Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

MARWOLAETH. Y mae genuym y gorchwy! pruddaidd o gofnodi marwolaeth y cyfaill tawel a diym- hongar-y Br. Luis A. Vuoto-ar ol pedwar diwrnod o gystudd caled. Dioddefodd droi- on gan y gwyhegon, ond mae'u mai debyg y pneumonia fu yn achos o'i farwolaeth, yn yr oedran cynnar o 24ain mlwydd oed. Ganwyd ef yn Parana, a dywedir ei fod o deulu cyfritol a pharchus. Amlwg yw iddo gael dygiad i fyny rhagorol, oblegid yr oedd yn wr ieuanc a fawr berchid gan bawb ddaeth i gyffyrddiad ag ef, ac ystyrid ef yn un o gryn ymddiriedaeth, ac mewn safle o bwys anghyffredii) yn y "Banco de la jNacion," TreJevv. Daeth i'r He hwn yn agos i bum' mlynedd yn ol, a gwnaeth III mawr o gyfeillion yn ystod y tymor byr hwn, a mawr fydd y chwithdod a'r siorn o'i ym- adawiad sydyn o'u mysg, yn enwedig i'w gyfeillion mwyaf mynwesol. Rhaid ei fod yn wr cyfrifol a llvvyddiannus gyda'i alwed- igaeth, a chau y ewt-nni y gwasanaethai idd- ynt, oblegid cawn iddo gael amryw gynuyg- I ion o ddyrchafiad (promotion) i fyned i le- oedd eraill. Yr oedd gan y Br. Einilio H. Cerrutti, arolygydd y banc yn Trelevv, syn- iad uchel1 a pharchus am yr yrnadawedig. I Cafodd gladdedigaeth barchus iawn, clud- wyd ei arch ar ysgwyddau ei gyd-swyddog- ion o'r ty yr arferai fyw i'r Eglwys Babvdd- ol, lie y bu gwasanaeth crefyddol, yria ffurf- iwyd yn orymdaith o brif fasnachwyr y dref mewn moduron a cherbydau, yn cael eu blaenori gan elorgerbyd ysblenydd, yr hon oedd wedi ei gorchuddio a thorchau o flodau prydferth. Profa hyn y syniad uchel a pharchus oedd gan bawb am yr ymadawed- ig. Heddwch i'w Iwch." —o__ Drwg iawn gennym gael ar ddeall fod yr hen bererin duwiol a goaest, y Br. Josiah Williams, yn hynod wael ei iechyd y dydd- iau diweddafhyn. Dymunwn iddo adferiad buan, ac y cawn ei weled eto, i gael llawer ymgom felus a difyr ganddo. Mae efe bell- ach yn rhestr y rhai hynaf o'r sefydlwyr, a chanddo brofiad mawr am y gwahanol sym- udiadau sydd wedi cymeryd lie yn y Wlad- fa. —o— Da gennym gael nodiJod y cyfaill William Oliver yn graddol wella, ac hyderwn y bydd yn alluog i ymaflyd yn ei orchwyl yn fuan iawn, yr hyn fydd yn lIawenydd a chysur iddo ei hun ac i'w deulu. -0- Mae He i ofni fod y tywydd oer y dyddiau diweddaf yma, yn peri i amryw o'n cymyd- ogion ar hyd Trelew a rhanau o'r dyffryn i gwyno oherwydd yr anwyd a'r peswch glywir ym mhob man. Nid oes nemawr i dy yn y lie na chlywir swn cas y pesychu yuddynt. Gobeithio y ceir tywydd teg yn, fuan, yna daw popeth yn fwy dymunol i fynd o gwmpas ar hyn o bryd nid yw y tywydd yn ddeniadol o gwbl i fyned allan i rodiana.

IMynd a dod.

[No title]

[No title]

I Gaiman a'r Cylch.

Dolavon a'r Cylch.

i !Lie Cul.