Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

Advertising

NODION A HANESION.

Dat& /sylltu'r Erlwys.

At diad Pwllheli.

Llefrit-h Ami-isr,I

Y Suffra -.,ettes a'r Y ;grythyr

Llys y Man-Ddyledion, Pwll,heli.

— — o —— Arddangosfa Amaethyddol…

Ysgwner yr 3udd?.I \.J —.-I

I Llys Trwyddedol Pwllheli.…

!Lloyd George a'i Feirnte…

Rhai ffeithiau ynglyn a doohreuad…

News
Cite
Share

Rhai ffeithiau ynglyn a doohreuad yr achos Methodistlidd yn nhref Pwllheli a'r Cylch. [Papur a ddarllenwyd mewn cyfarfod ym M henlan, yn rhoddi hanes dech- reuad Ymneillduaeth ym Mhwllheli j a'r Cylch, gan y Parch. T. Williams, The Elms, Pwllheli J. Dechreua banes y Methodistiaid yn y rhanbarthau hyn gyda dyfodiad y Parch Howell Harris i'r Sir yn y flwyddyn 1 74 1. Y lie cyntaf a gafodd yr anrhyd- edd o groesawu y gwron hwn cedd Glasfryn Fawr, ger Pencaenewydd, lie y preswyliai y duwiol a'r etnvog Wiiliam Prichard, yr likt-n oedd yn aelod ffydd- lawn yn eg I wys Penlan. Yr oedd yro hefyd un o'r enw Jenkin Morgan o Sir Gaerfyrddin yn cadw ysgol ac yn pre- gethu yn achlysurol. Gwnaeth Mr. Harris ymgais i bregethu yno, ond rhwystrwyd ef gan dorf o erlidwyr oedd wedi dod i aflonyddu arno, gyda Pher- son y plwyf yn arweinydd arnynt. Ymadawodd oddiyno ar nos Sadwrn, a daeth i Bwllheli Dranoeth, sef boreu Sabboth, gwnaeth ymholiad yn mha le yr oedd y pregethwr goreu yn y gym- )-do-aeth. Hysbyswyd ef mai yn Eglwys Llannor, sef y Canghellor Owen o'r Goetref Pan gyrhaeddodd Mr. Harris Eglwys Llannor yr oedd y Person ar ganol pregethu. Ei destyn oedd yr Heretic oedd yn y wlad. Desgrifiai ef fel cenad Satan a gelyn Duw a dyn. Cyhuddai ef o fod yn dwyllwr a gau brophvvyd, ac o fod yn waeth na'r diafol, a chyfarwyddai ei wrandawyr pa todd i ymddwyn tuag ato os y deuai byth i'r gymydogaeth. Ar derfyn y moddion aeth Mr. Harris at y pregethwr i ym- ddiddan ag ef ynghylch y bregeth, ac ynglych codi ysgolion Cymreig yn y wlad. Trwy yr ymddiddan hwn daeth y gynulleidfa i ddeal! mai efe oeJd y dyhiryn oedd yn cael ei ddarlunio yn y bregeth. a dechreuasant ymosod arno yn ddidrugaredd yn ol cyfarwyddid y Person. Ond llwyddodd i ddianc ym- aith o dan gawod o geryg. 0 Lannor aeth i Ty'nllan, Llanfihan- gel, ger Rhydyclafdy, lie yr oedd torf o bobl yn ei ddisgwyl. Yn y dorf yr oedd un boneddwr wedi dod yno gyda'r owr- iad o'i saethu, ond blinodd yn disgwyl, ac aeth adref am ei giniaw. Pregethodd Mr. Harris ar gareg farch gerllaw'r fynwent. Ei destyn oedd "Deled dy deyrnas," a chafodd oedfa rymus. Yr oedd yno ddynion cryfion yn wylo ac yn lletain am eu bywyd. Hon oedd y bre- geth Fethodistaidd gyntat a draddod- wyJ yn Sir Gaernarfon. Y mae y gareg y safai Mr. Harris arni pan yn traddodi ei bregeth o flaen capel Rhydyclafdy yn awr. Yr ydym yn gadael Howell Harris yn y fan hon gan ei fod yn myned allan j o'n cylch, gan ddychwelyd yn ol i'r dref hon. Fe fu Pwllheli am 25aiii mlynedd heb yr un setydliad Methodistaidd ar ol dytodiad Howell Harris y tro cyntaf i'r wlad. Awgrymir fel un rheswm am hyn y ffaith fod gan yr Annibynwyr j achos yn y dref, a gwr duwiol o'r enw John Tho,iias yn liaturio yn eu plith. Bu pregethu, mae'n wir, gan y Method- istiaid gerllaw y dref am lawer o flyn- yddau cyn adeiladu yr un capel perthynol i'r enwad. Dywed y diweddar Bai-ch J. Jones, Woodcrcft, yn ei Gofiant i'r diweddar Barch. Michael Roberts fod pregethu wedi bod yn Pentafig am flwyddyn, yn Ty'ntwll am ddwy flynedd, yn y Ddwyryd am rhyw gytnod, ac yn Capel Deugorn am ddeng mlynedd. Dywedir hefyd fod pregethu wedi bod yn Capel Cam ac Ysgol Sul wedi bod yn Pendalar. Mae y lleoedd hyn i gyd yn mhIwyf Deneio, rhai o honynt ger Haw y Llan, ac nid yw y rhai pellaf ond I ychydig gydag ergyd careg i'r lie Cof- nodir tystiolaeth hen wr fu yn gwrando ar rai o'r hen dadau yn pregethu mewn rhai o'r lleoedd hyn yn Methodistiaeth Cymru" gan y Parch J. Hughes (hynaf), Lerpwl. Mae yr hen wr hwnw wedi marw er's dros 6oain mlynedd, ac yr oedd mewn tair blwydd i gant pan y bu farw. Yn Pentafig, yn ol ei dystiolaeth ef, y traddodwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y gymydogaeth hon. Nid oedd yn gwybod enw y pregetllwr, ond yn cofio tod rhyw rai yn dweyd ar y pryd ei fod yn fab i Daniel y Gof o Rhoshirwaen, Yr oedd ar y pryd yn athrofa Iarlles Huntington yn Nhre- fecca, ac yn rhoddi pregeth wrth fyned heibio i edrych am ei deulu. (Yr oedd un o'r enw Daniel Roberts y Gof yn bregethwr yn Lleyn. Dichon mai ef oedd tad y gwr fu yn pregethu yn Pen- tafig). Eflfeithiodd y bregeth gymaint ar yr hanesydd, ac ar y rhan fwyaf o'r gwrandawyr, fel y methasant a myned yn mlaen gyda'u eh warcuon dros wedd- ill y Sabboth hwnw. Yn yr un cae ag yr oedd y pregethwr yn pregethu yr oedd llawer yn eh wareu tenis ar hyd yr amser, ac yr oedd yno hen wraig yn nrws ei thy yn nyddu gyda throell bach tra y pregethai. Wedi gorphen y bre- geth, dywedai yr hen wraig Druan oedd ei galon o; y mae yn gwybod wmbredcl. Ewch bellach i chwareu tenis, da chwi bobol." Dyma oedd sef- yllta grefyddol Pwllheli oddeutu cant a haner o fiynyddau yn ol. Y mben rhyw dair neu bedair blynedd ar ol bod yn pregethu yn Pentafig, y Ddwyryd, Tv'ntwll, &c., dechreuwyd pregethu yn Capel Deugorn. Bu yr hen wr y cyfeiriwyd ato eisoes yn gwrando ar amryw o hen bregethwyr a chyngor- wyr Lleyn yn pregethu yn y lie hwn. Ty anedd ydoedd, a gelwid ef mewn gwawd yn Gapel Deugorn. Un o'r liai y bu yr hen wr yn gwrando arno oedd Hugh Tl lomab o Aberdaron, yr hen ddyruwr, fel y gelwid ef. Y mae haaes dyddorol i Hugh Thomas. Pan y cym- erwyd Morgan Gruffydd ac eraill, ei gyd-lafurwyr, yn garcharorion, fFodd Hugh Thomas am ddiogelwch i Cw-m Glas, amaethdy yn Llanberis, yr hyn fu yn ofid calon iddo ar hyd ei oes oher- wydd ei Iwfdra. Bu amrai weithiau mewn ogof yn y Wyd I fa yn ymguddio, a'r bugail yn myned a bwyd iddo wrth fyned at y defaid. Ymhen amser gorch- fygwyd ef gan hiraeth am weled ei briod a phenderfynodd fyned gartref. Cych- vvynodd yn min yr hwyr fel y gallai gyraedd gartref cyn y dydd dranoeth, rhag ofn i neb ei weled ac achwyn arno. Er mvvyn diogelwch arosodd yn ei wely dranoeth hyd yr hwyr, pryd y daeth cyfaill iddo i'w gynorthvvyo i wneud bwthyn mewn clawdd pridd, eithinog, yn agos i'w dy. Gwasanaethai yr eithin fel drws arno i'w guddio. Yn yr am- gueddfa hon byddai yn gwau rh\ l.U bychain at wasanaeth teuluaidd, a'i wraig yn myned oddi amgylch i'w gwerthu er mwyn cael moddion cynhal- iaeth. » (I'w barhau).

IY Rhyfel.

-o - Difrod y Dymestl.

Dau Fodur mewr GwrthdaïaWhc

U-Stesion ar Dan.