Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION. !

Hunanladdiad yn Mhenygroes.…

News
Cite
Share

Hunanladdiad yn Mhen- ygroes. I CANLYNIAD CHWEDLAU. I Ddydd lau diweddaf bu Mr. O. Robyns Owen, y Crwner tros Ddeheu- barth Sir Gaernarfon, yn cynal teng- holiad yn Mhenygroes o barthed i farwolaeth dyr.es briod o'r enw Jane Ann Williams, 51, Heol Fawr, Pen- ygroes, yr hyn gymerodd le y dydd Ma wrth blaenorol. Dywedodd Owen Williams, gwr y drancedi,iddo adael y ty y prydnawn gyda'i eneth fach gan fwriadu mynd i Dalysarn Yr oedd ei wraig, yr hon ymddangosai yn llawen iawn, wedi addaw ei ddilyn. mhen rhyw haner awr cafodd achlysur i fynd yn ol i'r ty, a phan aeth i'r cetn cafodd ei wraig yn hongian yno gerfydd rhaff, ac yn hollol farw. Dywedodd Griffith Williams fod y drancedig yn boenus iawn ei meddwi yn ystod y pythefnos diweddaf yn her- wydd y taenid stori drwy yr ardal, ac fod rhai yn ei henwi hi ynglyn a'r helynt Gofynodd hi iddo ddwywaith a oedd wedi clywed rhyw son yn ei chylch hi. Nid oedd ucrhyw fath o sail i unrhyw chwedl am dani, gan ei bod yn ddynes ieuanc o gymeriad dilychwin ac o ymddygiad rhagorol. Nis gwyddai beth a'i eryrodd i gyflawni'r anfadwaith, os nad y straeon ffol ac anwir a daen- wyd yu ei chylch. Dywedodd Dr. Shelton Roberts y deallodd oddiwrth ei gwr fod y ddynes yn poeni yn herwydd y chwedlau oedd yn yr ardal. Yr oedd yn ei hadwaen yn bersonol, a bob amser yn ei hystyried yn ddynes ieuanc o gymeriad disglaer. Dywedodd y Crwner ei fod yn beth gofidus iawn fod chwedlau enllibus wedi eu taenu yn y pentref ynghylch Mrs. Williams, yn erbyn cymeriad yr hon oid oedd dim i'w ddweyd. Yr oedd tuedd mewn pobl, meddai, i ddweyd y gwaethaf am y naill a'r llall Dylai pobl ag oedd yn byw mewn pentrefi bychain gadw eu tafodau yn ilonydd. Yr oedd Mrs. Williams yn ddiameu yn ddynes ieuanc o gymeriad rhaiiorol, ac nad oedd rithyn o sail i'r chwedlau yn ei chylch. Pasiwyd rheithfarn i'r perwyl iddi gyflawni hunanladdiad tra yr oedd mewn cyflwr o wendid meddytiol, a phasiwyd hefyd bendertyniad llym yn erbyn yr arfer cywilyddus o daenu I chwedlau disail am bersonau oiniwed.

-v - Erchyllderau Rhyfel.…

Ystranciau'r Suffragettes.

Liosgilr Bil Cymreig. I

,Yr Un Stori Eto. t

-v - - Undeb Ysgrolion Annitynwyr…

Dedfryd Mrs. Pankhurst.

Merlyn y Slpslwn.

-0 Geneth wedi colli el Chof.

-u-Marw Cerddor Enwog,

Advertising