Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Dechreu y Flwyddyn 1919.
Dechreu y Flwyddyn 1919. Cyrhaeddodd yr agerlong Demerara (ar yr hot) y bum yn deithiwr) Montevideo y dydd cyntaf o'r flwyddyn un deg naw ddwy waith, rhif digon rhyfedd ac fel pe yn awyddus am gysoudeb, dyma y flwyddyn yn dechreu dadlenu ei chyfrinion yn unig i flaeaoriaid y gweithwyr, y rhai oedd wedi rhag-gynlluuio streic gyffredinol yn Llun- daiu, Efrog Newydd, Montevideo a Buenos Aires. Nid oes a fynno yr ysgrifenydd ond yn unig a Pnrifddinas y Weriniaeth Arianin. Pan yn glauio yno 'nawn Sadwrn y 4ydd cynfisol, y peth cyntaf a dynodd fy sylw ydoedd Uuosogrwydd a bywiogrwydd rhyt- eddol y bobl, olafiaid rhai o hotiviit oeddynt ddiarhebol am eu harafwch dros ddeugain tnlynedd yn ol. Na, na 'does yma ddim son am (manana) yfory, pawb yn mynd a mynd yn gyflym-gwyr traed yr un wedd a phobl yr olwynion, a hyiiny trwy y gwres mawr wyth deg pump gradd yn y cysgod Tra yr aeddwn i yn sychu chwys bob dau funud, inae pawb yma yn pasio heibio fel pe i ddal trell a redai yn unig un waith yr wythncs. 0 'nawn Sadwrn hyd fore Mercher yr wyth- nos ddilynol, parhaodd y bobl yng ughanol • swn byddarol i wibio fel mellt o'r naill fan ilr liall yii y dditias fawr. Eithr yr wythfed dydd o'r flwyddyn newydd, dyna lotiyddwch, ie, tawelwch llethol, tawelwch a bwysodd yn drwm ar filoedd o'r preswylwyr, nidoherwydd diffyg treuliad, eithr am na ellid am unrhyw arian gael dim i'tv dreulio. Cauwyd bron yr oll o'r hotels, y llaethdai, y restaurants a'r con fiterias cyn y trydydd dydd o'r streic, trwy y Sadwrn ac hyd ganol dydd Sul y iafed hir- gofiadwy. 0 fewn hanner milldir o gylch -Plaza Mayo, nid oedd fwyd i'w gael o gwbl, oddieithr i'r rhai oedd yn byrdaio i fewn yn yr hotels. Ni cheisiaf ddisgrifio y sefyllfa echrydus, eithr pan ddarllenais fore Sadwrn am y clwyfedigion, ac yn arbenig y ddau ddyn a laddwyd y tu allan i'r Prif lythyrdy, un o ba rai oedd yn cyflenwi ei ddy ledswydd ya y fynedfa i'r ilythyrdy o'r ystryd Reconquista, lie y bum inau yn ymofyn stamps dd wyawr cyn i'r trychineb gvmeryd He. Er byred yr amser, prin bedwar diwrnod, parhad y gwarchae, oblegid yn ymarferol dyna ydoedd, heblaw colled ar fywydau a toster y clwyfedigion, ac er holl ymdrechion canmoladwy yr heddlu a'r mil- wyr yn wyr meirch, traedfilwyr a'r morfil- wyr, yr oedd sefyllfa y ddinas mor drwyadl yn flaw y gweithwyr-y streicwyr, fel ym mhen tridiau yn ychwanegol buasai y sefyll- fa yn annioddefol. Fan atelir y trenau o bob cyfeiriad sydd yo cludo bwydydd a diodydd i ddinas o fil- iwna thri chwarter o bobl, nid ydvw vchyd- ig foduron a throliau yn cael eu cludo gan geflfylau ond megis diddim. Traffic dyma'r agoriad anffaeledig sydd ar hyn o bryd yn llaw gweithwyr pob gwlad os medrant ddod i gyd-ddealltwriaeth a'u gilydd pryd i gloi drws trafnidiaeth gwlad, wrth reswm rhaid iddynt sylweddoli y cloant y drws arnynt eu huuain hefyd, ac yiietnl hwynthwy fydd flaenaf yn dioddef. Rhyleddu a wnaethum wedi gweled cryn gyai yng Nghymru, yn ystod y tair blynedd diweddaf, weled y ddinas hon mor wastraff- us ar fara y bob!, bara goreu efaHai a wneir yn yr holl fyd. Gwelais mewn tri neu bedwar o eisteddleoedd o dan y feinciau dorthau bychain wedi eu taflu a'u gadael. Ym mhen pedwar diwrnod wedin nid oedd dim bara i frecwest. "Yng nghanol ein bywyd yr ydym yn angau." Llamodd fy nghalon pan welais y twr a'r doc anferth a chostus a atirhegodd Prydain y wlad honag ef-mae yn anrhydedd ar y rhoddwr ac ar y derbynydd; ac Ol mor hardd a glan ydoedd y ddinas fawr hon wythnos i heddyw,—Beth am dani y funud yma? Yrnataliaf, canys daw yn iawn cyn nos yfory I Swm y cwbl a geisiaf ysgrifenu ydyw, mai yr un broblem fawr sydd eisieu ei gweithio allan yn ymarferol ymhob gwiad-" Gwna i eraill fel y dymunet i eraill wneud i ti." Brysied y bore wawrio pan y Hawn sylweddolir hyn gan bob dos- barth, cyfalafwyr a sosialiaid. 0 J. S. W. »
IUno'r Gwledydd.'I
I Uno'r Gwledydd. 'I Llawer sydd o siarad ac ysgrifenu ar "Undeb Rhyngwladwriaethol" a "Chyng- rair y Cenhedloedd," a disgwylir pethau gwych i ddyfod oddiwrthynt. Mae rhywbeth yn ddymunol a swynol yn y syniad o ffurfio cymdeithas gyd-genedl- aethol, clymu'r cenhedloedd wrth eu gilydd mewn rhwymun cariad a gwneud un teulu mawr o honynt, yn fawr a bach-heb neb yn tynu'n grees. Syniad hynod ogoueddus a chlodforus ydyw, ond nid syniad newydd mo hono-y mae'n hynach lawer na Lloyd George a Wilson. Eiddo Crist yw y syniad, "Car dy gymydog fel ti dy hun." "Dyn mew angen olygai Crist wrth gymydog, ac yn hytrach na gorthrymu'r genecil fechan, wan, ac anghenus, gorchymyna Crist ei chynorthwyo, a dyna'r syniad canolog sydd wrth wraidd Cyngrair y Cenhedloedd. Dys ga Crist i'w holl ddeiliaid i gydnabod mai "brodyr ydynt." Ffurfia ef un teulu o bawb, o'r Groegwyr, Rhufeinwyr, Iuddew- on, Cymry, Saesou, Almaeuwyr a holl geu- heciloedd y byd—o'r caeth a'r rhydd. Ouid rhyw nod fel yna sydd o flaen Ilygaid Cyng- rair y Cenhedloedd ? Cawn Paul hefyd yn dysgu'r ddysgeidiaeth hon i'r Atheniaid pan y dywed am Dduw,—"Ac efe a wnaeth o un gwaed, bob cetiedl o ddyn ion, i bresw lio ar holl wyneh v d(laear." Dyma gnewyllyn ei osodiad,-Un Duw, un gwaed, ac un ddaear. Rhed y syniad o undeb drwy yr oil-ui) Duw, un gwaed, un ddaear. Os felly anog- ai'r Apostol yr Atheniaid i beidio ymgodi o ran eu svniadau a'u hysbryd uwchlaw pawb eraill. Nid yw'r Apostol ond yn pwvsleisio dysgeidiaeth ei Athraw, yr hwn d(lvwed wrth genhedloedd y byd heddyw— Brodyr ydych." Fel hyn y dywedodd Napoleon I. wrth ei swyddogion milwrol,—" Darfu i Alexander, Caesar, Charlemagne a minnau, sefydlu ym- erodraethau mawrion ond ar beth yr oedd creadigion ein hathrylith yn mdclibynu ? Ar allu; nerth. Iesu yn unig sydd wedi sefydlu ymerodraeth ar gariad, ac hyd yn nod y dydd hwn, y mae miliynau yn barod i farw drosto." Ceisiodd y Kaiser sefydlu ymerodraeth fawr o'r byd ar allu a nerth, ond trodd ei ymgais yntau yn fethiant gwarthus fel eiddo eraill. Yn raddol enillir y gwledydd i ganfod rhagoriaeth yr egwyddor gynwysa'r geir- iau-" Caru eymvdog, Cariad brawdol," "Caru gelyn heb un haeddiant." Wrth chwilio i mewn i hanes cenhedloedd y byd, canfyddir rhyw ddygasedd yn berwi yn y naill genedl at y lIall. Cenedl athron- vddol, wrteithiedig pedd yr hen Roegiaid gynt, ond nid oedd modd iddi Iwyddo i uno'r bvd gan nad oedd yn cydnabod cydraddol- deb ac unoliaeth y teulu dynol, Tu allan i'w cenedl eu hunain nid ymestynai eu car- iad, casau yr oeddynt genhedloedd eraill. Bodolai rhywbeth yn yr Aiphtiaid, Babylon- iaid, Mediaid, Persiaid, Macedoniaid, Groeg- iaid a'r Rhufeiniaid ag oedd yn pellhau y naill oddiwrth y liall-yr oedd y naill a'r Hall yn amddifad o'r elfen sy'n cydio ac untf cenedl wrth genedl, yr oeddynt yn amddifad o gariad at gymydog-yr elfen sy'n dylan- wadu i ffurfio cymdeithas gyd-genedlaethol, ac yn glynu cenedl wrth genedl Wrth edrych i mewn i deimladau cenhedloedd Ewrob at eu gilydd, canfyddir amddifad- rwydd brawdgarwch a chariad at gymydog, a dyna oedd yn cynhyrfu atgasedd y naill at V Hall, nes torri allan yn wenfflam yn y rhyfel hon. Heb yr elfenau Cristionogol heb gariad brawdol a chariaçat gymydog, ni lwydda Cyngrair y Cenhedloedd. Rhaid i gosod cyfiawnder yn sylfaen llwyddiant. Rpaid profi gwareiddiad wrth y rheol hon- Caru cymydog,"ac nid wrth nerth braich a gallu milwrol, nac wrth ddiwvlliant meddyl- iot. t
Advertising
Luis A. Vallejo, B. DEINTYDD. Dymuna'r Br. Luis A. Vallejo, B., wneud yn hysbys i drigolion rhanbarth y Gaiman ei fod yn parhau i ddilyn ei alwedigaeth fel Deintydd.
I" Lloyd George yw ein Lincoln…
I Lloyd George yw ein Lincoln ni. I EDMYGIAD O'R PRIFWEINIDOG. Yn un o bapyrau dyddiol yr Hen Wlad ymddangosodd yr ysgrif isod gan un a eilw ei hun yn "A. S. Rhyddfrydol." Ategais yn ffydrtlawn Asquith pan oedd yn Brifweinidog-brwydrais drosto, pleid- leisiais gydag et. Pan y tyngedodd ar lw, bernais nad oedd yn iawn bron yu ddys- tryw. Yn awr, yr W) f yn falch ei fod wedi myned, a gwelaf y buasai yn ddystryw pe yr arosai. Paham yr aeth ? Yr oedd yn fethiant. Afraid beio hwn ac arall M'Kenna, neu Samuel, neu Runci- man. ,Yr oedd y methiant yn Asquith ei hun. Wrth edrych yn ol dros y blynyddau, y mae'n amlwg, er mai Asquith oedd y cap- ten, mai Lloyd George wnelai y redfa i gyd. Asquith oedd yr arweinydd am y credid ei fod yn oleuedig. M'Kenna sy'n gonglog, a di) nlgelog. ac yn ysgwyd ar Dy'r Cyffredin Samuel yn rhanol o herwydd ei ryw, ond yn benaf oherwydd ei lais gerwin ac undonog, a'i waith i wneud pwyntiau dadleuol bychain, ac yn rhwystr, nid yn gynorthwy Runciman yw y goreu o'r tri Simon yw y galluocaf o'r pedwar. Nid oes un o'r pedwar yn addas i'r rhan ar- weiniol. Pallant oil yn yr hyn y mae As- quith yn pallu-dexxrder, peidio rhoi fyny, HC, yn fwy na dim, caloti. Maentoll yn ben, oil yn lheswm, oil yn dadlu. Ar y foment y mae'r wlad mewn angen o Lincoln-dyn wna i'r galon guro yn gyflymach yn yniwr, y codwr i fyny. Teimla un fywyd yn mhob mynegiad ddywed Lloyd George. CySroir gweithred- iad yn mhob araeth o'i eiddo. Darllena un ei araeth i lownr Deheudir Cymru one mwy, clyw un hi, yn Llundain a thrwy'r byd. H Gofynaf i weithwyr glo edrych dros y moroedd. a gwelaut yno ddynion, arfog i sathru i lawr ryddid y byd. Yr hyn a ddy- wedaf wrthynt yw—Teflwch lo atynt. Tef- Iwch ef, lwjth gwagen. Pob tunell, pob wagen ychwanegol a gynvychiola ryddid, cyfiawnder a heddwch trwy y byd." Lloyd George yw ein Lincoln. Bu raid i'r ddau fachgen ymladd eu ffordd trwy bentre- fi y ddau yn gyfreithwyrgwladol dau yn cael derbyniad oer i gylchoedd swyddogol; dau yn cael cefnogaeth y bobl-bvwha ar- eithiau'r ddau, canys y maent yn rhai byw ac vnsiglo i ddynion a gwragedd sydd a gwaed coch yn rhedeg trwy eu gw thienau. Yan- laddodd un i a chynal yr Unol Dalaethau. Y lIall yn ymladd am, a sicrha efe, ym'erod- raeth unedig. Ac y mae Lloyd George yn ffodus, ffodus yn Bonar Law. Gwnaeth yr olaf yn dda. Efe yw arweinydd difeiddiad Ty'r Cyfiredin. Y mae efe yn ffodus hefyd yn ei gynorthwy- wyr Llafur. Gallant fod yn drwsgl, ond mae eu tarawiadau yn gryf a sicr. Y maent yn curo allaii wladwyr. Gwystl-ddyn yd- oedd Henderson, ond y mae Clynes a Rob- erts a Barnes YI1 y Llywodraeth fel o iawn. Felly, fel aelod Seneddol Rhyddfrydol, yr wyf yn falch i gofio fod Rhryddfrydiaeth wedi rhoddi i'r genedl, i'r Ymerodraefh, i'r byd, y dewisedig o'i meibion mwy na balch fod y mab yn rhoddi o'i oreu. Bydd iddo wneud caingymeriadau- mae ganddo elyn- ion ond y mae efe yn ddyn o anfeidrol ddewrder a phlwc di-ildio, a bydd iddo lei- hau ei gamgvmeriadau, fynd dros ei anhaws- derau, a gorchfygu ei elynion. Efe yw ein Prifweinidog, a phan ddaw dydd etholiad trown oddeutu ei faner ef, ac o'i amgylch ef y gwnawn sefyll.-O" Wyth- nos a'r Eryr."
Advertising
Gwyl Dewi 1919 Er dathlu yr uchod cyn- helir CYNGHERDD yn HEN QAPEL Y GAIMAN. .-0- Coir manyllon ato.