Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BORRU IiAIWRN y fan lwllibf. Pob RiChOlliOD a thlololiadau aiii Yi fJDflOEW i'w bdnfon i'f UORCCHWTI L#K, 74, High Street, L'wllheii Pob goliebiaeth i'w cyfeirio- Ya UDQOKS OFFICE, PWLLDELI. Bydd yn dda genym rirlerbyn gobeb- iaetbaa oddiwrth oheSwyr ar faterion lleol o ddyddordeb cyhoeddus
NODION A HANESION.I
NODION A HANESION. I Gwlad y Menyg Gwynion. Yn Chwarter Sesiwn Meirion a Fflint ddydd Mawrth diweddaf, a'r un modd yo Chwarter Sesiwn Mon ddydd Merch- er, nid oedd un achos i ddod gerbron. Anrhegwyd y cadeirydd, Syr H. Wil- liams Bulkeley, Barwnig, a phar o ten- J'g gwynion. Dyma'r ail dro yn olynol i hyn ddigwydd yn Chwarter Sesiwn Mon. Marw Syr Clemer.t Hill, A.S Ddydd Mercher diweddaf bu tarw Syr Clement Hill, yr aelod Seneddol tros yr Amwythig, yn ei breswyl Llun- deinig, yn 67 mlwydd oed. Yn her- wydd ei farwolaeth anisgwyliadwy bydd yn angenrheidiol i etholiad gymeryd lie yn yr Amwythig. Er y cyfrifir yr ethol- aeth yn un lied Doriaidd, y mae y Rhyddfrydwyr wedi dod ag ymgeisydd i'r maes er's rhai troion bellach, ac yn ol pob tebyg gwnant hyny y tro hwn. V Neidio i'r Gamlas. Rrydnawn Mercher diweddaf neid- iodd tafarnwr o Lerpv I o'r snw Thos. Martin oddiar bont "r gamlas, a bu foddi. Gwelwyd ef n neidio i'r dwr gan fachgen bychan. r hwn a hysbys- odd yr heddge'dwaid o'r digwyddiad. Deuwyd o hyd i'w gOI ff ymhen yr awr. < < Thomas Lewis, y Meudwy. Mae Thomas Lewi;, Llandinam, yr Invn dJaeth yn enwo, oherwydd ei fywyd meudwyaidd yn y coed, yn awr yn y tlcty, ac yn Mwrdd y Gwarcheid- ¡ waid y dydd o'r blaon awgrymodd y swyddcg meddygol ei fod i gael aros yno ani bythefnos yn hwy, gan y go- beithiai ei alluogi i fyned trosodd i Canada Sylwodd y cadeirydd fod Thoma Lewis yn swil iawn, ac nas gallai y 1 hawdd wyrvbu ei gydnabod eto. Yr oedd yn av;yddus iawn am gael mynd i Canada i ddechreu bywyd oewydd yno. Cania'awyd iddo gael aros am bythefnos yn y tloty. Curoll Dad-yn-Nghyfraith. Yn Llundajn yr wythnos o'r blaen cyhuddwyd dyn du o'r enw George Wilson o fod wedi achosi niwed corff- orol i Gymro o'r enw David Davies, yr hwn oedd ar fedr bod yn dad-yn-nghyf- raith i'r cyhuddedig. Ymddengys tod Wilson a Davies yn gweithio gyda'u gilydd mewn glofa yn Nhredegar, a'u bod yn gyfeillion niawr er's amser inaith. Syrthiodd Wilson mewn cariad 4 merch Davies, gene h ddeunaw oed, ond yr cedd ei thad yr. erbyn iddi briodi y dyn du. Diangodd y ddau gariad -i Lundain, ac yr oeddyit wedi gwneud darpariadau ar gyfcr priodi yn ddioed, ond cyn i'r briodas gymeryd lie daeth tad yr eneth ar eu traws yn Hammer- smith. Aeth yn gweryl rhyngynt, a tharawcdd Wilson yr hen wr nes tori asgwrr ei en. Erbyn dod i'r llys yr oedd Davies yn foddlawn i'r briodas gymeryd lie, gan ei fod, meddai, wedi cael gweledigaeth" yn ei chylch Dywedai y dymunai yr Arglwydd iddo faddeu i Wilson, er ei fod yn ddyn du Barnai yr ynad nad oedd y cyhuddedig yn bwriadu anafu yr hen wr fel v darfu. Rhwymwyd ef i ddod gorbron* y llys drachefn os y gelwid arno. Dau Anghytun. Yn Xghaernarfon yr wythnos ddi- weddaf erlynid hen wr o'r enw William Parry gan ei wraig am y swm o 2op., sef gweddill swm o arian a honid roes yn fenthyg iddo cyn y briodas. Nid oedd ond rhyw wyth mis er pan y cym- erodd y briodas le, ac ychydig wyth- nosau yn ol ymwahanasant o herwydd anghydfod rhyngynt. Mewn atebiad i gyfreithiwr yr erlynes dywedodd y diff- ynydd mai yn Mhwllheli y treuliasant eu mis mel. Yr oedd yr erlynes wedi cerdded o Gaernarfon i Dinas, ac wedi codi ticed yno am Bwllheli. Wedi gwrando'r achos sylwodd y barnwr mai busnes ynfyd ydoedd o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd wedi dod i'r pender- fyniad mai wedi cael benthyg yr arian yr oedd y diffynydd, a (hoes dd) fdrniad yn ffafr yr erlynes am icjp. Llosgi I Farwolaeth. Cafwyd Mrs. Walters, Priory, Ware, swydd Hertford, wedi llosgi i farwol- aeth yn ei hystafell wely, lie yr oedd wedi ei chyfyngu gan waeJedd. Aeth ei morwyn a'i chinio i tyny iddi, ac yn fuan wedyn caed hi yn gorwedd ger y tåo a'i dillad wedi eu llosgi ymaith yn Ihvyr oddiarni. Diane o Garchar. I Ddydd Gwener diweddaf, achoswyd tipyn o gyffro a cl-iryn ddifyrwch yn Ninbych oherwydd i garcharor ddianc. Yr oedd Samuel Spilly wedi ei draddodi yn y Chwarter Sesiwn i ddeunaw mis o garchar, a phan yr oedd y ceidwad yn ei symud o'r llys, diangodd. Rhed- odd trwy'r dref, a'r ceidwad, yr hedd- geidwaid a'r trefwyr yn ei ddilyn. I Daliwyd ef ger y gwallgotdy tua milltir o bellder, gan ddyn o'r enw Jones, gyriedydd modur Mr D. S. Davies, un o'r ynadon a wrandawai achos y ffoadur. A Cyhuddiad Difrifol yn erbyn Gweinidog. Yr wythnos ddiweddat cyhuddwyd y Parch Sidney Hassall, yr hwn hyd yn ddiweddar oedd yn weinidog Eglwys y Bedyddwyr yn Junction Street, Derby, ac yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, o fod yn dad i blentyn anghyfreithlon geneth bymtheng mlwydd oed, o'r enw Florence May Benson. Wedi gwrandawiad maith pasiodd y ipwyaf- rif o'r ynadon fod d-gon n dystiolaeth i brofi yr achos a gwnaed archeb am 5s. yr wythnos yn erbyn y diffynydd. Y Suffragettes yn Llosgi Pafllion. Ddiwedd yr wvthnos o'r blaen cafodd y pafilion a'r Chuareule Cricet Tun- bridge Wells bron ei Iwyr ddinystrio gan dan, a bernir mai y Suffragettes sydd yn gyfritol am yr alanas, gan y caed darlun o Mrs. Pankhurst yn agos i'r lie. Achoswyd cryn ddifrod gan- ddynt mewn amryw fanau eraill yr un modd. Miliwnydd ar Goll. Hysbyswyd ddiwedd yr wythnos fod Miliwnydd Americanaidd, yr hwn oedd ar ymweliad a Llundain, ar goll er's wyth niwrnod. 'Ei enw yw Mr Joseph Wilberforce Martin, o Memphis, Ten- nessee. Disgwylid et yn ei ol i New York gyda'r agerlong Lu France," yr hon a hwyliodd wythnos i'r Sadwrn diweddaf, ond nid oedd e yn yr ager- long, er y caed ei lugyaye wedi eu pacio yn barod i'r daith. Heddgeidwaid yn atai Priodas. Pan oedd deintydd o Swede ar fin cael ei uno mewn priocias a merch ieuanc mewn swyddfa getrestriadol yn Llundain yr wythnos ddiweddaf daeth heddgeidwaid yno, a chymerasant y darpar-wr a'r gwas i'r ddal!a. Y cyhuddiad yn erbyn y darpar-wr oedd ei fod wedi gwneud datganiad anghywir o dan Ddeddf Coftestru Priodasau. a'r Ilall o fod wedi ei gyn- orthwyo. Damwairv Angeuol yn Magillt. Cynhali .yd trengholiad yn Bagillt.1 ddydd Sad -rn diweddaf, ar gorff geneth fechan saith oed, o'r enw Annie Hughes yr hon laddwyd ar yr heol yn agos j'w II chartref nos Fercher diweddaf, trwy I fyned ar draws cerbyd-modur. Tyst-j iwyd fod yr eneth yn siarad a bachgen arall, a phan welodd y modur yn dod rhedodd ar draws y ffordd gyda'r can- lyniad i'r modur ei tharo i lawr. Niweidiwyd hi yn ddifrifol, a bu farw ymhen ychydig amser. Dygpwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol, a phasiwyd nad oedd y gy, ledydd i'w feio o gwbl am y digwyddiad. Priodas Mr. Ormsby Gore, A S. Dydd Sadwrn diweddaf yn West- minster Abbey priodwyd Mr Ormsby Gore. yr Aelod Seneddol dros Fwrdeis- drefi Dinbych, a Lady Beatrice, merch hynaf yr Iarli a'r Iarlles Salisbury. Yr oedd cynulliad mawr o urddasolion y wlad yn .bresenol. Gweinyddwyd (yn absenoldeb yr Archesgob Caergrawnt) gan Esgob St. Asaph, Deon West- minster a'r Parch Arglwydd William Cecil, ewythr y briodferch. Yr oedd yr anrhegioq yn lluosog a drudfawr, ym mysg y rhai yi oedd amryw oddiwrth y Brenin a'r Frenhines a'r teulu brenhinol. Rhyddhau Mrs Pankhurst. Dydd Sadwrn diweddaf rhyddhawyd ar drwydded Mrs Pankhurst, arweinydd y suffragettes, o garchar Holloway. Cofir iddi ar y 3ydd o Ebrill gael ei dedfrydu i dair blynedd o benyd- wasanaeth. Er yr adeg y cymerwyd hi i'r carchar gwrthododd gymeryd bwyd, yr hyn effeithiodd yn ddifrifol ar ei hiechyd. Dal Lladron Llwyddodd heddlu Tunbridge ddydd Sadwrn i ddal dau ddyn yn Penshurst ag oedd yn eisieu mewn cysylltiad a tin riad i'r rheithordy a tl y arall yn y Clfch. Tynodd un o'r dyn-on lawddryll a)'an, ond trech^yd ef cyn iddo allu ei ddefoyddio. Ceisiodd y Hall ddianc, ond dalnvyd tf ar ol ei ymlid am tua haner milltir. Yr oedd y ddau wedi eu g"isgo yn drusi.idus, ;,c yr oedd ganddynt fagiau, ac amcangyfrifir fod eu cynwys yn werth 4,ooop. Haelioni Mr Pavid Davies, A.S Y mae Mr David Davie-, A.S wedi penderfynu rhoddi neuad<. bentrefol i Carno, yr hon gostia 2,CK,op. Hefyd, y m;le wedi cynyg i dalu costau deintydd teithiol ar gyfer plant y sir, os y bydd i'r Pwyllgor AddJö ddarpar uu arall,
Damweiniau Difrifol yn NoI…
Damweiniau Difrifol yn NoI Damweiniau Difrlfol yn Ne Cymru. -i SAITH YN COLLI EU BYWYD. j Yr wythnos ddiweddaf bu dwy ddam- wain ddifrifol iawn mewn gweithfeydd glo yn y Deheudir. Digwyddodd y gyntat yn Blaenafon, trwy i d&n dori allan mewn glofa yno yn ystod y nos. Galwyd y gwtithwyr i fyny ar unwgith ac aeth mintai o swyddogion i lawr y pwll i geisio rhoi y tan allan. Cafodd amryw o'r fintai eu gorchtygu gan y nwyon, a bu farw y rhai a ganlyn Arthur Tucker, 27 mlwydd oed, goruch- wyliwr glofa yn Blaenafon Joseph Jenkins, is-oruchwyliwr y gwaith mawr, a William Bond, 28 mlwydd oed, tan- iwr. Catodd Thomas Simmonds, gor- uchwyliwr glofa arall, ddihangfa gyfyng iawn. Yr oedd yn anymwybodol pan y deuwyd o hyd iddo, ond llwyddwyd i'w adfer. Yn Tylorstown y cymerodd y ddam- wain arall le, trwy i gwympiad ddig- wydd yn un o'r pyllau glo, gan gau i mewn bump o weithwyr, y rhai a fuont feirw oil oddigerth un. Enwau y rhai gollasant eu bywyd oeddynt,—James Davies, Tylorstown George Street, Tylorstown John Evans, Pontygwaith, a Llewelyn Thomas, V nyshir. Thos. Ashton, Tylorstown, oedd yr un a gaf- odd ei waredu. Gynted ag y gwybu- wyd fod y dynion wedi eu cau gan y cwympiad dechreuwyd clirio i geisio eu rhyddhau. Yr oedd yn rhaid clirio tua phum can llwyth o rwbel cyn y gellid cyraedd atynt, ac yr oedd y gwaredwyr mewn perygl mawr yr holl amser, gan yr ofnid y cymerai cwympiad arall le unrhyw funud. Y cyntat i'w gael yn rhydd oedd Thomas Ashton. Yr oedd bron wedi colli ei ymwybyddiaeth—ei ddwy goes wedi eu tori, ac yr oedd wedi ei niweidio oddimewn. Ymhen haner awr wedyn caed John Davies yn rhydd. Yr oedd yntau yn fyw, ond bu farw bron gynted ag y dygwyd ef i'w gar- tref. Wedi bod am oriau yn clirio caed John Evans allan. Yr oedd yntau heiyd yn fyw, ond bu farw y diwrnod dilynol. Yr oedd Llewelyn Tnomas a Lewis Davies wedi marw pan y deuwyd o hyd iddynt.
IA yw Pwilhell In Foddhaol…
A yw Pwilhell In Foddhaol ? DATGANIAD GAN DDYNES 0 I BWLLHELI. Cyn y gellir derbyn datganiad yma rhaid iddo gael ei gefnogi gan dystiol- aeth leol-tystiolaeth rhywun yn byw yn Mhwllheli. Gall tystiolaeth pobl anadnabyddus o leoedd pell fod yn wir, ond nis gallwn ei brofi. Dyma ddat- ganiad gan ddynes o Bwllheli Roedd fy nghefn bob amser yn wan," medd Mrs M. Glynne-Jones, o 31, North Street, Pwllheli, "0. chredaf y rhaid fod gwendid yn fy elwlod. Cai yr anwyd Heiaf effaith arnaf, a chawn y fath boenau brathol wrth blygu fel mai prin y gallwn ymsythu dracheln. <4Ni chawn orphwysdra'r nos, a phan y codwn yn y boreu teimlwn yn flin a hollol anaddas i wneud dim. Cawn gur mawr yn fy mhen, yr hyn a wnai I Ími deimlo'n druenus. 6. Rhoddais brawf ar amryw feddyg- iniaethau, ond ni chefais welihad hyd nes y defnyadiais Doan's Backache Kidney Pills. Gallwn ddweyd ar ol yr ychydig ddognau cyntaf fy mod wedi cael y feddyginiaeth iawn ar gyfer fy anhwylder, a pharheais gyda'r pilenau nes yr oedd pob arwydd o'r trwbl ar fy elwlod wedi cilio. Af ar unwaith am Doan's pills yn y dyfodol, os y teimiaf fod yr hen afiechyd yn ail ddechreu. (Arwyddwyd) (Mrs) M. Glyiine-j ones." Pris 2s. 9c. bocs, chwe' bocs am 13s. gc.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8. Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eyhtr am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs. Glynne-jones.
Llys Ynadol Pwllheli.
Llys Ynadol Pwllheli. Dydd Mercher, Ebrill yr 8fed.— Ger bton J. G. Jones, Ysw W. Anthony, Ysw., Maurice Jones, Ysw J R. Jones, Ysw., Dr Gwenogfryn Evans, Dr S W. Griffith, G Hughes Roberts, Ysw., a C. H. Lloyd, Ysw. Deddf y Siopau,.—Gvvysid Luigi Mur- razzi, gan Mr Caradoc Davies ar ran Mr Chas. L. Roberts, yr A olygydd Trefol, am flaelu cydymffurfio a dar- pariadau Deddf y Siopau. Yr oedd y diffynydd wedi gwrthod rhoi cerdyn i fyny yn ei siop i nodi oriau busnes, ac nid oedd wedi ,caniatau haner diwrnod o wyl i'w gynorthwywyr fel yr oedd y Ddeddf yn gofyn. Gweithient o saith y boreu hyd un-ar-ddeg yr hwyr. Gallai y diffynydd i raddau fod yn anwybodus o'r gyfraith, gan mai tramorwr ydoedd Yr oedd wedi peri llawer o drwbl i'r heddgeidwaid. Gorchymynwyd iddo dalu 8s. 6c. o gostau. Awfeiliaid at Grwydr.— Cyhuddwyd William Thomas o aJat l i ddau geffyl o'i eiddo grwydro ar ffordd rhwng Sarn ac Edeyrn ar yr zoted o Fawrth. Canfuwyd y ceffylau gan yr heddgeid- wad, yr hwn aeth a hwy i fuarth y Nanhoron Hotel, yn agos i'r hwn le y gwersyllai y diffyn3odd Dirvvywyd y diffynydd, yr hwn oedd wedi bod ger bron ddwywaith yn flaenotol, i jos. a'r costau.- Cyhuddwyd Robert Jones o adael i ddwy fuwch o'i eiddo grwydro ar y ffordd rhwng Nefyn a Morfa Nefyn. —Dirwywyd ef i 7s. 6c. a'r costau. 1'roi Tenant 0 Dy.-Gwnaed cais am archeb i droi allan denant y New Inn, Llanengan.— Caniatawyd.
Diangfa Gyfyng: Brenhin, Hispaen.
Diangfa Gyfyng: Brenhin, Hispaen. YMGAIS AM EI FYWYD. I Dydd Sul diweddaf pan oedd y Brenin Alfonsø yn dychwelyd am y Palas Bren- hinol ar ol bod yn cymeryd llw y milwyr ceisiodd anarchiad ieuanc ei frad- j lofruddio trwy saethu ato ar un o heol- ydd Madrid. Methiant tu ymgais y dyhiryn, gan i'r ergyd daro y ceffyl y marchogai y Brenin, "ï niweidio. Cymerwyd y dihiryo i tyny ar un- waith gan yr heddlu, ac onibai am sydynrwydd yr heddlu buasai wedi ei ladd gan y dorf oedd wedi cynddeiriogi yn herwydd yr anfadwaith. i Ni wnaeth y Brenhin, er ei fod wedi dychryn, unrhyw fath o gyffro, ac aeth ar getn ceffyl ara!l gan tarchog i'w gartref ynghanol cymeradwyaeth fydd- arol y dorf. Dyma'r drydedd waith i gyffelybi ymgais gael ei wneud ar ei fywyd. I Y tro cyntaf ydoedd yn Mehefin, 1905, taflwyd ffrwyd-belen ato, ond yn ffodus methodd y dyhiryn a'i thaflu i'r fan oedd wedi ei fwriadu ei wneud. Yr ail waith ydoedd ar achlysur ei briodas a'r Dywysoges Ena yn Mai, 1906, a llwyddodd y waith hon hefyd i ddianc yn ddianat, ef a'i briod, er y lladdwyd un o'r gweision oedd yn ngofal y cer- byd. --0--
I Bwyta eu Cyd-ddyn.
I Bwyta eu Cyd-ddyn. Daw y stori erchyll a ganlyn o French Guiana. Yr oedd pedwar carcharor o'r enwau Monillard, Bachereau, Fossey a Macheval, wedi penderfynu dianc o'r carchar, ac un ooson llwyddasant, a chymerasant gyda hwy arfau ac ym- borth. Gweithredai Fossey fel arwein- ydd, gan y dywedai y gwyddai am y wlad. Buont yn trataelio am chwe diwrnod cyn cyraedd yr afon Man^, yr hon ddylasent fod wedi ei Dhyi ledd mewn pedwar. Yna nddefodd Ft ssey ei tod wedi colli y ffordd, ac nas m, idai unrhyw amcan lie yr oedJynt. I ont yn crwydro am ddeuddydd wedyn n y goedwig drwchus, heb wybod y byd i ba gyfeiriad yr elent, a'u ym- borth yn prysur ddarfod. Yn iuc ) bu raid iddynt ymborthi ar wreiddia, ac aethant mor wan fel nas gallent yn'd ymhellach. Gan hyny ceisiasant srodi caban yn y goedwig o frigau a g v jilt. Teimlent en bod oil yn newynu. Yr oedd Macheval mor wan fel nas f dlai sefyll ar ei draed. Arhosodd Fossey i'w wylio ac aeth y ddau arall i chwilio am fwyd. Pan yr oedd Fossey yn gwylio ei gymrawd daeth synia.1 i'w ben, a phan ddaeth y ddau arall yn eu holau dywedodd wrthynt am dano. Cytunodd y tri ar y cynllun ac aethant i'l caban lie y gorweddai Macheval. Lladdasant ef, rhostiasant ei gnawd, ac ymborlhasant arno. Ar ol deu- ddydd ychwaneg o grwydro daethant ar draws afon, a dilynasant i Mana, lie y ceisiasant tynd allan i'r mor, ond gyrrwyd hwy yn eu holau gan y gwynt a chymerwyd hwy i'r ddalta drachefn. Addefasant eu bod wedi Iladd a bwyta eu cymrawd, ac y maent yn awr yn aros eu prawf am lotruddiaeth.
Mr. Lloyd George yn Diolch.
Mr. Lloyd George yn Diolch. Mewn atebiad i benderfyniad a a fon- wyd iddo o Gymru yn datgan cydym- deimlad ag ef yn wyneb yr ymosodiudau anheg a disail a wnaed arno yn ddi- weddai, y mae Mr Lloyd George wedi anfon y llythyr a ganlyn 44 Anwyl Syr, Y mae eich pender- fyniad calon-gynes yn twy gwerthfawr genyf nas gallwch ddirnad. Nid oes yr un dyn mewn bywyd cyhoeddus heddyw ag y dangosid cymaint o chwerwder ysbryd tuag ato a mi. O'r ochr arall, yr wyf yn falch o wybod nad oes yr un dyn cyhoeddus wedi sicrhau gwell a phurach cyfeillion. Nid yw y chwerwder yshryd ond yr hyn yr oedd- wn yn ei ddisgwyl, oherwydd nis gall neb wrthwynebu buddianau cynys- gaethol cryfaf y wlad heb hyny ond y mae y ffyddlondeb a'r cyfeillgarwch a dderbyniais yn fwy nag a ddisgwyliwn. ac yn fwy na gwneud i fyny am fy holl bryder a helbulon.—Yr eiddoch yn ffyddlon, D. Lloyd George
I Aelod Seneddol yn ColliI…
Aelod Seneddol yn Colli I ei Sedd. Mae'n fwy na thebyg y bydd etholiad yn fuan yn Whitechapel, gan fod yr aelod Seneddol tros yr etholaeth, Syr Stuart Samuel, wedi ei ddi-seddu, oher- wydd fod y cwmni y perthyn ef iddo wedi contractio gyda'r Llywodraeth. 0 dan hen Ddeddf Seneddol y mae aelod a bleidleisia ar ol iddo fforftctio ei hawl i bleidlais yn agored i ddirwy o 5oop. am bob pleidlais roddwyd, ac yn 01 y safon yna cyfrifir fod Syr Stuart yn agored i'w ddirwyo i'r swm o 46,ooop. Gall y Senedd basio mesur i'w ryddhau o'r rhwymedigaeth hwnw fodd bynag. Hysbysir y bydd i Syr Stuart Samuel sefyll etholiad eto, ac mai ei vrth- wynebydd fydd Capten E. M. Browne, yr hwn a'i gwrthwynebai yn Rhagfyr 1910.
Esgob Tyddewi a'r Ymnelll-j…
Esgob Tyddewi a'r Ymnelll-j duwyr. Mewn cyngrair a gynhaliwyr yn Llandudno y dydd o'r blaen r ewn cysylltiad a Mesur Dadgysylltia yr Eglwys, dywedodd Esgob Tydde' i yr addefir yri awr fod y gyfundrefn wir- foddol, o dan yr amodau presenci, yn fethiant yn rhanau gwledig Cymru uag at gynal y weinidogaeth, fer cyi. aint oedd haelioni Ynineillduwyr Cymrb
- - - -.'" Llys y Man-Ddyledion,…
Llys y Man-Ddyledion, Pwll- heli. Ddydd Mawrth, o flaen y Barnwr William Evans. Canialau.—Gwneid cais gan Mr Wm. George am apwyntiad Mrs Margaret Williams, Brynberllan, Llanengan, a Mr Wm. Jones. Glwyd, Sarn, yn ym ddiriedolivyr tros Wai. Jones Evans, David Evans a John Evans, plant y diw^ddar Evan Jones Evans, Lon Las, Rhiw, o barthed i eiddo a berthynai i'w diweddar dad.—Caniatawyd. Iawn-Daliadau.Apeliai Mr William George am i 61 p. gael eu talu trosodd i weddw y diweddar Richard Roberts, Mynytho, a'r gweddill o'r 2oop gania- tawyd iddi i'w budd-soddi a'u talu iddi hi a'i dau blentyn yn ol ip. y mis.— Caniatawyd.— Hysbysodd Mr Hugh Pritchard fod Mrs Ann Ellen Jones, Moria Nefyn, i'r hon y caniatawyd 2oop. o iawn-dal ar farwolaeth ei mab, wedi marw, ac apeliai am drosglwyddiad yr arian i'w merch. Caniatawyd yr apel. -Apeliai Mr Hugh Pritchard hefyd am i ioop. gael eu talu ar unwaith i weddw y diweddar John Hughes, Melin Edeyrn, a'r gweddill o'r tri chant ganiatawyd iddi i'w budd-soddi er mwyn y plant. Caniatawyd y cais hwn hefyd. Anghytuno.—Gwysid Ellen Thomas, Nefyn, gan Ellen Jane Cooke, o'r un lie, am enllib honedig. Gohiriwyd yr achos hyd y llys nesaf, y barnwr yn awgrymu y gellid setlo'r achos yn ang- hyhoedd, ond methodd y partion a dod i gytundeb.
IAnhawsderau Arianol Ys-I…
I Anhawsderau Arianol Ys- I golion. Yn ol yr ymdrafodaeth yn Mwrdd Llywodraethwyr Bangor, ddydd Sad- wrn diweddat, y mae ysgolion sirol yn Sir Gaernarfon, gydag un eithriad. mewn safle arianol difrifol. Dywedodd Deon Bangor, yr hwr lywyddai, fod cyflwr arianol y ddwy ysgol sirol ym Mangor yn ddifrifol. Nid oedd gan y llywodraethwyr ddirr. moddion i godi trysorfeydd ond trw.. ychwanegu fees yr ysgolion, ac yr oedc. hyny yn anmhosibl. Yr oedd eisieu 300p. yn ychwanegol i gario yr ysgolion ymlaen fel y cerid hwy yn awr. Dywedwyd fod holl ysgotion y Sir, gydag un eithriad, yn gwynebu yr un anhawsder. Dywedodd Dr. Phillips fod yr aw- durdodau sirol wedi sefydlu yr ysgolion hyn drwy yr holl sir, ac yn awr bydd raid iddynt eu cynal hwynt. --0-- j
I Gyngor Eglwysi Rhyddion…
I Gyngor Eglwysi Rhyddion Pwllheli. I I I I A RHEITHOR NEWMARKET. I .Oewn cyferfbd arbenig o Gyngor Eglwysi Rhyddion Pwllheli, a gynhal- iwyd yr wythnos ddiweddaf, sylwodd y cadeirydd, y Parch Davill Thomas, y credai nad oedd Mesur y Llywodraeth o barthed i Ddadgysylltiad yr Eglwys yr hyn ddylasai fod, ac awgrymai fod i'r Mesur gael ei roi o'r neilldu hyd nes y magai'r aelodau Cymreig daigon o asgwrn cefn i'w galluogi i sicrhau cyf- iawnder i Gymru. Wrth sylwi ar waith rheithor Newmarket yn llosgi'r Mesur dywedodd Mr Thomas fod yna lawer o benboethni gyda'r mater o'r ddwy ochr, ac fod cyflawni un weithred annoeth yn peryglu i un arall gael ei chyflawni. Ni byddai llosgi copi o'r Mesur yn effeithio dim ar gynwys a gwerth hwnw, fel y mae wedi myn'd drwy Senedd y wlad.
-o-IBarn Mr Thomas Burt, AS.,…
o Barn Mr Thomas Burt, AS., I am y Prif Weinidoiff. Wrth anerch cyfarfod Rhyddfrydol yn Northumberland nos Sadwrn diweddaf, dywedodd MrThomas Burt, A.S., fod y Prit Weinidog bob dydd yn ystod y pum' mlynedd diweddaf wedi cryfhau ei sefyllfa yn Nhy y Cyffrcdin, a chyda y Rhyddfrydwyr yn y wlad, a chreda y bydd haneswyr y dyfodol yn ei osod ymysg y Prif Weinidogion enwocat fu yn y wlad erioed.
Ei Saethu yn Ddamweiniol.
Ei Saethu yn Ddamweiniol. Hysbysir am ddamwain angeuol o Groesoswallt. Dydd Gwener aeth labrwr o'r enw William Brown, 3oain oed, gyda chyfaill iddo i saethu cwn- hingod i Rhiwlas, pedair milltir o Groesoswallt. Trwy ryw aoffawd aeth ergyd allan o wn Brown yn ddamwein- iol, ac aeth drwy ei ben Symudwyd ef ar unwaith i ysbyty Croesoswallt, a bu farw y boreu dilynol.
Tywysog Cymru a'r Eta-I teddfod.
Tywysog Cymru a'r Eta- I teddfod. Y mae ymgais yn cael ei wneud i sicrhau presenoldeb Tywysog Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sydd i'w chynal yn Mangor, y flwyddyn oesaf. Y mae Maer Bangor wedi derbyn llythyr yn cymeradwyo dymun. iad y pwyllgor, ond fod yn amhosibl i'r Tywysog roddi atebiad terfynol, gan fod ei gynlluniau ar hyn o bryd yn amhenodol.
I Tan yn .Mhwllheli. I
Tan yn Mhwllheli. I Yr wythnos ddiweddaf torodd tan allan mewn adeilad perthynol i Mr John Williams, gto-fasnachydd. Can- fuwyd y tAn gau Mr G. Cornelius Roberts, capten y frigad dAn, yr hwn rt gyrchodd y frigad ar unwaith. Gydag ymdrech ganmoladwy a chynorthw) amryw llwyddasant i arbed yr adeiladau cytagos—cedwid nifer o gerbydau modur yn un o'r adeiladau.
Advertising
Cyngor Eglwysi Rhyddion Pwllheli. Dewiswyd Pwyllgor arbenig gan y Cynghor uchod i dynu allan gyIch- lythyr i'w anfon i rieni y dref. Yn ystod yr wythnos hon dosberthir oddeutu mil o honynt yn nhref Pwll- heli. Rhoddwn yma gopi o'r cylch- lythyr crybwylledig "AT RIENI A PHkNAU TEULU- OEDD. Dymunwn yn ostyngedig, ond yn daer ac yn yr yspryd goreu, apelio atoch i wneud eich rhan i ddysgu ac i ddisgyblu y plantja'r ieuenctid yn y pethau canlynol yn arbenigiaith bur, ufudd-dod i'w hathrawon, y pwysigrwydd o ddyweyd y gwir, a bod yn onest. Credwn mai y cartref yw y He cyntaf a'r lie effeithiolaf i ddysgu y pethau hyn. Cwynir fod iaith llawer o'r plant a'r ieuenctid yn anweddus, ac fod ganddynt lawer o le i wella mewn dyweyd y gwir a bod yn onest. Cwynir hefyd fod tuedd mewn rhai ohonynt i gymeryd yn hyf ar eu hath- rawon ac yn mhellach, fod rhai rhieni yn rhy barod i fyn'd rhwng y plant a'r athrawon pan fo cerydd am gamymddwyn, a thrwy hyny beryglu eu llwyddiant yn dymhorol ac ys- brydol. Carem i'r rhieni gofio nad oes gobaith i blentyn ddringo an- rhydedd ond ar hyd llwybr ufudd- dod rhaid iddo ddysgu plygu ac ufuddhau. Nid ydym yn credu fod plant ein tref ni yn waeth na phlant lleoedd ereill-pell o hyny. Ein hamcan ydyw ceisio deffro a pherswadio pawb sydd a gofal plant arnynt, i wneud eu goreu i'w dysgu trwy gynghor ac esiampl, i fod yn bur yn eu hiaith, ac yn weddus yn eu hymddygiadau yn y cartref, yr ysgol, a phob cylch arall. Ar ran y Cynghor uchud, D. THOMAS, Uywydd. D. W. ROBERTS, Ysg. -0- Dandruff is Serious. It is a Disease Caused by Living Hair-destroying Microbes. tlnless Checked Baldness follows. Do you know that dandruff is disease, and easily contracted ? Dandruff is caused by living microbes which increase and increase until the hair begin. to fall. If not prevented, baldne" is ,to result. Don't risk baldness with its unpleasant /I'DS'-quenccs. By the daily use of.. R all "93 Hair Tonic you can tjuickly rt store your hair to a healtny condition, get rid of dandruff, and make your hair soft and glossy. The Doctor who invented Rexall "98" Hair Tonic, the Uni-e.1 Drug Co., who manufacture it, and we ourse ves, all honestly believe it to be the most scientific and efficient remedy for all scalp and hair t roubles. 2s. and 4s. a bottle. Rexall "93" Hair Tonic is one of the famous Rexall Remedies of which there is one for each of the common human ;Is. Every Kcxall Rcnudy, including Rexall Every Hair Tonic, ? sold upon Rexat) "93" gurantee: this unqualified guarantee The elUted Drti g Co., and the Rexall -SitoO sellitig this preparation, guarantee it to tfive you satis:action if it does not, go back to the &hcf> where "Oft bought it- and get your money. It belongs to you, and w. want you to have it." Rcxall "93" Hair Tonic c. -t only lie obtained from the Rexall Chcr,ias- there is ore in almost every community- Th Rexatl Chemist in Pwllheli is R. O. GRIFFITH, 69, HIGH STREET, PWLLHELI. -0-
¡Gobebtaetbau. ',.,
Gobebtaetbau. Nid ydym yn gyfrifol am ayniitdau ein gohebwyr.-GOL.
MESUR Y DATGYSYLLTIAD.
MESUR Y DATGYSYLLTIAD. SVR,-A wnewch chwi ganiatau i mi trwy gytrwng 44 YR UDGORN gywiro yr hyn a briodolir i mi mewn perthynas a'r mater uchod. Ynglyn a hanes gweithrediadau Cyngor Eglwysi Rhydd- ion Pwllheli priodolir i mi yr hyn sydd yn anghywir. Yr hyn a ddywedais ydoedd fod yna lawer o benboethni gyda'r mater o'r ddwy ochr, ac fod cyflawni un weithred annoeth yn peryglu i un arall gael ei chyflawni Pe di- gwyddai yr un peth gymeryd lie ym Mhwllheli gyda chopi o'r Mesur, ag a gymerodd le mewn lie arall, na buaswn yn rhyfeddu i rywun losgi copi o'r Llyfr Gweddi yr un pryd, oblegid nid yr un peth sydd yn gysegredig i bawb. Nid yw y capel na'r Beibl yn gysegredig i bawb. Y ni sydd yn gwneud peth yn gysegredig. Gall Mesur y Datgysylltiad fod mor gysegredig i rai ag ydyw y Llyfr Gweddi i eraill, ond ar yr un pryd ni byddai llosgi y Uyfr Gweddi yn ddifodiad i'r Llyfr Gweddi fel meddiant yr Eglwys, ac ni byddai llosgi copi o'r Mesur yn effeithio dim ar gynwys a gwsrth hwnw, fel y mae wedi myn'd drwy Senedd y wlad. Ond y mae dweyd y buaswn i yn gwneud hyny yn hollol anghywir, ac yr wyf yn dweyd hyn nid am fod arnaf ofn neb, ond er mwyn cywirdeb a gwirionedd. Ebrill isfed. D. THOMAS.