Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

Advertising

NOOION A HANESION. I

Y Gyllldeb.

I Heriolr Ddeddf Yswiriol.I

IMor-Ladron yn Ymosod arI…

Dyn o'r Groeslon ar Goll.…

Cwymp Scutari. I

!Hunanladdiad ar y Brifi ffordd.

lTrychineb yn yr AmWytfclff.

Rho.TrenarDan.I J Rhoi Tren…

Etholiad Amwythig. I

Cael Corff yn agos < Towyn.1

Advertising

I Llys Ynadol Pwllheli.

I *Tad a Mab.

News
Cite
Share

Tad a Mab. Yn Nghaergybi, ddydd Sadwrn, dygwyd Andrew Griffith, Tootfil, Caer- gybi, gerbron y llys ar gyhuddiad o fod wedi ceisio saethu ei dad, John Griffith. Dywedodd y tad iddo ganfod ei fab dan ddylt, %ad diod ac yn cysgu ar y soffa bryduawn Gwener. Pan ddeffrodd dywedodd y tyst wrtho na chaniateid iddo ddod yno yn y cyflwr hwnw, ac y byddai raid iddo fyned oddiyno. Cod- odd y cyhuddedig ar ei draed a cheis- iodd daro y tyst hefo morthwyl. Ceis- iodd ei fam gael y morthwyl oddiarno, ond bygythiodd ei tharo hithau. Dywedodd y tyst wrth ei wraig am fynd i alw'r heddgeidwad, ac aeth ef i gyfeiriad fferm o'r enw Tyddyn Bach, ac aeth i mewn yno gan fod ei fab yn ei ddilyn hefo gwn. Gynted a'i fod i mewn gollyngwyd tair o ergydion trwy y ffenestri. s Gofynwyd i'r cyhuddedig a oedd ganddo rywbeth i'w ofyn, a dywedodd: "Mae arnaf eisieu gwybod pam yr oedd mor gas wrthyf. Gwnes bopeth a ofynodd imi ddoe, ac nid oedd yn foddlon er hyny." Tystiwyd gan Jane Morris, chwaer y cyhuddedig, y gwelodd ei brawd yn gwylio Tyddyn Bach. Dywedodd wrthi fod ganddo wn ac ergydion ynddo, a'i fod am saethu ei dad am iddo fod yn greulon tuag ato. Dywed- odd hithau am iddo beidio bod mor ynfyd, ond atebodd et jto??wedi pender- fynu gwneud diwedd??? gan y bu mor angharedig at e Ychydig wedi hyny dywedodd y gwnai yr un peth i'w fam hefyd, ac y lladdai ei hun wedi hyny. Tystiodd y Rhingyll Evan Williams fod gan y cyhuddedig, pan y cym ef i'r ddalfa, un-ar-hugaiu o ergy yn ei bocedi. Ar y ftordd i orsa heddgeidwaid dywedodd ei fod M woeud pen ar ei dad a'r oil o honynt pan y cai gyfle. Gohiriwyd ei brawf am wythnos. o

-Cael Oorff mewn -Afon.