Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

I AT EIN GOHEBWYR. I

INODION A HANESION. I

Pedwar Llofrudd i'w Colli.I

News
Cite
Share

Pedwar Llofrudd i'w Colli. I DYHIROD ARSWYDUS. I Yr wythnos ddiweddaf, ar ol parhau am dair wythnos. dygwyd i derfyn y prawf ar y dyhirod hyny a achosent gymaint o traw a dychryn yn Ffrainc, trwy lofruddio ac ysbeilio. Y mae pedwar o honynt wedi eu dedfrydu i'w colli, a chymerodd eu harweinydd wen- wyn yn y llys pan glywodd mai penyd wasanaeth am ei oes oedd ei ddedfryd. Ni fu yn ystod y ganrif y fath anfad- waith ag a gyflawnid gan y dyhirod hyn. Priodolir iddynt lofruddio ugain o bersonau mewn ychydig fisoedd, ac y mae saith o'r llofruddiaethau wedi eu profi yn eu herbyn. Ddechreu'r flwydd- yn 1911 saethasant negesydd o ariandy yn farw ar yr heol, a lladratasant oddi arno werth fg.ooop. o arian-nodau. Wedi hyny diangasant mewn cerbyd modur oeddynt wedi ei ladratta. Bryd arall aethant i dy hen foneddwr, llof- ruddiasant ef a'i was, a lladratasant oddiyno i,6oop. Ddechreu'r flwyddyn ddiweddaf ataliasant gerbyd modur ar y ffordd. Saethasant y gyriedydd a'i gydymaith. Gyrasant yn y modur i dref Chantilly aethant i'r ariandy, saethasant ddau o'r clercod yn farw, ac ysbeiliasant 2,ooop. -Unwaith ataliodd heddwas eu modur pan yn gyrru trwy Paris, ond saethasant ef yn gorff ar un- waith. Yr oeddynt hefyd wedi llefruddio M. Jouin, prif gudd-swyddog Paris.

Cerbyd Modur yn Diflanu. I

IYmrysonfa Aredig Dyffryn…

I Cyn?or Sir Meirion.! i

ITan Difrifol yn Sir Gaer-…

Marw Mr John Cottrell.-I

- - %.I - Damwain Doet yn…

Cyngor Trefol Pwllheli.

-o - Rhal ffelthlau ynglyn…