Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

.BUOO !

News
Cite
Share

BUOO DATGUDDIADAU'R TYWYSOG LICHNOWSKY. Gan C. A. MCCURDY, A. S. CYF. GAN YR ATHRO IFOR WILLIAMS, M.A, [PARHAD. ] RHYBUDD OLAF A WSTRIA. Yr oedd y Tywysog Lichuowsky i ddyfod i ddeall yn fuan pa mor ddifrif oedd y byg- ythiad yn erbyn heddwch y byd a baratoisid eisoes ac a gytunasid aruo gan lywodraeth- wyr Awstria a'r Almaeu. Ymddangosodd yn y wasg olaf-rybudd creulon a ffiaidd Aws- tria i Serbia. Daugoswyd gan y Dr. Muhlon arc! hyuny fod y Kaiser ei hun yn gyfrifol bersonol am anfoniad allan y rhybudd hwn- riw. Y tebyg yw mai ym mhapurau newydd Llundain y gwelodd y Llys-gennad Ellmynig ef gyntaf. Pan ymddangosodd y rhybudd olaf," meddai'r Tywysog, deallai'r byd i gyd, ac eithrio Berlin a Vienna, y golygai rhyfel, ac yn wii tyd-ryfel. Digwyddai fod Llynges Prydain wedi ei chrynhoi ynghyd i'w had- olygu, ac nid ymwasgarodd. Ar y cyntaf pwysais am ateb mor gymodlawn ag oedd modd gan Serbia, gan na adawai osgo Llywodraeth Rwssia le mwyach i amau ddifrifoled. oedd y sefyil- fa. 41 Yr oedd atebiad Serbia yn unol ag ymdrechion Prydain yn wir derbyniasai M. Pashitch bopeth ond dau bwyut, ac yng nglyn a'r rheini datganodd ei barodrwydd i ymdrafod. Pe buasai Rwssia a Lloegr yn dymutio rhyfel er mwyn ymosod arnom ni, buasai cil-awgrym i Felgrad6 yn ddigon ac nid atebasai o gwbl i nodyn bondig- rybwyll Awstria. 44 Aeth Syr Edward Grey trwy atebiad Serbia gyda mi, a dangosodd pa mor gym- odlawn oedd ysbryd llywodraeth Belgrade. Wedyn buom yn trin ei gyunyg ef i gyf- ryngu, i'r amcan o drefuu esboniad ar y ddau bwynt mewn dadl a fuasai'n gymer- adwy o bobtu. Cyfarfuasai M. Cambon (Llys-gennad Ffrainc yn Llundain), y Marcwis Imperiali (Cennad yr Eidal yn Llundain) a minnau o dan lywyddiaeth Syr Edward Grey, a buasai'n hawdd darganfod ffurf gymerad- wy i ateb y ddeubwynt dan sylw. Eu pwrpas oedd yn bennaf parthed y rhan oedd swyddogion Awstriaidd i gymryd yn yr yrnchvvijiad ym Melgrade. Pe buasai ewyllys da, gallesid gwastatau'r cyfan tnewn eisteddiad neu ddau, a buasai der- byn cynnyg Prydain ynddo'i hun yn taw- elu'r cynnwrf, ac ymhellach hefyd wedi ein dwyn ar well telerau a Lloegr. Pwys- ais yn drwm fod y cynnyg i'w dderbyn, gan ddywedyd oui wnaem fod byd-ryfel gerllaw, yr oedd gennym ni bopeth ilw 'golli ynddo, heb ddim ilw ennill. Yn ofer Dywedwyd wrthyf nad oedd yn gytun ag urddas Awstria, ac nad oedd ar- nofri ni eisiau ymyrraeth yn yr helynt Serbiaidd, ond ei adael i Awstria. U Wrth gwrs nid oedd raid ond wrth awgrym gan Ferlin, i wneud Count Berch- told yn fodlon ar fuddugoliaeth ddiplom- atig ar Serbia, a derbyn atebiad y wlad honno. Ond ni roddwyd yr awgrym hwn- nw. Pr gwrthwyneb pwysasom am ryf- el." RHAID RHOI SERBIA I'R CLEDDYF." PWYSASOM AM RYFEL," Os oes neb yn dal i gredu o hyd mai o ddiplomatydd- iaeth Prydain y tarddodd y rhyfel, ystyried gyfaddefiadv Llys-gennad Ellmynig. Pwys- odd yr Almaen am ryfel. Mynnodd gael rhyfel. "Wedi i ni wrthod, gofynnodd Syr Ii Edward i ni gynnyg rhywbeth ein hunain. NI WNA DIM Y TRO I NI OND RHYF- EL Cynyddai'r argraff o hyd ein bod yn awyddus am ryfel dan unrhyw amgylch- iad. Onid e, nid oedd modd deall ein safle mewn peth nad oedd yn ein cyff- wrdd ni, wedi'r cwbl, yn uniongyrchol. Apeliadau taer, a datganiadau clir M. Sazonoff (Gweinidog Tramor Rwssia), wedyu pellebrau gwir ostyngedig y Tsar, cynnyg ar ol cynnyg gan Syr Edward, rhybuddion San Giuliano (Gweinidog Tramor yr Eidal), a rhai Bollati (Llys- gennad yr Eidal ym Merlin), fy nghyngor dwys innau—nid oedd dim yn tycio, canys mynnai Berlin o hyd fod yn rhaid rhoi Serbia ilr cleddyf," 44 Mynnai Berlin o hyd fod yn rhaid rhoi Serbia i'r cleddyf I" Nid oes un engraifft yn hanes y byd o lys-gennad Gallu Mawr yn ysgrifennu'r fath gondemniad arswydus ar ei Lywodraeth ef ei hun. Pan ymdrechai Ewrop gyfan am heddwch, 44 MYNNAI BER- LIN 0 HYD FOD YN RHAID RHOI SER- BIA I'R CLEDDYF." 44 PECHOD YN ERBYN YR YSBRYD GLAN." Ac felly gwthiwyd y rhyfel mawr ar Ew- rop. Ac felly y diweddodd cenhadaeth Ty- wysog Lichnowsky yn Llundain, a chafodd llywodraethwyr yr Almaen eu ffordd, a heddyw gorwedd traean y Serbiaid, yn wyr, gwragedd a phlant, yn gelaneddau lladdedig yn y mynwentydd enfawr a lanwyd o her- wydd cael o lywodraethwyr yr Almaen eu ffordd. Wrth ddisgrifio ei ymadawiad olr wlad hon, dywed y Tywysog 44 Cawsom dren arbenig i Harwich, IJelr oedd gosgordd o barch yn sefyll ilin der- byn. Ces fy nhrin fel petawn frenin yn ( ymadael. Felly y gorffennodd fy nghen- hadaeth yn Llundain. Dinistriwyd hi, nid gan ddichell y Prydeinwyr, ond gan ddichell ein polisi ni'n huuain." I Yn erbyn twyll a dichell y bolisi honno, rhydd y brotest olat anobeithiol hon I Bu raid i mi ddal yn Llundain o dan bolisi y gwyddwn bod twyll ynddi. Ces: fy nhal am hynny, canys pechod ydoeddi yn erbyn yr Ysbryd Glan," Dengys cofnodion y Tywysog i ni mewn goleuni clir eneidiau dynion nad oedd ar- nynt erioed awydd am heddweh na chyfeill- garwch, nad oedd golud, masnach, trefedig- I aethau yn ddigon ganddynt, a oeddent wedi liwyr benderfynu er y cychwyn cyntaf ar y ryfel-rhyfel doed a ddelo, rhyfel i ysbeilio 'u cymdogion, rhyfel i ennill unbennaeth y byd, rhyfel o gariad at ryfel. (Pw barhau.)

Advertising