Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Treorci."

News
Cite
Share

Treorci. Hir-ddydd ha' a'i waith o oleu i oleu ydyw profiad pawb ohonom y dyddiau hyn, ac ni cha byd y meddwl, druan, fawr o ham- dden i ddatblygu ond i gyfeiriad y gwaith tymhorol a'i amrywiol ddyledswyddau. Croes ar lwybr delfryd ydyw hyn meddai rhyw deimladau ond perl i addurno coron llwyddiant ydyw meddai Gobaith. Cyn bo hir gwireddir geiriau Eifion Wyn^- "Chwilied y Ilaw fu'n hau Bellach am fenn a chryman Esmwyth yw tonnau'r twf Cyn llifo i fewn i'r ydlan." Clywir swn hogi'r crymanau mewn rhai lleoedd yn barod, a byddwn vnghanol y cynhauaf gwenith ar fyrder. Mae un Nadolig arall wedi cefnu arnom, a'n gadael i obeithio y cawn fwynhau Ila- wer i "Nadolig lawen" eto yn y dyfodol, i gofio am y baban lesu yn ol darlun Islvvyn.- "Yn gwenu ar y doethion yn ei gryd, A'u boll ddoethineb ynei dawel wen." Treuliwyd y dydd yma trwy gynhal gwig-wyl a deallwn i bawb gael adloniant a diddordeb. Bellach llonnir ein hysbryd ym mhob I man gan y cyfarcniad, "Blwyddvn newydd dda." Gyda graddau helaethach o lawenydd y cyfarchwn eleni na'r blwyddi gorffenol am fod y "filam wenwawr" ddisgleiriai yn Ewrop, nes gyru braw drwy'r byd, erbyn hyn yn ymddangos fel pe ar ddiffodd. Er mor ddinystriol oedd coe!certh Ew- rop, credwn i sylfeini heddwch cadarn gael eu Ifurfio yn y rhyferthwy, Adeiladu a chwblhau "Teml heddwch" fyddo rhaglen 1919. Da oedd genym weled penderfyniad "Pwyllgor vrUndeb" parthed i'r Ysgol Sul yn y DRAFOD ddiweddaf. Gobeithio y ceir rhyw ddefiroad yn y cysylltiad hwn. Beth yw y rheswm fod yr Ysgol Sul wedi coni ei swyn? Paham mae ei ffyddloniaid wedi ei gadael ? a ydyw wedi colli ei mhaeth i fagu blagur i addurno'r e-I wys ? Bydd gan genhadwyr sydd yn caru'r ysgol sul arfogaeth anorehfygol i dorri i lawr wrthddadleuon esgeuluswyr sefydliad sydd wedi bod yn I-yfrwng: i fagu uchelgais ym mhrif emvogion y genedl Gymreig. I Pwy saif yn ddifater pan fo grisiau i frvniau bri yn agored o'i flaen ?-Ap SELYF.

.... "0 Llongau.-

Advertising

Family Notices

Y RHYFEL