Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Advertising

PWLLHELI. t

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PWLLHELI. t •LLYHOKDDIADAU SABBOTHOL— Maw. 2. Poulan (A), am 10 a 6, Parch J. Rhydderch, (iweioidog. Capel Seianig (A.) Cardiff Road, am 11 a 6-30, Parch D. W. Roberts, Gweinidog. Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch J. Pule- atltl Jones, Gweinidog. Salem (M.O.). am 10 a 6, Parch John Hughes B.A., B.D, Gweinidog. Capel Seixntg (M C.) Ala Road am 11 a 6-30, Parcn John Evans, Gweinidog. Tabernaol (B.), am 10 a 6, Parch Henry liees, Gweinidog. Hen Gapel y Bedvddwyr North Street, am 2, Yagol. Yagol Geohadol (M.C.). 1,4&tid Street, am 10 Cyfarfod Gwvddi am 6, Ceridwen Peris. Vagol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi; am 2, Ysgol. South Beach (M.C.) am 2, Parch John Fvaus, Llannercb. Tunis (M.C), am 10 a 6, Parch John Kvaos, Llaonerch. Saion (W.) am 10, Mr John Williams, Rhiw; am 6. Parch W. o. Hughes, Criccieth. St. Pedr, 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Puroh. J. Edwarda, B.A., Ficer, a'r Parch. T. Woodiaga, B.A., Curad. Ccnhadaeth LydewlJl North Street, B.G., am 10-30, Offeren Sancta dd, am 2, Yøgol; am 6-30 Pregeth Gymraeg gao y Parch P. Meroar, benedichiwn LLWYDDIANT. Llongyfarchwn Mr Willie Hunter, mab Mr a Mrs Hunter, Salem Terrace, ar ei apwyntiad yn Arolygydd Morwrol o dan Fwrdd Masnach. DAMWAIN.—Ddydd Mercher diwedd- af, cyfarfu Mr. Tom Wiiliams, y Maes, a damwain dost yn yr Orsaf. Yr oedd yn Uwytho nwyddau i'w gerbyd, a rhywfodd syrthiodd i lawr o ben y Ilwyth. Cafodd niweidiau tost i'w ben, a'i asenau, a manau ereill. Disgwyliwn iddo adferiad buan. CYMDEITHAS LENYDDOL Y TABERNACL. —Nos Wener diweddaf, o dan lywydd- iaeth Mr. R. Gwynedd Evans, cafodd y Gymdeithas eu difyru gan Homo yn adrodd hanes ei daith i Enlli, lie y bu yn aros am chwech vvythnos. Yr oedd y darlithydd mewn hwyliau, a'r cynhull- iad yn ei fawr fwynhau. Cafwyd gair hetyd gan Mri R. Roberts, D. Thomas, a Mrs Morgan Evans. CAFE CHANTANT. -Nos lau diweddaf, o dan nawdd Cor Undebol y dref, cyn- haliwyd yr uchod yn y Neuadd Drefol. Dacth uifer luosog ynghyd i fwynhau'r danteithion. Catwyd caneuon a chys- tadleuaethau, ynghyd a pherfformiad gan gwmni dramayddol St. Pedr, yn ystod y cyfarfod. Yn ddiweddarach bu amryw yn dawnsio ac yn chwareu cardiau. Elai yr elw at y berdoneg. PRIOL)AS.-Boreu Mercher, Chwefror i;afed, yn Nghapel Moriah, Porthdinor- wig, priodwyd Mr John Jones, Bryn- arlais, ac o Swyddta'r "Genedt," Caeruarton, gyda Miss Maitha J. Humphreys (gynt o Hirwaen House, Pwllheli), ac ail ferch y diweddar Mr a Mrs William Humphreys, Dora Street Porthmadog. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. D. Stanley Jones a D. Hoskins, M.A,, Caernar- fon. Eiddunwn i Mr a Mrs. Jones hir oes a phob hapusrwydd yn eu bywyd newydd. CYMDEITHAS LENYDDOL SOUTH BEACH. —Nos Lun diweddaf darllenodd Mr. William Hughes, Bungalow, bapur rhagorol yn y gymdeithas hon ar y di- weddar Barch. Joseph Thomas, Carno. Rhoddodd y papur fwynhad neillduol i'r aelodau fel ygwna papurau Mr. Hughes bob amser. Gwnaed sylwadau pellach gan j Mri. T. H. Rowlands, Owen Tones; John Williams, John Jones, D. E. Davies, J. T. Owen, a Mrs. Davies. Ltywyddid gan Mr. John Robinson, 'a phasiwyd diolchgarwch i Mr. Hughes am ei bapur. CYMDEITHAS LKNYDDOL PENLAN.— Nos Wener diweddaf o dan lywydd- iaeth y Parch J. Rhydderch, darllenwyd papur rhagorol ar Fanion Bywyd," gan Mrs Wallis Thomas, o Westy'r Gwalia. Yr oedd y papur yn arddang- os ol llafur mawr, ac ymdriniodd Mrs Thomas a'r gwahanol bwyntiau mewn anodd meistrolgar. Pasiwyd diolch- garwch gwresocaf i Mrs Thomas ar gynygiad Mr Evan Jones, Caerhydd- erch, yn cael ei eilio gan Mrs W. Windsor Jones, Morwylfa, a'i ategu ^an Miss M. E. Evans, New Street; Mrs J. Rhydderch Mri Robert Davies, Ash Cottage John Ellis, New Street Richd. Jones, ArgraffydJ a'r Llywydd. VCYMDEITHAS Y MERCHED lEUAINC. ? s Fercher, yn Festri Capel Ala Road, ?y?liwyd cyfarfod amrywiaethol o'r U th Yn ychwanegol at y gwn:ad- NF*» canwyd ac adroddwyd gan M'? Thongs. J. Williams, J. b t omas,. I lams, M'fe ?, • Griffiths, M. Sampson. J. ^°. .g n t 5, apson, ?ghJ?"B.Jc-.a r v ?otyowyd amryw gwest- lyna? a Y *T Gorchymyn gan Mrs pav?s, a c .'vd atèbion ^wir ?M?rs Rhoddwyd anogaeth daer ar i'r aelodau -fyned i'r Neuadd nos Fawrth i wrando ar Miss Pherry yn anerch ar Fasnach Caethion Gwynion ( White Slave Tmjiic I Di Neddwyd gan Mrs Thomas. Cafwyd cyfarfod neillduol o dda. CYMDEITHAS LENYDDOL SALEM —Nos Wener diweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch John Hughes, B.A., B. D. cafwyd dadl ddyddorol ar A ddylai holl swyddi yr eglwys fo yn agored i ferch- ed." Agorwyd ar r ochr gadarnhaol gan Mr Lloyd Ellis, Minydon, ac ar y nacaol gan Miss Francis J. Griffith, Factory. Cymerwyd rhan ymhellach gan y Mri John Rowlands, Maes Apar- ies; Maxwell Murray, Gaol Street; J. Griffith Jones, Salem Crescent; Samuel Jones, Clark Terrac Robert Murray, Church Place Mi. s Williams, Nant Temperance, a Mii-s Williams, Artro. Wedi rhoddi y ma 2r i bleidlais caed fod y ddwy blaid yr gyfartal, a rhodd- odd y llywydd ei bleidlais o blaid y cadarnhaol. TEML SOAR.-N.s Fercher diwedd- af, am 7-30 o'r gl* ch, cynhaliwyd yr uchod yn festri Pei mount Pasiwyd i gael swper wythm .3 i ddydd Mercher nesaf, sef y 5ed 1 Fawrth. Hefyd derbyniwyd brawd i chwaer yn aelod- au newyddion o'r Demi, a rhoed derbyn- iad croesawgar idciynt gan y Mri R. Jones, Penrhydlynicg; William Morris, Sand Street, a Mr*. Hughes, Gadlys Catwyd adroddiad penigamp gan Mr John Robinson, South Beach. Nos Fercher nesat, am 7-15 o'r gloch, cyn- helir cyfarfod dirvestol arbenig yn festri Penlan, pryd y gwasanaethir gan yr areithydd amrycdawn Plenydd, a'r canwr gwetreiddioi Mr Sam Jenkins. Gwahoddiad cynes i bawb, ac ni fydd neb a ddaw ar ei go led.-YSG. LLYFR COCH HIERGEST.Dynia oedd testyn darlith Miss Muriel Price, B.A., athrawes yr Ysgol Ganolraddol, yn Ysgoidy South Beach y noswaith o'r blaen, pan y Hywyddai y Parch. D. E. Davies. Er noswaith ystormus caed cynulliad parchus, a darlith y buasai yn deilwng i'r adeilad mvyaf yn y dref fod yn llawn i'w gwrandaw. Gwnaed syl- wadau pellach ar y testyn a'r ddarlith gan Mrs. D. E. Dax-ies, Mri. D. Lloyd Humphreys, J. Robnson, J. T. Owen, John Jones, y llywydd, &c. Datganwyd diolchgarwch y cyfi fod i Miss Price,- a gwahoddiad iddi 1 ddyfod i draddodi araeth arall yn fuan. Datganai amryw ofid na byddai yn bosibl cael ieuengctyd y dref i gymeryd nuvy o ddyddordeb mewn materion fel hwn. i --0--

EFAILNEWYDD. I

- PENB HOS.I

--RHIW. I

I LLANBEDKCG A MVN-I I YT…

Mrs Pankhurst yr. y Ocfalfa.

Damwain mewn Glofa.

Goleuni ar Ddl gelwch.

Damweiniau gyda Modur. I

I Y Terfysg yn Mexico.

Damwain i Mr F. E. Smith.

Manion. I

J JBarfcfcomaetb. I

Advertising