Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

AT EIN GOHEBWYB.I

NODION A HANESION.

Mrs Lloyd George yn i, Ffestiniog.…

Creulondeb at Forwyn. !

- - Dim Edrych yn ol yn J…

Damwain Angeuol yn : Chwarel…

Cyngor Dosbarth Lleyn.

tCeisio Crogi ei Fab. I

Marw Mr. D. Emlyn Evans. \

News
Cite
Share

Marw Mr. D. Emlyn Evans. Gyda gofid y cro.iiclwn am farwol- aeth Air D. Emlyn Evans, y cerddor enwog, yr hyn F gymerodd le yn ei breswylfod yn Bron-y-gan, Cemmaes, ddydd Sadwrn diweddaf, yn 70am mlwydd oed, wedi cystudd maith. Yn marwolaeth Emlyn cyll Cymru un o'r genius enwocaf yn y bvd cerddor- ol. Yr oedd t ytoewder ei feddyliau wedi eu cynghaneddu mor gain ganddo i seiniau, a gwydnwch ei anibyniaeth, yn ei o-od ar unwaith yn unique yn mysg cyfansodd*vyr cerddorol ei wlad. Ymddengys fod ei yrta yn v cysyHtiad hwn wedi bod yn un hynod o doretthio?, er y mynych lesgedd a berthynai iddo. Cyfansoddodd amryw o weithiau clas- urol, megis Y Chwarelwr," Y Gwanwyn," "The Captivity," Job," ac eraill Cyfansoddodd hefyd amryw o donau ag sydd yn rhoddi ysbrydol- ioliaeth a gwefr trwy gynulleidfaoedd pryd bynag y cenir hwynt. Gellir nodi un o honynt yn arbenig, sef" Trewen," yr hon sydd heddyw mor boblogaidd ag yw Aberystwyth." Cyfansoddodd hefyd amryw o gan- euon, yn mysg y rhai y gellir enwi Y Gadlef," 44 Gwlad y Menyg Gwynion, 44 Sanctaidd Wr Gofidus," 0 fy hen Gymraeg," Y dyfnder cryf," ac eraill. Cyn iddo gael ei gymeryd yn wae! byddai galwad mawr am dano tei beirniad mewn eisteddfodau, ac anaml y cvnhelid Eisteddfod Genedlaethol na byddai Emlyn yn un o'r beirniaid. Yi oedd yn gymeriad ar ei ben ei hyn fel beirniad. Ni byddai yn hoffi o gwbl yr her-unawdau, a'i gas peth fyddai clywed datganwyr wrthi yn barhaus yn rhygnu yr un hen unawdau mewn cystadleu- aethau o'r tath. Efe oedd prif olygydd 44 Y Salmydd," 41 Y Caniedydd Cynulleidfaol," "Can- iedydd yr Ysgol Sul," 44 Llyfr Tonau y Wesleyaid," ac amryw eraill. Efe hefyd oedd yn cyd-olygu I I Y Cerddor" gyda Mr David Jenkins. Yr oedd yn un o lenorion gwychai Cymru. Nid yn ami y gwelir y RlIhl hwn yn meddiant cyfansoddwyr cerdd- orol, ond yr oedd efe yn gytoethog iawr yn y ddawn werthfawr hon. Yr oed, ei ysgrifau bob amser yn ddarllenadwy, ac awyddai ei genedl am ffrwyth t. ysgrifell beunydd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1843 mew fferm fechan yn Nghastell-Newvdd Emlyn. Yr oedd yn wael ei iechyd er' rhai blynyddau, ac ofnai gymeryd un rhyw ymrwymiad fel beirniad yn her wydd hyn. Bu amryw o weithiau y. gwasanaethu fel beirniad yn Mhwllheli Cymer ei angladd le ddydd lau nesa yn Nghastell-Newydd-Emlyn.

——o *-Drylliad Llong o Borthmadog.

Arddangosfa Genedlaethol Cymreig.…

Bwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli.

Advertising

-o - Marw Sydyn Aelod Seneddol…