Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR.

NODION A HANESION.

News
Cite
Share

NODION A HANESION. Cael Corff yn y Ddyfrdwy. Caed corff dyn o Blackburn, o'r enw William Taylor, yn y Ddyfrdwy, y dydd o'r blaen, ac archoll ergyd yn ei dalcen. Yn ei boced yr oedd nodyn, yn yr hwn y ffarweliai y tranceqig a'i holl gyfeillion. Er's ychydig amser daethai y dyn i Gaer yn unol a chyngor meddyg i geisio adferiad i'w iechye. < Bechgyn Ynfyd. Cafodd naw o fechgyn eu dirwyo yn Llanidloes, y dydd o'r blaen i cha-e swllt yr un, am osod gwifren ar draws y ffordd yn y oos, Tystiwyd i ddynes a phientyn yn ei breichiau syrthio ar draws y wifren. Canfuwyd Hidiart wedi ei rhoi ar draws y ffordd mewn lie arall. Tynwyd y wifren ymaith gan Mr David Jones, Post Office, a dywedodd yr heddgeidwaid i rywun droi gwartheg David Jones allan o'r caeau a'u gyru ymhell o'r lie, am ei fod wedi cael gwys i dystio yn yr achos. Yr Ieir yn ei AdnaboJ Gwrandawyd achos doniol iawn yn Macclesfield, y dydd o'r blaeo. Anfon- wyd dyn o'r enw George Cochrane i garchar am fis am ddwyn chwech o ieir a cheiliog. Eiddo ffermwr o'r enw Charles Woodword oedd yr ieir, a dywedai yr erlynydd i'r ieir gael eu cymeryd o gwt yn ei gae, ac ymhen deuddydd neu dri gwelodd hwy mewn gardd yn Macclesfield. Gofynodd iddynt "Beth wnewch chwi yma." Adwaenodd yr ieir ef, a daethant ato. Pan oedd yr erlynydd yn rhoi ei dyst- iolaeth dechreuodd yr ieir glochdar yn y llys, a bu raid atal yr achos i'w symud allan oddiyno. 4- Marw Arglwydd Avebury. Yr wythnos ddiweddaf, yn Kings- gate Catle, R:tms-ate, bu farw Arglwydd Avebury, neu Syr John Lubbock, fel yr adnabyddid ef gynt. Yr oedd yn un o'r dynion enwocafyn y deyi- nas ar lawer ystyr. Yr oedd yn un o wyddonwyr mwyat yr oes, yn wleidydd- wr. diwygiwr cymdeithasol. yn natur- iaethwr, ac yn hyfedr neillduol mewn trin materion arianol. Pan yn Nhy'r Cyffredin bu yn gyfriful ain ddeg o tesurau, ac iddo ef y mae'r wlad i ddiotch am Ddeddf Gwyl y Banciau. Pan nad oedd ond dyn ieuanc iawn tal- wyd teyrnged uchel i'w alluoedd gan yr enwog Charles Darwin. Bachgen Gwrol yn Boddi. Yr oedd nifer o blant yn ymdrochi mewn llyn yn Brymbo, ger Gwrecsam, yr wythnos ddiweddaf, a gwelwyd fod un o honynt, bachgen bychan o'r enw John Guest, wedi mynd i le rhy dd" fn ac mewn perygl o golli ei tyw d. Aeth bachgen arall o'r enw Emrys Evans i'w gynorthwyo, ond aeth yntau hefyd i le rhy ddwfn, a bu y ddau foddi. Yn y trengholiad gynhaliwyd ar y cyrff dydd lau, tystiwyd gan John David Hughes a John Griffiths, dau ddyn ieuanc, iddynt wneud ) mdrech i acht-b byA yd y bechgyn ond iddynt fethu yn eu hym- gais Bu agos i un o honynt hwythau hefyd toddi gan nas gallai nofio, ac yr oedd wedi neidio i'r llyn yn ei ddillad- Rhoes y crwner a'r rheithwyr ganmol- iaeth uchel i Hughes a Griffiths, ac addawyd cymeradwyo'r ddau i gael medal y Gymdeithas Ddyngarol Fren- hinol. Suffragettes yn Llanrwst. Gwelwyd merched dieithr yn Llan- rwst y dyddiau diweddaf, a dydd Mercher yr oedd aelodau y Clwb Golff ar y cwrs yn chware, ac wedi gadael eu hetiau a rhai o'u dillad yma ac acw hyd y lie. Cyn hir gwelent fflagiau bychan wedi eu gosod yn ymyl y dillad, a'r geiriau U Pleidtais i Ferched," wedi eu hargrafTu arnynt. Dechreuodd y coed sydd ogylch Castell Gwydir gymeryd t-in hefyd, a bernir mai gwaith y merched hyny ydoedd. Uwyddwyd i ddiffodd y tan, ond nid cyn i gryn ddi- frod gael ei achosi It Noson Allan" a'r Canlyniad. Caed dyn ieuanc o Wigan wedi boddi yn y gamlas y dydd o'r blaen. Nid oedd ond un ar hugain oed, ac yn wr priod. Gadawodd ei gartref nos Lun i fynd i chwareudy ac arhosodd allan drwy'r nos. Pan ofynodd ei wraig iddo beth oedd yr achos, dywedodd y rhaid fod rhywbeth ar ei ben. Aeth o'r ty y boreu wedyn i fynd at ei waith, ond caed ef wedi boddi yn y gamlas. I Trychineb mewn Gwallgofdy. Y dydd o'r bl-ien aeth dyn i wallgof- dy St. Alban, Hertfordshire, i edrych am ei wraig, yr hon oedd yn y gwall- goidy. Yr oedd y dyn hefyd wedi bod yn isel iawn ei feddwl er's peth amser. Yr oedd yno bobl eraill hefyd o'r un lie ag ef yn edrych am t-erthynsau iddynt Pan welodd y wraig y bobl yno yr oedd yn amlwg nad oedd yn hoffi eu presenol- deb, a gwnaeth hyny y gwr yn an- esmwyth iawn. Pan yr oedd y c) m- ydogion ar gychwyn oddiyno clywent ergyd, a gwelent y ddynes yn syrthio i lawr, saethodd y gwr drachefn, ac yna saethodd ei hun. Bu'r ddynes tarw yn ebrwydd, ac yr oedd y dyn wedi ei niweidio'n ddifrifol Dirwy Drom Am ganiatau betio yn ei dy cafodd Thomas Kelly, Leigh, ei ddirwyo i haner cant o bunau a'r costau. Calodd ei wraig a'i fam-ynghyfraith hefyd eu dirwyo i bum' punt yr un am gynorth- wyo. <. • Llew yn Ymosoi ar ei Geidwad. Yn arddangosfi Bostock a Woinbell, yn Plymouth, ddydd Mercher diweddaf, ymosododd llew ieuanc ar Mr Frank VVombell pan yr oedd yn perfformio gydag ef, ac archollodd ef yn ddifritol iawn. Y diwrnod hwnw yr oedd y llew wedi cyraedd o Affrica. Achosodd yr helynt gyffro mawr yn y filodfa. Awyrlong ar Dan. Cafodd dau awyrwr ddihangfa gyfyng iawn y dydd o'r blaen yn Salisbury. Aeth y ddau i fyny mewn awyrlong, a phan yn yr uchder o tua deuddeng mil o droedfeddi canfuwyd fod yr awyrlong ar dân. Gwnaed darpariadau ar un- waith i ddisgyn i lawr yn sytfr. Yr oedd y peiriant wedi mynd mor boeth fel yr oedd yn rhaid i'r gyriedydd sefyll ar ei draed. Disgynasant i lawr yn ddianaf, a neidiasant ohoni ar unwaith. Gynted ag y gwnaethant hyny ffrwyd- rodd y tancpetrol ac aeth yr awyrlong yn ddarnau. Gwerthu Gwraig am Bunt. Yn Wigan y dydd or blaen yr oedd dynes ieuanc, yr hon oedd yn briod, yn apelio am archeb at gynal ei phlentyn, a gofynodd y clerc iddi pam y gadawodd ei gwr. Dywedodd hithau fod ei gwr wedi ei gwerthu am bunt i'r diffynydd, yr hwn hefyd oedd yn wr priod Werthodd ef ei wraig i rywun, gofyn- i ai y clerc, ond nis gwyddai y ddynes a I oedd wedi gwneyd hyny ai peidio. Yr oedd wedi byw hefoV diffynydd am chwech wythnos ar ot i'r plentyn gael ei eni. Gormod o John Jonesiaid. Yn Nghyngor Portardawe y dydd o'r blaen cynygiai y Parch Evan Davies, fod y tai yn nosbarth Caugurwen yn cael eu rhifo. Yr oedd y lie yn cynyddu'n ddirfawr, meddai. Roedd ef ei hun wedi bedyddio tros gant o blant, a byddai rhifo'r tai yn hwylusdod mawr yn herwydd nad oedd pobl yn Gwaun- Caugurwen yn cael eu galw wrth eu henwau priodol. "Yr Hen Berson" y gelwid ef gan bawb, ac nid y Parch Evan Davies. Mewn ambell i heol yr oedd tri dyn yn dwyn yr enw John Jones, a phan ddeuai llythyr i John Jones" yn yr heol hono, rhoddai y llythyr-gludydd ef yn y ty nesaf ato. Efallai yr agoiid y llythyr gan y wraig, ac yna byddai yno helynt anaele. A Cynwrf mewn Cyngerdd. Nos Wener diweddaf, cynhelid cyngerdd yn Llanfair Talhaiarn, er budd cronfa'r Eglwys yn y lie, ac yr oedd nifer o gantorion o Rhyl ac Aber- gele wedi dod yno i gymeryd rhan. Yn ystod y cyngerdd dechreuodd nifer o techgyn gynhyrfu. Apeliodd y ficer am iddynt fod yn ddistaw, a chan nad oeddynt yn tawelu ceisiwyd mynd a hwy allan. Aeth yn gyffro mawr yno, a bu raid tori y cyngerdd i fynu Lluchiwyd cerrig at rai o'r cantorion, a bu raid iddynt ffoi am toches i dafarndy. Ymgais i Roi Gorsaf ar ran. Yn hwyr nos Sadwrn diweddaf, gwnaed ymgais i roi gorsaf Shields Road, Glasgow, ar dan, a thybir mai gwaith y suffragettes ydoedd. Can- fuwyd mwg yn dod o un o'r ystafell- oedd gan rai o weithwyr y rheilffordd, a gynted ag y llwyddwyd i roi y tan allan yn y fan hono gwelwyd fod ystafell arall yn y rhan isaf o'r orsaf yn dechreu cyneu. Buwyd am gryn amser cyn y llwyddwyd i ddiffodd hwnw, ac yr oedd cryn niwed wedi cael ei wneud ar y ddwy ystafell. Ychydig cyn i'r tan j dori allan gwelwyd dwy ddynes yn dod o'r ystafell. I # ♦ Damwain yn Llandudno. Cyfarfu boneddwr o Landudno o'r enw Mr D. Walker, a damwain ddifrifol ddydd Sadwrn, ac ofnir y bydd yn angau iddo. Yr oedd ef a dau o ddyn- ion ereill yn dod mewn gwagen i lawr gait serth ar y Great Orme. Rywtodd llithrodd yr olwynion a thrawodd ochr y aen yn eibyn y graig nes y taflwyd y tri dyn o honi. Syrthiodd Mr Walk- er o dan y wagen, a chafodd ei lusgo i lawr yr allt am tua haner cant o latheni Ni chafodd y ddau arall ond ychydig ysgyttad, ond I u raid cludo Mr Walker i'r ysbyty. Cafodd ei anafu'n dditrifol, I ac yr oedd yn anyn.wybodol.

Ysbeilwyr mewn Hotel. I

Y Dymestl.¡

Etholiad Altrincham.I

- -u-I Her i Mr F. E. Smith.I

Ysbeilio Gemydd yn y Tren.…

Marw'r Parch. J. C. WilliamsI…

Cael ei Ladd wrth LechuI rhag…

-.-o --I Brawdlys Caernarfon.

Agerlong yn Mynd yn ErbynI…

ICyngor Tref Pwllhell.-1

Yr Hyn sydd ar Bwllheli eisieu…

Bwrdd CWWa.1 neidwaid -.,Pwllheli.

[No title]