Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

! Buddugoliaeth Ryctdfrydol'…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Buddugoliaeth Ryctdfrydol yn Fflint. Ddydd Mawrth diweddaf cymerodd etholiad le yn mvvrdeisdrefi Fflint, i lanw'r sedd aethai yn wag drwy farwol- aeth Mr. J. W. Summers. Bn y frwydr yn neillduol ffyrnig-, a j^veithiodd y ddwy ochr yn rhagorol. Profir hyny gan y ffaith fod mwy wedi pleidleisio o tros ddau gant a haner nag yn yr ethol- iad cyffredinol diweddaf. Cafodd Mr. Tom Parry, yr ymgeisydd Rhyddfrydol, fuddugoliaeth ardderchog. Yr oedd y ffigyrau fel y canlyn :— Mr. Tom H. Parry (R.) 2,152 Mr. Hamlett Roberts (T.) 1,941 Mwyatrif Rhyddfrydol 211 Y mae canlyniad yr etholiad hon yn ergyd drom i'r Blaid Doriaidd, ac i'r blaid Eglwysig yn arbenig, gan y gvvnaethant bob ymgais oedd yn eu gallu i enill y sedd. Nis gellir honi eto nad oes ar Gymru eisieu dadg-ysylltu yr Eglwys. Y mae bwrdeiswyr Fflint- un o'r etholaethau mwyaf Seisnig yn Nghymru, gyda Ilaw-wedi datgan eu barn yn glir a chroew ar y cwestiwn. BARN MR. TOM PARRY. Dywedai Mr. Tom H. Parry, yr ym- geisydd Rhyddtrydol buddugoliaethus, wrth ohebydd ar ol yr etholiad, fod y Toriaid wedi cyfyngu eu hunain i bwnc < Dadgysylltiad, ac yr oedd yntau wedi ei osod yn gyntaf ar ei raglen, er y rhoes fesurau Rhyddfrydol ereill o flaen yr etholwyr yr un pryd. Ymladdodd yn egniol o blaid y mesur Eglwysig, gan y credai ei fod yn fesur teg a chyifawn. Credai fod canlyniad yr etholiad yn profi fod Cymru mor aiddgar a phenderfynol ag erioed am sicrhau cydraddoldeb crefyddol, ac yr oeddynt yn awr yn meddu gwybodaeth lied drwyadl o'r hyn gynwysai y mesur. Rhoes efe hefyd le amlwg yn ystod yr ymgyrch i fesurau eraill, sef Ymreolaeth, Un Dyn un Bleidlais, Mesur Undeb Llafur, ac yn arbeoig Masnach Rydd. Yr oedd dyf- arniad yr etholwyr yn eglur o blaid y mesurau hyny. Yr oeddynt o hyd yn wrthwynebol i Ddiffyn Dollaeth o un- ihyw fath, ac yr oeddynt wedi ategu yr hyn a honai efe, sef fod y Llywodraeth bresenol yn gwneud mwy na'r un fu o'r blaen tuag at ddyrchafu bywyd cym- deithasol y wlad. Canfu hefyd fod y Ddeddf Yswiriol, er nad oedd ond prin wedi dechreu, yn prysur enill ffafr y bobl, ac ymhen ychydig ni byddai wiw i neb ddweyd gair yn ttbyn y ddeddf ardderchog hon.

Mr. Humphreys Cwen a'r Toriaid.

-0-Cyhuddiad o Ladi-ad yn…

Advertising