Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Advertising
Sarzine" Blood Mixture. CROEN IACH A GWAED PUR. Dyna yr hyn y mae y "Sarzine Blood Mixture" yn ei sierhau, a dim arall. Nid yw yn honi (fwella pob peth, fel yr Yankee Patent I Medicines; ond as blinir chwi gan groen afiach; ysfa; pimple; toriad al!an; scurvy; doluriau penddynod; etc., yn tarddu o waed drwg ac amhur mynwch borelaid o Sarzine .Blood Mixture gan y Druggist nesaf atoch. Is. lie. a 2a. 9c. y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol oddiwrth y Per- cbenost-—HUGH DAVIES, Chemist, Macln ynHeth.
-FFRAiNG -NEWYDD. j
FFRAiNG NEWYDD. j NEWID AGWEDD. I CAMGYIMERIA-DAU VON I KLUCK. Dyrna fel yr edrydd Mr E. AsLmead- Bartlett:— Nid wyf wedi bod yn Ffrainc er y dyddiau di^veddaf ym Medi. Y mae clios ddau fis wedi p2S.iO er hynny, ac y IL:le'll anodd dychmygu y lath gyfne- widiadau sydd wedi dod dros y wlad, a mwy feslly dros Baris, yn ystod y cyfnod byrr h\n. Ym Medi yr oedd cu dinas rlwydd gael ei rhyddhau o'r ofn y bydd- a ¡ iddi gael ei me-udianu ar ol brwydr Marne; ond yr oedd yn ymlynu wrth y syniad nad. oedd y llwyddiant hwn ond un byrr ei i).i)-liad, ac y byddai i'r heidiau Germanaidd symud eto i'r de a gyrru y GaKuoedd Cyfunol o'r brif- ddinas. "Ni chafodd byddin erioed iiavv mwy byddinoedd Ger- manaidd yn ystod dyddiau cyntaf mis Medi. Hyd yn oed yn awr nid ydym yn gwybod ond am ychdig o hanes mewrrol yr ysgarmes fawr hon, yr hon a drodd holl lanw y rhyfel yn Ewrop Orllewinol. Y ma-e'r Cadfridog von Kluck hwyraeh yn parhau i synu beth sydd wedi digwydd iddo, a phaham yr aeth y cynlluniau a drefnodd mor ofalus yn fethiant ar yr unfed awr a'r ddeg. Hwyraeh nad oes diwrnod wedi pasio er y 6 o Fedi byth-gofiadwy pryd y trodd y Ceiliog Gaelaidd a'r Llew Prydeinig yn sydvn ar yr Eryr Prwsiaidd gan ei YIll- lid a"I yrru'n ol i'r Aisne, nad yw'r Cad- fridog von Kluck wedi gofyn iddo'i hun, Beth ddigwyddai pe buaswn wedi par- hau i orymdeithio i Baris yn lie troi i'r de-ddwyrain i gyfeiriad y Marne?" Fel mater o ffaith, ychydig sydd gan y Cadfridog Rwsiaidd 1 edllw iddo'i hun. Yn filwrol yr oedd ei symudiadau yn hol'lol ddiogel. Y mae'n wireb rhyfel nad yw meddianu dinasoedd na phrif drefi o unrhyw werth milwrol cylivd ag v bydd prif fyddin y gelvn heb gael ei threchu, ac nid yw yn dibynu arnynt fel sail ei gyflenwadau. Gwnaeth Von Ivluck ddau gamgymeriad hanfodol. Y cyntaf oedd tybio nad oedd y Fyddin Brydeinig, ar ol iddi encilio o Mons, wedi cael ei llethu gan bum' corfflu ac amryw adranau o wyr meirch, yn abl i wneud ymosodiad am hir amser. Twyll- wyd ef gan ymddanghosiadau allanol a chan adroddiadau commanders ei llaen fyddin. Cymysgasant ddifodiad y gwyl- wyr ol, y rhai yn gyffredin fydd yn cael eu gwneud i fyny o un frigad fydd yn cael ei haberthu o bwrpas i'r amcan hv/nnw, gyda thorri i fyny y Fyddin Brydeinig. Yr oedd yr ail gamgymeriad yn un mwy difrifol. Nid oedd Von Kluck yn gwybod o beth yr oedd y Chweched I Fyddin Ffrengig oedd ar ei aden dde pan oedd ef yn trefnu i wneud yrnosodiad aruthr ar y milwyr Ffrengig oedd i'r de o'r Marne, yn' cael ei gwneud i fyny. Y Chweched Fvddin hon a'i hymosod- j iad sydyn ar aden dde y Germaniaid a achosodd yr unig fraw ar raddfa eang yn ystod holl gwrs y rhyfel. Cyn'llun meistrolgar y Cadfridog Joffre oedd hwn a llwyddodd y tu hwnfc i bob disgwyliad. Sut, ynte, yr oedd yn bosibl gyda Hong- au awyr a'r cynllun ardderchog o ysbiwyr i'r Cadfridogion Ffrengig I roddi'r naid ddramataidd hon ar y Cad- fridog Germanaidd ar yr unfed awr a'r ddeg? Gwyddom oil yn eithaf mor anodd, ydyw symud brigad o un rhan o'r maes heb i'r newydd gael ei gludo'n gyflym i gadfridog y g^.vrthwvnebwyr. Anwybyddodd Von Kluck un pwynt, hanfodo-l iawn, a, dyma oedd hwnw-y: gellir yn hawdd guddio symudiadau mil- wyr pan ddigwydd hynny y tu fewn i furiau dinas, a gwersyll gwarchedig o faintioli Paris. Yr oedd y Cadfridog J ofire wedi meddwl hyn drosodd yn ofalus. Ni wnaeth ymdrech o gwbl i ymosod ar aden dde y Germaniaid ar raddfa eang i'r gogledd-orllewin o Baris. Gwyddai y buasent yn canfod symudiad o'r fath yn fuan ac y buasai yn cael ei atal yn ddiymdroi. Ni wnaeth ond chware er mwyn cael rhyddhau y Fyddin Bryd- einig ag y pwysid mor drwm arni, a dim rhagor. Gan ei fod yn tybio ei fod wedi trechu'r Prydeiniaid ac wedi gwanhau y corffluoedd Ffrengig i'r de o'r Marne yn < ymarferol, anwybyddodd y Cadfridog I Von Kitick ei aden dde. Fel milwr da gadawodd un corfflu ar yr Ourcq i wylio ei symudiad, a dyna'r oil. Gyda'i bed- war oedd yn weddill pyrsurodd ar ei ym- daith i gwblhau ei fuddugoliaethau i'r de o'r Marne cyn myned i Baris. Yno, er ei fraw, canfu'r Ffrancod yn barod i ymosod, a'r Fyddin Brydeinig hefyd yn parotoi i wrth-sefyll ei symudiadau. Gynted ag y dechreuodd ryfela o ddifrif daeth y Chweched Fyddin yn bedwar eorfflu o'r gwersyll gwarch-ffosol ym Mharis i ymosod ar un o'i gorffluoedd oedd yn dal l'linell yr Ourcq. Yn ddios y mae Von Kluck yn gad- fridog meclrus iawn, ac yn fedrus iawn wrth drin cyrff mawr o ddynion. Gwnaeth y Ffrancod gyfiawnder iawn a'r modd v cyfnewidiodd ei ffrynt yn sydyn pan dderbyniodd y newydd drwg hwn o'i aden dde. Yr oedd ei g01'fflu-! oedd eisoes mewn brwydrau ffyrnig i'r | de o'r Marne pan ddaeth y newyddion 1 trychinebus am ddychryn ei aden dde. I Tra o hyd yn gwrthwynebu mintai ol gref o'r Prydeiniaid tynodd hwy'n ol un ar ol un ar draws y Marne, ac adgyf- nerthodd ei aden dde i atal ymdaith v I Chweched Fyddin yn erbyn ei aden. j Ga'lwyd ar y gwyr traed Germanaidd i fyny ac atebasant yn dda i'r alwad. O'r diwedd crynhodd Von Kluck rifedi rnawr yn erbyn y Ffrancod, a rhwystr- odd i'r Chweched Fyddin symud ymlaen. Drvvy ei gynliwyn a'i fedr a phrydlondeb ei benderfyniad achubodd y byddinoedd Germanaidd rhag yr hyn a allai fod yn drychineb difaOl. Ond, fodd bynnag, galluogodd y troad hwn o eiddo'r Chweched Fyddin yn erhyn aden dde y Germaniaid i'r Cadfridog Joffre drechu byddinoedd Von Bulow, Von Hausen, a Due NVtirtem- burg, a'u gyru'n ol i'r Aisne, ac ni lwyddasant byth i symud Hat-hen o'r lie hwn ar ol hynny. Dywed y gwyr Ffrengig cyfarwydd nad oedd yn bosibl i neb arwain ei gorffluoedd yn fwy deheuig nag y gwnaeth Von Kluck yn yr argyfwng peryglus hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, ac am chwech wythnos ar ol hynny, pan oedd y Ffrancod yn symud yn raddol i'r gog- ledd yn eu hymdrechion i droi o amgylch aden dde y Germaniaid, yr oedd pobl Paris yn teimlo'n ansicr\ iawn. Yr oeddynt yn gobeithio am fuddugoliaeth yn y diwedd, ond yr oeddynt yn credu o hyd y llwyddai'r Germaniaid i dorri drwodd yn rhywle ac ymosod ar Baris. Atgofid hwy'n fynych am bresenoldeb y gelyn gan yr ymosodiadau awyrol. "Ychwanegodd y Llywodraeth Ffrengig gryn dipin at yr ofnau hyn drwy aros yn Bordeaux a thrwy wrthod J eaniatau i'r clwyfedigion gael eu dwyn i ysbytai Paris. Oherwydd hyn yr oedd yr hotels a'r tai preifat a drefnwyd yn yshytai yn wag. Yn ystod yr amser hwn yr oedd bywyd ym Mharis yn beth prudd a blinedig. Yr oedd bron bob hotel yno wedi eael eu cau, ac ychydig iawn o dai bwyta oedd yn agored. Yr oedd pobl uchel mewn cymdeitiias wedi ffoi i'r wlad pan glywyd gyntaf am y gwarchae. N i arhosodd neb yno ond y rhai ag yr oedd eu busnes yn eu gorfodi i aros. Nid oedd yr un chwareudy yn agored, ac yr oedd pob bywiogrwydd ar ben yno naw o'r gloch y nos. Yr oedd y bobl mewn arswyd beunydd a rhoddai pob si fraw arnynt. Byddai barn y dinasyddion yn cael ei newid amryw weithiau yn ystod y dydd--weiihiau byddent yn obeithtdl iawn, ond y funud arall yn ddigalon. Brwydr Ypres a chloi y ffordd i Baris a newidiodd eu barn. Nid yw Paris eto fel hi ei hunan, ac nis gall fod ychwaith hyd ar ol y rhyfel. Y mae fel claf wedi bod yn beryglus wael, wedi cyrraedd o'r diwedd i ystad gysurus o droi ar wella. Y mae nifer fawr o'r rhai a ffoisant o'r ddinas wedi dychwelyd yn oiL Y mae'r dinasyddion yn ad- enill eu sirioldeb, er gwaethaf eu colled- ion a'r aberth a achoswyd gan yr ym- gyrch. Y mae'r donn o brudd-der a fu yn rhythu uwch eu pennau am gyfnod, a'r amheuaeth, wedi cilio'n llwyr. Y mae banerau y Groes Goch wedi cael eu tynu i lawr oddiar yr hotels, a busnes wedi cael ei ail-gycliwyn fel arfer. Y mae'r prisiau wedi cael eu gostwng yn yr hotels a'r tai bwyta. Er engraifft-, yn y Heoedd ag y gorfodid chwi i dalu 20f. am ystafell wely fawr a baddon gellwch gael un yn awr am 8f. Caniateir i r swyddogion Prydeinig fydd ar neges ym Mharis gae aros am bris rhesymol iawn yn yr hotels. Y mae bron yr holl neuaddau cerddorol wedi cael eu hail- agor, ac y mae'n anodd cael lie mewn rhai ohonynt. Y mae rhuthro mawr ir pa-iasau darlunlau, yn arbennig pan ddanghosir darluniau o'r rhyfel. Y mae pawb o'r bron ym Mharis yn llwyr argyhoeddedig nad yw buddug- oliaeth ond mater o amynedd ac amser. Ystyriant y rhyfel o safbwynt wahanol. Y maent fel trigolion dinas mewn cyffro ar ol i haint dorri all an, ond, ar ol dod atynt eu hunain ym myned ymlaen fel arfer. Cyn hyn ystyrient y rhyfel gyda dychryn a braw, fel pe buasai rhywbeth wedi newid eu bywyd yn gyfangwbl, a'r hyn a allai fod yn farwol i'w bodolaeth i fel cenedl. Yn awr y maent yn ei ystyried fel baich aruthr ag y rhaid ei ddioddef am gyfnod amhenodol neu aneffiniadwy, ac y maent yn barod i'w ddwyn yn wrol a dwer, yr hyn na allai ddeillio ond o sicrwydd am lwyddiant yn y diwedd. Y mae'n rhyfedd sut y mae'r Llyw- xlraeth a'r Fyddi na phob dosbarth yn cyd-uno a'u gilydd i ddwyn ymlaen ddy'ledswyddau gwladol a threfniadol y genedl, gyda chyn lleied o rwystrau ag sy'n bosibl, tra y mae'r byddinoedd yn dal yn ol lanw'r goresgyniad yn y gog- ledd. Ond ar pwynt hwn fe ysgrifen- naf ysgrif arall. Y mae dau beth arall yn eich taro ynglyn a Pharis. Un yw y nifer fawr o filwyr ieuanc sydd ym myned o dan ddisgyblaeth cyn cael eu hanfon i'r ffrynt. Y mae Ffrainc yn ymddangos fel pe bai ganddi ddigonedd o filwyr. Yr ai'l yw ymddanghosiad hynod. y wisg filwrol newydd, ar ol bod am 89 o flyn- yddoedd yn gwisgo y got las a'r trowsus coch. Glas-lwyd yw'r wisg newydd, ond y glas yw'r amlycaf. Y mae'r hen got hir yn troi yn ei gwaelod wedi dif- lanu. Y mae'r wisg newydd yn llawer mwy gwasanaethgar. Teimlid yn unig a achosa i rai ymlynu wrth yr hen un.
YNAD CYFLOG MERTHYRI
YNAD CYFLOG MERTHYRI Adroddir y gohirir penodi olynydd i Syr Marchant Williams fel Ynad Cyflog dros Ferthyr Tydfil nes y penderfynir y cais am ranu'r dosbarth. Parha Mr R. A. Griffith (Elphin) i lanw'r swydd dros dymor nes y gwneir penodiad mae'n debygol mai Mr Griffith a benodir fel olynydd Syr Marchant. J Mae Mr Griffith yn far-gyfreithiwr ar Gylchdaith Gogledd Cyniru.
DEWRDER Y FRYDEINWYR I
DEWRDER Y FRYDEINWYR I FFYD-DLON I'W DYLEDSWYDDAU. ) Ysgrifena Lieutewajit ym Mataliwn Ken- I smgton o'r London Regiment fel y canlyna } Riiagfyr lleg :— "Cei?iodd y Germaniaid ein tanbelenu y j dydd o'r bLaen. ond ivi 1wyddasant i wneud I diIrod maw-r. Gollyngaisant un belen yn agos d fy mintaj i oedd yn olodddo air y i pryd, nes y gorobuddiwyd hwy a baw. ÐaetJh pel-en arall heihrlio diiTw.y'r ffo& gan fyned heibio i ben un o'r swyddogion. ■ Planodd y belen ei biun yn yr oohr bellaf i'r j ffes a ffrwydmdd> Tarawyd y swyddog nee | yr oedd ar ei gefn ar lawr, a phah gododd 1 draehefn dð pel en arall heibio, a'r tro J Ú1¡wIl. disgynodd ar ei wyneb ar lawr. Pan ) godocW yr oil waitih oanfu dtaam mawr o belen wrth ei ochr. Dymalr ddihangfa fwy- af 0Jfyn a wela-is eto. p, a we l a- i r, eto. "Digiwyddodd peth arall a dybcaf sydd yn teilyngu sylw arbenig. Yr oedd un dyn o'm mintai i yn cario un o'r olwyfedigrlon i'r ysbyty pan y saethwydi ef ddiwywaith, un- waith drwy ei goes ac unwaith drwy ei law- Ni frawychodd. dododd y stretcher ar lawr yn araf, ac ymguddiodd mewn twll. Credaf fed y weitSired1 'hon vn engraifift o ddewrder y milwyr Prydein."
ARAITH MR. BONARI LAW.
ARAITH MR. BONAR I LAW. "Y BWYSTFIL GWYLLT." I Y CREULONDERAU I GERMANAIDD. Nos Lun diweddaf bu Mr Bonar Law, A. S., yn anerch cyfarfod ymrestru yn Bootle. Dywedodd mai polisi Germani bob amser oedd wneud rhyfel pan fyddai yn hwylus iddynt. Bismarck, am y tro cyntaf, a fabwysiadodd yr egwyddor yna yn llwyddianus gan ddiystyru pob deddf ddynol a dwyfol. Yr oeddynt wedi gwneud heddwch neu ryfel, heb ystyried yr erchyllterau na'r dioddefiadau i'w pobl hwy eu hun- ain, y foment y tybient fod anrhydedd a chlod yn bosibl iddynt hwy. Yn yr ysbryd yna yr oeddynt wedi trefnu'r ym- gyrch yn erbyn A wstria ac yn erbyn Ffrainc. Yn yr un ysbryd y trefnasant y rhyfel ag yr ydym ynddo'n awr. Nid oes neb a fu'n astudio'r goheb- iaethau diplomatyddol yn ameu nad oedd Germani yn bwriadu cael rhyfel, a'i chael yn awr. Gwyddai pawb fod Ger- mani yn parotoi er's blynyddoedd, ac mai y wlad lion n. fyddai ei nad olaf. Yr oedd yrhyfel hon yn nghyntaf i'w phriodoli i wendid dynol, ac fel y dengys yr amgylchiadau, i ffolineb dynol-flol- ineb yn gyfartal i'r drygioni. Yr oedd llawer iawn o bwyntiau tebyg rhwng y rhyfel hon a'r un a ymladdwyd gan ein hynafiaid gan' mlynedd yn ol. Y mwy- af o'r rhai hyn oedd fod Napoleon wedi canfod ymhen blynyddoedd fod ei uchel- gais ddi-derfyn wedi co'lli holl alluoedd moesol y byd yn ei erbyn. Cymerodd hyn lawer o amser, ond yn y diwedd trechodd y galluoedd moesol hyn ef, ac yr oedd y galluoedd hyn oedd yn erbyn Napoleon yn v diwedd yn erbyn yr Emprwr Germanaidd yn y cychwyn (cymeradwyaeth). Yr oedd y German- iaid nid yn unig yn di-brisio'r ga'lluoedd moesol—nid yn unig drmygasant hwy— nid oeddynt yn eu deall. Oherwydd nad oeddynt yn eu deall y gwnaethant y camgymeriadau. Yr oedd y creulon: derau erchyll, etc., yn Belgium, y rhai a ddylasent fod yn amhosibl yn ystod y cyfnod presenol o hanes y byd., yn codi eu lief i fyny i'r nefoedd am ddialedd, ac nid oeddynt i ddianc heb gosb (cym- eradwyaeth). Yr oedd Belgium wedi achub Ffrainc ac wedi ein hachub ninnau (cymeradwy- aeth). Gwnaeth Germani yr un cam- gymeriad gyda ni ag a wnaeth gyda'r Belgiaid, ac hefyd yn ei hymdrechion i ddylanwadu ar wledydd amhleidiol. Yr oedd Germani wedi gwario symia-u aruthrol i ledaenu diwylliant Ger- manaidd, ac i geisio enill cydymdeimlad yn y Talaethau Unedig. Buasent yn ateb yr un diben drwy daflu'r arian i'r mor. Ga'll nad oeddynt yn deall na fuasai yr un mynydd o gelwyddau yn syrthio am foment yn erbyn y creulon- derau oedd yn cael eu cyhoeddi gydag utgorn ymhob gwlad drwy'r byd. Wrth gyfeirio at ymosodiad y Ger- nianlaid ar y glanau dwyreiniol, dywed- odd Mr Law: Nid wyf yn honi ei fod yn beth dymunol i sylwedddli y gallai llongau Germanaidd ac ar yr ail amgylchiad llynges Germanaidd ddynesu at ein glanau a myned yn ol heb gaeil eu cyffwrdd. Ond yr wyf yn gobeithio, ac y mae gennym reswm nid yn unig dros obeithio ond dros ddisgwyl, y cant rywbeth i'w croesawu y tro nesaf y deuant yma. Ond wedi'r cyfan beth a. enillasant drwy yr ymosodiad? Nid ydynt wedi ein dychrynu. Nid ydnt ond wedi dureiddio ein calonau i weled hyn dwrodd, a phellhau cydymdeimlad y byd oddiwrthynt. Yr ydym yn gwneud yn iawn wrth gymeryd y peth yn ddi- gynwrf. Nis gellir ysigo peth o'r fath gyda geiriau ond drwy weithredoedd, ac y mae'r amser i weithredu'n dod (cym- eradwyaeth). Yr unig effaith a gafodd arnom ni ydyw ein gwneud i sylweddoli'n fwy clir natur y gelyn ag yr ydym i ddelio ag ef. Y mae wedi gwneud i ni syl- weddoli ein bod yn ymladd nid yn unig yn erbyn y Germaniaid, fel yr hoffeht i ni gredu, ond yn erbyn bwystfil gwyllt, yr hwn sydd yn fwy creulon oherwydd fod holl adnoddau gwyddoniaeth a dyfais at ei wasanaeth. Y mae'r rhyfel hon yn rhoddi digon o waith meddwl i ni. Y mae braidd yn ddigalon meddwl fod rhyfel, y cyfod presenol yn hanes y byd, yn cael ei dwyn ymlaen gyda'r fath gynlluniau ag a ddefnyddir gan ein gelyn. Yr ydym wedi cael esiampl yn yr ymosodiad ar ein glanau. Yr ydym wedi gweled yn yr ymosodiad ar ddynion di-amddiffyn a merched a phlant di-ymgeledd esiampl o'r hyn sydd mewn stor ar ein cyfer yma pe y collem amddiffyniad ein llynges. Ond nid esiampl a fu yn Belgium. Yno y mae wedi bod ar raddfa a ddylai fod yn amhosibl, a'r hyn a wna y creu- londerau hyn mor erchyll yw hyn-nid ydynt yn cael eu cyflawni mewn tymer wy-at, nid ydynt yn cael eu cyflawni gan filwyr pan ynghanol brwydr, y mae'n arnhvg eu bod wedi eu rhag gynllunio. Y mae yn rhan o'r cynllun—llofruddio merched a phlant—i wneud arfau rhyfel Germanaidd yn erchyll er mwyn sicrhau buddugoliaeth. Y mae'r Germaniaid yn ymladd er mwyn ennill rhywfodd. Os yr enillant tybiant y bydd i fuddugol- iaeth daflu cwmwl o ogoniant dros yr holl gynlluniau a ddefnyddiasant i enill, ac y bydd i ddynoliaeth ymgrymu i lawr i a-ddoli llwyddiant. Nid ydynt am enill (cymeradwy- aeth uchel). Y mae'r Ymherawdr Ger- manaidd, ar ol yr holl bethau hyn, yn siarad o hyd fel pe bai'n arweinydd y Bobl Ddewisedig-fel pe bai Duw Rhyfel o'i du, ond fe ganfydd ei fod yn gwneud camgymeriad. Ni enilla. Rhaid i ni fel cenedl wneud ein rhan i sicrhau concwest arno, gan fod popeth a garwn yn dibynu ar hynny. Yr oeddym yn falch o waith ein milwyr, a phan ddaw'r amser i ysgrifennu'r hanes credaf y gellir dtvngos nas gellid cael gwell byddin na'r Fyddin Brydeinig." Wrth gyfeirio at v cynllun gwirfoddol o ymrestru dywedodd Mr Bonar Law ei fod yn credu nas gailai'r un wlad godi byddin mor fawr drwy gynllun gwir. foddol. Nid oedd ef yn ddall i fanteis- ( ion y cynllun gwirfoddol. Fodd byn- nag, rhaid oedd i'r genedl fel cyfangorS sylweddoli'r peryglon yr ydym ynddynt a phenderfynu gweled y rhyfel drwoad waeth faint fo'r gost, ac os na ddaw y dynion ymlaen yn wirfoddol byddai i'r I hol'l genedl hawlio y dylent fyned (cymeradwyaeth).
ERCHYLLTERAU RHYFEL.
ERCHYLLTERAU RHYFEL. I NERFAU DRYLLLEDIG. I BLINO AR RYFEL. Dyma fel yr edrydd Gohebydd Rhyfel ai bennig o Rotterdam :— Y mae Germani wedi'bod ar y blaen i bawb mewn rhoddi mynegiad i'r athrawiaeth mai rhyfel 3dyw ad-gyn- yrchydd mawr pobl. Y mae hyn yn gwneud testyn erthyg'l hynod o ddydd- orol yn un o newyddiaduron y wlad o dan v penawd. Y clwyfedigion ysbrydol. Dyv,-ed: Clywn gyda gofid yn Berlin fod bechgyn o dan bedair a'r ddeg oed yn cael en hanfon i'r ffrynt, fel gwirfoddol- wyr. Yr ydym yn darllen hyd yn oeJ am lieutenant ieuanc pymtheg oed, i'r hwn v rhoed yr Iron Cross, wedi cael ei ladd. Pa mor erchyll y rhaid fod yr argraff a grewyd ym meddwl y llanc ieuanc hwn drwy brofiad, am greulon- derau'r rhyfel! Canfyddir ymhobman yn Berlin," meddai, swyddogion ieuanc wedi dychwelyd o'r ffrynt gyda'u nerfau wedi eu dryllio. Er fod amryw ohonynt yn gwisgo Iron Cross o'r dosbarth cyntaf nis gallant oddef y syniad o fyned in 01 i'r ffrynt. Nis gallant adael erchyll- tra'r golygfeydd a welsant allan o'u meddwl. Y mae hyd yn oed eu cwsg yn cael ei ddyrysu gan weledigaethau ag y buont yn llygaid-dyst-ion ohonynt, ac, hefyd a ddioddefasant. Nis gallant oddef i neb siarad a hwy ynghylch rhyfel. Nid yw hyn yn gyf- yngedig i swyddogion. A siarad yn gyffredinol, nid oes dymuniad am gael llenyddiaeth y rhyfel i'r ysbytai. Gwell gan y clwyfedigion gael straeon serch. Ond hwvrach mi gyda'r swyddogion y mae'r cyfnewidiad i'w weled amlycaf. Yn Berlin gellwch weled lient-enants ieuanc gyda'u gwallt wedi britho, eu hwynebau wedi gwelwi, a'u llygaid wedi suddo! Y mae amryw ohonynt wedi dod yn ol yma i orffwyso ar ol cael eu clwyfo a llawer ohonynt yn gorfod aros oher- wydd fod eu nerfau yn ganddryil. Dywed ir fod ar hyn o bryd 3,000 0 swyddogion yn Berlin na fedrant wneud dim oher.vydd fod eu nerfau wedi cael eu difetha. ac nas gallant ddychwelyd i'r ffrynt. Un diwmod galwyd -nit ohonynt- ynghyd ac anerchwyd hwy yn enw'r Kaiser, yr hwn a'u hanogodd i geisio gwneud eu huna-in yn barod gan fod eu hangen yn y ffrynt. Dywedwyd wrthynt fod yn rhaid iddynt beidio cadw eu hunain yn ol yn ormodol o wasanaeth eu gwlad." Yr oedd ysgrifennydd yr erthygl uchod yn anturio cryn dipin gan fod y Kaiser ychydig amser yn ol wedi sicr- hau ei filwyr yn v dwyrain fod yn rhaid iddynt ennill oherwydd mai ganddynt hwy y mae'r nerfau cryfaf.
I CYMRY YN Y FFRYNT.'
I CYMRY YN Y FFRYNT. I DYSGU CYMRAEG I'R GERMANIAID. I BLINO'R GELYN. Y* mae un o'r Welsh Fusilier yn y Stanley Hospital, Lerpwl, yr hwn a adnabyddir fel Digrif-ddyn y Gatr- awd. Y mae wedi cael ei glwyfo mewn tri o leoedd gyda bwledi, ac etc y mae yn galonog, a cheidw ei ffryndiau mor hapus a phlant mewn circus. Ond os y medrweh gael gafael arno yn un o'i funudau difrif fe ddywed wrthych nad yw mewn brys myned yn ol ar ol brwydro am 74 o ddyddiau, er ei fod yn barod i ddychwelyd os y bydd angen am dano. Fe ddywed wrthych hefyd fod cannoedd o Germaniaid ewyfedigyn I barod i ladd eu hunain yn hytrach na myned yn ol i wynebu tan y Prydein- iaid. Y mae'r Germaniaid wedi adeiladu gwarchffosydd ardderchog," meddai, ond ni wyddent sut i'w gwneud yn gwmffwrddus. Y maent wedi eu gwneud yn agos i'n rhai ni. Mewn un lie yr oeddwn mewn gwarchffos nad cedd ond prin ddeg, troedfedd oddiwrth- N nt. Gallem eu clywed yn siarad, yn chwerthin, yn ceUwair ac hyd yn oed yn chwyrnu; galiem hefyd eu clywed yn newid eu safleoedd a. daethom i adnabod rhai ohonynt oddiwrth eu lleisiau. Ni feiddiem ddangos ein hunain ar yr un ochr-ni cligem ond ein saethu i lawr. Difyrasom ein hunam un diwrnod drwy ddal un o'u cwn, a dysgasom Gymraeg iddo. Cyn pen ychydig ddyddiau yr oedd yn ufuddhau i orchymynion Cym- raeg fel pe buasai wedi cael ei ddwyn i fyny yn Nbon-y-pandy. Y mae'r Ger- maniaid yn dechreu dod i ddeall Cym- raeg. Yr ydym yn dymuno bore da iddynt yng Nghymraeg yn ddyddiol, yna ymhen pum' munud vr ydym yn dech- reu tanio arnynt. Pan gav/n afael ar geffyl Germanaidd ein gwaith cyntaf fydd ei wneud yn gyfArwydd a geiriau a gai ar fferm yng Nghymru. Y mae r Germaniaid mor ddig wrthym fel y maent wedi torri tyl'lau yn eu gwarch- ffosydd i gael tanio arnom oherwydd ein bod yn gwneud hwyl am eu penau. Nid yw'r Germaniaid yn hoffi i neb wneud gwawd ohonynt."
Advertising
Yr annwyldeb mwyar cyffredin ydyw "Diffyg Treuliad "-yr arwyddion ydynt:- Rhwymedd, Poen ar ol Bwyta, Gwynt, Poen. BIas drwg ar y genau Iselder Ysbryd. Cy. merwch dose o Davies's Tonic Antibilioua Pills, ac fe ddiflana'r cwbl fel y niwl o flaen y gwynt:— Davies's Pills at Ddiffyg Treuliad. Davies's Pills at Guriad y Galon. Davies's Pills at Boen yn y Cefn. Davies's Pills at y Piles a'r Gravel. Davies's Pills at y Ddanodd. Davies's Pills at Wynt yn yr Ystumog. Davies's Pills at Boen yn y Cylla. Davies's Pills at Ddiffyg Awydd Bwyd. Davies's Pills Diogel hollol. { Mewn blychau, Is. 1. gan bob Drtggiat H. DAVIES, Chemist, MACHYNLLETB.
GERMANY A'R LLYFR MELYN.
GERMANY A'R LLYFR MELYN. BEIO RWSIA AM RYFEL GWADU YMGOM Y KAISER A BRENHIN BELGIUM. Y mae'r newyddiiadur "Xorddeutscfae AlIgeineine Zeitung" yn cy.hoeddi atebiad i'r Llyfr Melyn Ffrerngig. Deit y papyr hwn allan ddariod i-Tier- TOany gymeryd pob trafferth yn Vienna oyson ag anrhydedd ei dnymraiWHl, ag eitfirio gwasgu arni yr orfodaeth a aiwgrymid gam Rwsia a Ffrainc. Dywed y papyr hwn hefyd yn mhellacti fod Jispryd heddycliol Rwsia yn, cael ei wrth- brofi eani ymddiddan cyntaf M. LazanofF a -Llyegeriiiadon Ffrainc a Lloegr, pryd y gwnaeth y datganiad fod yn rhaid i Rwsia atw ei malwyr i fyny. D-adleua hefyd fod adroddad y Uyegenhadydd iPiydeiniig ya Pehrograul yn profi ddarfod iddo sylwi gyda gotftd cynyddol ar ddechreuad y ^weithsrwha^il milwrol yn Rwisia. Pwynt y Llyfr Melyn, nioddai, ydyw profi rywfodd mai Germany ydoedd oycbwynydd v parotoadau Tihyfelgar, and nid oes ond orawfion diwerth o'r tati honiad an/ghyw-jr- Gyda golwg ar y ddadl fod Austria, a Rwsiia ar bwynt dyfod i ddealltwriaetk part/hed y Xodyn i Serbia piyd y darfu i Germany yn -sydyn ddyfetha pob gobaith am heddweb trwy gylhoeddit rhyfel, dywed y papyr, tra yr oedd Germtay wedi 11 wyd do i ddwyn oddiamgyMi ail-ystyriaeth o'r ym- trafaiol rluwmg Awstria a. Rwsia-, ddacfod i'r didiweddaf, gan anwybyddu (Siiiorhad Swydd- og Milwrol Rwfiiia &'r Prif-Swyddog RihyfeJ na byddid yn ga;liv i fyny milwyr ar ffindar GeIUnauy-er hyny orchymyn ar yr un pryd i ihyny gymeryd lie, yr hyn olherwydd ei fod yii fygyth '1 uniongyrchol yn efbyn Germany ia wina; waith y wlad' bono yn oeisio cyfryng. yn waeth nag ofer. "Yna.. y mae yn ctwilyn, nas go 11 holl ynSbranciau y tCyflimiad Tmphlyg i ffwrdd a'T ffaith. mai ar 14wisia y gorwedd y cyfrifoldeb o ddymeliwel y .Rhyfel 1 Eiwropeaidd presenol ar y wIM." Gwwda y papyt hefyd ddarfod i'r Maea- lywydd Von Moltko wneyd y. sylwa.da.u « brlodoiir iddo gan M. J.alee Cambon vn ei oadroddiad am Mai 6. 1913. G»an gij^feino At adrodd;,t,d ;Cambon am Dachwedd 12, 1913, c ymddiddianj y K ad ser gyda Brenhin Belgium a'r Maeslywydd) Von Moltke— dy- wied I Yn ol fel y'n hysbypir ni fu ymdd>dda*i rhwnig y tri, ond yn luniiig cydirhwng Bi-enh-in Belgium a'r Maeslywydd von Molke. yr hwa na ddefnyddioddl o igwbl y geiroau roddir ym ei en an gan M. Cambon- 0 b ai thynas i gynllun newydd M. Sazonoff iP-m gyfaddawd fel y dadlenwyd ef gerbros y Count iPourtatesv di wed diar L-yegenhad- "wr Germany yn Petirograd, dywed y pa-pyr, dldarfod i Count Portalss dd/atgan Y8 groew yn ol ei feddwl ef na chytu-nai Awstnia i'w derbyn, ac er ei fod wedd addaw ei gyf- lwyno i'w lyvvodraeth, y mae'r diatganiad a wnear yn y Llyfr 'Melyn ddlO addaw ei gyra- onadwyo yn hollol anghywir. Dyw.e<t y papyr hefyd fod y LlyiT Melya yn Ihollol gyreiliormus yn ei syniadiani parthed ^ihoed'iiad Germany o berygl rtryfel. Y flaitih yw, fel, y tystia:, deltarfod i Germany, wedi deall ar D'achwedid! y 39aifii» fod pedwar ugam rod o filwyr'FYrainc wiedi eu ha.nfon i'r thndnr dwyreiniol, gyfaniwyddo y Baron voa iSdhoen, y Llysgenhndydd Geirmamiidd ym Paris, i hysbyjsm'r Llywodraeth Ffrengig, y byddai Germainy yn rhwym o ddarpani mes- itra,u i'w cyfarfod mewn hiunan-ddiffyniad ae fally beryglu rhyfel os paitiaai Ffiwaic i fyned rhagddi yn modd hwnw. Ychwanegta'r newyddiadur nad oedd hyny yn golygu galw ei milwyr i fyn;y -vvbl, ond yr oodd yn cynyddtu y perygl "fel, a myny yn c"'b,yn ein hewyllus, gan c. yn hryderus ac yn dymuno pa.ihad heddv.
! CRONFA TYWYSOG CYMRU
CRONFA TYWYSOG CYMRU IS-BWYLLGOR ANGEN ARDAL EBENEZEIR. (A Olygydd y "Genedl.") ÅnIWyl Syr, Diolchwn am haiian gweith- rediadau y pwyllgor uehod yn y "Genedl" diweddai, yn cynwys errwau y pwyllgor Gwelwn oddiwrth yr enwau fod pob en wad oddigerth. un yn cael ei gyuryehioli ar y .pw;or. Y mae d'wy ctglwyja Aiiii'ibyiiol yn y lIe. ond pa Ie y m?e eu cynrycbiolwvr hwy? Y mae ?Iwy& Ebenezer wedi ca-?6 pedair punt i Gronfa y Tywysog; y ma* illu o'i meibion dewr wedi ymuno o dan faner eu gwladr ond a raid i'r rhad sydd all" od yn dyoddef fyned a'u cwyn i un o enwad arall? Ai tybed fod hyn yn iawn? Rnvfedd ydyw gwelrd enw.au tri o gynrychiolwyr o un eglwye a gaeglodd ddwy bunt a cheiniog (alt y Cronfa. tra y ga,dewir yr egilwyts fwyaf yn y He heb gymaTnt a.c un i'w chv-nryeh. ioli! Gwelwn oddiwrth yr adrod.diad mat dau achos yn unig sydd wedi eu dw-vn ger- bron y pwyllgor. ond credwn yn sicr fod llawer mwy na hyny yn dvpddef- Dylai pob eglwys yn yr ardal gael ei chy!>i-ychioili Of y pwyllgor w;n:; byddai yn hawddiaçh felly ddod o hyd i'r rhai eydd yn dyoddef. (Grasyn r ddai i neb fod yn dyoddietf tm y mae Cr ..ifa, gyfoethog yn barod ar au cyfer. Gobefthio y bydd hyn yn ddtgon ac vr ych. wianegir rhai ar y pwvllsor vn ddioed- ¡CHiW AREU TEG.
Y MILWYR CYMREIG YN SUFFOLK
Y MILWYR CYMREIG YN SUFFOLK Mae y 6ed gatriawd o'r Royal Walsh Fus- iliers ar hyn o bryd yn gwensyliu yh Wal- sham. Sm L oik- Ddgwyddia gweinid'og yr Ajv nobynwyr Seisnig yn y He fod yn enedigol o Bethesdfl. sef iy Pardh O. W. Hug. .(Car- neddi) a threfnodd oedfa yn Gymraeg ec mwyn y ] ( igyn- Nos Iau. iRluagfyr 17. yr oedd y ei j > yn orlawn a ohafwyd oedfa hapus. 'J r.. idodwyd pregeth1 ar y geiriau "Duw. caa-iad yw," a oh amy yd Abeiyst- wyth, Ton y Botel, a Chrugybar. ao yr oedd y canu yn ardderchog-teilwng o SisTwu Bangor umrthyw ddtydd; canu ag enaid yn- ddo a'r gwrandawiad y fath ag i ysbrydoli a tfhwymo calon y pregethwr- Dyma yr oedfa Gymraeg gyntaif erioed a gynhaliiwyd vn y lie ao wrth gwrs daeth rhai Saeson i'r oedfa o gywreinrwydd. Da genym ddwyn tystiol- aeth uchel i gymrd: y bechgyn. Ni raid' i Arfon wridio oherwydd ymddygiad ei me-ib. æn.
Advertising
THE REALWFLSH CURE A'REMANYt&i BALOArfl WELLHA JL BESWCH ac ANWYD H Amhrisiadwy gyda phlant. SsB is Poteli 1/- a 2/6 GAN aLL FFERYLLWYR A GRospT, )t H t
......................,......…
J ALL RIGHTS RESERVED.. ]j I ANOHARAD Y MYNACHDY N E U f, CARWRIAETH CYMRAES. S   i GAN ELLEN RICHAHDS. AW DUKES MISS PHILLIPS,$ <> ELLEN-T RICI-lAhD'?i, A%?'D-UI'?,ES "MISS PHILLIPS, I LLANEI7'llI." PEN NOD YIII. (Parhatl). I GOIIEBIAETH ANISGWYLIEDIG I 0 BLAS IFOH. j Yna y mae ganddo diwb lair mawr drvvy yr hwn yr edrycha ar y ser yng- hannol y nos. Y mae'n rhyfeddol iawn, rhyfeddol iawn yn wir; ond wn i yn v byd beth i feddwl o'r peth, Miss Angharard. Eto fe ddywedaf ei fod yn beth clyfar. 0, y mae'n eithaf da i hynyna, ond buaswn yn dweyd rnai peth drwg i'w wneud ydyw!" meddai'r eneth yn lied boethlyd. Mewn gwirionedd nid yw yn fusnes i mi o gwbl," meddai Shemus. Y mae yn gwsmer da a rhaid i ddyn wneud esgusodion dros to. Nid yw yn iawn i mi farnu unrhyw ddyn o gwbl. Gwydd- och hynyna yn eithaf da, Miss Anghard, fod yr Ysgrythyr yn gwahardd i ni famu unrhyw ddyn, onid yw?" Ydyw yn wir," meddai'r eneth yn bryderus. "H wvrach ei fod wedi'r cyfan yn fwy o fedrusrwydd nag o ddrygioni. Ond beth nesaf, tybed?" Pesychodd Shemus ac ar ol rhoddi cipdrem i fyny ac i lawr ar hyd y stryd aeth ynilaen ovdi.'i eglurhad Yr ydych yn deail yr arferai llawer o bobl fyned i weled Ceinwen. Os y bydd ffermwr yn colli ei loiau gydag anechyd a Bensha y meddyg anifeiliaid ym methu a'u gwella, neu os v byddai'r gwartheg wedi bwyra mes a inarw, neu yn wir os y digwyddai rhywbeth na ddeailai y bobl, aent at Ceinwen i gael eu swyno. Nid wyf yn dweyd eu bod ym myned yn awr, Miss Angharad." 0, yr oedd yn beth allan o le ynddynt i fyned. Yr wyf yn synu eu bod ym medru gwneud y fath beth," meddai'r ene' h, wedi c-iei ei brawychu'n fawr. Wei, wel, y mae rhai pobl yn dweyd hyn ac erail, yn dweyd fel arall; ond ni thalai i ni sydd yn cael ein byw- iolaeth drvvv fasnachu i farnu neb. Yr ydym yn deall ein Beibl yn well na hyn- yna, Miss Angharad, onid ydym?" Arhosodd Shemus am ychydig a gwthiodd i ffwrdd ryw blentyn y mchwil- gar oedd wrth y drws. Felly dechreuodd y bobl beidio myned at Ceinwen, a dywedasant nad oedu yn ddu. i ddim yn erbyn Mr Parry, Mathafarn, y gwr bonheddig fel ygeilw rhai pobl ef. A dechreuodd pobl wylio o'r tu allan i'w dy yn y nos a. galien t weled y mwg ac arogli y myg-darth drostynb eu hunain, a rhai prydiau gwel- sant ef yn edrych i fyny ar y ser gyda'i ysbienddrych hir; feÜy aeth rhai pobl mor bell a dweyd ei fod yn ddewin. Sibrydodd Shemus y gair olaf mor ddistaw yng nglust Angharad ddychryn- edig fel mai prin yr oedd yn glywadwy. 0, Sheinus, pa mor erchyll; ond nid wyf yn credu fod hynyna'n wir. Nis gall fod mor ddrwg a hynyna," meddai gan grynu. Nag ydyw wrth gwrs. Yr ydym ni sydd mewn busnes ym myned mor bell a dweyd fod Mr Parry yn ddyn clyfar iawn. Yr ydych yn cytuno a hynyna, Miss Angharad, onid ydych?" "A! ydwyf. Nis gall fod ond hyn- yna. Nid wyf yn ei feddwl. Na. Yna aeth Ceinwen i gyfarfod Mr Parry un noson, a safodd ar ganol y ffordd a dychrynodd ei geffyl gyda'i [fon fel y cawsant oil eu taflu i'r afon a mell- dithiodd hi ef a tharawodd yntau hi gyda'i chwip ac anfonodd Ezra ar ei ho1. 0! diar, diar." Ni ddylasai fod wedi taro Ceinwen. Y mae yn ddynes, yn hen ddynes. Nid wyf yn ei hoffi oherwydd hynyna," meddai'r eneth yn gyflym, a'i llygaid yn fflachio gan gynddaredd. Yr oedd hi yn synu na fuasai Walter Parry wedi crybwyll rhywbeth am y peth wrthi pan gyfarfuasant yn ddiw- eddar, ond nid oedd heb fod yn gwybod am yr amodau hynod ag yr oedd yr ewythr a'r nai yn byw o danynt. Yr oedd. yr hanes cyffredinol yn wir. Yr oedd atgasedd Ceinwen wedi cael ei godi gan y si cyffredinol ynghylch rhagorol- deb y galluoedd swyn-gyfareddol a bri- odolid i berchenog Mathafarn. Yr oedd drwy gynliwyn wedi dychrynu ei geffyl un noson, gyda'r canlyniad iddo ef a.'i geffyl a hithau yn ogystal gael eu taflu i'r afon Cothi oedd wed: liro dros ei glanau. Yr oedd er ya ei gynddaredd wedi taro yr hen ddynes unwaith neu ddwy gyda'i chwip, ac ymhedlach, ach- wynodd wrth y plismon ei bod yn cael arlart gan bobl wledig anwybodus drwy dwyll, ac yr oedd yr achos yn dod ymlaen y dydd Llun di'lynnol yn Llys Heddgeidwaid Llandyfri. Yn lied anewyllysgar yr aeth Ezra, y plismon, i roddi'r wys i'r hen wraig i'w bwthyn yn Deri Duon. Yr oedd ef ei hunan, ychydig amser yn ol, wedi prynu ganddi swyn-cariad gyda'r bwriad o dyneru calon Peraidd wylaidd, ac ofnai yn fawr rhag y buasai Oeinwen, mewn dialedd, yn datguddio i'r Ynadon am- gylchiad mor ddamniol. Yn nhywyllwch yr hwyrnos curodd Ezra wrth v drws derw oedd wedi cael ei dyllu gan bryfaid, lie y trigai yr hen ddewines. Gwrandawodd. ond ni chafodd ateb. Yr oedd mwg y tan mawn yn dod allan o'r simdde isel, ch-welius nad oedd ond priQ yn dod allan o'r hen do gwellt brown. Nid oedd y drws wedi ei gloi ac yr oedd yn gil-agored; felly, gwyrodd ei ysgwyddau uchel a sibrydodd yn ddis- taw drwy 'r adwy A ydych i fewn, Ceinwen?" Yr oedd yr hen wraig i fewn, ac yr oedd wrth gwrs wedi clywed ei lais dis- taw; ond ni, feiddiodd ateb. Yna gwth- iodd Ezra y drws yn fwy agored, aeth i fewn, cauodd a. chlodd ef. Eisteddai Ceinwen mewn hen gadair freichiau wrth ochr yr aelwyd ar yr hon y llosgai tan mawn yn ddwl. Yr oedd I muriau a thrawstiau yr hen ystafell fechan wedi cael eu duo gan fwg blyn- yddoedd v mawn, ac yr oedd y tylaethau a'r trawstiau yn ymddangos wedi cael eu gorchuddio gan got o buddugl. Yr oedd yr hen ddodrefn derw garw o'r un wneuthuriad a'r rhai sydd i'w canfod o hyd ym 'mwthynod y gwlad- wyr Cymreig tlotaf, a chynhwysent fwrdd hirgrwn bychan, cwpwrdd cornel o dan yr hwn yr oedd bwnlel tri-throed neu stdl, dwy gadair freichnui uchel o babwyr, a. dresser yn c-ynwys casgliad hynod o ddysglau wedi cracio a thoredig, cwpanau a soseri, ychydig o'r rhai fodd bynnag, na ddefnyddiwyd erioed gan yr hen Geinwen, gan rnai yr oil a ddefn- yddiai hi vn y cyfeiriad yrna oedd jwg tegan bychan, powlen a llwy bren. Oddiar y tylaeihau isel yr hongiai nifer o wynwyn, bwndel o ganhwyllau gwer, a llysiau arbennig wedi eu sychu a'u cylymu i fyny mewn darnau o bapurau newyddion wedi colli eu lliw. Defnyddid y twll ysgwar oedd yn y mur i gadw gwahanol bethau. Wrth ymyl v ffenestr yr oedd troell; a gorweddai cath ddu yn ddioglyd ar yr aelwyd. O'r tu allan i'r drws yr oedd ysgub fedw wedi ei gosod yn erbyn y mur, a'i choes ar y ddaear wrth ymyl bwced bren. Yr oedd Ceinwen wedi ymwisgo mewn mantell goch a ffrog las, y nail'l a'r Hall wedi colli eu fEw ac wedi gwisgo. Am ei phen yr oedd het lwyd bigfain ei ffurf oedd mor gyffredin v pryd hyn. Yr oedd Ceinwen yn ysinygu pibell glai wedi duo, coes yr hon, drwy fynych ddamweiniau, oedd oddeutu chwarter ei hyd gwreiddiol. Yn ei llaw dde daliai ei ffon anwahanadwy, heb yr hon ni symudai un amser. Yr oedd Ceinwen o gorff tal ond yn awr yr oedd wedi gwargrvmu; yr oedd ei hwyneb yn hir ac yn felyn-ddu, a'i hwyneb yn grebachlyd. Deuai dau neu dri o ddannedd hir a rhydd allan o'i gums pantiedig. Yr oedd ei llygaid yn fawr, yn ddu a. disglair. Un o'r fath yna oedd y ddynes hvnod a adnabyddid yn bell ac agos fel Dewines Deri Duon. Ni wnaeth ragor o sylw o sibrwd dylniddol pellach Ezra o Bryn- hawn da, Ceinwen," na nodio arno i eistedd yn y gadair freichiau gyferbyn a hi, oedd wedi ei rliodcli yno at wasan- aeth y personau a ddeuai yno i ymgyng- hori a hi. Ymddanghosai yr hen ddynes yn ddigon afrywiog, ac hwyraeh ei bod wedi darucanu ljeth oedd neges y plis- mon. Gwyddai gystal ag Y'1tau yr anhawster a gafodd i berswadio y rhai 3 dwyllwyd i ddod ymla-en i roddi tyst- ic, l ae ?l-i vn el lier b yn, iolaeth yn ei herbyn, felly, nid oedd yn anesmwyth o gwb'l. Nid dyma'r tro cyntaf i Geinwen fod yn y perygl o fyned i afael y gyfraith!" Daeth Ezra. ymlaen i'r aelwyd yn lladrataidd ac eisteddodd i lawr yn y gadair freichiau, tynoddi ei bibeli bren o'i boced, ac ar ol ei goleuo o'r tan mawn dechreuodd ysrnygu. Yr oedd pesychiad oddiwrth yr hen wraig yn arwydd iddo ei bod yn barod i wrando ar ei genadwri. Rhyw ddarn o bapur sy' gen i yma i chwi, mam," meddai yn ddistaw, gan ei dynu allan o'i boced. Tybiais mai gnvelf oedd i mi ddod yma ar ol iddi dywyllu rhag i mi aflonyddu arnoch." Pesychiad arall oedd yr unig ateb. Nodiodd ef yn wengar a dywedodd: "Yn wir, gwell i mi ei roddi i chwi yn ddiymdroi, ac yna gellwch wneud fel y mynoch gydag ef. Nid fy mai i ydyw beth bynnag." Ymbalfwlodd am rywbeth ym mhoced ei frest, a chyflwynodd iddi'r wys i ym- ddangos gerbron Ynadon Llandyfri ar y dyddiad a- nod id. Cipiodd Ceinwen y wys o'i law a thaflodd hi i'r tan. Tynnodd Ezra anadl hir rhwng y gwefusau oedd bron yn gauedig. Caton pawb! meddai yn ei lais isel arferol. Hoffaswn pe baech heb wneud hynyna o flaen fy wyneb, beth bynnag." "Nid yw o wahaniaeth," meddai'r hen wraig, gan siarad yn awr am y tro cyntaf. Pwy yn hcl'' °r !attyn a ddaw t t y n a ddaw ymlaen yn fy erbyn fe hoffwn v. ybod?" Yr ydych yn sicr o ddod, inam, yr un fath?" meddai'r plismon, yn awydd- us am glirio'i hunan allan o bob perygl. Nodiodd hi, ac aeth ymlaen i ysmygu. Cafodd ef ryddhad mawr wrth ganfod nad oedd yr hen wraig, gan yr hon yr oedd ga'llu i felldithio y rhai a drosedd- anfc yn ei herbyn, a'r hon ag y credai yntau yn drwyadl ynddi, vn dangos at- gasedd ato ef o gwbl wrth iddo gyflawni gwaith oedd yn erbyn ei ewyllys. Ewch, a gweithiwch i fyny yr holl dystiolaeth yn fy erbyn, os y geHwch," meddai Ceinwen yn hamddenol, allan o gwmwl o fwg tocaco a ddeuai allan o'i phibefll. Cauodd y plismon un o'i lygaid yn dynn, a chil-edrychodd arni gyda'r llall. yna cododd i fyny. 0, o'r goreu. Y mae amryw ach- wynion difrifol yn eich erbyn parthed eich gwaith," meddai mewn ilais uchel, swvddogol. Yna ar ol cil-edrych arni drachefn, a sibrwd ffarwel, tarwodel ei bibell yn erbyn y mur, ac aeth allan o'r bwthyn. (I'w Barhau).
MR MASTERMAN "AC - I ABERTAWE
MR MASTERMAN "AC I ABERTAWE Mae Mr Masterman wedi y&grifennu j at yr Ilenadur Hopkin Morgan, Castell- nedd, yn diolch i ranbarth Abertavve am y gwahoddiad i ddod yn ymgeisydd, ac yn gofyn am iddo gael amser hyd ar ol I y Gwyliau i anfon ei atebiad.