Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
NATIONAL INSURANCE ACT. W. E. ROBERTS, M.P.S., dispensing Pharmacist, Begs to inform all insured persons. under the above Act that he is under contract with the Insurance Committee To DISPENSE MEDICINES, To SUPPLY DRUGS, To SUPPLY APPLIANCES. All prescriptions entrusted to him will be dispensed with the purest drugs and chemicals, and always under his own personal snpervision. Please note the Adress The Central Pharmaoy, Opp. the Town Hall, 'Phone 52. Pwllheli.
■1 PWLLHELI.
PWLLHELI. (JVHOBODIADAU SABBOTHOL—Ekrill 20 Penlan (A), am 10 a 6, Parch J. Rhydderch, Gwsinidog, Capel 8flianig (A.) Cardiff Road, am 11 a 6-30, Parch D. W. Roberts, Gweinidog. Penmount (M C.), am 10 a 6, Parch D. Fonlkes Roberto, B. A., Rhydbaob. 8aletn (M.C.), am 10 a 6, Parch D. Roberts, Abererch. Capel Sehnlg IM.C.) Ala Road am 11 a 6-30, Paroh D. Cynddelw Williams. Tabernaol (B.), am 10 a 6, Parch Henry Reel, Gweinidog. Hen Gapol y Bedyddwyr North Street, am 2, Yagol. Vagol Genbadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Yagoi. Vagol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. 8onth Beach (M.C.) am 2 a 6, Parch Edward Williams, Pwllheli. Tarsto (M.C), am 10, Parch Edward Williams Pwllheli. Seioo (W.) am 10, Parch \V. G. Hughes, Crieoieth; am 6, Mr Jehn Williams, Rhiw. St. Pedr, 9-30 a 6 (Uymr*eg), 11 a 6 (8eisnig) Parch. J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch. T. Woodings, B.A., Carad. Conhadaeth Lydewlg North Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanstaidd "am 2, Yegol; am 6-30 Pregeth Gymraqg gan y Parch P. Merour, beoedicsiwo EISTEDDFOD AWST.—Y mae pwyllgor Eisteddfod y Gwyr Ieuainc wedi cwbl- hau eu rhaglen gogyfer a'r Eisteddtod nesaf, a disgxvylir y bydd y cyfryw allan o'r wasg ddechreu yr wythnos nesaf. FFAIR.—Cynhaliwyd un o ffeiriau newydd y cyngor ddydd Gwener di- weddaf. Er fod y tywydd wedi troi yn anftafriol daeth nifer dda o anifeiliaid i'r ffair, a chaed prisiau rhagorol. Nid oesamhetlAeth ganym nad poblogaidd aiff y ffeiriau hyn ymhen amser. CYNGHERDD CYSSEGRKDIG — Nos Sul diweddaf cynhaliwyd Cynghecdd Cys- II segredig yn Ysgoldy y Traeth, o dan j lywyddiaeth Mr. • Picton Jones. Yr oedd y trefniadau yn ngofal Mr. Evan Jones. Cymerwyd rhan mewn canu gan Miss Jones, Nantlle House, Mri. W. J. Hughes a J. Hughes, Efail- newydd, a Mr. Williams, Shop Goch, ac mewn adrodd gan Mr. O. Morris, Llys Tegid, a J. Charles Jones, Pre- toria. Hefyd caed anerchiad rhagorol gan Mr. Griffith Jones, Efailnewydd. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i bawb gymerasant ran, ac i Mr. Evan Jones am sicrhau rhaglen mor ragorol. Caed cyfarfod difyr dros ben, a'r ys- tatell yn Hawn. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. Evan Hughes, Etailnewydd. TEML SOAR. -Cynhaliwyd cyfarfod o'r Deml yn Festri Penmount nos Fer- cher diweddaf. Agorwyd yn y dull arferol gan y Prif Demlydd. Cafwyd adroddiad o'r Cyfarfod Demi gan y Parch. Henry Rees. Pasiwyd dymun- iadau goreu y Deml i'r Parch. John Evans, B A., Ala Road, a'i briod, ar eu hymadawiad o'r dret. Pasiwyd cyd- ymdeimlad a'r brawd Robert Thomas Jones, Penrhydlyniog, yn ei waeledd. Cyfeiriodd y Parch. D. W. Roberts, Cardiff Road, at y ddarlith sydd i'w chynal ar yr 21ain cyfisol, a phenodwyd rhai i werthu tocynau. Derbyniwyd aelod newydd, a chafwyd anerchiadau byr gan amryw ar ei ddychweliad. Cafwyd ychydig sylwadau yn ystod y cyfarfod gan y brodyr Robert Roberts, New Street, John Jones (ieu.), West End, a W. Hughes, Awelon.-Cynhelir y Demi nesaf nos Fercher yn Festri Penmount am 7-30 o'r gloch. CYMDEITHAS Y MERCHED IEUAINC.— Nos Fercher diweddaf, • yn Ysgoldy Capel Ala Road, cynhaliwyd y cyfarfod olaf o'r uchod am y tymor presenol, pryd y cafwyd Ymgomwest, yr hon uedd wedi ei pharotoi gan y swyddog- ion. Arolygwyd gan y Lywyddes, Mrs. H. Pritchard, a gofalwyd am y byrddau, &c., gan Mrs. W. Jones, Claremont, Mrs. D. E. Davies, Mrs. Dowsing, Church Place, Mrs. Owen Williams, Miss A. Thomas, yn cael eu cynorthwyo gan amryw o aelodau'r Gymdeithas. Wedi i bawb gael eu gwala a'u gweddill o'r amrywiol ddan- teithion cafwyd cyfarfod o natur arall, pryd yr awd trwy y rhaglen ganlynol:- Ton gan y Cor, o dan arweiniad Miss S. J. Griffith; Action Song, "Grace Darling," gau Miss Victory Hughes a'i pharti Adroddiad gan Miss E. J. Green; Can gan Miss M. Jones Adroddiad gan Miss L. Jones; Can gan Miss Betty Jones Adroddiad gan Mrs. Dowsing Can gan Miss Edith Wynne Jones; Adroddiad gan Miss Marjorie Wright; Can, Hen fwthyn bach melyn fy nhad," gan Miss Jones, Nantlle House; cafodd encore, ac yn garedig ail gacodd Can gan Miss K. Jones Griffith Can, Good Night," gan Miss Victory Hughes a'i pharti. vr Tr. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r Lywyddes ar gynygiad yr Ysgrifen- yddes, yn cael ei heilio gan Miss J. E. Hughes, Sand Street, ac i'r rhai drefn- asant y wledd gan Miss B. Jones, ac eiliad Miss E. W. Jones. Hefyd pas- iwyd i anfon ein cofion at y rhai oedd wedi eu lluddias i fod yn bresenol gan afiechyd. Treuliwyd noson neillduol o ddyddorol pawb yn eu hvvyliau goreu. Teimla'r pwyllgor yn dra diolchgar i'r chwiorydd caredig o'r tu allan am eu rhoddion i'w helpu i ddwyn treuliau y Gymdeithas. Y swyddogion am y tymor ceddynt-Llywyddes, Mrs. H. Pritchard Is-Lywyddes, Mrs. D. E. Davies Trysoryddes, Mrs. O. Will- iams Ysgrifenyddes arianol, Miss A. Thomas. CYFARFOD TERFYNOL BAND OF HOPE PENMOUNT.—Daeth tymor yr uchod T derfyn ddydd Iau diweddat. Yn y prydnawn daeth y plant ynghyd i fwyn- hau gwledd o'r radd flaenaf oedd yn cael ei roddi iddynt gan Mr. a Mrs. Wynne Owen, Arosfa. Daeth oddeutu cant o blant ynghyd, ac amryw o wahoddedigion, ac amlwg ydoedd fod pawb yn gwneud cyfiawnder a'r cyf- lawnder oeddtger eu bron. Yr oedd y darpariaethau ar gyfer y te yn ngofal Mr. Willie Lloyd, Railway Stores. Ar derfyn y te rhanwyd aurafalau i'r plant. Am 7-30 yn yr hwyr cynhaliwyd cyfar- fod amrywiaethol o dan lywyddiaeth Mr. Samuel Williams, Tanygarn. Gwnaeth ef ei ran fel bob amser yn hwyliog dros ben. Yn y rhan gyntaf o'r rhagien cafwyd ton gan y plant; adroddiad gan Ifan Griffith, Thomas Owen Roberts, Evan Wynne Williams a Robert Gwilym Griffith; can gan Nellie Creighton; adroddiad gan Trevor Lloyd; deuawd a y berdoneg gan Annie Mary Jone ac Ellen Lloyd; adroddiad gan y p int lleiaf; can gan Mary Jones adroc Jtad gan Kate Flor- rie Ellis c&n gan iallie Lloyd Dadl gan Owen Roberts Polly Creighton Anerchiad gan y I .'wydd. Ail ran — Ton gan y plar Hud-lusern yn dangos darluniau ( diar y Maes Llafur, sef "Oriau olaf i su Grist," a phoh plentyn yn dweyc t adnod ar gyfer pob darlun. Gwnal .1 y plant eu gwaith yn ganmoladwy ia I, ac yr oedd y dis- tawrwydd yn gwe(1 .j i'r darluniau oedd yn cael eu hardd; ^os. Ar derfyn y cyfarfod cynygiodc; dr. Hugh Griffith, llywydd y Band of ope, yn cael ei eilio gan Mr. Evan P ry, ddiolchgarwch gwresocaf i'r rha hyny oedd wedi gwasanaethu wrth y byrddau yn y prydnawn, ac hefy Miss Lizzie Rob- erts, Gaol Street, ss Lloyd, Bodarfor, Mri. Wynne Ow I, Arosfa, Arthur Williams, Tanygar i, a J. O. Williams, Morlan, am eu gw. -.anaeth yn y Band of Hope yn ystod y HHf, acyn arbenig i Mr. a Mrs. Wynr Owen am eu car- edigrwydd haelioni yn rhoddi treat i'r plant, a dangoswyc hyny trwy gymer- adwyaeth uchel y )Iant. Terfynwyd trwy ganu ton.
> ABEKSOCH.I
> ABEKSOCH. Nos Lun, y 7te o'r mis hwn, yn nghapel M. C. Wicon Square, Llun-I dain, o dan lywydd .eth y Parch Mor- gan Griffith, B. A, daeth cynulliad Iluosog ynghyd i ffarwelio gyda Mr W. W. Griffith, a" ei ymadawiad o'r brif ddinas i'w herJ gartref Castell- march. Cyflwynodti Mrs Richards iddo, ar ran yr eglwys, Silver-plated Tray, ynghyd a Silver-p!rited Tea & Coffee Service, Bag of Golf Clubs, Case of Pipes, a Case of S J ety Razors. Ar y Tray yr oedd y g' :riau canlynol wedi eu cerfio Cyfi -iynwyd i W. W. Griffith, Ysw., gan Eglwys Wilton Square, ar ei ymdawiad o Lundain, Ebrill, 1913, fel ai vvydd o'i serch a'i gwerthfawroglad o'i wasanaeth ffydd- lawn a hirfaith." Bu Mr Griffith yn aelod o'r eglwys am 32 mlynedd, ac yn ddiacon am 26 mlynedd. Cafwyci anerchiadau gan Mr 0. M. Owen (Sarn) a Mr W. J. Jones (Beddgelert) ynghyd ag amryw eraill, a thystiai yr oil o honynt fod yr eglwys yn colli un o'r rhai mwyaf cym- eradwy, ffyddlon, gweithgar a hael- ionus a fu mewn cysylltiad a'r achos. Sylwyd yn y cyfarfod fod ardal, Lleyn ac ysgol Bottwnog wedi anfoo llawer o fechgyn i Lundain oedd yn glod i Gymru, a dyma un o honynt yn dych- welyd yn ol, a bydJ colled eglwys Wil- ton Square yn enill mawr i'r achos yn Lleyn. --1'1-- H.J.O.
BOTTWNOG.
BOTTWNOG. MARW SVDYN.-Foreu Mawrth di- weddaf, cafwyd Mr. William Thomas, Tir Du, yn ei gadair yn y gegin wedi marw. Yr oedd yn dilyn ei oruchwyl- iaeth o gario nwyddau o Bwllheli y diwrnod blaenorol, a thystiai cymydog iddo fod yn ymddiJdan ag ef nos Lun, ac nad oedd wedi sylwi ar ddim amgen nag arferol arno. Oddeutti un-ar-ddeg foreu Mawrth yr oedd gan rywun neges yn ei breswylfod, a gwelwyd ef trwy'r ffenestr yn eistedd mewn cadair. Cyr- chwyd dau ddyn i'r lie, a chawsant ef yn farw yn y gadair. Yr oedd canwyllbren yn ei law. Bernid iddo farw y nos- waith cynt, 3 tethiant y galon, pan ar fyned i orphwys. Yr oedd y trancedig yn wyth a thriugai 1 oed, ac yn gymer- iad hoffus a phob! gaidd yn yr ardal. Creodd y newydd Jaethus fraw drwy y cylch. Yr oedd tOn derbyn blwydd- dal er's amser. 0 deutu blwyddyn yn 01 bu farw ei wrai. yn sydyn iawn yn y tynwent, pan yn d'od yn ot o lanhau yr Eglwys. »
I MYNYTHO.
I MYNYTHO. CYFARFOD LLENYDDOL. — Ddydd lau diweddat, cynhaliwyd Cyfarfod Llen- yddol Ilwyddianus yn nghapel y Wesleyaid, Carmel. Yr oedd yr addoldy dan ei sang. Arweinydd y cyfarfod oedd Mr J. J. Edwards, Gwalia, Pwllheli. Clorianwyd y can- torion gan Mr O. Llew Owain, Caer- narfon, a'r ymgeiswyr llenyddol gan y Parch W. G. Hughes, Criccieth. Cyt- eilwyd gan Mr J. W. Thomas, Llan- engan. Gwobrwywyd y rhai a gan- lyn:-Adrodd dan loeg oed, cydradd. David Williams, Tanyfoel, a W. G. Roberts, Mynytho; Unawd i rai dan ioeg oed, I, Rowland J. Roberts, Horeb; 2, Owen J. Roberts, Tawelfor; Unawd i rai dan 14eg oed, I, Jennie Hughes, Tai newyddion; 2, Lizzie Jane Jones, Mynytho; Corau Plant, I, Cor Llanbedrog, o dan arweiniad Mr M. Nanney Jones; Unrhyw Ddadl, i. Miss Dora Williams, Ty'nygraig, Rhiw, a'i chyfeilles; Unawd gytyngedig, 1, Mr Cadwaladr Williams, Llanengan; Englyn, i, Mrs Thomas, Mynytho; Pedwarawd, J, R. W. Williams a'i gyfeillion, o Bwllheli; Penillion, i, Mrs Thomas, Mynytho; Unawd Soprano neu Denor, i, Mr W. J. Hughes, Efailnewydd; Llythyr des- grifiadol, i, Miss C. M Williams, Rhiw; Adrodd, 1, Mr Robert John! Williams, Pandy; Unawd Baritone, 1, Mr H. Prydderch Williams, Pwllheli, Deuawd, I, Mri W. J. Hughes a J. Hughes, Efailnewydd; Beddargraff. I, Mr W. Williams, Lon las, Mynytho; Her-unawd, I, Mr W. J. Hughes, Efailnewydd; Ymgeisiodd pedwar ol gorau yn y brif gystadleuaeth, sef Abersoch, Carmel, Llanbedrog a PwlJ- heli, goreu, Pwllheli, o dan arweiniad Mr R. O. Jones.
-T HEUlt 1
T HEUlt DARLITH.—Bu Mr John Robinson, South Beach, Pwllheli, yn y lie uchod yn ddiweddar yn traddodi ei ddarlith odidog a phoblogaidd ar Enwogion y Pwlpud Cymreig." Er fod y tywydd yn anffafriol iawn, daeth cynulliad rhagorol ynghyd, a chafodd pawb flasusfwyd o'r fath a garent. Medd y darlithydd hwn y gallu prin i fod yn ddyddorol ac yn adeiladol yr un pryd. Bu wrthi yn darlithio am yn agos i ddwy awr o amser, ond llwyddodd i gadw sylw y gynulleidfa o'r dechreu i'r diwedd. Portreadodd rai o hen bregethwyr Cymru yn fyw iawn ger eu bron, yn enwedig felly Richard Owen y Diwygiwr, a Thomas Hughes, Mach- ynlleth. Tystiolaeth pawb a glywsent yr hen bregethwyr hyn ydoedd eu bod, er wedi. marw, yn lletaru eto yn y ddarlith hon. Brysied y darlithydd i dalu ymweliad a ni yn fi an eto.-c. W.
I Marw Sydyn yn N?haateH…
 Marw Sydyn yn N?haateH Caernan ?n. Boreu LIun diweddai, yn hynod o sydyn, bu farw Cadben Robert Roberts, Dorothea," tra yn ymddiddan a Mr Rees Hughes, ceidwad y Castell, yo y fynedfa. Yr oedd er s rhai misoedd bellach yn gweithio yn y Castell, ac yr oedd wrth ei waith fel arfer boreu Ltun. Pan yn ymddiddan a Mr Hughes caf- odd ergyd o'r parlys, ;i syrthiodd i'w freichiau, a bu farw ymhen ychydig funudau. Yr oedd y trancedig yn 62ain mlwydd oed, a gedy weddw, dau fab, a phedair o ferched i alaru eu coiled ar ei ol --0- ———
I Deuddeng Mis o Qarchar.…
I Deuddeng Mis o Qarchar. Yn Mrawdlys Chwarterol Arfon, ddydd Iau, cyhuddwyd Evan 0. Hughes, hocer o Gaernarfon, o achosi niwed corfforol i John Gray Thomas, Upper Parkia Lodge. Apeliwyd ar ran yr amddiffynydd, ar i'r fainc wneud y cyhuddiad yn un o ymosodiad cyffredin, ac os y gwneud hyny addefai y cyhudd- edig ei fod yn euog. Dywedodd nad oedd yn mwriad y carcharor i wneud niwed i'r erlynydd. Yr oedd dan ddylanwad diod ar y pryd, ac ni wyddai beth oedd yn ei wneud. Pan sylwedd- olodd fod yr erlynydd wedi ei anafu, aeth ato a datganodd ei ofid. Cydsyniodd y Fainc i wneud y cyhuddiad yn un o ymosodiad cyffredin. Dywedodd yr erlynydd i'r cyhuddedig neidio ato, ei daflu i lawr, ac mewn canlyniad i hyny, torodd ei fraich chwith. Anfonwyd y cyhuddedig i garchar am ddeuddeng mis. __n .1
I Cau Siopau ar y Sul.
I Cau Siopau ar y Sul. Bu'r Parch. James Evans, Ysgrifen- ydd Cyffredinol Pwyllgor Canolog Eglwysi Rhyddion Cymru, yn ymweled a rhai o weinidogion y Goron, y dydd o'r blaen, gyda'r amcan o geisio gan- ddynt gefnogi Mesur i gau Siopau ar y Sul yn Nghymru. Rhoddwyd sicr- wydd iddo y bydd i'r Llywodraeth gefnogi'r Mesur, ond iddi ggiel sicrwydd fod Cymru'n unol yn ei ffafr. Y mae yn dra phosibl na chaiff y Mesur mo'i basio eleni, ond trefnir ffordd iddo y flwyddyn nesaf.
I Lions o Borthmadoff mewn…
I Lions o Borthmadoff mewn Perygl. Hysbysir o Lloyd's fod y llong Evelyn," perthynol i Borthmadog, a'r hon hwyliodd o Borthmadog am Hamburg gyda llwyth o lechi, wedi ei thynu i Newhaven ddydd Sul diweddat. Yr oedd wedi colli amryw o'i hwyl- iau, ac hefyd golchvvyd un o'r criw dros y bwrdd. V
I Yn Erbyn Datgysylltiad.
I Yn Erbyn Datgysylltiad. Cynhaliodd Esgobaethau Bangor a Llanelwy gynhadledd fawr yn Llan- dudno, yr wythnos ddiweddaf, yn erbyn Mesur Datgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru Yr oedd cynrychiolwyr yn bresenol o bob rhanbarth. Llywydd- wyd gan Esgob Bangor. Testyn yr ymdrafodaeth ydodd Effeithiau Mes- ur Datgysylltiad yn N ghymru pe deuai y cyfryw yn ddeddf," yn cael ei agor gan Syr Foster Cunliffe a Mr Arthur E. Hughes. Cafwyd anerchiad ar Ddyledswydd Eglwyswyr Cymru yn yr argyfwng presenol gan Esgob Ty Ddewi, a siaradwyd ar ei ol gan Esgob Llanelwy,. Arglwydd Penrhyn, Mr R. Gordon Roberts,; Caergybi, ac eraill. Yr oedd teimlad y gynhadledd yn gryf yn erbyn gwneud unrhyw fath o gytun- deb a'r Datgysylltwyr.
-u - Marw yn y Tiotty. ]
-u Marw yn y Tiotty. Ddydd Llun diweddaf, bu farw yn nhlotty Penrhyndeudraeth, George Williamson, yn 88ain mlwydd oed. Bu yn cymeryd rhan yn mrwydr fawr Crimea. Yn ystod ei yrfa trafaeliodd drwy Ewrop ac America. Daeth i Ffestiniog oddeutu deugain mlynedd yn ol, ac yn herwydd gwaeledd iechyd aeth i'r tiotty t-,yth mlynedd yn ol. Gallai siarad mewn pump o ieithoedd.
Coles Amaethyddol Madryn.
Coles Amaethyddol Madryn. Ym Mhwyllgor Addysg Amaethyddol Sir Gaernarfon, ddydd Llun, trefnwyd i agor y Coleg Amaethyddol yn Madryn ar yr 2tain o Fehefin. Agorir y lie gan Mr. Walter Runciman, Llywydd Bwrdd Amaethyddiaeth. --0-
Manion. 'I
Manion. Y mae ewyllys y diweddar Cyrnol John Jacob Astor, yr hwn gollodd ei fywyd yn suddiad y "Titan c" wedi ei phrofi. Yr oedd ei ystad yn werth I5.443.338p- Bu dau fachgenyn o'r enwau Owen Stewart a Frederick Wilhim Croft, foddi yn Strood, ger Rochester. Yr oeddynt wedi myned i chw ^reu i hen gwch, a bernir i un o honynt ddisgyn i'r dwfr ac i'r Mall geisio ei achub, ond bu y ddau foddi Caed allan fod yn y llong suddodd y tuallan i Isle of Grain, fod y cadben, ei wraig a'u dau blentyn, ynghyda'r swyddog, wedi boddi. Yr oeddynt oil yn berthynol i Chatham. Y mae dau o'r aelodau Cymreig yn bwriadu rhoddi eu seddau i fyny, sef Mr Thomas Richards, A.S., yr aelod dros Orllewin Mynwy a Mr W. Brace A.S yr aelod dros Dde Vorganwg. Bydd Mr Richards yn ymro /n gwbl i wasanaethu amcanion can efol Cyn- grair Mwnwyr y De, ond nid yw'n bwriadu gadael y Senedd cy diwedd y tymor presenol. Bu bachgenyn chwech oed, o'r enw Benjamin Jones, farw yn ei gartref yn Connah's Quay, boreu L., n, mewn canlyniad i'r niweidiau drerbyniodd trwy gael ei daraw gan gerb /d-modur.
Advertising
Yn Elsieu. ) BACHGEN fel Negesydd. Ymof- — yner yn 74, Heol Fawr. Pwllheli. Borough of Pwilhell. SHOPS ACT,, 1912. Order under Seotion 4 (2) fixing the day of the Weekly Half- Holiday for non-exempted Shops. 11HE Town Councif of the Borough -L of Pwllheli in pursuance of the powers conferred upon them by the. Shops Act, 1912, and after due compli- ance with its provisions, do hereby Order as follows — I. This Order, which may be cited as the Pwllheli Shops Half- Holiday Order, 1913," applies to all shops in the Borough of Pwll- heli except shops which are exemp- ted by the Act, or by any Order in pursuance ot the Act from the obligation to close for the Weekly H alf- H olidcty. 2. All shops to which the Order applies shall be closed for the Weekly .Half-Holiday on Thurs- day at I p. m., throughout the year. Provided that where in any week a lawfully constituted fair is to be held on a Thursday, the preceding Tuesday shall be substituted for the Thursday in such week and all shops to which chis Order applies shall be closed on such Tuesday at 1 p.m. Provided also that any shopkeeper may substitute Saturday for Thursday or Tuesday, as the case may be, on affixing t notice to that effect in his shop. NOTE.—It is provided by Section 4 (5) of the Act that if a shop is closed throughout the whole of a Bank Holiday, and the Bank Holiday does not fall upon the day fixed for the Weekly Half- Holiday the Shopkeeper may keep his shop open either c the Half- Holiday before or 01 the Half- Holiday atter the Banh Holiday. Given under the Commoi Seal of the Council of the Borough of Pwllheli this 14th day of April, 1913. O. WYNNE GRIFFITH, Mayor. EVAN R. DAVIES, Town Clerk. Penlan, Pwllheli TRADDODIR DARLITH yn y capel uchod N08 lau, Ebrill 24ain, 1913, GAN LLEW TEGID, BANGOR, ar "Yr Hea Gymry a'u Harferioa." j Llywyddir gan y Maer (Dr. O. Wynne Griffith). j Datgenir gan Gor Plant Troedyrallt. Drysau yn agored 6-30, dechreuir am 7 Tocynau 6ch. Yr elw tuag at dreuliau Cymanfa Gwynedd, gynhelir ym Mhwllheli mis Hydref nesaf. RHAG-HYSBYSIAD. CYF UFOD TE ACHYNGRMRDD BLYNYDDOL PENLAN PWLLHELI, DYDD IAU, MAI yr 8fed. Manylion yn fuan. PRELIMINARY NOTICE. THURSDAY, MAY 15th. EXHIBITION OF ART NEEDLEWORK worked by Pupils of the Evening Schools at Troedyrallt. GRAND May Day Carnival AND Crowning the May Queen, 1 May 29th. 1913. For List of Events ot Carnival and f Sp rts, apply to the Hon. Sec., J. J. EDWARDS, Whitehall Place, Pwllheli. S isteddfod Gadeiri 01 PWLLHELI, Gwyl y Banc, Awst 4ydd, 1913 Beirniaid Cerddorol :—E. T. DAVIES, Ysw., F R.C O., Mertliyr, a W. J. W ILLIAMS, Ysw., Efailnewydd. Cyfeilwyr:—Mr. Evan Jones a Miss Wynnie Jones, PwDhcH. RHAI O'R CYSTADLEUAETHAU:— j Testyn y Gllair: Canol- d.lyild iCerdd gaeth neu ry(ld lich ft)d tiros 200 Ilinell) 1 0 0 a Chadair Dderw gerfiedig Treethawd: "Tuedd feirniadol yr Oes" (Agored i L.'YlI ac Eifionydd; 1 0 0 Y Brif Gystadleuaeth Gorawl. I'r Cor Meibion a ddatgaro ill oreu Cydgui y Pererin- ion (Dr. Parry) a "Vader Idric" (allan o'r A la won Cymrcig-Dr. Rogers) 20 0 0 a Bathodyn Aur, gwerih 218. i'r Arweinydd. Ail wobr 5 0 0 Corau Cymysg, Y nefoedd y'n datgall (Haydn) 10 0 0 iM 21s., onewn gwerth neu hi ian, i'r Arweinydd. Ail wobr 5 0 0 Ct-)-.tu Cyuiysg (Llcol), "Yr Hat"tGwilym Gwent) 5 0 0 :1 Gold Scarf Pin i'r Ar- ) weinydd. CL au PliV'it, Croesaw W:M- IN,yn (Pryce Hughes) 5 0 0 l'cstynau allan o'r wasg yu ystod y mis hw Pris, trwy y llythyrdy, lc. I'w cal oddiwrth yr YsgnfeHydd,— D. JOHN JONES, 74, Heol Fawr. JE JoltaO ISWRDD owarcbeidwato u Cbsnoor Bodbartb GwieOig ztepn. AT ETHOLWYR PLWYF I ABERERCH. FONEDDIGESAU A BONEDDIGION,— Diolchaf yn gynes am yr anrhydedd draohefn osodwyd arnaf fel eich' Cyn- ryi hiolydd ar y Bwrdd a'r Cyngor uchod dr,y fy rhoddi ar ben y Pol. \mcanaf yn argyhoeddiadol gyflawni po dyledswydd gysylltiol a'ch hym- dci iedaeth er eich boddlonrwydd, yn ogystal ag er budd a lhvyddiant y rhan- ba th yn gyffredinol. Ydwyf, yn wasanaethgar, SAMUEL ROBERTS. Penydon, Abererch, Ebrill 7fed, 1913. Sales by Mr. John Davies. TOWN OF PWLLHELI. Important Sale of Valuable Leasehold Property, known as NEWBOROUGH VAULTS, HIGH STREET, Together with Lock-up Shop adjoining. END OF APRIL. Full particulars in due course. In the meantime further particulars may be obtained of the Auctioneer, olaenau Festiniog and Pwllheli, or Messrs Arthen Owen and Evans, Solicitors, Pwllheli. Ar Werth. DOG-CART A Harnis-ddim gwaeth na newydd. Am fanylion ymof- yner a D," UDGORN Office. Wanted. I PPRENTICE to Millinery & Sales. ?- Apply-Edward Williams, Shop Glasfryn, Pwllheli. To Let. TWO Sitting and four Bedrooms, Bathroom, unfurnished. Terms moderate. Apply-" A B. UDGORN OFFICE, Pwllheli. Ar Osod, N 0. 6, Salem Terrace, Pwllheli. Y mofyner a Misses Williams, 9, Salem Terrace. HadycL. Hadyd. Hadyd. Pytatws goreu lwer ddon, DVMUNA FI" H. BOWEN, Grocery and Flour Merchant, Heol Fawr, Pwllheli, wneud yn hysbys ei fod wedi derbyn STOC ENFAWR o BYTATWS GOREU IWEBDDON AT H ADYD. Mynwch roi prawf arnynt. Y PRISIAU YN RHESYMOL. Cofiwch y cyfeitiad — SHOP BOWBIQ (Drws nesaf i Shop Hirwaen), 73, HEOL FAWR, PWLLHELI. TOWN HALL, PWLLHELI. Pro^refcors The Anglo-Cymric Ciocro^s, Ltd MtLfcjjer Mr. A. Browa.  Onc?NigMy -7?E 7I -4"TlR J Doors open 7-15.. f? ANIMATED PICTURES Complete Change each Evening. Programme for Wednesdayt April 16th. V ANGUISHED. A Thrilling Film over 3,000 feet in length. Nordisk's Greatest Masterpiece. And Full Star Programme. Programme for Thursday. April 17th. IN A DEN I OF LIONS. O rf this wonderful Film, shewing o^ tl great Kings of the Forest S E I- on the point of devouring their vi tim when rescued by timely aid. Thrilling and Emotional. And Full Star Programme. PERFECT OERKKCTLY ICTURES 1 ROJKCTKU BIGGEST, BRIGHTEST AND BEST. Popular Prices: &d-, 6d., 3d. MATINEE, WEDNESDAY at 5 o'clock. Scholars, i d., 2d., and 3d.