Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
[No title]
Raivson, Etiero de igig. AUTOS Y VISTOS: Resultando de los antecedentes que preceden que el Sr. Ellis Tburtell termino su mandato de Juez de Paz titular de Trelew el. dfa 7 del actual no existiendo suplente que to reemplace; que la Gobernacion del Territorio ha co- municado por oficio del mismo dia 7 que ha nombrado Juez de Paz suplente interino al referido Sr. I hurtell hasta que se efec- tuen dice, las elecciones i realizarse en breve; que corrido vista al Fiscal este fun- cionario fund ado en el Decreto del 31 de Diciembre de 1894 sostiene que el nom- bramiento expedido a favor del Sr. Thurtell es legal desde el mo-mento que se trata de un Juez de Paz suplente aunque reconoce que los jueces de Paz deben ser elegidos por el pueblo en las poblaciones que como Trelew tienen mas de un mil habitantes, y CONSIDERANDO que en el Cdso ocu- rrente lo que corresponde es el nombra- miento de un Juez de Paz con caracter pro- visional y no de un suplente por cuanto el pueblo de Trelew eligio mas que Juez de Paz titular recayendo en su oportunidad tal eleccion en la persona del Sr. Thurtell quien termino su mandato el referido dia 7 del presente mes; que siendo esto asi. es evidente que la Gobernacion del Terri- torio carece de atribuciones para expe- dir el nombramiento de Juez de Paz de Trelew aun que se le haya dado el caracter de Juez suplente Interino, por que tal atribucion corresponde tinicamen- te al P. E. de la Nacion, de acuerdo con to dispuesto por el art. 62 de la Ley 1532, to establecido por el Decreto del 14 de Julio de 1904 ylo resuelto por el Mi- nisterio de Justicia e 1. Publica con motive de la consulta elevada al del Interior por el Gobernador Dr. Lamarque a consecuen- cia de la acefalia del Juzgado de Paz de esta Capital en el ano de 1905 de que ins- truye el oncio dirigido a la Gobernacion con fecha 24 de N Iviembre de 1905 en la que el Sr. Viinistro del Interior dice: "Que en consecuencia, to que procede en el caso, es que el Gobernador del Chubut "proponga a este Ministerio la persona Ila- mada a ocupar el cargo de Juez de Paz "de Rawson que debera desempenar por "el termino de dos anas, salvo que en el "transcurso de ese tiempo, la designacion "del funcionario fuera hecha por eleccion "popular.(Vease Recopilacion de Leyes y Decretos sobre Territorios Nacionales de Mdximo Ryna pags. 414 y 415.)— Por tanto, este Juzgado en uso de la su- perintendencia que ejerce sobre la Justicia de Paz, y no obstante to dictaminado por el Sr. Agente Fiscal, RESUELVE: No aceptar al Sr. Ellis Thurtell en su caracter de J uez de Paz suplente interino de Trelew, debiendo comunicarse esta. re- solucion á la G >bernacion del Territorio, a la, Municipalidad de Trelew y al interesa- do.—Hdgase saber. Firmado .V ALKXTIN ARROYO. —- JUAN A. MAYO.—Pro-Secretario. oII".?, ",<
Advertising
Gwyl Dewi 1919 Er dathlu yr uchod cyn- lielir CYNGHERDD yn HEN GAPEL Y GAIMAN. )■ .■ —O—: m{- 9.¡. manylion eto.
Dyffryn y Camwy.I
Dyffryn y Camwy. I Hanes y Wladfa Gymreig, ei dechreu, ei datblygiad a'i dyfodol, a thraethiad ami ymgyrch a thaith i baith Patagonia. I Gan LLWYD AP IWAN. I [PARHAD.] .1 Rhagfyr i, 1893.—Gydag anhawsder y teithiwyd deng milidir heddyw, oherwydd y myuych hafnau a ffosydd oedd raid groesi gyda'r drol. Gwersyllwyd ar Ian ddwyreiniol y llyn, ymdrochwyd, ae yn y prydnawu aethom i ben bryn cyfagos i weled yr haul yn mach- ludo yn y gorllewin draw dros gorwel hel- aeth Coluapi. Cawsom olygfa ragorol o ben yr ucheldir, yr oedd yn digwydd bod yn brydnawn tawel, ac ymdoddai y geulan i'r cysgodion adlewyrchid yn y dyfroedd islaw, ac yr oedd corph o ddwfr ymestynai o'n blaen i bob cyfeiriad am bymtheng neu ugain miiidir yn apelio yn gryf at ein dychymyg. Yr oedd absenoldeb coedoddiar y glenydd yn gwneud yr amgylchoedd yn llwyd a Ilwm, Gwelwyd amryw garneddi ar ben y bryn, yn odiau beddau hen dylwvthau Indiaidd fuont, ond 'nawr nid oes ond beddau i ddangos iddynt fod. Rhagfyr 2.-Ar ol taith o saith llech ar draws y gwastattir deheuol i'r llyn, cyr- haeddwyd lan yr afon Senger, ymdywalltai i lyn llai na Coluapi ugain milidir i'r gogledd o'n gwersyll, ac yn uniongyrchol ar ol ym- arllwys i'r llyn neu yn hytrach i'r gorwel ddeheuol, ymgoda eilwaith ychydig i'r dwyr- ain i ymarllwys eilwaith yn llyn Coluapi. Yr oedd y tir deithiwyd drosto o natur rhagorol i'w ainaethu, a'i arwynebedd o ddeutu tri chan' milidir ysgwar. Y mae dwfr y Senger hefyd o ansawdd rhagorol, nis gellid cael gwell dwfr yn.un man, y mae yr afon yn gorhfo yn dymhorol, gellid rhwystro hyn trwy gadw tarddiad yr Afon Fach.yn agored ac yn glir o'r argae swnd sydd yn ffurfio draws ei genau. Yr oedd y bryniau o gylch y gwastattir yn llwm a diffaeth, ond ar y tir uwch y tu hwnt y mae porfa dda a ffynhonau o ddyfroedd. Pan yn edrych ar yr afon Senger, a'r corph mawr o ddwfr sydd yn rhedeg beunydd drwy ei gwely, mae meddwl fod y miloedd tunelli hyn yn rhedeg feunydd i'r llyn a dim yn rhedeg allan, yn peri i ni dybio fod yna arllwysiad tanddaearol yn rhywfan o'r llyn. Rhagfyr 3.—Gorphwyswyd heddyw am ei bod yn Sab both. Yn y prydnawn aethom i ben bryn nad oedd bell, o'i gopa gwelem y Sengner yn ymrwyfo yn llwybr dolenog hyd i'r llyn. I'I' dwyrain yr oedd cadwen o fyn- yddoedd creigiog yn rhedeg ogledd a de. Wedi disgyn o'r bryn aethom i weled hen wersyll Indiaidd, eu harosfan yn nhymor y gaeaf, perthynol yn ddiau i'r Tewelchiaid. Yn rnisoedd cynnes yr haf syniudant i'r gorllewiu i ororau yr Andes. Yn yr hwyr aethom am dro i fyny dytfryn y Sengner, a gwelwyd fan rhagorol i gychwyn camlas o'r afon, yr oedd vilo ffos naturiol yn codiolr afon ellid ddefnyddio yn gamlas am bell ffordd. Y modd hwn buasai yn hawdd dyfr- hau yr holl wastattir i'r dwyrain. Rhagfyr 4.—Teithiwyd i fyny ddyffryn y Sengner, sydd ar ei draws o filldir i bedair milidir, wrth hyn rneddyliaf dir da y dyffryn yn unig, rhwng y bryniau sydd yn ffinio y dyffryn o'r deutu y mae chwe' iiiilldii-, ac o honynt y mae yspardynau o dir isel yn rhedeg i'r dyffryn dir. Teithiem i'r de-or- liewin, ac ar ol myned pedair llech gwersyll- wyd ar ol diwrnod caled. Rhagfyr ;Pymthcng milldir o drafaelio ddaeth a ni rhyw ddeng milldir mewn llinell union o'n gwersyll y boreu wrth Craig y Ffwrn, fel y gelwid ef ganddom, Y fan y gwersyllwyd dros y nos nid oedd v dyftryn ond milldir o led, ac ychydig is i lawr yr afon yr oedd y dyffryn wediculhau i dri chan' llath. Yr oedd y chwe' milidir olaf o'n taith trwy borfa las, fwyiiiieid gan y ceffylau yn rhvfeddol iawn. Ochr ogleddol yr afon yr oedd bryniau creigiog uchel, alr ochr ddeheuol ucheldir gwastad, rhai can- noedd o Aroedfeddi uwchlaw y ^ffryndir, ac o ochrau toredig yr ucheldir brigau haen- au creigiog tebyg i farmor, granite o liw gwyrdd, a charreg swnd. Rhagfyr 6.-Aeth dau ohonom ar y blaen am saith o'r gloch y boreu, i archwilio ein ffordd ym mlaen. Cafwyd esgynfa ragorol i'r ucheldir, ond gwelsom hefyd fod yr ucheldir wedi ei ciorri gan hafnau redenti ddyffryn y Sengner. Ar ein dychweliad casglwyd halen o waelod llyn heliaidd oedd ar y dyffryn. Rhagfyr 7.—Teithiai y ceffylau ar hyd y dyffryn a gwersyllwyd ar ben deuddeng milidir. Oherwydd gwddf cul yn y oyflryn gorfodwyd i'r drol godi i'r ucheldir a thraf- eilio pymtheng milidir cyn dod i lawr i'r gwersyll ar y dyffryn. Yr oedd y ddisgynfa o'r ucheldir oedd y fan hon tua tri chan' troedfedd uwch y dyffryn yn serth beryglus, ond daethpwyd i dref heb un ddamwain. Rhedai ffrwd fechan o'r de-orllewin ac ym- arllwysai i'r afon y fan hon, tra yr afon ei hunan ddolenai i'r gogledd. Rhagfyr 8.—Yr oedd y tywydd ydydtliau diweddaf yn lied wyntog, ond heddyw rhuth- rai y gwynt gyda'r fath nerth nes ein anallu- ogi i deithio. Gan ei fod yn chwythu yn groes i rediad yr afon chwipid ei dyfroedd yn ewyn i'r awyr am gant a lianiierlb lath- eni y tu hwnt, a phan dywynai heulwen drwy hwn gwelid peiydrar, y goleuni yn, cael eu dosranu yn enfys amryliw. Ychydig yh uwch i fyny y dyffryw y mae cangen fechan elwir yr Afon Ayones neu Rio Mayo, vn ymarllwys i'r Sengner. Rhagfyr 9.—Chwythai yn arw heddyw eto, ond penderfynwyd teithio ym mlaen daith fechan y man lleiaf. Pan yn croesi cor,s, suddodd y drol i dir meddal, a gorfod- wyd 111 ddadlwytho i'w chael allan. Tair llech o daith ddaeth a ni i lan yr Afon Ayones, rhyw chwe' milldir o'i ymar- llwysiad i'r Sengner. Y mae y wlad i bob cyfeiriad yn gwella fel tir pori. Rhagfyr 10.—Arhoswyd yn y gwersyll bron drwy y dydd, yn y prydnawn aethum i ben bryn cyfagos er ';gweled y wlad ogylch. I'r dwyrain wele y gadwen o fynyddoedd creigiog orweddai ar ein llaw ddeheu trwy'r wythnos o deithio blaenorol, ym mhob cyf- eiriad arall yr oedd grisiau o ucheldiroedd gwastad (plateaux) yn codi yn ris uwch gris nes cyfyngu y gorwel o'n golwg. Rhychid yr ucheldiroedd hyn gan geunentydd a hafn- au dyfnion, dyfnder y rhai oeddynt yn ol uchder y tir uwch yr isel ddyffrynoedd i ba rai yr ymagorent. Nid oedd yno goed .nac o'r braidd fanwydd o fewn golwg, i raddau efallai oherwydd arferiad y Brodorion i dan- io y paith yn feunyddiol. Ar ol tan mawr fe gymer y wlad flynyddau i adnewyddu ei | ffrwythlonder. Rhagfyr 11.—Teithiasom chwech neusaith. llech i fyny dyffryn yr Ayones. Pan o ddeutu dwy lech o'r ftordd, gwelsom hafn laswerdd yn ymagor i'r dyffryn o'r gogledd- orllewin. Yr oeddym yn abl i groesi. yr afon mewn amryw rydiau, ac fel hyn yn osgoi y culfanau yn y dyffryn heb godi i'r bryniau. Yr oedd y borfa ar y dyffryn yn welltyn garw a pgog, ac mewn manau liawer o frwyn. Yr oedd yno hefyd ddail tafol a Spanish root. Ar lefel neiilduol ar y bryniau gwelid man ftynhonau yn tarddu mewn llawer lie, ac os mewn creigleoedd gwelid y dwfr yn tarddu rhwng yr haehau ac yn treiglo i lawr eu gwyneb. Gwersyll- wyd wrth arllwysiad cainc or Alyoiies., oedd yn rhedeg o'r de-orllewin. Enw y gaugheu hon oedd yr afon Cengyl, a'r gym'dogaeth Cengylaik, oedd wyth lech i fyny yr afon oedd wersyll fan nodedig gan y tylwyth Tewelchiaid. Rhagfyr 12.- Teithiwyd i fyny ddyffryn yr Ayones am bedair llech a hanner, gau basioar ein ffordd ganghen arall redai o'r de-orllewin, enwid yr afon Chalia. Tua deng milldir ar hugain i fyny dyffryn y Chalia, ccid llynelwid llyn Chalia. Y mae y dyffryn neu y ceunant hwn yn rhedeg bob cam o lyn Chalia, ond y mae yr aber yn torri i'r ceunant o'r gorllewin, tua banner y ffordd i'r llyn. Nid oedd y canghenauen- wyd ond man nentydd y tymhor hwn o'r flwyddyn. Yr oedd y rhan honno o ddyffryn yr Ayones oeddym yn awr yn groesi yn