Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR. 1

NODION A HANESION.I

News
Cite
Share

NODION A HANESION. Creulondeb at Anifail. I Am fod yn greulon at gaseg mewn pwll gto cafodd un o'r enw Higgins ei ddirwyo yn heddlys Gwrecsam i 3P 14s. 4c. a'r costau. Yr oedd y gaseg, meddir, wedi bygwth rhoi tic iddo, a churodd yntau hi'n ddidrugaredd a darn o haiarn. < Telyn Gymreig y Brenin. Y mae Syr William Carrington wedi hysbysu ArgJuydd Faer Caerdydd (yr Henadur Morgan Thomas) fod y Brenin wedi datgan ei ddymuniad fod i'r delyn Gymreig hardd, sydd i'w harddangos yn Arddangosfa Gelfyddydol y Fenni, yn Awst, i gael ei rhoi i'r Amgueddfa Genedlaethol Gymreig ar jJuiwedd yr 4rdd;> -tfr <3 £, ,dUgO.3 a. Tad a'i Ddau Fab yn Boddi Yr wythnos ddiweddaf collodd tri o bysgotwyr eu bywydau yn Mhorthladd Blyth. Aethant allan mewn cwch bychan i edrych eu cewyll crancod, ac yn fuan gwelwyd y cwch wedi troi a'i wyneb yn isaf, ac yn cael ei guro yn erbyn y creigiau. Nid oedd yr un ar- wydd o'r dynion i'w gweled. Er eu bod yn nofwyr da, ofynid yn herwydd fod y mor mor donog na byddai gan- ddynt ond gobaith bychan am eu bywydau. < Digwyddiad Trist. Bu digwyddiad trist iawn mewn parti priodasol yn Oldham y dydd o'r blaen. Yr oedd Herbert Brearley. Whipp, dyn ieuanc un-ar-hugain oed, yn mhriodas ei frawd, a phan yr oedd y parti yn bwyta ar 01 y briodas, cwynai ei fod yn teimlo'n wael. Oaeth ychydig yn well, a bu yn chware cardiau am beth amser, ond dechreuodd gwyno drachefn, a phan yr oedd ei chwaer yn ei gymeryd gartref llewygodd. Gahvyd meddyg ato ond yr oedd wedi marw. Gogoniant, Haleliwia" Y dydd o'r blaen yr oedd pregethwr o'r enw Edward Alfred Fletcher yn cael ei brofi ar gyhuddiad o tod ar ol gyda'i daliadau tuag at gynal ei wraig. Dywedai mai pregethwr ydoedd, ac nas gallai. fforddio talu mwy na phum swllt yr wythnos yr oedd yn amhosibl, meddai, iddo dalu yn 01 15s yr wyth- nos fel yr oedd y llys wedi gorchymyn. Anfonwyd ef i garchar am fis, a phan glywodd y ddedfryd gwaeddodd, "Gog oniant, Haleliwia Ymddiriedaf yn yr Arglwydd. Rwyf yn hapus." Marw Mr Hugh Hughes, Bangor Prydnawn Mawrth diweddaf, bu farw Mr Hugh Hughes, y masnachwr hynaf I yn Mangor, yn 83 mfwydd oed. Yr oedd yn cadw busnes yn Mungor er's yn agos i driugain mlynedd, ac yn fawr iawn ei barch yn y ddinas. Bu yn Faer Bangor yn 1897 8, ac yr oedd yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid er's deng mlynedd ar hugain. Cynrychiolai y cymeriad Cymreig ar ei oreu, ac yr oedd yn gadarn yn holl agweddau ei fywyd, ei Galfiniaeth, ei fusnes, a'i Ryddfrydiaeth. oJ < Gadael y Weinidogaeth. Ar 01 bod yn weinidog am bum mlynedd ar hugain, y mae y Parch Eynon Lewis wedi rhoi y weinidogaeth i fynu ac wedi (ymayd y swydd o glerc i Bwyllgor Yswiriol Morganwg. Yn ei bregethau ymadawol i eglwysi Bryn- cethin a Brynmenin dywedai nad oedd yn tybio pan ddechreuodd bregethu na byddai yn ddim ond pregethwr tra byddai byw, ac yr oedd yn ddrwg ganddo eu hysbysu mai angharedig- rwydd a chrintachrwydd rhai aelodau eglwysig oedd wedi gwneud iddo droi ei wyneb i gyfeiriad arall. < Dau Gant o Fywydau mewn Perygl. Y dydd o'r blaen, pan oedd swyddogion llythyrdy dosbarth de-ddwyrain Llun- dain yn dosranu'r llythyrau, daethant ar draws pecyn ymhlith y papurau yn cynwys pylor a sylweddau ffrwydrol, a heb gyteiriad arno. Yr oedd y pylor oedd yn y pecyn yn ddigon nerthol i greu difrod arswydus. Prrodolir y weithred anfad hon eto i'r suffragettes, a bernir y tybid y buasai y pylor yn ffrwydro drwy ollwng y pecyn i mewn i'r bocs. Pe buasai wedi gwneud hyny, buasai dau gant o fywydau, yn fwy na thebyg, wedi eu colli. Cymfcrodd yr heddgeidwaid teddiant o'r pecyn. Mynydd yn Symud. Dywedir fod rrvnydd, ar lethrau yr hwn y mae corfforaeth Abertawe wedi adeiladu nifer fawr o dai i weithwyr, yn araf lithro tua'r afon. Y mae llawer o'r tai yn cracio, meddir, a phibellau nwy sydd tm y brif-fiordd yn tori'n barhaus. Marw Mab Dr. Joseph Parry. Mysbysir am farwolaeth Mr. Men- delssohn Parry, mab y diweddar Dr. Joseph Parry, y cetddor Cymreig en- wog, yn Kansas, Unol Dalaethau'r Amerig. Ymfudodd Mr. Parry i'r Amerig oddeutu deunaw mlynedd yn ol Yr oedd yntau yn gerddor lied wych. Y Llifogydd. Ar ol y givlaw parhaus y mae difrod mawr wedi ei wneud yn Scotland a manau eraill gan y llifogydd. Gorlif- odd yr afonydd tros feusydd cyfain o bytatws newydd eu planu, ac y mae llawer o ddefaid ac wyn wedi boddi. Mewn rhai parthau gwelid bugeiliaid yn ceisio achub eu defaid mewn cychod. Y GofTa Genedlaethol Gymreig. Yr wythnos ddiweddaf prynodd Mr. D. W. Evans, cyfarwyddwr cyffredinol Coffa GeDedaçthJI Gymreig y Brenin Edward, y stad adnabyddus Pontywal am tros bymtheng mil o bunau. Bydd i'r maenordy gael ei droi yn Sanatorium ar gyfer rhai yn dioddef oddiwrth y darfadedigaeth yn Siroedd Brycheiniog a Maeyfed. Her y Canon. Dyry y Canon Camber Williams, yn y "Llan a'r Dywysogaeth" her i'r Methodistiaid Calfinaidd i hysbysu a yw yn unol ag amodau aelodaeth eg- lwysig i Fethodistiaid gael dawnsio a chware cardiau, ac a yw y rheolau yn caniatau i bregethwyr ddilyn cwn hela. Os nad ydynt, mae'n gofyn, a gant hwy eu diarddel neu eu ceryddu ? Colli 33p. mewn Ffair. Yn Nghroesoswallt, yr wytbnos ddi- weddaf, cafodd un a alwai ei hun yn Benjamin Thomas Bostock, porthmon, Birmingham, ei draddodi i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o ladrata pwrs yn cynwys 33P. oddiar Edward Edwards yn ffair Croesoswallt y diwrnod cynt. Ni chaniatawyd meichiafon gan yr hysbyswyd nad oedd y cybuddedig yn adoabyddus yn ol y cyfeiriad a roes. Llygod y Tlotty. Dywedwyd yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Ty Ddewi fod y tlotty yn berwi o )ygod, a gofynwyd beth ceJd wedi dod o'r daeargi roed yn anrheg gan foneddwr neillduol i feistr y tlotty at eu dal. Dywedodd y meistr fod ar y d eu hofn. Yr oedd ar y ci ofn y Ilygod yn naturiol ar y dechreu, meddai Mr. Ellis, yr hwn a'i rhoes yn anrheg, ond nid oedd eto wedi cael cyfle gan na bu yno ond am ddau ddiwrnod. + Cantoriou Cymreig yn Ffrainc. Mewn cyngerdd pwysig a gynhelid yn ddiweddar yn ninas Paris, Ffrainc, cymerid rhan gan bedwarawd o Gymru, ac yn ol fel y dywedai y beirniaid yn y newyddiaduron Ffreni, Erioed ni chlywsid ganu mor bur a pheraidd cynt," yn Paris. Gymaint oedd yr ar- graff a wnaethant fel y gwnaed cais am iddynt gymeryd rhan yn y gwasanaeth yn Eglwys yr Esgyniad, a chanasant yno ddarnau cysegredig gyda'r fath ar- ddeliad fel y dywedai un newyddiadur nad oedd modd fod dim mwy perfFaith, ac nas gallai eu corau mwyaf enwog hwy yn Ffrainc gael yn agos yr un effaith. Cymru a'r Cancr. Yn ol adroddiad y Gymdeithas er Rhwystro a Gwella'r Cancr, yn Ngog- ledd Cymru y mae mwyafrif o fywydau yn mynd yn ebyrth i'r afiechyd ofnadwy hwn. Enwir tair Sir yn Nghymru fel y rhai y mae mwyaf yn marw ynddynt o'r afiechyd hwn, sef Ceredigion, Mon a Meirion. Y mae mwy o ferched yn rrarw ohono yn Sir Gaeruarfon nag un- man oddigerth Sir Huntingdon. Hys- bysa'r adroddiad hefyd fod bron cymaint yn mynd yn aberth i'r cancr erbyn hyn ag i'r darfodedigaeth Haner can' mlynedd yn ol nid oedd ond un-ar- bymtheg yn marw o'r cancr ar gyfer pob cant o'r darfodedigaeth, ond erbyn heddyw y mae'r cyfartaledd yn 96 ar gyfer poh cant. + Colli ei Bywyd wrth Achnb Ci. Yn Redhill, y dydd o'r blaen, gwnaed ymchwiliad i achos marwolaeth awdur- es o'r enw Miss Alice Maud Meadows, yr hon a gaed wedi boddi mewn llyn. Yr oedd ei chi badi yn gwylio ar y Ian pan oedd y ct%,nst;,bi yn codi ei chorff o'r M) n, a bernir rrai wrth arbed bywyd y ci y bu toJdi. Tystiwyd gan ei bra wd yo y treng hol"ld y buasai yn ei far 11 et yn un o'r rhai olaf yn y byd i. wneud diwedd ar ei bywyd. Yr oedd boh amser o ymwareddiad hapus a siri.»l iawn. Yr oedd yn nodedig hoft o to wn, meddai tyst arall, ac yr oedd wedi dweyd iddi syrthio i'r Hyn un- waith o'r blaen wrih achub ei chi, ond ei bi d yn gallu nofio'n iawn. Yr oedd Miss Meadows yn awdures lied enwog, bwriedid cyhoeddi llytr neuydd o'i gwaith yn fuan.

I Mesur Pleidials ! Ferched…

Neb yn Mhwllheli.I

IEglwys Fawr wedi ei Din-…

I Agerlong ar y Creigiau.…

! Dirprwyaeth Gymreig yn Westminster.

Brawd Anfrawdol.I

[No title]

IMr Lloyd George a'r Tir.

I- Rhostio Baban.

Ffrwydr-Belen yn EglwysI Gadeiriol…

nt.-  (Bohebiaethau..

Observation Car on the Cambrain…

I Barfc&omaetb.

[No title]