Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

.PWLLHELI.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PWLLHELI. OVHOEDDIADAU SABhOTHOL- Mai 18. Pealfn (A), am 10, Parch J. Rhydderch, Gweir. i .< ui 6, Parch Morgan Price, Chwilog Capel Seisnig (A.) Cardiff Koad, am 11 a 6-30, Pitch D. W. Roberts, Gweiaiilog. Puumount (M C.), am 10 a 6, Parch Robert Robert', Colwyn Bay. Sal-m i.M.O.) am 10 a 6, Parch W. L. Jones, Babel]. Capel Seisnig (M. C.) Ala Road am 11 a 6-30, Tabernacl (B.), am 10 a 6, Parch Henry Reef, (iwein d"g. Hen Gapel y Bedvddwyr North Street, am 2, Ysgol. Yegol (renhadol (M.C.), t'land Street, am 10 a 6, Cyfarfod nweddi; am 2, Ysgol. Ysgol Genhadol Nurth Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, YsgoJ. Sou, 'li Beach (M-C.) am 2 a 6, Parch Henry Hughes, Brynkir. Tarsia (M.C), am 10, Parch Henry Hughes, Bynkir. .Seon(\y.) am 10, Cyfarfod Gweddi; am 6, Parch Joseph Jones, Nevin. St. Pedr, 9-30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch. 'J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch. T. Woodiogs, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Yegol; am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. Merour, benedicfeiwn Da genym ddeall fod Mr Ranleigh Jones, Deintydti, Caernarfon, yn teimlo yn llawer gwell ar ol ei daith i Ynysoedd y Caneri ac yn ol. Daeth Mr. G. Cornelius Roberts, M aes, allan yn hynod o lwyddianus gyda'i geffylau yn arddangosta Gogledd Cymru yn Nghaernarfon ddydd Llun. GALWAD.—Y mae y Parch Henry Rees, gweinidog y Tabernacl, wedi cael galwad i weinidogaethu eglwys y Bedyddwyr yn Dolgellau. CYMDEITHAS ADEILADU LLEYN AC Ei- FIONYDD. — Dydd Mercher cynhaliwyd cyfarfod arbenig o aelodau y Gym- deithas uchod i'r amcan o wneyd trefn- iadau i'w dirwyn i fyny. Penodwyd Mr Edward Jones, Talysarn yn liquidat- or," a Mr Robert Parry, i roddi yr achos gerbron y llys. Mri William George ac O. Robyns Owen i wasan- aethu fel cyfreithwyr. ANGLADD.—Ddydd Iau diweddaf, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o Mrs Jane Williams, Rhiandy, Ala Road (priod y diweddar Mr. Hugh Williams, Glandwr), i orffwys yn mynwent Denio -angladd anghyhoedd. Gwasanaeth- wyd yn y ty ac yn y fynwent gan y Parchn. j. Rhydderch a Henry Rees. Yr undertaker oedd Mr. Edward Will- iams, Shop Glasfryn. DAU AELOD AR Y CYNGOR SIR Y mae y Cyngor Sir wedi caniatau apel y Cyngor Trefol, am i'r dref gael dau aelod i'w chynrychioli ar y Cyngor Sirol, ac i'r pwrpas hwnw rhenir y dref yn ddwy ward. I ddangos tegwch yr apel dywedwyd fod y boblogaeth wedi cynyddu yn ystod y tair blynedd- ar ddeg diweddat, 0^3,232 i 3,971; nifer yr ethohvyr o 671 i 830, a threth y sir o 7,823p. i 16,628p. CYMDEITHAS YR AMAETHWVR.—Yn nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Am- aethwyr De Sir Gaernaifon, a gynhal- iwyd yr wythnos o'r blaen, ail-ethol- wyd Mr Rupert Ellis, Glasfryn, yn Llywydd. Dangosai adroddiad yr ysgrifenydd fod cynydd o i,400p yn y cyfrif ar eiddo y flwyddyn cynt. Sylw- odd Mr Rupert Ellis fod yr elw am y flwyddyn yn gytartal i bymtheg y cant o log. Anogai y cyfarfod i wahodd tirfeddianwyr mawr y dosbarth i uno, fel ag i'w galluogi i helaethu eu busnes. MARWOLAETH.-Ddydd Iau diweddaf yn nhy ei ferch yn Ngwrecsam, bu farw Capten Owen Lewis, cyn-feistr y porthladd. Cwynai er's amser maith, ac aeth i Gwrecsam yn y gobaith y gwellhai yno. Bu Capten Lewis yn drethgasglydd y fwrdeisdref am ddeng .mlynedd. Yr oedd yn gymeriad straight a charedig iawn, ac wedi enill iddo ei hun barch ac anrhydedd cyffredinol fel swyddog cyhoeddus. Yr oedd wedi pasio trwy hoi 1 arholiadau y Bwrdd Masnach fel llywydd (captain) pan ond 21 oed, yr hyn a sieryd yn uchel am dano wrth ystyried y manteision addysg a geid yn ei amser ef. Mae wedi morio llawer ar hyd ei oes, ac yn awr am angori yn Denio. Heddweh i'w lwch, a Duw y gobaith fyddo yn diddanu y teulu yn eu galar. Claddwyd ei weddillion yn mynwent Denio ddoe (y Llungwyn). TE A CHYNGERDD.—Dydd Iau di- weddaf, cynhaliwyd Te a Chyngerdd yn nghapel Penlan. Yn y prydnawn cyfranogodd dros 300 o de oedd wedi ei barotoi gan chwiorydd yr eglwys yn yr ysgoldy. Yn yr hwyr cynhaiiwyd cyngerdd yn y capel o dan lywyddiaeth Richd. Roberts, Ysw., Hope House. Cymerwyd rhan ynddo mewn canu, adrodd, &c., gan Misses E. Owen, Caernarfon; Myfanwy Evans, South Beach; Katie Gunzell, Crown Hotel; L. Tyson Roberts, Taleifion; H. M. Thomas, St. Peter's Terrace, a Gwen May Roberts, Paragon: Mri W. J. Hughes, Efailnewydd a W. Lloyd Williams, Shop Goch, ynghyda chor y capel, o dan arweiniad Mr John Ellis. Cydnebydd pawb fod hwn yn un o'r cyngherddau Ileol goreu gaed yn y dret er's amser, Cyfeiliwyd yn hynod o fedrus gan Mr Alexander Parry, B.A o'r Ysgol Sir. Pasiwyd diolchgarwch i'r llywydd, y cantorion a'r adroddwyr, a'r rhai hyny fuont yn gweithio mewn cysylltiad a'r te, ac am fenthyg yr offeryn, ar gynygiad y Parch J. Rhydd- erch, yn cael ei eilio gan Mr Richd. Jones, Argraffydd. Trodd yr antur- iaeth allan yn llwyddiant mawr, a chaed elw sylwedctol. Y trysorydd oedd Mr Evan Jenes, Caerhydderch a'r ysgrit- enydd oedd Mr D. John Jones, Heol Fawr.

I'REFAIL NKWYDD

I' • .\ KKVN

Cymanfa Dosbarth Nefyn. I

Marw'r Parch. Thomas I -Nicholson.-

Rhyfel y Tir. I

Carcharorion yn BwytaI Rhisg…

I Cymeryd Boneddiges i'r Ddalfa.

IChwareuon a Chystadleu--aeth…

IGael Corff yn y Fenai

Pryder Ynghylch Llong o i…

Nodion.i

AR IBENBLWYDD "FEWyRTH JOHN.''…

Advertising