Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

t-" - - - AT EIN QOHEBWYR.…

NODION A HANESION.I

- - - - - - - - - I Y Bedd…

Digwyddiad Ofnadwy. I

Addef iddo Ladd ei Blentyn.

Pregeth y Canghciior. I

[No title]

Advertising

¡Mr. M'Kenna'n Nghaergybii

Tan mewn Eglwys.

News
Cite
Share

Tan mewn Eglwys. Bu digwyddiad cyffrous iawn yn Eglwys Gatholig Notre Dome yn Leicester Square, Llundain, ddydd Sul. Dychrynwyd y gynulleidfa gan lefau geneth ieuanc yr hon oedd wedi ei hamgylchu gan fflamau, ac yn y cyffro cymetodd dillad dwy eneth techan arall dan, a rhu llrodd y gynulleidfa allan ar draws eu gilydd mewn braw a dychryn. Yr oedd y Mass ar fin terfynu trwy i'r "Gloria" gael ei ganu, a phan yr oedd y Tad Murphy yn myn'd i ddweyd "Amen "rhuthrodd geneth fechan o'r enw Fantoni Ida i'r oriel lie yr oedd llawer o blant eraill wedi bod yn der- byn y Cymmun, a'dychrynodd yr add- olwyr drwy lefain ac ysgrechian. Yr oedd dillad yr eneth ar dân, a rhedodd ar draws yr oriel a chymerodd dillad dwy eneth fach arall ddn oddiwrthi. Yn ffodus llwyddwyd i ddiffodd y fflamau ar y ddwy eneth rheini, ond gyda Fantoni Ida bu'n wahanol. Llefai fwyfwy fel yr oedd y fflamau yn cyn- yddu o'i hamgylch, a rhuthrodd y geuethod ati. O'r diwedd cymerodd boneddiges garped oddiar y llawr, tafiodd ef am yr eneth, a gwasgodd ef am dani nes diffoddodd y fflamau. Yr + oedd rhan fawr o'i dillad a llawer o'i gwallt wedi Hosgi. Yn y cyfamser yr oedd cyffro mawr ymysg yr addolwyr yn llawr yr eglwys, gan nas gwyddent yn iawn beth oedd wedi digwydd yn yr oriel. Gwelent y fflamau a chlywent y plentyn yn llefain. Tybiai llawer i fam mai ei phlentyn hi oedd, a thybiai eraill fod yr eglwys yn myn'd ar dan. Cyn- yddodd y cyffro, a rhuthrodd y bobl am y drysau. Syrthiodd rhai yn y rhuthr, a methrid hwy ar lawr, a llew- ygodd amryw o'r merched. Yn nghanol yr helynt chwareuai yr organydd yr offeryn yn hollol ddigyffro, ac ar awgrymiad yr offeiriad dechreu- odd y cor ganu, ac o dipyn i beth daeth y gynulleidfa yn eu holau i'r eglwys. --0--

Manion.