Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

ARAETH Y BRENIN.I

IDIYDD IAU J

RHYBUDD DIFRIFOL I WEITHWYR.,…

[No title]

Advertising

CENADWRI YR , I ARLYWYDD WILSON.…

News
Cite
Share

CENADWRI YR ARLYWYDD WILSON. j Can y Parch- JOHN HUGHES, Ffestiniog. 1 Ddydd Llun, Ionawr 22, traddododd Dr. I Woodrow Wilson ei araeth fyth-gofus gerbron Cynghorfa, yr Unol Dalaethau. Baich y gen- ftdwri oedd adferiad heddwch yn Ewrop— heddwch wedi ei adeiladu ar seiliau anaigl adwy. Y mae yn araeth fawr mewn gwirion- edd—araeth ag ynddi bosibilrwydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd yr ydym oil yn ei haiddgar ddisgwyl. 0 ran pwysfawredd ei chynwys, aiucheledd ei gweledigaethau, treiddgarw-ch eang a dwfn ei gwelediad, a beiddgarwch ysprydoledig ei ffydd, saif yn gydradd âg areithiau penaf y bydl. A pheid- iwn a gadael i ragfain a dallbleidi teth gymylu ein meddyliau i'w hystyr a'i gwerth. Gwir ein bod lawer adeg wedi teimlo yn siomedig yn ngwyneb clai a'.neb a distawi-wydd yr Ar- lywydd. iî wrthdystiodd yn erbyn ymddyg- iadau anynol y gelyn tuag at Belgium a'r cen- hedloedd bychain eraill svdd wodi eu difodi. Y mae ei ymddygiad ynglyn ag ymgyrch far- baraidd y badau tanforawl yn siomedig. Er hyny, rhaid cydnabod mai ymyriad yr Ar- lywydd sydd wedi lliniaru a dofi cymaint ag a wnaed &r ymgvrch y "submarine." A theg yw cydn?bod fod y demtasiwn yn gref i ni edrych ar bethau trwy wydrau lliwiedig, a thebyg fod ein hanwybodaeth yn fwy dygn nag yr ydym yn barod i addef; a chamfarn a chollfarn vn dilyn. Eithr ein dvlodswydid ar waethaf y pethau hyn yw thoddi ystyriaeth ddwys a difrifol i genadwri Dr. Wilson. Rhaid' i r.i gofio ei fod yn etholedig cenedl fawr i'w chadair uchaf. a bod yr Unol Dal- aethau wedi corphori delfrydiu rhyddid yn ei bvwyd1 yn amgen nag un genedl arall ar wyn- eb y ddaear. Drychfeddwl canolog y gen- adwri ydyw I CYNGRAIR HEDDWCH- I holl gpnlied'Ioedd y byd wedi ymuno i sefydlu heddwch ar y ddaeaa gosod eu holl ddylan- wad a'u gallu cyfunol i warantu ei barhaA, a giwneud rhyfel yn anmhosibl. Yn ffodus, y mae drychfeddwl mawr Dr. Wilson wedi derbyn cymeradwyaeth galonog arwanwyr y p.eidiau gelynol. Y mae Ar- glwydd Grey a Dr. Von Bethmann-Hollweg wedi datgan mewn geiriau diamwys, eu croes- aw i'r mudiad. Ac y mae o fawr bwys dethol tir y gall y ddwy blaid sefyll arno yn gytun. Cadd v syniad gefnogvdd aiddgar yn y di- weddar Mr. W. T. Stead, a gwnaeth ei oreu i 1 wneudl "Ta,laethau Unedig Ewrop" yn 'factor' mewn gwladweiniae'h Twng-wladwr- iaethol. Ond yr Aevwydd W-ilson ym y cyntaf o benaduriaid y byd i'w gefnogi. A hyny crvda'r dylanwad mawr be thyna i'w safle fel Prif Ynad y Weriniaeth fwyaf ar y ddaear. Er meddu syniad clir am ystyr y Cyngrair Heddwch, y mae yn ofynol ateb dau ofymad, sef (a) Pa elfenau a'i c-fansoddarit? Ia {b) Ar ba delerau y g&llir ei'se'ydlu? Atebwn y gofyniad blaenaf trwv ddyweud mai yr elfen gvntaf mewn heddwch parhaol yw i deyrnasoedd y byd gyngreirio i SEFYDLU CYFLAFAREDDIAD I fei moddion effeithiol i 8etlo gwahaniaethau allant godi rhwng cenhedloedd yn y dyfodol. Apelir,at reswm a chydwybod ac ewyllys da fel y galluoedd uwchradd!;)!—te.Iwng o ddyn gwaxeiddiedig—i ddelio a'r ,ichosion sy'n ar- wain i ryfeloedd. Y mae y peth genym eia- oes yn y Cytundebau Cyflafareddol rhwng gwahanol wledydd, ac yn arbenig yng Nghyn- hadledd Heddwch yr Hague. <?wyddom fed Argentina a Chili wedi I gwnc;}d cy?amod i gySwyno pob achos 0 an- nghydNv,eWiad i'w benderfynu yn derfynol tnyy gyflafareddiad. Trwy Gyngrair Hedd- wch Dr. Wilson cynygir efelychu esiampi ragorol y ddwy weriniaeth yn Nehau Arnerig, a gwneud cynafareddiad yn orfodol a chyff- 'edinoL Yn y mndd yma daw Teml Hedd- weh yr Hague yn Bias Hedd" v byd. Ac oddiyno a. cvfraith gwirionedd allan i farnu yr holl genhed'oedid mewn cyfiawnder. Ond teimlir nad yw y byd eto, ac na fydd efallai am oesau. yn ddigon aeddfed i ym- ostwng yn ddieithriad i ddyfamtidaa cyflaf- areddiad,, onis attegir y gan rym anianvddol. Ac yma y daw yr ail etfen i "lewn, set FOD GALLU MILWROL A I LLYNGHEiSOL y teyrnasoedd Cyngreiriol yn cael eu dem- yddio, pan fyddo un neu ychwaneg o'r cyng- freiriaid yn gwrthod plygu i farn y llys cyfiaf- ac yn bygwth tori yr heddwch. Gwir yr ad,defir anallu i hebgor y mihvp. Ond' sylwer ar y chwyldrotad grea yn ein syniad am allu milwrol. 'Hyd yn hyn. gallu i dorri yr heddwch, ac nid i'w gadw yw milit- ariaeth wedi bod. Y mae geudeb y wireb honedig mai "Y ffoidd oreu i gidw heddwch yw bod yn barod i ryfel," wedi ei arddangos mewn moroedd o waed vn Ewrop heddyw. Ond os gwelir Cyngrair Heddwch yn ffaith yn hct'ies y byd. bvdd y milwr wedi ei wedd- newid yn hoddat-dwad. C'adw beddnvell ac nid ei darri fydd ei orchwyl mwyach. A dyna gam enfawr ar i fynv fydd gwneud y sowldiwr yn blismon! AJwv na hyny, hid I yn unig gwneir v milwr yn geidwad heddwch, ond bydd ei wasanaeth yn gyd-genedlaethol (international). Mwyach. ni bydd milwr Prydeinig, er engraipht, yn was i'w genedl ei hun; ond i'r holl genhedloedd cyngreiriol. Creir ynddo, ac yn mhawb o'i gylch, yrnwy- byddiaeth newydd. A hanfod yr ymwybydd- I iacth honno fydd, nid ei fod vn aelod o fyddin ei wlad ei hun, ond o fyddin cyngrair o wledvdd. Ac unwaith y daw pethau i hyn, I rhyd.d pob cenedl gam fawr o'i therfynau cyf- yng ei hun i diriogaeth eang, uchel Cvmanfa I y Cenhedloedd. Mewn geiriau eraill, bydd cariad at genedl a gwlad yn cael ei Iyneu i fyny a'i ogoneddu mewn cariad at ddynol iaeth. Ymgolla cenedlgarwch mewn dyrigar- j wch-mewn brawdoliaeth cn-ffrecliiiol. Wedyn daw defryd y Testament Newydd am y gym- deithas ddynol yn ffaith. A gellir eyfarch cenhedloedd y ddaear yng ngeiriau yr adnod fawr, "Si,d oelt nac Tuddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhvdd, nid oes na gwrryw na benyw: canys chwi oil un ydych yng Nghrist Iesu." 'Heblaw yr elfenau a. nodwvd, maentumir I elfen arall yn Nghyngrair Heddwch. sef I DIARFOGIAD R)HANOL, OND CYFFREDINOL. I Unwaith y sefydlir y Cyngrair, derfy,dd yr I angen am allu arfog amgen na digon i rwysfcro torn yr heddwch. A Chyngrair Heddwch neu beidio, nis gall teyrnasoedd Ewrop osgoi diarfogiad. Bydd beichiau dyledion y gwled1- ydd ar derfyn y rhyfel mor llethol fel nas gallant ffoi ddio pentyru arfau dinystr megis cynt. Bydd y gystadleuaeth wallgof mewn lluosogi bvdainoedd a llyngesoedd yn anmhos- ibl. Bydd yn ihaid i Brydain ddarpar 200,000,000p. yn flvnyddol i dalu llogau y .ddyled! A thebygwn y bydd cyflwr y gwled- vdd eraill yn waeth. Daw y sefyllfa arianol ddifrifol yn ddadl nerthol i sefydlu Cyngrair Heddwch am y bydd o blaid diarfogiad, a di- arfogiad yn hanfodol ef ysgafnhau y beich- iau llethol. Bellach symudwn i ymdrschu ateb yr ail ofynia.d paithed y Cyngrair Heddwch, sef Air ba delerau y gellir ei sefydlu? Eglura Dr. Wilson y telergu ar ba rai y rhaid i'r heddwch ag y bydd America yn barod i warantu ei barhad gae' ei sylfaenu arnynt. Ae v mae v tele:rau hyny yn gyfryw y gor- fyddir eu cyfrif fel anhebgorion heddwch par- haol. A theler cyntaf heddwch parhaol yw I HEDDWCH HEB FIT DDU GO LI AETH .(peace without victory). Y naill ochr wedi methu gorchfygu yr ochr arall. N, u y ddwy- blaid wedi do i sylwe Idoii ynfydiwydd ofn- adwy y dinystr arswydus ar fywydau ac eiddo, a'r nail! yn cyfarch y llall, "Atal dy I law: gad i ni gatio mai dynion ydym, ac nid I bwystfilod rheihus." Gwn y gelwir siarad I fel hyn gan froedd o'm cyrd-wladwyr yn "freuddwyd gwrach." Ond gall ddod yn ¡ ffaith serch hvnv. Credant hwy yn athraw- iaeth y llwyr orchfygu, e" i hyny gostio mil- j iynau o fywydau eto, Mor wired a hyny, t byddai y ddvrnod lori li v gclyn i'r llwch vn i gwneud heddwch parhaol "n anmhosibl. Pe I gorfodid y gelvnion i dde'byn teerau hedd- wch v buddugoliaethus, gadawal ar ol golyn, j gwithwynebrwydd acadgof chwerw, ac ar y i | eyfryw delerau ni orphwysai yr heddwch hwnw ond mogis ar dywod. "Dim ond heddwch rhwng pleidiau cyfaital a ddichon barhau," ebe Dr. WilsoR drachefu. Ac nis gallwn ond cytuno ag ef. Credwn pe yr hysbysid Germani y gellid dod i heddwch pe bai iddi gilio yn ol o'r tir- ioga.ethau y Aae wedi fedd?anu, adfer iddynt eu rhyddid -a'a hannib 'vniaeth, ac adgyweirio y difrod a wnaed arnynt, ar y riaiu law; ac ar y Haw arall addaw iddi adferiad ei thref- edigaethau, credwn, meddaf, y gellid sefydlu heddwch buan a pharhaol. Deuai hi a'i chyngreiriaid i mewn i Gyngrair Heddwch y Cenhedloedd. Ac unwaith y deuai i mewn, dyna "knock-out bLow" fythol i filitariaeth Prwssia a phob gwlad aralL Ail deler heddwch parhaol yw CYFARTALEDD LYWNDETLAU eguality of rights). 0 dan nawdd y Cyng- rair Heddwch diogelid hawl cenhedloedd bychain i ryddid a hunan-ly wodraeth. Cyn- wysir yr .olaf yn egwyddor sylfaenol llyw- odraeth trwy gydsynlad y rhai a lywodraeth- ir (government by consent of the governed). Pe cydnabyddid y rhai'n fel hawliau cyfiawn a chysegredig pob cenedl, eefydlid yr egwydd- or o gyfartalwch (equality) i reoli eu perthynas a'u gilydd. Byddai pob cenedl yn ogyfuwch, a hyny yn annibynol ar swm ei chyfoeth, rhif ei phoblogaeth, a maint ei thiriog-i*eth. Atelid rhwysg breinhinoedd balch. i drin eu dailiaid I fel cynifer o deganau i'w hyvddio fel y myn- nont i uffern rhyfel. Daifyddai y term mil- wrol the Great Powers of Europe." Deuid i gydnabod cenhedloedd bychain yn rhai mawr; oblegid y dyrchefid safon gwir fawr- edd cenool. A byddai holl nu a dylanwad y Cyngrair Heddwch i ddiogelu buddiana-tt y genedl leiaf a gwanaf. Y teler olaf osodir i iawr fel sylfaen heddwch parhaol yw RHYDDID A DIOGELIW M Y MOROEDD. l (Nid oes angen aros i brofi nad yw rhyddid v moroedd yn ffaith heddyw yn hanes rhai o'r prif wiedydd, megis Rwsia ac Awstria. A'r mor yw prif-ffordd fav.T y byd. Dyma brif gyfrwng cymundeb a thrafnidiaeth rhwng gwlad a gwlad. Byddai heddwch parhaol yn a nil aw dd, os nad anmhosibl, tra yr atelid umhyw genedl i dramwyo Ilwybrau y mor- oeddl vn rhvdd a dilyfethair. Crvfha yr awydd a,'r angen am gyfathrach rhwng y gwledydd. Dibyna y nad! w'ad fwy-fwy ar gynyrchion gwlad arall. Ac y mae bywyd llawer cenedl, megis Prydain, yn ddibvnol ar fasnaeh a thrafnidiaeth. Pe gwneid y mor- oedd yn rhyddion a diogel, dygai elfen o sef- vdlogrwydd cadarn i berthynas y gwahanol wledydd a'u gilydd. A byddai hwnw wedi ei ddiogelu gan nerth cyfunol y Cyngreiriaid yn atteg effeithiol i heddwch parhaof y byd. Bellach, dodwn ein hysgrifell o'r neilltu. Dychymygwn glywed rhai o ddarllenwyr y Genedl" yn llefain "Wele y bveuddwyd- iwr yn dyfod." Dymunwn adgoffa y eyfryw mai breuddwydwyr mawr y byd yw ei wared i- [ wyr mawr hefyd. Ac fel y bu vn hanea Jos- I eph, felly y bydd yn hanes cynUun Dr. Wil- 6on. Os y credwn yn ymdaith yr hil ddynol i ddyfodol gwell; os y credwn y gwawria boreu ar y byd na ddysga dynion ryfel mwyach; os y credwn y daw teyrnasoedd y byd yn eiddo i'n Harglwydd ni u'i Grist Ef. yna rhaid i ni gredu mai ar y llinellau y ceisiwvd eu hegluro yn yr ysgrif hon v daw y dyddiau dedwydd hyny i ben.

i RHAGOR 0 GRIBOI lALLAN.

I MEDD Y GIN IAETH NATUR.

GAMBLO GYDA SIWGR

AR OL Y RHYFEL. j

DIOTA I YMYSG MERCHED.:

Advertising

DAU CAN MIL Y DYDD.

ICYFLE I BAWB.

:RHIWMATIC AC ANHWYLDEB [Y…

PWYLLGOR RHYFEL AMAETHWYR…

[No title]

Advertising