Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR. 1

NODION A HANESION.

I Yr Eneth Gladdwyd yn y 1…

Peidiwch Mynd o Blvilhell.

Damwain Angeuoi gyda Modur.

Damwain Angeuol ger Porthmadog.

-Y -Teiliwr -a'i -Wraig.I

Tai Gweithwyr yn Lleyn.I

Canfod Esgyrn Dynol ynI -Nghlynnog.

Lladd ei Hun a'i Garlad. I

Cyhuddiad Difrifol yn erbyn…

News
Cite
Share

Cyhuddiad Difrifol yn erbyn Dynes o Gwrecsam. Yr wythnos ddiweddaf, yn Ngwrec- sam, cyhuddwyd dynes ganol oed, o'r enw Catherine Jones, o geisio llofrudd- io ei gwr, Hugh Thomas Jones, ar y S u 1,1, n. Dywedodd y Rhing) 11 Rowlands iddo gael hysbysrwydd y Sulgwyn fod y gar- chares wedi ymosod ar ei gwr hefo rasel, ac wedi ei archolli mor ddifrifol nes y bu raid ei gymeryd i'r ysbyty. Cymerwyd y ddynes hefyd i'r tloty, yn unol a chyngor y'meddyg, gan y credai nad oedd mewn cyflwr priodol i'w gad- ael heb i rywun ofalu am dani. Bu yr heddwas yn nghartref y ddynes, a chanfu dy taclus a gweddus iawn. Cafodd bwrs yn yr ystafell wely a thros bedair punt ynddo, ac o dan ddillad y gwely canfu lyfr bane a ddangosai fod y gwr wedi bancio dau gant o bunau ar yr ail ddydd o Fai. Yr oedd y tyst y boreu hwnw (ddydd Mawrth) wedi cyhuddo y garchares o geisio llofruddio ei gwr, ac atebodd hithau nad oedd waeth iddi heb a dweyd dim, na chaw- sai chware teg. Yr oedd o dan drin- iaeth feddygol yn y tlotyohyd. Gohir- iwyd yr achos, gan yr hysbyswyd nas byddai'r gwr wedi gwella'n ddigon da i ddod o'r ysbyty am beth amser.

MADRYN

I-(Bobebiaetbau.

Mr Cyril Maude's Company to…