Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Advertising

PWLLHELI.

IABERSOCH.

News
Cite
Share

I ABERSOCH. I GWLEDD A CHYNGERDD. Y Lluogwyn eleni caed gwyl o loniant i'r corff a'r meddwl gan blant a chyfeillion ieuainc eglwyt. Annibyiitil y He nchod, i'r amcan yn fwyaf arbenig o ddirwyn i fynu y Band of Hope am y tymor. Am dri o'r gloch daeth y plant yn gryno ynghyd i'r festri, ac yr oedd byrddau llawn o drugareddau yn eu disgwyl, a gwein- yddwyd arnynt yn siriol iawn gan gefnogwyr y plant, yn hen ac ieuanc. Bu lliaws hefyd yn cyfranogi o'r wledd ar ol y plant. Ond prif atdyniad yr wyl yma oedd y cyngerdd yn yr hwyr. Bu y plast a'u harwein- yddes (Miss B. J. Vaughan, Glandulyn) yn ddiwyd iawn er's misoedd yn p&rotoi, gan eu bod wedi ymgymeryd a gwaith neillduol i'w ddysgu, sef •• Cantata yr Adar" o waith y diweddar Dr. Joseph Parry. Am saith o'r gloch daeth cynulliad Huosog ynghyd i'r capel. Cymerwyd y gadair gan y Parch R. M. Edmunds, Lianbedrig, a gwyr ef yn dda am y llafur sydd ynglyn a gwaith o'r fath yma. Bu yn hynod hapus yn ei waith o lywyddu, a rhoddodd ei gynorthwy caredig ar yr awr olaf trwy gymeryd rhan un o'r cantorion oedd wedi ein siomi. Wedi cael y cydgan agoriadol gan y c6r, o dan arweiniad Miss B. J. Vaughan, ac Alfred Evans, yn cymeryd yr unawd, yn dilyn mae'r bachgen ar ei draed ac yn gofyn i'r Adar am nod teilwng mewn bywyd i ymgyraedd ato. Yna cawn y Gwcw yn dweyd ei stori, sef Mary Catherine Roberts yr Eurbinc, Louisa Thomas i ac Erin Hughes. Yna mae Robin Goeh yn gwneud ei ymddangosiad, sef Willie J. Williams; ac yn dilyn Robin Goch mae'r Eryr Mawr-yr adroddiad yn cael ei gymeryd gan Thomas Hooks, a'r unawd gan William Owen, y naill a'r llall yn dda iawn. Y Dryw Bach yw y nesaf, etc y mae hithau mor selog a'r un ohonynt, sef R. W. Jones, ac yn dilyn mae'r Fronfraith, sef Annie M. Jones a Bela Robinson. Yna daw Y Wenynen mewn adroddiad campus gan Dilys Jones,, a'r unawd gan Nel Jones adroddiad y bacbgen gan R. W. Smith a'r unawd gan Owi Williams. Yn dilyn mae'r Eos yn swynol gan Jennie Owen, yr Uchedydd gan Miss EHis, Horeb Mr Williams, Gwynfa, a Thos. Evans. Cyfeiliwyd yn fedrns iawn gan Miss Maria L. Jones, a cbynorthwywyd gyda'r unawdau eraill gan Mr Evan Griffith. Yr ysgrifeoyddes oedd Miss Williams, Penygongl, a Mrs Owen Jones a Mr W. G. Davies yn cyuorthwyo. Caed cyngerdd difyr dros ben a'r gwyddfodolion yn dyheu am gael clywed y gantawd eto. Yr oedd yr olwg dlwe ar y plant ar yr esgyalawr, yn eu gwisgoedd gwynion, wedi eu baddurno a blodau a choed, yn tynu deigryn 0 lygaid rhai o'r mamau oedd yn y cyfarfod.—UN O'R ABER.

|RHIW.

i MarwV Parch Francis JonesI…

Cyflog: y Suffragettes.I

Ymladd mewn Llong. I

emw ! Etholiad Newmarket.¡

Baifcfconiaetb.I

Cymanfa Ordeinio Cyfundeb…

Cyhuddiad o Lofruddiaeth yn…

Lladrata Eiddo'i Frawd. J

Advertising