Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BOREU SADWRN y fan brllaf Pob archebion a th-sliacUii am Y r UDGORN i'w hanfon i'r (IORUOHWYLIWR, 74, fligh Strwt. Pwilholi Pob gobebiaeth i'w cyleirio- YR UDGORN OFFICE, PWLLHKLI. Bydd yn dda genym ddprhyn gohfih- iiptbna oddiwrtb ohflhwyr "r fateiiou lleol o rldyddordeb cyboedduc.
NODION A HANESION.
NODION A HANESION. Ymwelydd yn Boddi'n y Berrro. Syrthiodd ymwelydd oddiar gwch hwyliau yn y Bermo, ddydd Mercher diweddaf, a bu foddi. i-eisiodd y cych- wr ei godi gyda bach, ond torodd hwnw. Oddiwrth bapurau gaed yn perthyn iddo yn y gwesty ymddengys mai boneddwr o Sussex ydoeJd, o'r enw J. T. Wilson Clark. Daeth i'r Bermo i arcs er's tua pythefnos yn 01 er ceisio gael adferiad i'w iechyd. Llifogydd Mehefln. Gwnaeth y llifogydd yr wythnos ddi- weddat ddifrod mawr ar eiddo ac anifeiliaid yn Nyflfryn Conwy. Pan giliodd y llifddyfroedd gwelid cyrff ugeiniau o anifeiliaid yn y caeau ac ar y gwrychoedd. Collodd un ffermwr o Maenau naw o ddynewaid, a bu foddi llawer iawn o ddefaid i amryw o'r am- aethwyr. Gwnaeth y llifogydd hefyd ddifrod mawr yn Nolgellau a'r cyffiniau. Yr ocdd y dwr wedi llifo i amryw o'r tai a'r siopau, yr oedd yn uwch na'r cownter mewn rhai siopau a'r llaid a'r dwr wedi difetha'r nwyddau Hen Gnaf. Yn Llanrwst, y dydd o'r blaen, an- fonwyd crwydryn o'r enw Owen Owen, i garchar am dair wythnos am ladrata sofren Rhoed y sofren iddo gan gym- rawd i oill cwrw, ond ffodd y crwydryn hefo'r arian, ac aeth mewn cerbyd a logodd i Drefriw. Canfuwyd ef gan yr heddgeidwaid mewn hotel yno yn "sefyll diod" i bawb oedd yn y ty. < Damwain i Gerbyd Modur. Digwyddodd damwain foreu Mercher diweddaf i gerbyd modur mawr a red at o Fethesda i Fangor. Cafodd chwech o'r teithwyr eu hanafu'n dost iawn, ac aeth y modur yn ddrylliau. Pan ar ben gallt serth rhyw fi'ltir o Fangor torodd un o'r cadwyni a weithiai y peiriant, ac o ganlyniad aeth y modur yn erbyn polyn teligraff ar ochor y ffordd, a rhoes dro ac aeth yn erbyn y clavvdd yr ochor arall drachefn. Taflwyd y gyriedydd gan rym y gwrthdarawiad tros y wal uchel sydd oamgylch tir Tanybryn, ac anatwyd y lleill oeJd } n y ce-byd yn ddifrifol. Yr oedd darnau o'r gwydr maluriedig wedi mynd i wyneb rhai ohonynt, ac yr oedd eu gwaed yn llifo. Camdrin Merlyn. Yn Mhrestatyn, yr wythnos ddiwedd- af, dirwywyd William Finney a John Evans, y ddau o Brestatyn, i i p. a 17s. 6: o gostau am gamdrin meilyn. 1 Tystiwyd y gwelwyd y merlyn yn ceisio tynu llivyth o hen haearn i fynu gallt serth. Yr oedd y chwys yn dyferu o hono, ac yr oedd wedi lhvyr ddiftygio. Curid ef gan y diffynyddion yn an- rhugarog hefo bon chwip, cicient ef yn ei enau ac yn ei ystumog, a pharhasant i'w drin felly am dri chwarter awr. Yr oedd y merlyn yn gwaedu ac yn friwiau drosto. Olion Hen Gastell. Yn ddiweddar daeth Mr Thomas Edwards, yr henafiaetbydd enwog o Gaer, o hyd i syifeini hen Gastell Pies- tatyn, a adeiladwyd yn y flwyddyo 1164 gan Robert Banastre. Tybid nad oedd y castell henafol hwn wedi ei wneud o ddim amgen na phridd, ond yr oedd Mr Edwards wedi casglu cym- aint ag oedd fodd c'i hanes, a chafodd ganiatad gan Argluydd Aberconwy i dirio am yr olion, a rhoes y boneddwr wasanaeth ei weithwyr at yr amcan. Y mae y darganfyddiad o ddyddordeb mawr i henafiaethwyr. Yr oedd y muriau, fel y gellid casglu oddiwrth y sylfeini, wedi eu gwneud o feini a chalch brwd, ac o dan y syifeini caed esgyrn ceirw a bleiddiaid. Meddian- wyd y castell yn 1177 gan y Cymry, o dan y Tywysog Owain Gwynedd. Dial ar Gwmni Priodasol. Dygwyd saith o ffermwyr ie-uainc o flaen yr heddlys yn Tyrone y dydd o'r blaen am ymosod ar fFeimdy, yn yr hwn yr oedd cwmni priodasol yn aros. Hysbyswyd i'r diffynyddion, am na chawsant eu gwahodd i'r briodas, fynd at y ffermdy tua haner nos, gan luchio cerrig trwy'r ffene.,tri, dringo'r to, ] lluchio dwr i lawr y simdde, a gwneud ni%%ed a difrod i gynyrch yr ardd. Tynasant bost y llidiart a gwthiasantef drwy'r ffenestr, gan falurio'r dresel a dodrefn ereill yn y gegin Malmiasant 1 gwt yr ieir a rhoesant y malurion ar dân. Gohiriwyd eu haclios. Gweision Ffermydd yn Bygwth. y mae gweis;»n ffermydd yn rhai o siroedd Lloegr ) u bygwth mynd ar streic. Y mae yr amodau y gweithiant hwy o danynt yn llawer mwy caeth nag eiddo eu cymrod) r yn Nghymru. Dyma'r gwelliantau y gofynir am dan- ynt -Deuddenc- awr y dydd o weithio, dwy awr y dydd ar gyter prydau bwyd, chwecheiniog yr awr am weithio dros amser, isafbwynt y cyflog i fod yn 24s. yr wythnos, gweithio hyd un o'r gloch ar Sadyrnau. Mr. Lloyd George i Siarad yn j N gwrecsam Cynhelir cyfarfod mawr yn Khos, ger Gwrecsam, o blaid Mesur Dadgysyll- tiad yr Eglwys, ar y 4ydd o Gorffenaf. ac anerchir y cyJarfod gan Syr John Simon, A.S Cynhelir y cyfartod arall, yr hwn a anerchir gan Mr Lloyd George, yn Gwrecsam yr wythnos gyntaf yn Medi. Nyth Hwyaden ar ben Coeden. Gwnaeth hwyaJen i'r Parch H. Hos- ken, rheithor Green's Noton, ei nyth ar ben coeden uchel a magodd ddau nyth- iad o gywion ynddo. Saif y goeden ar fin ffrwd, i'r hon y syrthia y cywion pan yn barod i fynd tros eu nyth." Bacbgen Dewr. Yn Nolgellau, ddydd Iau diweddaf, cynhaliwyd trengholiad ar gorff bach- gen bach fu foddi. Pan yn chwareu gyda phlant eraill nos Fawrth syrthiodd David John Roberts, pedair mlwydd oed, i orlif yr afon. Yn clywed llefain am help neidiodd Gwilym Parri Huws, bachgen dwy ar bymtheg oed i'r Parch Parri Huws, i'r llif, ac er dirfawr berygl iddo ei hun calodd y bachgen i'r lan, ond yr oedd wedi boddi druan. Cymeradwyodd y rheithwyr fod y bachgen wnaeth ymgais mor wrol i'w achub gael ei anrhegu a medal y Gym- deithas Dd, tigarol. 4. Stori Drist. Yn Wigan y dydd o'r blaen cynhal.1 iwyd trengholiad ynglyn a marwolaeth plentyn deng mis oed i Margaret Arnold, dynes ieuanc briod. Tystiwyd y priododd ddeunaw mi s yn ol. Oddeutu chwe' mis yn ol cyhuddwyd hi gan ei gwr ynglyn a thadogaeth y plentyn, ac addefodd hithau nad efe oedd ei dad. Wedi hyny, torwyd y car tref i fynu a bu'r wraig yn gweini yma ac acw, ac aeth a'r plentyn i'w fagu. Cl) bu fod y plentyn yn cael ei newynu ac aeth ag et i r tloty, lie bu farw.—Gohiriwyd y trengholiad i ymholiadau pellach gael eu gwneud ynglyn a magwraeth y plentyn. < [ f Damwain Angeuol befo Gwn. Cyfarfu garddwr ieuanc o Gorwen, o'r enw Moses Williams, a damwain angeuol hefo gwn y dydd o'r blaen. Aeth allan i warchod y blodau yn ei ardd, a bernir i'r gwn danio'n ddam wainiol.-Bu. agos i ddyn ieuanc o Ler- pwl a arhosai \n Mhrestatyn a chael ei ladd yn hynod iawn hefyd. Aeth ef a chyfaili id Jo i chwareu hefo llawddryli oedd ganddynt, ac a.. th yr ergyd allan yn ddamweiniol, a drwy rudd dde y bachgen ac allan o'r tu ol i'w glust chwith. Gweinyddwyd arno gao fddy ar unwaith, ac mae'r bachgen yn gwella'n dda. Tan Mawr yn Llanelli. Aeth gweithfeydd alcan newydd y Mri Richard Thomas a'i Gwmni, llan- elli, ar dan brydnawn Sul, a chawsant eu llwyr ddinystrio. Bernir fod y goll- .1 J J.. « I ea oaaeutu cleng mil o bunau. j Y Gwas Fferm a'i Lawddryll. Yn Metwsycoed cafodd gwas fferm o'r enw John Henry Piper, ei ddirwyo i 5s. a'r costau am danio llawddryll ar y ffordd fawr yn hwyr y nos Dywedai Thomas Roberts, Tyddyn Gwilym, Trefriw, ei tod ef ac erajJJ yn myned gartref ar hyd y ffordd tua haner awr wedi deg, pan y clywent ergyd, a gwelent y diffyr.ydd yn sefyll ar fin y ffordd ac yn anclu llawddrvll atynt. Rhuthrasant ato a chymerasant y llaw- ddryll oddiarno.- Dywedai y diffynydd ei fod et a'i wraig yn mynd adref ar hyd y ffordd, pan ddaeth pedwar o ddynion i aflonyddu arnynt gan ddefnyddio iaith anweddus. Yr oedd ganddo law- ddryll wedi ei gael gan ei feistr i ddychryn defaid oddiar y fferm, a than- iodd hwnw. Pan aeth ef a'i wraig ychydig pellach daeth y dynion ar eu ho! drachefn gan ymosod arnynt mewn lie unig yn ymyl mynwent. Taflwyd ef i lawr a chafodd ei gicio, ac aflonydd- wyd ar ei wraig. it GeneLh wedi ei Llofruddio. Gwnacd dargMnlyddiad arswydus gan ddwy ddynes mewn ty yn Trafalgar St eet, Walworth, ddydd Sadwrn. Canfuasant eneth fach un mhvydd ar ddeg oed, o'r enw Caroline Mary Annie Pike, yr hon oedd yn byw gyda'i tbaJ-yngbvfraith a'i mam, yn tarw yn yr ) stafe)), a'i clio, If wedi ei andwyo'n erchvll. Yr oedd y gwely ar yr hwn y goiuedd;ti y corff wedi ei drochi gan waed. Nid oedd ei mam na'i thad- yngliyfraith gartref ar y pryd y cyflawn- wyd yr anfadwaith. Y mae dyn wedi ei gymeryd i'r ddalfa ar amheuaeth mai efe a'i lladdodd. Yr oedd yn lletya yno ,yda'r teulu. Bu am bcth amser ineu n gwallgofdy.
Dadleniadau Poenus yn Llanrwst.
Dadleniadau Poenus yn Llanrwst. MAM UN AR BYMTHEG OED. I Yn Llys y Man Ddyledion yn Llan- rwst y dydd o'r blaen gwysid John Jones, Coed y Pair, Bettws y Coed, gan Jane Elizabeth Brookes, o Ffestiniog, am 5op. o iawn am dor cytundeb. Yn ol fel yr hysbyswyd yn y llys, aeth yr eneth i weini pan yn bymtheg oed gyda niam y diffynydd am 2s. yr wythnos. Ymhen ysbaid o amser dy- wedwyd wrthi na chai gyflog ond yr ymddygid ati fel pe bae yn un o'r teulu. Yr oedd yn y ty ddau fab, a chyn pen ychydig aeth y diffynydd yn hyf gyda hi, er ei tod yn agos i ddeugain oed, a hithau ond prin yn bymtheg Yr oedd bachgen o'r pentret hefyd wedi bod yn ymddwyn yn anweddus gyda hi. Yn Gorffenat, 1912, canfuwyd fod yr eneth mewn trwbl, a gwrthodai ddweyd wrth ei meistres pwy oedd yn gyfrifol am ei chyflwr. Ond wrth gael ei bygwth enwodd y bachgen y crybwyllwyd am dano, yr hwn a alwodd yno i ddweyd nad oedd a wnelo ef ddim a hi, a dy- wedodd yr addefodd y diffynydd wrtho y cymerodd fantais ar yr eneth. Aed a'r eneth i Dioty Llanrwst, ac oddiyno hysbyswyd ei thad o'i chyflwr. Aeth y tad i wel'd y diffynydd a'i fam, ac arwyddodd y diffynydd gytun- deb i dalu costau'r meddyg a'r tloty, ac i gadw'r plentyn am chwech wyth- nos ar ol y genedigaeth, ond bu'r plentyn tar\ Ar ol i'r eneth gael ei chadw yno am bum' wythnos gyrwyd hi oddiyno, a chaed ganddi trwy fygythion i arwyddo papur yn rhoi bai ar y bachgen y cyfeiriwyd ato. Ar ran y diffynydd dywedwyd na arwyddwyd cytundeb felly o gwbl. Addawodd y diffynydd dalu pob costau ac i gadw'r eneth am chwe' mis, gan i dad yr eneth dd'od yno i'w fygwth, ac iddo yntau ddychryn rhag ofn dw; gwarth arno ei hun a'i deulu. Yr oedd wedi cadw at y cytundeb trwy dalu bil y meddyg, a chadw'r eneth am wyth- nosau, ac wedi cael lie iddi. Sylwodd y Barnwr nad oedd o bwys iddo ef pwy oedd tad y plentyn, nad hyny oedd y cwestiwn. Barnai ef fod y cytundeb yn un cytreithiol, a rhodd- odd ddedfryd o blaid yr eneth am 12P. a'r costau. _n
IAngladd Miss Davison, y Suffragette.
Angladd Miss Davison, y Suffragette. Ddydd Sadwrn diweddafymgasglodd tyrfaoedd anferth yn heolydd Llundain i edrych ar gynhebrwng Miss Emily Wilding Davison, yr hon a gollodd ei bywyd yn rhedegfeydd y Derby Atal- iwyd y drafnidiaeth am tua haner awr ar adeg brysurat y dydd yn y rhan fwyaf prysur yn y brit ddinas, ac yr oedd yr olygfa yn un nas anghofir mohoni'n hir. Yr oedd yr olwg- ar yr orymdaith fawr yn darawiadol iawn- rhai o'r galarwyr mewn gwisgoedd gwynion, eraill mewn gwyrdd, rhai mewn gwisgoedd cochion, ac eraill mewn du Blaenorid yr orymdaith gan eneth ieuanc dal a phrydferh, mewn gwisg euraidd ac yn benoeth, yn cario croes euraidd. Dilynid hi gan ddeuddeg o enethod ieuainc mewn gwisgoedd gwynion yn cario blodeu- dyrch, ac o'r tu 01 iddynt hwy cerid baner werdd, ac arni'r geiriau Dal- iwch i fnvydrp, a Duw rydd i chwi'r i fuddugoliaeth." Yr oedd yn yr orym- daith nifer o fetched a dynent sylw arbenig,—yr oil mewn gwisg borffor, ac yn cario yn eu dwylo bwysïau o flodeu cochion, y porffor yn treiniol arwydd, a'r coch yn arwyddo aberth. Yr oedd o leiaf bum' mil o terched yn yr orymdaith.
I Eu Hail Briodas. !
Eu Hail Briodas. Yn Llys Ynadon Caernarfon, ddydd Sadwrn, gwnai Mary Roberts, o Bryn- llys, Nebo, gais am archeb ysgariaeth oddiwrth ei gwr, John Roberts, yn awr o Shenglienydd, De Cymru. Ni buont yn briod ond am ddeunaw mis. llonai y bu y gwr yn greulon wrthi, ac nad oedd yn rhoi arian at ei chynal.- Dywedwyd fod y ddau yn weddw pan y priodasant. Yr oedd y diffynydd yn feddwyn, ac yn greulon wrth ei wraig. Tua thri mis yn 01 aeth o cartref, gyda'r bwriid o fyn'd i Canada, ond daeth yn 01 bore dianoeih. Aeth i ffwrdd y diwrnod wed'yn, a daeth yn 01 tua'r un amser yn feddw, gan wthio'r drws i mewn tua dau o'r gloch y bore. Y diwrnod hwnw aeth i ffwrdd i'r Deheudir, ac nid oedd y wraig wedi ei weled ar ol hyny nes yr ymddangosodd yn y llys. Nid oedd wedi rhoi pum' punt at ei chynal yn ystod yr amser y buont yn briod. Mewn atebiad i gwes- tiwn o eiddo cyfreithiwr y diffynydd dywedodd y wraig ei bod wedi gwrthod byw gydag ef er's chwe' mis.-Dywed- ai y diffynydd na bu yn greulon wrthi, ac nad oedd yn meddui. Pan briod- odd, meddai, 1 hoed ef ar ddeall mai eiddo'r wraig oedd pobpeth ar {Term yr achwynyddes, ond canfu wed'yn mai eiddo ei mab oedd pobprih, ac mai efe oedd tenant y fferm Rhoddai iddi bob dimai a enillai, ac um ei bod hi'n cwyno ei bod yn cael I hy ychydig o arian y bwriadodd fyn'd i Canada. Daeth yn ol am ei bod yn rhy hwyr iddo gael lie ar y Hong. Aeth a'i ddodrefn, rhai anifeiliaid, a nifer o offer amaeth i gartret y wraig, ac yr oedd hi wedi meddianu yr oil bron. Gw rthod- odd fyw gydag ef, ac nid oedd arno awydd myn'd yn ol ati'n awr, er ei fod yn barod i dalu at ei chynal, os y cai ef ei eiddo'n ol.-Gobiriodd yr ynadon eu dyfarniad nes y byddai y partion wedi setio a'u gilydd ynglyn a'r eiddo.
Dal Coch Bach y Bala.I
Dal Coch Bach y Bala. I TAFLU EI ACHOS I'R FRAWD- LYS. Daliwyd CÙLh Bach y Bala ddechreu'r wythnos ddiweddaf, gan ddau heddwas y rhai a'i canfu yn cysgu mewn lie unig ar fferm Ty'n Celyn. Yr oedd torf fawr yn disgwyl pan y dygwyd ef i'r Bala. Foreu Mercher cyhuddwyd ef o flaen yr ynadon o dori i swyddfa Mr Jordan, cyfreithiwr, Mount St. eet, Bala.-Tyst- iwyd gan John Evans, garddwr y Plas Coch Hotel, fel y cantu ffenestri swyddfa Mr Jordan wedi tori, ac iddo hysbysu Mr Jordan o'r ffaith. Gwelodd hefyd ol traed yn yr ardd, ac yr oedd rhai o'i arfau wedi eu defnyddio i dori y ffenestr. -Rhoed tystiolaeth hefyd gan wr a gwraig llety'r carcharor. Dywedodd y gwr y daeth y carcharor i'r ty yn hwyr nos Wener a golwg gynhyrtus amo. Gofynwyd iddo p'le y bu, ac atebodd yntau mai am dro. Yr oedd esgidiau iset ysgafn a gwadnau rubber am ei draed Tystiodd gwraig y llety fod y gadach poced ddangosid yn y llys, yn eiddo i'r carcharor.—Tystiwyd gan ddwy ddynes iddynt weled y diffynydd tua deg o'r gloch y noson hono, a thystiodd Blod- wen Roberts, Berwynfa, iddi glywed swn ffenestr yn cael ei thori nos Wener. j Yr oedd ei hystafell hi yn gwynebu gardd Plas Cocb. -Rhoes yr Arolygydd I Morgan dystiolaeth i'r mudd y cantu y swyddfa wedi tori i mewn iddi, ac fel y cymerodd y carcharor i'r ddalfa ar ol gwneud ymchwiliadau. Yr oedd yr olion traed yn yr ardd yn cyferbynu a'r esgidiau wisgai y diffynydd.-Traddid- wyd y carcharor i sefyll ei brawf yn y Chwarter Sesiwn. Cyhuddwyd ef hefyd o ladrata cyllell boced, gwerth 5s., eiddo Mr W. Owen, White Lion Hotel, Bala —Dywedodd Mr Owen y bu y diffynydd yn gweithio ac yr oedd y gyllell mewn cwt oeau gdiiudo yn Fronbeuno. Nid oedd wedi rhoi caniatad iddo fynd i'r cwt, byddai clo arno bob amser. Roedd ganddo ef, y tyst, feddwl mawr o'r gyllell, gan ei bod yn un o'r rhai roed yn anrheg gan Faer Llundain i'r milwyr pan yn mynd allan i Dcle Aff rig.-Tyst- iwyd gan yr heddwas John Jones iddo gael y gyllell ym mhoced y carcharor. Pan ofynwyd iddo p'le y'i cafodd dy- wedodd mai yn Penrhiw.-Tr-iddod- wyd y diffynydd i sefyll ei brawf yn y Chwarter Sesiwn ar y cyhuddiad hwn hefyd. --0--
¡Camgymeriad Difrifol yn jMhorthmadog.
Camgymeriad Difrifol yn Mhorthmadog. Mae llawer i achos o afiechyd ar yr elwlod wedi mynd yn anfeddyginaeth^l oherwydd nad oedd y dioddefydd yn QeaH yr arwyddion. Y mae Hawer hyd yn nod heddyw yn Mhwllheli yn gwneud yr un camgymeriad difritol. Priodol- ant eu boenau cyfriniol i oilafur, neu bryder, eiallai, pryd yr edd eu poenau crydcymalau, y boen yu y cetn, cur yn y pen, peoysgafnder, chwydd dropsi, a'r anwylderau ar yr yswigen yn fwy na thebyg i'w briodoli yr holl amser i elwlod gwan ac afiach. Os ydych yn wael, gwellwch eich elwlod pan y galloch, gan gymeryd gwers oddiwrth brofiad y wraig hon o Borthmadog. Dywed Mrs A. Jones, Edge Hill, 21, Dora Street, ger Eglwys St. John, Porthmadog:—"Mae fy elwlod wedi bod yn achos o drwbl i mi am lawer o flynyddau. Cawn boenau liym yn fy nghefn, ac awn yn liegach ar ol ychydig mwy nag arfer o waith. Ymddangosai y poenau fel yn waeth pan gynheswn yn fy ngwely, ac ar brydiau prin y gallwn droi. Roedd fy mhen yn ddrwg hefyd, a thybiaf i'r anwylder effeithio ar fy nghalon. Un o'r arwyddion gwaethaf oedd y dnvg ar y dwr. Yr oedd yn boentfs i'w basio, ac yn anaturiol, ac yr oedd fy nhoesau a'm corff yn chwyddedig gan ddwr. "Y feddyginiaeth wnaeth fwyaf o les imi yw Doan's Backache Kidney Pills. Bum yn eu cymeryd droion, ac ni bydd- ant byth yn methu a rhoi esmwythyd i j mi. Mae genyf feddwl uchel o'r feddyg- iniaeth, a byddaf yn ei chymeradwyo'n amI." (Arwyddwyd) (Mrs) A. lones. Pris 2s. 9c. bocs, chwe' bocs am ) 3s. gc.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Welis Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- [ wch yn eglur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs Jones.
: Cyffro yn Nhy'r Cyffredin.I…
Cyffro yn Nhy'r Cyffredin. I LLUCHIO PECYN 0 FLAWD AT r Y PRIF WEINI DOG. Achoswyd peth cyffro yn Nhy'r Cyffredin, brydnawn Mercher diweddaf, pan y ceisiodd dyn daro Mr Asquith a phecyn o flawd. Yr oedd y Prif Weinidog ar ei draed yn siarad, a sylwyd ar rywbeth gvvyn yn cael ei luchio ato, ond methwyd a'i daro. Pan ddisgynodd y parsel ar lawr gwelwyd mai pecyn o flawd ydoedd. Taflwyd ef, o Oriel y Dieithriaid gan ddyn ieuanc mewn cydymdeimlad a'r suffragettes, yr hwn a waeddodd rywbeth ynghylch y ddynes a laddwyd gan geffyl y Brenin yn Epsom. Rhuthrodd y cudd-heddweis sydd yn gwylio yn Oriel y Dieithriaid ar y dyn ieuanc ar unwaith, a chymerwyd ef oddiyno. Ni chyffroes y digwyddiad nemor ddim ar y Pi if Weinidog, ac aeth ym- laen gyda'i araeth yn hamddenol ym- hen rhyw funud neu ddau, fel pe na bae dim wedi digwydd.
Llys y Manddyledion, Pwllhe'i.
Llys y Manddyledion, Pwll- he'i. Cynhaliwyd dydd Mawrth, Mehefin 'I iofed, Jerbron y Barnwr William Evans. Ynglyn ag lau ndaliadau.—Gwneid apel gan Mr O. Robyns Owen ar ran gweddw Robert Jones, Brynmelyn, Llithfaen, yr hwn gyfarfu a damwain angeuol yn Chwarel yr Eifl, am daliad allan o ZOp. ios., a chaniataudd y Barnwr yr apel. Gwnai Mr O. Robyns Owen apel hefyd ar ran Ellen Williams am i'r 200p. gweddill o iawn-dal, gael ei dalu i'w phum plentyn yn ol 2s. 6c. yr un yn yr wythnos.- Caniatawyd Achoso iNefyn-Enilib Uonediy. — Gwys- id Mrs M. Thomas, gwraig briod o Nefyn, gan E. Cook, o'r un lie, am en- llib honedig. Mr Clement Davies (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr O. Robyns Owen) a ymddangosai tros yr achwyn- ydd, a Mr Cradoc Davies tros y ddiffynydJ, yr hon a wadai iddi ddefnyddio'r geiriau y cwynid o'u her- wydd. Dywedodd Mr Clement Davies wrth agor yr achos, fod y partion yn gymdogion agos, ac y buont yo gyfeill- ion am beth am-,er-yr achwynydd yn gweithio i'r ddiffynyddes drwy wneud ei hetiau iddi, a phethau eraill. Yn gynar yn Mai, igi i, clybu yr achwynydd fod y ddiffynyddes yn dweyd pethau am dani adlewyrchai ar ei gonestrwydd. Dywedwyd y geiriau crybwylledig wrth un Mrs Hughes, i'r perwyl fod y ddi- ffynyddes wedi liadrata rhuban, a gwnaeth sylvvadau i'r un cyfeiriad droion. Gwnaeth y geiriau hyny, y rhai oedd yn hollol anwireddus, niwed mawr i'r achwynydd, co!lodd lawer o'i chwsmeriaid mewn canlyniad. Collodd gwsmeriaeth Mrs Hughes yn un.— Croesholwyd yr achwynydd gan Mr Cradoc Davies, a dywedodd nas gwyddai ymha faint o dai y bu Mrs Hughes yn byw yn Nefyn. Dywedodd hefyd mai nid dial yr oedd hi ar y ddiffynyddes wrth ddod a'r achos ym- laen oherwydd y rhwystrodd y ddi- ffynyddes hi. roi terfyn rhwng y ddau dy —Tystiwyd gan Marian Rice Hughes yr hon a ddywedodd ei bod yn byw tros y ffordd i Mrs Thomas a Miss Cook. Bu Miss Cook yn gweithio iddi hi a'r teulu a chafodd hi yn hollol onest yn ei busnes. Synodd yn fawr glywed Mrs Thomas yn dweyd wrthi y geiriau y cwynid o'u herwydd, end peidiodd a gwneud busnes hefo'r achwynydd ar ol hyny am amser.—Yn ateb i Mr Cradoc Davies dywedodd y dyst mai ynghylch rhyw tuban yr oedd y sylwadau yn cael eu gwneud bob tro. Tybiai fod Mrs Thomas yn credu yr hyn a ddywedai. Nis gwyddai fod Mrs Thomas wedi rhoi archeb am het i'r achwynydd ar ol hyny. Ni bu unrhyw gweryl rhyngddi hi a'r ddiffynyddes hyd yr helynt hwnw, ac nid oedd yn ffaith yr aeth yn anghyd- fod rhyngddynt ynghylch nwyddau fenthyciodd Mrs Thomas oddiarni. Gofynodd Mr Davies i'r dyst pam yr aeth o Nefyn i Lerpvvl, ac atebodd hithau mai ei busnes hi oedd hyny. Nid oedd wedi bob mewn trwbl o'r blaen er y gallai fod llythyrau cyfreith- iol wedi eu hanfon. Nid oedd ychwaith wedi cael nwyddau o Bwllheli o dan enw arall. Yr oedd Mrs Thomas wedi bod yn dweyd pethau am dani hithau hefyd, ond yr oedd wedi eu hanwybyddu. Yr oedd Mrs Thomas yn defnyddio'r gair "jiad" yn ami, ac efallai y byddai hithau ei hun yn gwneud hyny ar bryd- iau.—Galwyd ar y ddiffynyddes, yr hon a ddywedodd ei bod yn byw y drws nesaf i'r achwynydd. Daeth Miss Cook i tyw yno ddwy flynedd yn ol, a buont ar delerau da yn hir. Gweithiai Miss Cook iddi, ac yr oedd ganddi feddwl uchel ohoni. Ni wnaeth erioed y cyhuddiadau honedig am dani. Nid oedd Miss Cook wedi siarad gyda hi er pan y dechreuodd yr helynt. Mor bell ag y gwyddai hi yr oedd yr achwynydd yn hollol onest. Yr oedd tystiolaeth Mrs Hughes yn anwiredd o'r dechreu i'r diwedd.—Wrth ei chroesholi dywedodd nad oedd yn arfer dweyd pethau am bobl, ac nid oedd wedi cael ei bygwth gan neb. Achos yr helynt rhyngddi hi a Miss Cook oedd ei gwaith yn rhoi gwifren rhwng y ddau dy. Unwaith gofynodd Mrs Hughes iddi hi (y dyst) Welsoch chwi Cadi Cook yn feddw?" Dywedodd hithau nad oedd yn feddw, ond mai cyrn oedd ar ei thraed. Dechreu'r helynt oil oedd iddi hi rwystro Mrs Hughes ddod i'r ty. Nid oedd ami ofn Mrs Hughes, er ei bod wedi ei bygwth ac yn rhegi'n arswydus.—Ar ran y ddiffynyddes dywedodd Mr Cradoc Davies nad oedd wedi dweyd y geiriau honedig erioed, ac ni phrofwyd fod unrhyw niwed wedi ei wneud i fus- nes yr achwynydd o gwbl. Yr oedd y ddiffynyddes yn un wedi gwneud bus- nes heto hi ar ol i'r enllib honedig gael ei wneud. a rhoes y ddiffynyddes bar o hosanau i frawd yr achwynydd pan yr oedd yn mynd i'r mor. Sylwyd y gwnaed y datganiadau wrth Mrs Hughes a phersonau eraill, ond p'le 'roedd y personau eraill? Nid oedd tystiolaeth M rs Hughes i ddibynu dim arni, ac nid oeddis wedi dangos fod gan ddiffynyddes unrhyw amcan i'w gyraedd drwy endibio r achwynydd.—Dywed- odd y Barnwr ei bod yn resyn nas gall- odd y partion setlo'r cweryl ar y dechreu. Credai y buasent wedi gwneud hyny pe bae y ddiffynyddes wedi mynd i weld Miss Cook pan gafodd y llythyr cyfreithiol yn Mai Y cwestiwn oedd, glywodd Mrs Hughes y sylwadau honedig, ynte ai eu dyfeisio wnaeth ? Tueddai ef i gredu ei bod wedi eu clywed, ond nid oedd hyny yn golygu y credai y ddiffynyddes fod yr achwynydd yn lladrones, ac nad oedd mewn gwir- ionedd yn ei chyhuddo o anonestrwydd. Yr oedd yn fwy o natur gwrachiaidd chwedlau a hoffir yn gyffredin gan ferched mewn pentrefi bychain. Ond nis golygai hyny y cai basio heibio'n ddi-gosb. Credai y gellid gwneud cyfiavvnJer yn yr achos drwy i'r ddi- ffynyddes dalu 2p. o la" ii a'r costau. -0--
Dr Fraser a "Chaethwasiaeth."
Dr Fraser a "Chaethwas- iaeth." Dr Peter Fraser oedd y prif ffigiwr yn Nghymanfa Gyffredinol y Method- istiaid yr wythnos ddiweddaf, yn Aber- gwaun. Cofir i Dr Fraser, yr hwn a aeth allan yn genhadwr i'r India, fynd i wrthdar- awiad a'r Llywodraeth Indiaidd o ber- thynas i gyfundrefn y Boi" oedd mewn gweithrediad yn Lushai, ac yn yr hwn gyfundrefn, medd Dr Fraser, mae elfenau caethwasiaeth. Oherwydd nad ymrwymai y cenhadwr i beidio cymeryd cwrs politicaidd ynglyn a'r mater, ac i gyfyngu ei hun i waith meddyg cen- hadol yn unig, cyfyngwyd maes ei lafur, a gofynwyd gan y Llywodraeth i Bwyllgor Cenhedaethau Tramor Lerpwl symud Dr Fraser o Lushai. Datgau- odd y cenhadwr nas gallai mewn un- rhyw todd gytuno a'r payligor o barth- ed i'r mater. Dychwelodd Dr Fraser a'i briod i'r wlad hon ychydig amser yn ol, oher- wydd fod iechyd y cenhadwr yn pallu. Yr oedd ef a'i briod yn bresenol yn y Gymanfa ddydd Mercher diweddaf, a gofynwyd iddo gan y Llywydd (y Parch John Williams, Brynsiencyn) i roi yr ymrwymiad gofynol. Pan gododd Dr Fraser i tynu i siarad yr cedd dan deimladau dwys, a dywedodd fel y cychwynodd Methodistiaeth yn Sir Gaernarfon. Yr oedd dyn duwiol, meddai efe, yn anerch torf wrthwyneb- us, a cheisiwyd ei saethu deirgwaith, ond ffaelodd y llawddryll a thanio. "Y mae llawddryll," meddai y cenhad- wr, "yn cael ei anelu at fy mhen innau heddyw. Gofynir i mi, beth bynag yw fy marn bersonol am gyfundrefn y "Boi," beidio datgan y farn hono yn Lushai. Mewn gair, gofynir i mi gloi fy safn, a rhwymo fy nwylo. Gellwch fy esgymuno, os teimlwch mai hyny yw'ch dyledswydd, ond nis gallaf ar- wyddo'r ymrwymiad. Honaf fod genyf yr unrhyw hawl a phob Prydein- iwr arall, i wneud y caeth yn rhydd." Wedi tratodaeth faith gohiriwyd y mater fel ag y gallai Dr Fraser ym- gynghori a'i briod. Gan fod Dr Fraser drachefn yn dal at ei argyhoeddiadau cafodd y cwestiwn ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gweithiol i'w setlo.
u - Adroddiad. Pwyllgor y…
u Adroddiad. Pwyllgor y Marvoni. Yr wythnos ddiweddaf gwnaed yn hysbys ganlyniadau yr ymchwiliad wnaed gan y pwyllgor i'r helynt ynglyn a Gweinidogion y Goron a chyfranau Cwmni y Marconi. Dywed adroddiad y pwyllgor nad oedd unrhyw sail i'r cyhuddiadau wnaed yn erbyn Syr Rutus Isaacs, Mr Lloyd George a Mr Herbert Samuel, ac nid oedd gan y personau gyhoeddodd y cyhuddiadau hyny unrhyw sail tros gredu fod y cyhuddiadau yn wir. Dy- wed yr adroddiad ymhellach fod gwaith y rhai a g) lioeddodd y cyhuddiadau i"W gondemnio yn y modd mwyaf llym.
Dyn leuanc yn cael ei Ladd.
Dyn leuanc yn cael ei Ladd. Foreu Sadwrn cafodd dyn ieuanc o'r enw Arthur Jones, o Liscard, ei ladd, pan yr oedd yn mynd ar ei fodur-beisicl. Aeth ei feisicl i wrthdarawiad a modur arall, a chafodd y dyn ieuanc ei niweidio gymaint fel y bu farw ymhen ychydig funudau.
Advertising
YOU KNOW US. We are in business here, where you live. You are an acquaintance, neighbour, or friend of ours. You can safely accept our Statement of Money BacK if not satisfied. Are your bowels regular? The doctor's FIRST question-because 95% of all human ills are due to bowel irregularities. Coated tongue, sick headaches, insomnia, had taste, bad breath, lack of energy, can nearly al- ways be traced to disordered—CONSTUWTHL) —bowels. The wise medical man knows tbi. hence he wastes no time but goes for the root of the trouble Are your bowels regular ?" The one safe, dependable remedy for ronsti- {»ation and bowel disorders is Rexall "Order- ies". Rexall "Orderlies ate sold only on the sane, sensible, and fair basis, of satisfaction or money back "-if you don't get relief you don't lose a penny. Rexall "Orderlies" are The Laxative Con- fection, they never purge, gripe, cause nausea or any inconvenience. They tone up the muscles, and thus cause the bowels L. empty themselves easily, naturally, and regularly. Three sizes-7id., 1/ and 2/ Rexall Orderlies" are one of the famous Rexall Remedies, of which there is one fur each of the common human ills, and every R-xall Remedy is sold on this guarantee "The United Drug Co., and the Kexall Shop soil- ing this preparation, guarantee it to Kivt; you satisfaction; if it does not, go bad; to the shop where you bought it and get your money. It belongs to you and we want yen to have it." There is a Rexall Pharmacy in m'atty evt iy community in Great Britain and is a different Rexall i-eiiie-iy, for ninny every ordinary human iil—each c'-penally designed for the particular ill for which it ;5 recommended. CAUTION: Please bear in mind ihii SNxail Oiderlies" are not sold by all chemi.-i Vuu can buy Rexall "Orderlies" unly at the Kexall Pharmacies. You can buy Rexall Orduliss in this community only at our shop. The Rexall Chemist in Pwllheli is R. 0. GRIFFITH, 60, HIGH STREET, PWLLHELI.