Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Advertising

) PWLLHELI.

IABERERCH

CIIWILOG.

News
Cite
Share

CIIWILOG. CLADDEDIGAETH MR. EVAN JONES, PLAS.—Cymerodd hyn le prydnawn ddydd Mawrth diweddat, y 4ydd cyfisol. Wrth y ty cyn cychwyn darllenwyd rhan o'r Ysgrythyrau gan y Parch. T. Wil- liams, Capel Helyg, a gweddiwyd gan y Parch. E. T. Evans, Morfa Nefyn. Yna aed yn orymdaith i'r capel lie y cynhaliwyd gwasanaeth angladdol o dan lywyddiaeth y gvveiaidog, y Parch. Morgan Price. Cyflawnwyd y rhanall arweiniol trwy i Mr. Owen Hughes, Rhosgill Bach, ddarllen, ac i'r Parch. W. Ross Hughes, Borthygest; arwain mewn gweddi. Wedi cael anerchiad gan y gweinidog, yr hwn a ddywedodd fod nifer fawr o lythyrau yn amlygu cydymdeimlad a'r teulu wedi eu derbyn, siaradwyd yn mhellach y gan y Parchn. H. Davies, Abererch J. Uavies, D.A. (Isfryn), ficer Llanarmon D. Griffith, Bethel, Arton; T. Alun J ooe, Chwilog; W. J. Nicholson, Porthmadog, a Mr. William Roberts, Glan'rafon, Nefyn. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. R. W. Jones, Cilgwyn. Wrth y bedd, yn mynwent anenwadol Chwilog, darllen- wyd a gweddiwyd gan y Parchn. James Davies, Llithfaen, a J. Rhydderch, Pwllheli. Yr oedd yr holl wasanaeth ynglyn a'r cynhebrwng yn deimladwy, effeithiol, ao yn cael ei nodweddu gan urddas mawr. Daeth torf anghyffredin o luosog o oreugwyr gwlad Lleyn ac Eifionydd, perthynol i bob enwad a phlaid, i dalu y gymwynas olaf i un a fu am flyddau lawer yn amlwg iawn gyda phethau deufyd. Bymtheng mlyn- edd i'r mis hwn, yn yr un fynwent, y rhoddwyd gweddillion marwol y Parch. D. S. Jones, awdwr y cofiant tra gwerthfawr hwnw i Williams o'r Wern. Wele erbyn hyn yr hyn oedd bosibl ei gladdu o'r diacon ffyddlon wedi ei roi i orphwys yn naear yr un Erw Duw ag y gorweddai tlwch yr anwyl weinidog. Cariadus ac anwyl oeddynt yn eu byw- yd, a dyma fedd y naiU a'r llall yn yr un llecyn. Fe gofir am amser maith yn Chwilog am gynhebrwng Mr. Evan Jones. Y Duw a'i rhoes ef a all roddi eraill tebyg iddo i lanw y bwlch. Yr Arglwydd a fyddo yn dirion iawn wrth y weddw a'r plant, ac wrth eglwys Siloh a'i gweinidog. Mr. W. Anthony, Pwll- heli, oedd yr Undertaker.

LLANNOIi!

LLITHFAEN !

-0- ! PENRHOS. I

IuRHIW. -.9! I ?, - - 'i -..…

IEisteddfod Pwllheli, Gwyl…

Bwrdd GwarcheiiwaidI Pwllheli.

11,000p. o Feichi,,,fon.1

.3Bart)Doniaetb.I

Cwmni Yswiriol y Pearl.

Cyfarfod Ysgollon M O. Dosbarth…

(Bobebtactbau.

GWASTRAFF Y CYNGHOR TREFOL

Advertising