Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR.

NODION A HANESION.

Ysbeilwyr mewn Hotel. I

Y Dymestl.¡

Etholiad Altrincham.I

- -u-I Her i Mr F. E. Smith.I

Ysbeilio Gemydd yn y Tren.…

Marw'r Parch. J. C. WilliamsI…

Cael ei Ladd wrth LechuI rhag…

-.-o --I Brawdlys Caernarfon.

Agerlong yn Mynd yn ErbynI…

ICyngor Tref Pwllhell.-1

News
Cite
Share

I Cyngor Tref Pwllhell. -1 Cynhaliwyd nos F iwrth, Mai 27ain. -Presenol Y Maer (yr Henadur Wynne Griffith) yn y gadair yr Hen- aduriaid R. Ivor Parry, W. Eifl Jones, a W Anthony y Cynghorwyr R. Albert Jones, E. Jones Griffith, G. Cornelius Roberts, W M Toleman, W. Wynne Owen, Dr R. Jones-Evans, T. W. Thomas, O. Ellis Jones, Richd. Jones, Hugh Pritchard, a'r swyddogion CYFLOGAU'R SWVDDOGION. I Yn unol a rhybudd roes gaiwodd Mr Wynne Owen sylw at y cyflogau delid i swyddogion y Gorfforaeth. Yr oedd wedi sylwi yn ystod y tymor y bu yn overseer fod sefyllta arianol y dref yn ddifrifol iawn, a gwyddai ei bod yn galed ar lawer i drethdalwr parchus i dalu'r trethi uchel a thalu ei ffordd yr un modd. Cyfiawnheid ef hefyd i alw sylw at y mater yn awr, gan y codid y cwestiwn i tyny yn barhaus adegau etholiad, nc yn ol hyny o brofiad gafodd ef ar y Cyngor nis gallai weled y gellid cyfiawnhau y cyflogau delid i swyddogiou y Gorfforaeth. Yr oedd wedi gwneud ymchwiliad ynghylch faint a delir i swyddogion Cynghorau eraill, ac yr oedd ffrwyth ei ymchwiliad yn cadarnhau ei olygiad. Yn Nghonwy yr oedd yr un dyr. yn gweithredu fel clerc tref a chyfrifydd, a thelid llai iddo o dros gan' punt nag a delid i Glerc Tref a Chyfrifydd Pwllheli, er fod pobl- ogaeth Conwy yn fwy o un cant ar bymtheg nag eiddo Pwllheli. Yr oedd y Gwaith Nwy ag ystad fawr hefyd o dan reolaeth Cyngor Conwy. Yn ol yr herwydd yr oedd Pwllheli yn talu mwy na Gwrecsam hefyd. Yr oedd y cyflog delid i Glerc Bangor, fel ag yn Mhwll- heli, yn cynwys y tal am wasanaeth cyfreithiol, ond yr oedd y cyflog yn llai yn Mangor o lawer, er fod cyflogau swyddogion eraill ychydig yn uwch yno nag yn Mhwllheli. Yr oedd poblog- aeth Fflint yn fwy o bymtheg cant na Phwllheli, ond yr oedd y cyflogau yno yn llawer llai nag yma. Teimlai ei bod yn hen bryd adolygu cyflogau swydd- ogion Cyngor Pwllheli. Nid oedd am ddweyd na haeddai y Clerc y 275P. delid iddo mewn cyflogau, ond y cwest- iwn oedd a allai y dret fforddio hyny. Os nas gallai Mr E. R. Davies wneud y gwaith am lai na 275P. y flwyddyn, dylent gynyg y swydd i'w frawd Mr ( Cradoc Davies. Mr G. Cornelius Roberts Gwell ei chynyg i Mr Hugh Pritchard hefyd. Mr Pritchard Wna i ddim a hi, diolch. Yr oedd y cyflog delid i swyddogion y Cyngor, meddai Mr Wynne Owen, yn gyfartal i dreth o swllt y bunt. T^lent yn ol ??c. o dreth i'r Clerc, cyi?????????? &1.tahA i a cbyfartal i 3 ic""1 r Arc!ygydd. Bu- ?t ont yn talu mwy, ond yr oedd y Cyngor wedi arbed 54p. trwy gyplysu rhai swyddi. Ond credai ef y gallent arbed mwy eto. Gan hyny cynygiai ef tod y mater yn cael ei d-in gan bwyll- gor o'r Cyngor, gyda golwg ar ostwng y cyflogau lie yr oedd yn bosibl gwneud byny. Byddai yn deg i'r swyddogion ddod i roi adroddiad o'u gwaith a'u dyledswyddau, ac wedi hyny fynd allan gan adael i'r pwyllgor drafod y cwest- iwn yn rhydd. Eiliwyd y cynygiad gan yr Henadur Anthony, ac ategwyd ef gan Mr G. Cornelius Roberts. Sylwodd Dr R. Jones-Evans y credai ef y dylai y mater gael ei drin yn gyntaf gan y Pwyllgor Arianol, ac fod i'r draf- odaeth gael ei chyflwyno i bwyllgor o'r Cyngor. Yr oedd ef yn cynyg hyny. Eiliwyd Dr Evans gan yr Henadur Eifl Jones, a dywedodd y dylid rhoi hysbysrwydd i'r pwyllgor ynghylch faint delid mewn costau cyfreithiol gan y Cyngor cyn penu o honynt ar gyflog o 275P am waith clerc a gwasanaeth cyfreithiol yn un. Credai ef y telid mwy y pryd hyny nag a wneid yn awr. Dywedadd Mr Wynne Owen nad oedd golwg y byddai llawer o waith cytreithiol yn y dytodol, a chytunai yr Henadur Eifl Jones ag ef. Barnai yr Henadur W. Anthony mai. gwell fyddai i'r mater gael ei drin gan yr holl Gyngor, gan y teimlai fod y cynygiad rywfodd yn adlewyrchu yn anffafriol ar y Pwyllgor Arianol. Cytunai Mr G. C. Roberts ag ef, a dywedodd fod y cwestiwn hwn yn un ag y dylid edrych i mewn iddo er's amser. Sylwodd Mt Hugh Pritchard hefyd mai gwell oedd i'r mater gael ei drin gan y Cyngor ei hun, y byddent drwy hyny yn arbed amser ac yn osgoi y rheidrwydd o drafod cynygion y Pwyll- gor Arianol. Pasiwyd y cynygiad. GWEiTHWYR Y GORFFORAETH. Yr oedd yr Arolygydd wedi cyflwyno I adroddiad i'r Pwyllgor lechydol ynglyn a nifer y gweithwyr oedd yn cael eu cyflogi gan y cyngor ar hyn o bryd, ynghyd a'u dyledswyddau a'u cyflogau. Nifer gweithwyr y Gorfforaeth yn breseool oedd deuddeg, un-ar-ddeg yn weithwyr cyson, a'r Hall yn cael ei gyflogi ar adegau yn unig. Yr oedd cyflogau'r oil gyda'u gilydd oddeutu up, is. 3c. yn yr wythnos. Yr oedd tri yn cael eu penodi gan y cyngor, sef ceidwad y neuadd, ceidwad y lladd-dy a'r un a otalai am yr harbwr a'r carth- ffosydd. Telid i'r tri hyn 2p. 18s. yr wythnos. Or lleill yr oedd dau yn cael cyflog o 22s. 6c yr wythnos am lan- hau'r heolydd, un yn edrych ar ol y domen am SS. yr, wythnos, un yn goleuo'r lampau am 7s. yr wythnos, I pedwar yn llafurwyr cyffredinol am 1 gyflog o 21s. 3c. yr wythnos, ac un yn torri cerrig am 21s. 3c. yr wythnos, ond nid oedd ef yn cael gwaith cyson. Yn 1907—8 yr oedd o un-ar-bymtheg i bedwar ar bymtheg yn gweithio i'r Gorfforaeth, a thelid iddynt ar gytartal- edd 14p. 1 os. yr wythnos. Yr oedd ef, yr Arolygydd, yn sicrhal y Pwyllgor y hyddai niter y gweithwyr yn cael eu heihau os y gellid gwneud hyny i tan- tais y Gorfforaeth, ond credai fod cynydd gofynion y fwrdeisdref yn debycach o'i gwneud yn angenrheidiol cael ychwaneg o ddynion yn y dytodol, yn hytrach na llai.—Yr oedd y PwylI- gor wedi cymeradwyo'r adroddiad a chadarnhawyd hyny gan y cyngor. --o

Yr Hyn sydd ar Bwllheli eisieu…

Bwrdd CWWa.1 neidwaid -.,Pwllheli.

[No title]