Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
AVISO Cia. Unida de Irrigacion…
AVISO Cia. Unida de Irrigacion del Chubut RAMAL A. Se avisa a los sefiores accionistas de este ramal que la techa de abonar las deudas se- gun quedan del impuesto de agua esta pro- longada hasta el treinta de Septiembre de 1919. Despues de dicha fecha se cobraran el o ór para los gastos de cobrarlos judi- cialmente. Septiembre 2, 1919. EL DIRECTORIO.
Cwmni Dyfrhaol Unedig y Camwy.…
Cwmni Dyfrhaol Unedig y Camwy. RHYBYDDCANOEN A. Estynir amser talu ol-ddyled treth dwr hyd Medi 3oain 1919. Ar 01 hyny codir pymtheg y cant (10 0/o) ar gyfer y treuliau o'i codi trwy gyfraith. Medi 2, 1919. DRWY ORCHYMYN YR HYRWYDDAI.
HYSBYSIAD I
HYSBYSIAD I Dymuna MRS. OWEN M. JONES, Col- huape, hysbysu y cyhoedd ei bod wedi AIL AGOR CAFE BRITANICO, GAIMAN. Bydd te a choffi i'w gael unrhyw awr o'r dydd. Rhoddir teierau arbenig i blant yr ysgol. Byddaf yn ddiolchgar am bob cefnogaeth.
I IMynd a dod.
I Mynd a dod. I YN OL O'R YMDRECH FAWR. Y mae ilawer yn y Wiadfa yu cofio Mr. George Weaver ddaetb yma o Awstralia yn 1913, ac a fu am yspaid yng ngwasanaeth Cwmni Madryn pryd y gofalai am adran K. 46 o'r Estancia oddiyno symudodd i ym- gymeryd a swydd bwysig o dan gwmni Es- tancia Lochiel. Pan dorrodd y rhyfel allan, aeth i Brydaiu i gynnyg ei wasanaeth i'r Fainwlad gan ym- uno a'r gwyr meirch perthynol i'r adran o'r fyddin a elwyr y King Edward's Horse gyda pha un y bu yn gwasanaethu yn Italy a Ffrainc. Yn Ebrill 1918 cymerwyd ef yn garcharor gan yr Ellmyn hyd derfyniad y rhyfel, dyw- ed fod y driniaeth a dderbyniodd tra yn garcharor yn yr Ahnaen yn un greulon ddigon. Cyrhaeddodd Mr. Weaver i Madryn wyth- nos yn ol gyda'r Asturiano a bydd iddo ym- adael am y De gyda'r Camarones heddyw. Deallwn hefyd fod Mr. Dunlop a fu am yspaid yn rheolydd Cwmni Madryn, fel of- ynydd Mr. James, wedi dychwelyd o'r rhyfel ac yn awr wedi ei benodi i swydd gyfrifol yng ngwasanaeth Cwmni Tir y De. (Estan- cia Maquinchao.) —»— Gyda'r Camarones i Madryn ddoe elai Mr. Arias Castro-y cenhadwr fu yma am ysp- aid, i lawr i Comodoro Rivadavia i lafurio o dan y Gymdeithas Feiblaidd (Americanaidd.) —o— Gyda'r un Hong dychwelai Miss Edith Morgan-merch Mr. a Mrs. Edward Morgan, Ty Newydd, Bryn Crwn, i Rivadavia i ail ymaflyd yn ei swydd yn y C. M. C. yno ar ol bod ar ymweliad a'i rieni yma. -0- Gyda'r Camarones hefyd cyrhaeddodd Mr. Enrique Bosch, arolygydd newydd y Weith- fa Gaws ac Ymenyn berthynol i'r C. M. C. yn y Gaiman.
> W9W IR I:AT ARDALWYR
> W9W I AT ARDALWYR Rhanbarth Dolafon a'r Cylchoedd. O dan nawdd Cyngor Rhanbarth Dola- von bwriedir ffurfio Undeb, er cael Gwas- anaeth Meddygol i'r rhanbarth a'r cylch- oedd yn unol ar telerau canlynol.- I.-(a) Bydd 1 r Cyngor, ynghyd a Phwyll- gor yr Undeb, agor Llyfr-Rhestru, yn yr hwn y nodir enawu y rhai a ymunant ar Undeb, eu hoed, a'r pellder y trigianant o'r Dref. (b) Ystyrir personau unigol mewn oed, sydd yn llafurio er cynorthwyo eu teuluoedd, fel aelod o deuluoedd eu tadau; ond nid felly y rhai sydd yn enill eu bywioliaeth allan o'u cartrefi. (c) Nis gall y rhai dan oed, sydd yn gyffelyb i'r erthygl flaenorol, gael eu rhestru, heb hawl eu tadau neu eu goruchwilwyr, pa rai a law- nodant y Rhestr-lyfr drostynt. (d) Roddir i'r Meddyg a gytundebir, enwau a chyfarwyddiadau o'r holl bersonau a restrir. 2.-Ffurfir y Sawd Meddygol, a thaliadau yr Aelodau, enillion gwyliau, rhoddion dderbynir, a'r swm a benodir gan Gyngor y Rhanbarth, i'r pwrpas. 3.-Dosberthir taliadau yr Aelodau fel y canlyn:— (a) Person unigol $8.00 y flwyddyn. (b) Gwr a Gwraig $20.00 y flwydd- yn. (c) Teulu o 3 hyd 6 o aelodau, $30.00 y flwyddyn. (d) Teulu o 7 hyd 9 o aelodau, $40.00 y flwyddyn. (d) Teulu o 10 neu ychwaneg o ael- odau, $50.00. 4.—Codir y taliadau yn chwe-misol, ac yn mlaen llaw. S.-Cyfyngir y Meddyg i'r prisiau (fee) canlynol, am bob ymweliad a chleifion perthynol i'r Undeb:— (a) Yn ei Ymgynghorfa, $2.00 yr ymweliad. (b) Yn y Dref, $3.00 yr ymweliad. (c) Yn y Wiad $S.oo H H Yn ychwannegol at ei ymweliadau a chleifion y Dyffryn, caniateir iddo godi Dau ddoler ($2.00) am bob Uech o bellder o'r Dref. Bydd costau cludo ar gyfrif ei ymof- ynydd. 6.—Ni chodir tal (fee) ar y tlodion. 7.-Neuliduir elw blynyddol y Sawd- Meddyg-ol, i'r Reserve Fund. Y PWYLLGOR. NODIAD.Gellir cael pob manylion yn mhellach gan y Bonwr Nicolas Castro, Cadeirydd y Pwyllgor Darbodol: neu y Br. Edward Hughes, Ysgrifenydd y Pwyllgor Darbodol.
¡ ... I SECCION CASTELLANA.
¡ I SECCION CASTELLANA. I Se reciben colaboraciones, que no sean muy extensas, siendo temas de interes general para el Territorio.
Alrededor de la Ciencia de…
Alrededor de la Ciencia de la Educacion. En ese perenne afan, de perfeccionar la obra de la Escuela Primaria, surge el pen- samiento de que, para que ella, responda a las exigencias modernas de la vida, debe llevar una orientacion solida, positiva, prác- tica y bien definida. Las generaciones ar- gentinas modernas, deben ser forjadas en el crisol de la moral sana, exhenta de todo pseudo-prejuicio y orientadas en las indus- trias, en las art ex manuales y en el comercio, base sustantiva de toda democracia mo- derna. Y trabajaremos asiduamente, pa- ra introducir en la Escuela Primaria, como una nueva materia, en su plan de a/udios, programas anaHticos y horarios, la "Orien- tacion Primaria". ^Porque la Instruccion Primaria, debe ser orientada en la Indus- tria, Artes Manuaies y Comercio? Por las razones fundamentals:—1°) las artes ma- nuates, las industrias y el comercio, cons- tituyen la fuente poderosa de la potenciali- dad economica de pueblos y pafses;—2t>) porque naciones que marchan a la vanguar. dia del progreso humano, son en las que sus habitantes, son esencialmente industriales, fabricantes y comerciantes. FRANCISCO A. LOPEZ.
The Feather and Oil.
The Feather and Oil. "As the story goes-the weather had been damp, the doors in the boarding house had swollen and the hinges creaked. One man took a feather and dipping it in oil applied it to the hinge and the hinge ceased to creak. The other man lost his patience and yanked the swollen door so hard as to pull it entirely away from the hinge, and had to go forth and make his damage good. "There are two types of men-he who goes among his fellows with a feather and oil and he who yanks things still further out of order when something goes wrong." Trumbull Cheer.
Cymdeithas Cenhadol y Camwy.
Cymdeithas Cenhadol y Camwy. Gelwir aelodau y gymdeithas uchod i gyfarfod gynhelir yn yr ystafell genhadol yn y Gaiman ddydd Mercher nesaf-Medi 24ain am 2 o'r gloch. Disgwvlir adrodd- iad gan y Br. Elias Owen parthed cael Cenhadwr—a'r possiblrwydd i.ni allu ym- uno a Chymdeithas gref arall syddyn y gwaith eisoes. Taer ddymunir am bresenoldeb pawb o garedigion y mudiad Cenhadol. MORGAN PH. JONIS, ysg.
0 Bed war Ban Byd. o BedwarBan…
Madryn am rai blynyddoedd ar ol toriad allan y rhyfei-yno y ffodd am nodded rhag y "Glasgow" fel y cofir. —o— Gwelwn yn y newydduron diweddaraf i law o Buenos Aires, fod y sefyllfa weith- faol yn gwella yn Mhrydain a'r Unol Dal- aethau-er holl ymdrechion cynhyrfwyr (Bolsheficaidd?) yn y ddwy wlad, a thuedda prisiau ymborth a dillad i ostwng yn y wlad ddiweddaf, yr hyn a effeithia yn raddol ar y prisiau mewn gwledydd eraill. -0- Y mae George Quien, Ffrancwr, wedi ei g-ondemnio i farwolaeth ar ol ei brofi yn euog yn Uchaf-lys barn ym Mharis, o fod wedi cynysgaeddu yr awdurdodau ellmynig ym Melgiwm a'r wybodaeth ddarfod i Edith Cavell gynorthwyo milwyr Prydeinig i ddianc o'u caethiwed, yr hyn a arwein- iodd iddi gael ei merthyru. -0- Yn ddiweddar cyrhaeddodd un o longau y "Royal Mail" i Buenos Aires, ac y mae hynodrwydd mwy na'r chyffredin yn perth- yn iddi-cyn y rhyfel hon 'ydoedd prif bleserlong y Cyn-Gaiser. Fel y mae peth- au'n cyfnewid yn y byd yma onide! pan yn perthyn i William, ni chai onid y bobl fawr-fwyaf fyned yn agos ati, heddyw gellir cael tocyn y trydydd dosparth i deithio gyda hi. -0- Y mae arnaf gywilydd ohonoch, oes yn wir meddai y Prifathraw Griffith Jones, Bradford, wrth y seithcant cynrychiolwyr Annibynol hyny ym Mhontypridd wrth siarad ar y mater o ffurfio Cronfa o haner can mil o bunau er sicrhau cyflogau teilwng i weinidogion yr enwad yn Nghymru, ac ebai yn mhellach, "Os y bydd i chwi gasglu haner can mil, fe ymrwymaf finau i gasglu pum mil a'r hugain at y swm hwnw yn Lloegr, wedyn bydd genym gronfa o bym- theg mil a triugain," -0- Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, cododd Prydain Fawr ddigon o ymborth iddi ei hun am un wythnos ar bymtheg, a dis- gwylir y gellir codi digon am ugain wythnos y flwyddyn hon. Pe rhenid y parciau mawrion yno yn ffermydd, dy.wedir y gallai godi digon o fwyd i'r holl drigolion am flwyddyn gron-ac i hyny y daw pethau yno bob yn dipyn hefyd.