Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

PWLLHELI. t

EFAILNEWYDD. I

- PENB HOS.I

--RHIW. I

I LLANBEDKCG A MVN-I I YT…

Mrs Pankhurst yr. y Ocfalfa.

News
Cite
Share

Mrs Pankhurst yr. y Ocfalfa. Cymerwyd Mrs Paokh rst i'r ddalfa ddoe, ddydd UlIO, yn Liundain, a dygir hi o flaen heddlys Epsorr heddyw mewn cysyiltiad a'r ymgais i duinystrio ty Mr Lloyd George. Y cyhuddiad ffurfiol ddygir yn ei herbyn fydd iddi ar y igeg o Chwefror, 1913, gynghori a sicrhau personau arbenig, y rhai nad yw eu henwau yn hysbys, i roi pyior a flfrwydr- belenau mewn adeilad arbenig yn \Val- ton Heath, gyda'r bwruid anghyfreith- Ion o wneud niweid i'r rdeilad dywed- edig hwnw, yn groes i L deddt" Niueid- iau Maleisus i Eiddo, 1861. Cymerwyd hi i'r ddalra ychydig cyn yr amser yr oedd i anerch cyfarfod o Undeb Politicaidd y Merched, a phan wnaed yn hysbys yn y cyfarfod ei bod yn y ddalfa bu yno gryn helynt Nid oedd ond ychydig gyfeillion yn gwybod ymhle yr arhosai Mrs Pank- hurst, ond er's peth amser yr oedd ei chyfeiriad yn hysbys i'r heddlu, a chedwid gwyliadwriaetb fanwl gan gudd-heddweision ar y lie y trigai. Nid oedd ond Miss Kenney yn aros gyda hi yno. Ychydig wedi dau o'r gloch gadaw- odd Mrs Pankhurst ei hystafell, ond daeth yn ol yn bur fuan gan awgrymu y gvvyddai fod yr heddweis yn dyfod. Ymhen ychydig funudau hysbyswyd fod tri boneddwr eisieu gweled Mrs Pankhurst Gwnaethant yn hysbys eu neges, ac arhosasant nes i Mrs Pank- hurst ymwisgo yn barod i'r siwrnai. Gadawyd i Miss Kenney fynd gyda'i chyfeiilles i Scotland Yard Yno dangoswyd pob syberwyd tuag at y garchares, a daeth llu o'i chyfeillion yno i edrych am dani. Dy wedodd wrth Mrs Massey, un fu yno yn ei gweled, y disgwyliai gael ei chymeryd i'r ddalfa ac os y gadawent iddi y byddai iddi newynu ei hun i farwolaeth. Cymerwyd y gareharcs o Scotland Yard drachefn mewn modur i Leather- head, ac wedi cyraedd yno cafodd ei chyhuddo yn ffurfiol, ond ni wnaeth unrhyw atebiad i'r cyhuddiad. CYFARFOD CYTHRYBLUS. Yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynull yn y London Pavillion i ddisgwyl Mrs Pankhurst i anerch, ac yr oedd yn amlwe: oddiwrth y cynhulliad fod no amryw o rai oeddynt yn teimlo yn an- ffafriol i'r merched. Pan wnaed yn hysbys fod Mrs Pankhurst wedi ei chymeryd i garchar bu yno gynwrf gwvllt. Bloeddiai rhai eu cymeradwy- aeth ac ereill -1 Cywilydd." Bu Miss Kenney, yr hon a lywyddai, am ysbaid hir cyn cael gwra.dawiad, a phan god- odd Mr Lansbury ar ei draed bu yno fwy o derfysg fyth. Cofir iddo setyll etholiad ar gwestiwn yr etholfraint i ferched, ac iddo golli'r sedd. Bloedd- iai rhai yn y cyfarfod i'r Mnig ddynes a phleidlais ganddi bleidleisio yn ei crbyn ef. Ni chafodd ddweyd nemor d'dim, I a therfynodd y cyfarfod mewn anrhefn. --0-

Damwain mewn Glofa.

Goleuni ar Ddl gelwch.

Damweiniau gyda Modur. I

I Y Terfysg yn Mexico.

Damwain i Mr F. E. Smith.

Manion. I

J JBarfcfcomaetb. I

Advertising