch. Arferai bachgen ieuanc fynd a newyddiadur yno bob dydd v chan na welai neb yn y lie er's rhai dyddiau gvvthiai y papurau trwy y lie y rhoid y llythyrau Odydd Iau, yn tybio fod rhywbeth allan o le, aeth i hysbysu cymydog, yr hwn aeth gydag ef at y ty. Wrth cdrych drwy ffenestr gwelsant gorff marw ar y gwely. Aethant i hysbysu'r heddgeidwaid, ac wedi torri'r drws a mynd i'r ty canfuwyd mai corff Mrs Davies oedd ar y gwely. Mewn ystafell arall caed corff y gwr, ac yr oedd gweddillion y ddau yn dangos eu bod wedi marw er's amser. Yn ddiweddar- ach canfu yr heddgeidwaid lawddryll yn y ty, a rhai e^vdion wedi cu tauio. Cafwyd llythyr hefyd yn llawysgrif y gwr, yn yr hwn y cwynai fod ei wraig wedi gwneyd ei fyivyd yn anioddefol. Yr oedd Mr a Mrs Davies yn byw yn y gymdogaeth er's pedair blynedd, a'r wraig wedi bod yn gweithio mewn cysylltiad a'r eglwys yn y lie, ond nid oeddynt wedi gwneud ond ychydig gyf- eillion ac nid oedd ganddynt berthyn- asau yn y fro. Cymry oeddynt, meddir, a bu Mr Davies yn cadw busnes fel fferyllydd yn Nghymru. -0--
Boddi wrth Ymdrochi. - - -…
Boddi wrth Ymdrochi. Pan oedd dau ymwelydd o Lundain yn ymdrochi yn Southend, foreu Sul, aeth un o honynt i le rhy ddwfr, a bu foddi cyn i'w gyfaill allu estyn cymorth iddo Bu ymwelydd arall foddi yno hefyd ddydd Sadwrn. Ddydd Sul bu foddi glowr ieuanc o Maerdy, Rhondda, o'r enw Griffith Bowen, wrth ymdrochi yn Barry.
[No title]
Yn Mrawdlys Mynwy, y dydd o'r blaen, anfonwyd glowr o Cross Keys o'r enw William Evans i garchar am bymtheng mis gyda llafur caled am geisio chwythu i tynu dy tafarn hefo pylor. Dywedwyd yn y Hys i'r cyhudd- edig wneud yr ymgais am iddo gael ei droi allan o'r datarn. A