Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION.

News
Cite
Share

NODION A HANESION. Marw'r Parch. Edward Parry, Prenteg. Ddydd Mercher diweddaf, yn nhy ei • dad-yn-nghyfraith yn Birkenhead, bu farw y Parch. Edward Parry, Prenteg, yn 42ain mlwydd oed. Yr oedd yn wael er's amser maith. Genedigol o Brestatyn oedd yr ymadawedig. Ar dertyn ei efrydiaeth yn Ngholeg Duw- inyddol y BaK cymerodd ofal eglwysi Llansilin a Cefn cano), ac wedi gwein- idogaeth lwyddianus yno am rai blyn- yddau symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Nhreffynon, sef Babell a Carmel. Yr oedd yn ngofal eglwysi Horeb a Prenteg er's deunaw mis. + Helbulon Ficer. Y mae ficer yn sir Fynwy mewn cryn benbleth, yn herwydd fod y clochydd- ion a'r cor allan ar streic yn ei erbyn. Dechreu yr helynt oedd i anghydlod gymeryd lie rhwng y ficer a'r torwr beddau, yr hwn oedd yn y swydd er's deng mlynedd ar hugain. Rboes y ficer rybudd i'r torwr beddau na byddai eisieu ci wasanaeth mwy, os na byddai iddo ymddiheuro am yr hyn a gymer- odd le rhyngddynt. Ni wnai y torwr beddau unrhyw ymddiheurad, ac aeth y clochyddion a'r cor ar streic os na chai ei roi yn ei ol yn y swydd yn ddiamodol. Marw Gweinidog Hynaf Cymru. Odydd lau diweddaf bu farw y Parch Benjamin Hughes, gweinidog gyda'r MethoJistiaid Calfinaidd yn Llanehvy, yr hwn, meddir, oedd y gweinidog hynaf yn Nghymru oedd yn pregethu- yr oedd yn 92 mlwydd oed. Ni eiai byth i dren os y gallai gerdded ac er ei tod mewn oedran mawr yr oedd cryn alwad am dano fel pregethwr. Nid i oedd odid i Sul yn pasio na byddai yn pregethu foreu a hwyr ac yn arwain yr Ysgol Sul yn y prydnawn. > Dim Streic ar y liheilftordd. INi chymer streic le ar reilffordd y Midland, gan fod y gweithwyr a'r cyf- arwyddwyr wedi ymheddychu yn her- wydd fed y guard Richardson wedi cael ei le yn ei ol. Penderfynodd y cyfar- wyddwvr fod y rheoiau yn cael eu hystyried a'u diwygio fel na byddo i gyffelyb amgylchiad fod yn bosibl eto. Rhoi ei Bywyd tros y Plant. Yr wythnos ddiweddaf cafodd nyrs ei lladd ar un o heolydd Llundain trwy i gerbyd redeg trosti. Bu agos i ddau blentyn oedd dan ei gofal gael eu lladd yr un modd, ond gallodd hi arbed eu byvrydau trwy aberthu ei bywyd ei hun. Hunanladdiad ar fln Priodi. Yr wythnos ddiweddaf cafwyd dyn ieuatic o Abertawe, o'r enw William Stanley Pettican, yn farw yn ei ystatell- wely, )chydig oriau cyn yr adeg yr oedd ei briodas i gymeryd lie. Wedi cyflawni hunanladdiad yr ydoedd, a dywedodd heddgeidwad yn y treng- holiad i'r trancedig addef wrtho ei fod bron tori ei galon wrtb feddwl am adacl ei fam. Pan yaed el yn tarw yr oedd darlun oï ddarpar wraig yn ei Jaw. Diane o Garchar Pan oedd Samuel Robertson yn cvm- ysgu calch gyda charcharorion eraill y tuallan i garchar Dumfries, ddydd Mawrth diweddaf, gvvtlwyd ef yn sydyn yn gollwng ei raw ac yn ffoi. Bu yr heddgeidwaid yn ymchwil am dano am ddau ddiwrncd. Ddydd Iau daliwyd ef rhwng Dalbeatie a Chastell Douglas. Wedi maith Flynyddau. Pan yr oedd geneth yn cerdcted ar hyd y traeth yn DeanviMe, cafodd fod- rwy yn y tywod, a'r enwjiu a ganlyn wedi cu tori arni =.-J. de Beaumond a Charlotte Laboulaye, ynghyda'r dydd- iad, Mawrth 24ain, 1892. Yr oedd y lodrwy yn perthyn i'r Fonesig de Beaumont, yr hon a'i collodd w-th ymt drochi pan ar ei mis mel ugain mlynedd yn ol. Pw ylb i'r Beirdd Dyvved y Parch. R. J Campbell nad yw petliiiu ysbrydol yo dylanwadu dim ar y greadigaeth ddireswnt. Nid yw y I ci yn gweddio, meddai, ond ar ddyu ac nid yw yr adar yn canu inawl i Dduw, or yr oil a ddywed y beirdd i r) gwrthwyneb. I Tan yn Mhortbmadog. Oddeutu tri o' gloch fo-eu Gwener diweddaf torodd ian jllan mewn adeilad yn Snowdon Street, Porthmadog. Def- nyddid yr adeilad fel storws gan amryw gwmniau. Er gwaethaf ymdrechion y tan-ddiffoddwyr llosgwyd yr adeilad yn llwyr, a dinystriwyd gWelgeni, cerbyd- au, tryciau, a chwch modur, y rhai a gedwid yno. Gwnaed cryn niwed hefyd i dy oedd ynglyn wrth yr adeilad, ond diangodd y bobl oedJ ynddo yn ddianaf. Dau ar Bymtheg mewn Bwthyn. Wrth ddilyn ei ymchwiliadau o dan Ddeddf y Tai daeth arolygydd Cyngor Gwledig Dinhych ar draws bwthyn to gweJlr, bychan ac afi ich, ac ynddo gymaint a dau ar bymtheg o bersonau yn triyo + Iachawdwriaeth trwy Lun. Nos lau di weddaf dangosid darluniau symudol yn yr Hippodrome, Buxton, a chyn i'r darlun Or Preseb i'r Groes" 1 gael ei roi ar y canfas aeth y Ficer, y Parch. Scott Moncreiff, ar y llwyfan, a dywedodd wrth v cynulliad y dylent ystyrled yn ddifrifit y darlun oedd i gael ei ddangos iadynt, a chofio eu bod yn mhresenoldeb Mab Duw. Nid oedd- ynt i edrych ar y llun hwnw fel ag y i gwnaent ar luniau eraill, gan ysmygu, bwyta melusion, a chwerthin a chell- wair. Peidiodd y dynion oedd yn y lie ag ysmygu ar unwaith, ac aeth y lie yn hollol dawet. Wedi hyny gweddiodd y Ficer, gan ertyn am i Dduw wneud y darlun yn gyfrwng iachawdwriaeth i'r cynhulliad, ac yna dangoswyd y darlun. Cwymp o Fil o Droedfeddi. Ddydd Mercher, cyfarfu Geoffrey William England a damwain angeuol gyda'i awyrlong. Yr oedd yn rhoddi prawf ar un o bedair o awyrlongau oeddynt i gael eu hanfon i Roumania, ac yr oedd v tywydd yn bur ffatriol i'r ehediad. Yn fuan esgynodd England i uchder o bum' mil o droedfeddi, ac wedi bod yn ehedeg am ychydig dros haner avvr gwelid ei fod yn parotoi i ddisgyn. Pan oedd wedi dod i lawr hyd o fewn mil o droedfeddi i'r ddaear gwelid ci fod mewn penbleth gyda'i beiriant, ac yn fuan troes yr awyrlong ar ei hochr, a disgynodd i lawr fel carreg. Yr oedd England o dan y peiriant, a i goesau wedi eu malurio, ac asgwrn ei benglog wedi cracio. ramwainin Nghaernarfon. Cafodd Mrs Green, gwraig oedranus o Lanwnda, ei niweidio mor ddifrifol gan fodur ar un o heolydd Caernarfon ddydd Sadwrn fel y bu raid ei chymeryd !'r ysbvtty. Dynes Sychedig. Yn Llandudno, yn hwyr nos Sadwrn, torodd dynes ffenestr siop groser a werthai ddiodydd meddwol, a chymer- odd oddiyno bedair potel yn llawn o wirod. Yfodd dri chwarter lond potel o whisci. Hunanladdiad yri Llandudno. Ddiwedd yr wythnos ddiweddaf cyf- lawnodd dyn ieuanc yn Llandudno, o'r enw John Edward Hall, hunanladdiad trwy gymeryd gwenwyn. Garddwr oedd y trancedig, a phrydnawn Sul aeth am dro i'r ardd, ac ymhen ychydig aeth ei dad yno ar ei ol, a chafodd ef yn gor- wedd mewn poenau ar lawr, a chariodd ef i'r ty. Dywedodd y mab ei fod wedi yfed rhyw sylwedd oedd ganddo at ladd chwyn, a gofynodd i'w dad faddeu iddo. Yna aeth yn anymwybodol. Galwyd meJdygon ato ar unwaith, ond methwyd ag arbed ei fywyd. Damwain Arswydus. Yo melin John Yates a'i Gwrnni, ddydd Sadwrn diweddaf, sylwodd y goruchwyliwr fod un o'r peirianau wedi stopio'n sydyn, ac aeth i edrych beth oedd y mater. Er ei ddirfawr fraw gwelodd fod y gyriedydd wedi syrthio i'r peiriant ac wedi cael ei dynu'n ddarnau. Trwy i'r darnau fyned i't olwynwaith y stopiodd y peiriant. Marw Capten Stewart, Bangor. Nos Sadwrn diweddaf, wedi cystudd maith, bu farw Capten N. P. Stewart, Plus Lodwig, Bangor, yr hwn am ddeng mlynedd ar hugain tu yn gynrychiolydd ystad Mr A'ssheton Smith. Yr oedd yr ymadawedig yn 76 mlwydd oed, a gedy o'i ol weddw, dau fab; a thair o lerched. Dedfryd Marwolaeth. Yn Mrawdlys Leeds, ddydd Llun diweddaf, gwrandawyd y cybuddiad yn erbyn Walter Sykes, llafurwr, 26ain mlwydd oed, o fod wedi llofruddio dwy eneth fach, y nai!i yn ddeg a'r llall yn saith mlwydd oed, yn Rolherham, ar y J5fed o Dachwedd diweddaf. Yr oedd b) kes wedi addef wrth yr heddgtidwaid m-ii efe a'u llofruddiodd, ond gwadodd dr..chefn. Tystiwyd yn y llys y gwelwyd Sykes yn siarad hdo un o'r genethod b,it:i ychydig cyn yr adeg y caed hwy we. i cu llofruddio Cafodd y rheithwyr yc-t charoryn euog, a dedfrydwyd ef i giicl ei golii. > ir Boreu Llun diweddaf caed William John Williams, 4-as yn Nhy Mawr, ger Caergybi, w di ymgrogi yn yr ysgubor.

Chwythu Agerlong Brydeinig…

-,-v - Pwllheli a Chaernarfon.…

Y Suffragettes Eto. !

ICreulondeb at Fuwch. I

ETHOLIADAU'R OYNGOR SIR.

Advertising

U ICyfarfod Misol Lleyn ac…

Ag-oriad y Senedd.

Advertising