Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYR. 1

NODION A HANESION.I

I Mesur Pleidials ! Ferched…

Neb yn Mhwllheli.I

IEglwys Fawr wedi ei Din-…

I Agerlong ar y Creigiau.…

! Dirprwyaeth Gymreig yn Westminster.

News
Cite
Share

Dirprwyaeth Gymreig yn Westminster. "DIM BARGEINIO O'R TU CEFN 1 uYMRU." Ddechreu'r wythnos ddiweddaf, bu dirprwyaeth gref yn cynrychioli Eglwysi Rhyddion Cymru, ar ymweliad a Mr M'Kenna, A.S., yr Ysgrifenydd Car- trefol, a'r Blaid Gymreig, i ertyn na byddai yr un cyfaddawd eto yn cael ei ganiatau ynglyn a Mesur Dad^ysylltiad yr Eglwys. Y thai a ganlyn a ffurfient y ddirprwyaeth: M r Richard Jones (Caersws), y Parchn O. L. Roberts (Lerpwl), Gwilym S. Rees (Merthyr), Aitho Davies (Pont Llantraith), R. Peris Williams (Gwrecsam), James Evans (Ysgrifenydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion Cymreig), John Williams (Brynsiencyn), J. Morgan Jones (Caer- dydd), David Adams (Lerpwl) H. M. Hughes (Caerdydd), H. Elfed Lewis (Llundain), y Prifathraw Rees (Bangor) H. Eynon Lewis (Bryncethin), E. Parry (Aberdulais), E. K. Jones (Brymbo), y Proffeswr J. M. Davies (Caerdydd), a Thomas Hughes (Llan- dudno). Cyflwynwyd y ddirprwyaeth gan Mr Richard Jones, yjr hwn a ddywedodd eu bod yn cynrychioli pum' dirprwyaeth, y rhai oeddynt wedi pasio penderfyniad- au cryfion yn erbyn caniatau unrhyw gyfaddawd pellach ynglyn a'r Mesur. Yr oedd teimlad pobl Cymru, meddai, yn angerddol ar y mater, ac yn teimlo y dylai y genedl gael yr hyn oedd yn eiddo cyfiawn iddi. Sylwodd y Parch H. M. Hughes fod peth Arydp'* yn caE!! ci deimlo yn 1 Nghymru oherwydd y son y gwneir cyfaddawd eto, ac os y gwneid hyny y teimlent mai gwell fyddai taflu'r Mesur heibio. Yr oedd- ganddynt bob ym- ddiriedaeth yn Mr M'Kenna, ond nid oedd ganddynt ffydd yn rhai o'r aelod- au Rhyddfrydol Seisnig. ATEB MR M'KENNA. I Mewn atebiad dywedodd Mr M'Ken- na nad oedd unrhyw sail i'r son am gyfaddawd Ar ol dadleu'r Mesur yn I llawn yn Nhy'r Cyffredin, ni ddygodd yr wrthblaid unrhyw reswm ymlaen a'i hargyhoeddai ef nad oedd y Mesur yn un teg a chyfiawn. Dymunti ddileu unrhyw amheuaeth y gwnai y Llywod- raeth unrhyw fargen ynglyn a'r mater o'r tu cefn i Gymru. Rhaid oedd i bob cynygiad neu welliant o eiddo'r wrth- blaid, os y bydd:ii ganddynt yr unrhyw i'w gynyg, gael ei wneud ar lawr Ty'r Cyffredin, neu o Dy'r Arglwyddi, ac felly byddai gan Gymru y cyfle i'w gwrthwynebu neu eu cymeradwyo. Diolchodd Mr Richard Jones i Mr M'Kenna am y derbyniad croesawgar roes iddynt, a hefyd, diolchodd iddo ar ran Cymru am y modd rhagorol y car- iodd y Mesur drwodd yngwyneb y fath anhawsderau. Wedi hyny ymwelodd y ddirprwyaeth a'r Blaid Gymreig. Parhaodd y dra- todaeth rhyngynt am tua dwy awr. Dywedwyd wrth yr aelodau Cymreig am y teimladau chwerw oedd yn bodoli yn Nghymru yn herwydd y cyfaddawd wnaed, a'u bod yn ameu braidd fod yr aelodau yn ymwybodol o hyny, a barnu oddiwrth eu presenoldeb yn West- minster. Os y gwneid unrhyw gyfadd- awd pellach, delid hwy yn gyfrifol, ac os na byddai iddynt wrthwynebu, y tebygolrwydd fyddai y collent eu sedd- au. Os y gwfteid unrhyw gyfaddawd eto byddai y Mesur yn hollol ddifudd. Yr oedd rhai am i'r aelodau bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ar bob cwest- iwn, os yr oedd yn debyg o ildio eto ar y Mesur, ond yr oedd ereill yn ffafriol i'r aelodau bleidleisio yn erbyn Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys yn unig. --0

Brawd Anfrawdol.I

[No title]

IMr Lloyd George a'r Tir.

I- Rhostio Baban.

Ffrwydr-Belen yn EglwysI Gadeiriol…

nt.-  (Bohebiaethau..

Observation Car on the Cambrain…

I Barfc&omaetb.

[No title]