Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Congl yr Ystori.

News
Cite
Share

Congl yr Ystori. [PAR HAD.1 ANELU AM FFORTIWN-A METHU. Buom -yii yr aur" am rai wythnosau, ond yn methu'n lan a tharo arno, gwaith prudd-ddifyr oedd perswadio eiu hunain bob nos yn y gwely y byddem yn siwr o daraw ar gyflawnder o honno "yfory "ond "yfory" hen ferch yr oedd pob un yn troi allan am yr wythnosau y buom yno, nes or diwedd y penderfynasom i droi yn 01 am y W lad fa heb ond y nesaf peth i ddim bwyd, baco nac awydd i son fawr ddim am nac aur nac arall ond cyraedd adref mor fuan ac y gallem- gydalr cydau gweigion hynny. Souiais o'r blaen fod yno lawer math o honnom yn y fintai, a chan fod pawb wedi cyfarfod ar un lwc wrth eura, sef oedd y Iwe honno, methu taro ar y melyn, yr oedd- ym oil yn gydradd mewu un ystyr, ac yr oedd hynny yn melysu peth ar y siom a gawsom, pe fel arall, ni fuasai yn bosibl i ni fod mor rhydda hyf y naill ar y Ilall wydd- och, peth cas iawn fuasai fod rhyw ychydig wedi gallu llenwi y cydau ac aur a'r gwedd- ill heb ddim, buasai y ffodusion yn ystyried eu hunain fel yn perthyn i ryw caste uwch- law ilr gweddili ond o drugaredd nid oedd wahaniaeth yn y byd rhyngom, gan fod Pawb r'un radd, pob un yn rog." Yr wyf yn meddwl mai y dyn galluocaf a mwyaf gwybodus yn y fintai oedd y dyn mwyaf din- iwed o honnom i gyd, mae peth fel yna yn swnio dipyn yn chwithig onid ydyw ? Ond dyma i chwi stori fach i ddangos fod y peth yn bosibj. Yr oedd gan T. T. A. air hen gyfaill y cyf- eiriwyd ato uchod geffyl bob un mor debyeed i'w gilydd ac yr oedd yn bosibl i ddau anif- ail da fod, gyda'r eithriad o un ysmotyn gwyn o faint soser de fechan oedd argrwper yr un perthynol i J. H., a hwnnw oedd y hod arbenig a'i galluogai i adnabod y ceffyl bob amser. Yn y gwersyll uu noson penderfyn- odd dau neu dri o'r boys a T. T. A. oedd un o honynt y buasent yn chwareu cast bach a J. H. a'r noson honno, wedi i'r rhan fwyaf o'r fintai fyned i gysgu, aethant allan i gauol y ceffylau oedd yn pori gerllaw, a chariai un o honynt degell bychan yn ei law, daliwyd y ceffyl du oedd a'r ysmotyn gwyn ar ei grwp- er, a chyn pen pum munud yr oedd yn gwbl ddu fel ceffyl T. T. A. Foreu tranoeth pan ddygwyd y ceffylau i mewn, aeth pob un ati i ddal y ceffyl oedd i'w gario y diwrnod hwnnw, ond nid oedd olwg am y ceffyl du a'r ysmotyn gwyn yn ei mysg, a mawr oedd penbleth J. H. o'r her- wydd, obfegid hwnnw oedd ei fancy hors ef ac yr oedd meddwl am ei adael ar oLyn ofid calon iddo. 0, ie, dylaswn ddweud i T. T. A. y boreu hwnnw wlychu rhannau o'i geffyl ef a dwfr, a rhaddi llwch gwyn y paith ar y mannau hynny er ei ddieithrio yng ngolwg J. H. O'r diwedd daeth yn amser cychwyn i'r daith (yr olaf ond un nes cyrhaedd y dyff- ryn) ac meddai T. T. A. wrth J. H. gan nad wyf fi am ddefnyddio y ceffyl du heddyw cymerwch chwi ei fenthyg i fyned am dro o gwmpas i fynd i chwilio am eich un chwi, ac mi gychwynwn ninnau yr ara deg, wedyn mi ddaliwch ni yn Hafn Mihangel tua chanol tua chanol dydd." Ac felly fu, daliodd J. H. ei geffyl ei hunan a ftwrdd ac ef un ffordd a'r finiai y ffordd arall, Erbyn i'r fintai gyraedd Hafn Mihasgel yr oedd yr hen gyfaill yno o'u blaenau ond heb y ceffyl colledig." Pan ofynodd T. T. A. i J. H. pa fodd yr oedd yn hoffi y ceffyl, yr atebiad a gafodd ydoedd,—" Wel, mae o'n eithaf ceffyl marchogaeth, ond myn brain i mae fun i yn smwythach o Iawer, yn en- wedig wrth garlamu." Arhosodd y fintai yn y drofa honno hvd dranoeth, gan fod yno lawnder porfa i'r an- ifeiliaid, ac yn ystod y nos aeth y cnaforj hynny fuont yn paentio'r smotyu gwyn, i ddaly ceffyl wedyn, a'r tro hwnnw gyda chymhorth ychydig ddwfr a cherpyn, dyg- wyd y gwyn i'r golwg eilwaith. Foreu tranoeth- dyna falch oedd J. H. o weled ei fancy horse wedi dod o honno'i hun at y ceffylau eraill. Er cystal sgwrsiwr yr hen gyfaill hoff, ni fedrech chwi na neb arall ei gael i son gair am y tro hwnnw pan y cafodd fenthyg ei geffyl ei hun i fyned i chwilio am y ceffyl hwnnw. DYFFRYNWR.

[Municipalidad de T relew

JHqnieipalidad de Dolavon.

Y Farchnad (Buenos Aires).