Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

.Dytiryii y Camwy.

Brwydrau Bywyd.

News
Cite
Share

Brwydrau Bywyd. Wedi bod am dros bedair blynedd yng nghanol swn y rhyfel fwyaf mewn hanes, anhawdd dadgysylltu'r meddwl oddiwrthi, ac oddiwrth effeithiau ei brwydrau mawrion ar yr oes hon a'r oesau sydd i ddyfod. Gwelir fod y rhyfel wedi agor llygaid y gwledydd i'w cyflyrau iechydol, masnachol, diwydianol, amaethyddol, a gwleidyddol, a bwriada rhai o'r gwledydd, o leiaf, fanteisio ar y weledigaeth fawr hon gafwyd trwy gyfrwng cyflafan y rhyfel. Rhaid aros i weled pa nifer o'r gwledydd gariant allan eu bwriadau i roddi ufudd-dod i'r weledigaeth. Mae ufudd-dod i'r weledig- aeth yn golygu penderfyniad, gwaith, a dyfatbarhad. Wrth edrych i mewn i ferw brwydrau bywyd cymdeithasol heddyw, gallem feddwl mai suddo i ddistryw ar ei phen y mae'r ddynoliaeth, ac nad oes gobaith iddi am achubiaeth. Chwyldroad ydyw I Gwledydd mewn trobwll heb eto deimlo eu traed ar dir cadarn. Dywed un o haneswyr boreuol Cristiohogaeth fod Iesu o Nazareth a'i Apostolion yn troi y byd ar ei wyneb i lawr. Chwyldroad mwyaf hanes oedd hwn- nw mewn canlyniad i wyrth fwyaf hanes— ymgnawdoliad Crist. Chwyldroad mawryw hwn mewn canlyniad i ryfel fwyaf hanes— rhyfel rhwng militariaeth ac iawnder, a gwelir iawnder yn troi militariaeth ar ei wyneb i lawr. Dyna'r chwyldroad Oes y brwydrau mawrion yw hon Oes y darganfyddiadau ym myd gwyddor a chelf. Cymer brwydrau egniol le ar holl faesydd meddwl yr oes. Tybed yw yr oes i suddo mewn materoliaeth ? Gallem feddwl fod gweddi yn cael ei hymlid o'r tir gan vsbryd caled materol cymdeithas. Mae gweddiwyr cyhoeddus yn darfod o'r tir. Anfynych y gofynir gwasanaeth crefyddol mewn priodasau. Yn gyffredin dynion di- grefydd sy'n arwain yn y gwasanaeth priod- asol. Paham na chymerir dynion digrefydd i wasanaethu ar Ian y bedd ? Mae mwy o angen gwasanaeth crefyddol ar ddechreu gyrfa briodasol nag y sydd ar ei diwedd. Y duedd yw taflu gweddi yn ddlseremoni o gylch bywyd cymdeithasol hyd nes cyr- haeddir ymvlon y bedd. Beth sy'n cyfrif am hyn ? Nid oes gennym ond ateb mai oes y chwyldroadau ydyw. A phwy na chryna drwyddo yn yr olwg ar y chwyl- droad Cymer brwydrau ffyrnig le ar faes ysbryd crefydd. Ein hangen-eiii prif ang- en-yw cael dynion a merched o naws gref- yddol gyda'r plant a'r bobl ieuainc. Heb naws grefyddol o gwmpas y plant, nid oes disgwyl gwneud crefyddwyr o honynt. Nid gwirioneddau crefyddol sydd ar y plant eis- iau yn bennaf, ond naws ysbryd crefyddol. Mae gwirioneddau crefyddol heb naws ysbryd crefydd wedi troi'n fethiant, a llithra nifer fawr sy'n hyddysg mewn* gwirionedd- au crefyddol i dir anghrefyddol. Ein tuedd ni yw rhoddi, ac yr ydym wedi rhoddi yn y gorphenol, gormod pwys ar ddysgu swm .0 wirioneddau crefyddol i'r plant heb ofalu tod, y personau oedd yn cyfranu y gwirion- eddau iddynt yn feddianol ar naws a phrof- iadau crefyddol. Anian newydd raid gael i wneud gwir grefyddwyr, a pherthyn anian a chrefydd yn fwy i diriogaeth yr ysbryd nag i diriogaeth y deall. Oes y brwydrau ydyw, ac oes y chwyl- droadau. Yi-nwthialr -Tneddw] yn fynych, heb naws crefydd, i ystafelloedd mwyaf cyf- rin gwyddor, celf, a chrefydd, a gwneir hafog ar eu trysorau, gwneir chwyldroad. BRWYDR YW BYWYD. Edrycher ar fywyd yn ei holl gylch, a gwelir mai brwydr ydyw. Brwydr yw y bywyd naturiol, inoesol, cymdeithssol a chrefyddol. Brwydra'r rhan fwyaf o'drigol- ion y byd am gynhaliaeth bywyd, am ym-