Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
.. - - ... Nodion.
Nodion. Gan Gaimanydo. Trodd canlyniad yr Etholiad diweddafhwn eto yn ein herbyn braidd, do collasom er mawr cywilydd inni y ddwy sedd oedd i'w llamv ar Gyngor y Weinran. Codir Wchw fawr heddyw—tranoeth y frwydr, a phrys- urir i brotestio ger bron y Rhaglawiaeth yn erbyn cadarnhau a selio yr Etholiad ar gyf- rif rhyw anghatfael neu gilydd. -0- Y ddau aeth i mewn eleni gyda mwyafrif llavvu oeddynt y Bwyr. L, E. Berreta a Pedro Pa bio, y naill a'r Hall o'r dref collodd dwy ardal boblog eu cyfle i gael gwr i'w cynrych- ioli, ac i amddiftyn en hiawnderau ar y Cyngor. Pie buoch chwi'n hepian a phlethu dwylo, dwedwch ? Na sonier mwyach am hawl na braint, iawuder na rhyddid. Hedd- weh fo i'w Ilweh yn medd anniwail y gorft- enol mwy. -0- Y NADOLIG, Cydrhwngtri a phedwar ar y gloch nawn dydd nadolig, er fod yr hin yn boeth rhyf- eddol, ac er i ledfegin a honaigryn awdurd- od orchymyn ar gwahardd Ilnrhyw fath ar gynnuUiad ar ddydd Etholiad, ymgasglodd nifer lted dda yughyd, ac.ar draeth yr afon yn ymyl y ddau gapel, a than adanedd glyd yr helyg cysgodfawr, buwyd yn cydwledda a chydymgoinio'u ffri am oriau bwygilydd, ac felly'n treulio rhan o'r Nadolig mewn Hawen hwyl. -0- Edrychem yn inlaen gyda llawer o aidd- garwch a phleser at y wledd oedd yn eiu haros yn nghyfarfod yr hwyr gan Obeithlu Bethel, ac yn ddilys ddigon ni siomwyd un- dyn. Bu'n llwyddiant perffaith drwyddo. Gwnaeth y plant bach eu gwaith yn rhagor- 01, ac 01 disgyblaeth fanwl ac hyfforddiant trylwyr ar bob un. A'r cyfan yn ffrwyth llafur a gwasanaeth enfawr eu harweinydd- y Parch. D. D. Walters. Llywyddid y cwrdd gan y Parch. Tudur Evans, ond Mr. Walters oedd arweinydd y gan, hyrwyddwr yr adrodd a threfnydd yr actio, a tliymalr rhaglen aed drwyddi.— Ton gan y parti oedd yno wrth law i gyn- orthwyo'r plant The Saving Grace," yna cyfres o adroddiadau gan W. Ernest Roberts, Jileiriouweu Puw a Trefor Roberts. Yn ystod y cyfarfod canodd plant bach y Gobeithtu amryw ddarnau tlysion allan o Planty Beiblr gan Gwylfa, megis—" Draw, draw ymhell 11 "Abel ieuanc mwy nid yw" Ei ga(iwlil fyw" &c. Adroddiad gan Deiniol Roberts. Adrodd a chanu actol gan Miriel Rees. Unawd gan Gwyneth Rees. Ymgoin,—"Cynhilo" cydrhwng Olwen a Elinor Jones. Adroddiadan gan Ada Jones, Yr esgid sydd yn gwasgu gan E. Gwyn Evans a Mae'r deryn yn dweud gan Cath- rine Ellis. Unawd gan Annie Williams, Adrodd, Y pethau mawr," gan May R. Daniel, a'r Cam o'i Ie" gan Geraint D. Walters. Ymgom, II Y Blodeu cydrhwng Annie a Morfydd Evans. Can actol Yr Adar gan y Gobeithlu yn dda odiaeth. Ad- roddiadau gan Ester Puw a Margaret Ritchie. Pedwarawd, gan Elinor Jones, Fflavia Davies, Edna a Olwen Jones. Ym- gom actol "Y Doctor" cydrhwng Llinos Jones a Mefin Evans, cncoriwyd y ddaufach hyn yn 61 i'r llwyfan a chaed yr ymgom eilwaith. Cyfres o adroddiadau eto gan— Mair Ellis. E. Gwyn Evans loan G. Edmunds a Fflavia Davies. Carol Nadolig gan y parti Adroddiadau gan C. Ellis a Meinir Jones. Adrodd Y Pregethwr gan Geraint Gwyn Gwisgai'r Geraint ddiwyg y pregethwr yn Nghymru, ac actiai ef i'r dim. Unawd Canwyll fy liygaid wyt ti gan Elvira Davies. Ymgom acto I "Chwareu a gweith- io cydrhwng Edith Evans a Ethel Jones. Drama fer cydrhwng nifer o'r plant,— "Prynu'r Caneri" Encoriwyd y rhain yn gryf eto, ond yr oedd yn rhy hwyr. Can- wyd i ddiweddu'r ewrdd-11 Maeln well yn mlaen o hyd gan y parti. Bu cryn ddifyr- weh yn mhlith y plant tra y rhenid rhyng- ddynt ffrwythau amryfath y "Goeden Nad- olig hardd oedd ar y llwyfan. Yr oedd yr Hen Gapel dan ei sang, ac yn anghysurus o boeth, ond pawb yn llygad a chlust i gyd yn mwynhau'r cyngherdd. Mynodd y dorf yn ystod y cyf- arfod gael codi ar ei thraed er dangos ei gwerthfawrogiad a'i hedmygedd o wasan- aeth a llafur cariad Mr. Walters gyda phlant bach y gymydogaeth. ■—tmJBK Jfl ——
I Manion.
I Manion. Difiyg manteision addysg yw o felldithion y Wladfa wedi bod. Nid yr hyn ydyw heddyw fuasai pe'i phlant wedi cael hyfforddiant teilwng yn y gorphennol. Ceir hwy'n byw mewn byd bach, ac yn troi mewn cylch cyfyng. Mae anwybodaeth megis wedi ei gwasgu i gwm cul, a thywyll. Ni feiaf y bechgyn, oblegid nid beus hwy, eithr bai y rhai fu, ac y sydd eto yn torchi eu llewys yn erbyn addysg a diwylliant ydyw. -0- Geill y Wladfa, heb os, ymfalchio yn ei Hysgol Ganolradd. Dilys ddigon, hon yw'r fendith fwyaf a ddaeth hyd eto i'n rhan. Dvmunol yw myned i gartrefydd a chael bechgyn a genethod o gylch y bwrdd yn ef- rydn eu gwersi. Gwelais lawer un bron wedi ei gladdu ei hun mewn llyfrau a phapurau. Mae dyled planty Camwy yn fawr i Mr. a Mrs. Edmunds., Maent yn gymwynaswyr i'r Wiadfa mewn gwirionedd. Dywedodd yr Athro Edmunds wrthyf, newydd ei ddyfod yma, y buasai'n fodlon aberthu llawer er hau hadau diwyll- iant yng ngweryd rneddyliol y Wladfa. Ebai dro arall, Ni Iwydd yr un wlad heb gyfryngau addysg ei hysgolion yw ei gob- aith." Gresyn na bae mwy o'n hareithwyr sy'n traddodi areithiau llavvn o fellt a thar- anau o'r un farn ag ef. Mae tynged cenedl ac unigolion mewn un ystyr yn eu dwylo hwy eu hunain. Maent at eu rhyddid i ddewis eu harwyr, eto, dylid cofio mai ychydig yw niferybobl sydd yn barnu drostynt eu hunain mewn mater- ion cyffredin. Y peth a wneir yn hysbys, a lwyfanir ac a wthir i sylw, trwy'rpulpuda'r wasg fynychaf dderbynir. Mae'n canlyn os defnyddir rhyddid y wasg, a'r llwyfan i osod rhyw sarff bres ar drostan amlygrwydd, y sarff htmno ddaw yn destun siarad, yn wrth- rych addoliad a pharch. Addola dyn y ddelw, a daw "ysbryd drwg cynnen a mal- ais, ysbryd annhrefn, ysbryd chwalu a thyn- nu lawr, yn ysfa dwymynol. Esgora hwn ar ryddid gwyllt, diffrwyn, dilwybr, dibo- peth da.Olr Dysgedydd. —o— Dymunol yw gwylio gwawr heddwch yn lledu ei hedyn tyner dros orwel y gwledydd a chymylau gwyn tangnefedd yn llwybro nen dynolryw. Er y caddug pygddu daeth toriad dydd. Daw llif y boreuddydd o hyd i dorri ar dywyllwch y nos, Ni cheir nos heb wawr a chodiad haul, Ceir rhyw wawr yn cysgodi ym mhlygion pob cwmwl du, cerbyd y wawr yw'r cwmwl. i -0- I Bu rywun, dro'n ol garediced a'm galw yn ddauwynebog. Ni wn ba betn a'i cymhellodd i synio felly am danaf. Ni fu'm euog erioed o gario dau wyneb. Gwell gennyf fod yn amhoblogaidd ag un wyneb, na bod yn boblogaidd a dau wyneb. Nabum lawer o deulu'r ddau wyneb, ond ni cherais erioed berthyn iddynt. —o— O'r braidd y buasai'r byd wedi dringo cyn uched pe na byddai ynddo bersonau Hawn o gywreinrwydd. Ffrwyth cywreinrwydd i fesur, yw'r darganfyddiadau a'r dyfeisiadau sy'luosoced erbyn hyn. Dysgai Socrates i'w ddisgyblion holi ac ymholi. Heb radd o gywreinrwydd ni ellir dysgu llawer. TREMYDD, J
I Gleanings.
I Gleanings. It appears now that the only thing more destructive than an invading Hun is a re- treating one. The prospect for thrones for all those six sons of eld Kai seems to look pretty bad now. Bill Kaiser said to' Ambassador Gerard "I shall stand no nonsense from America." Well, you're not getting Bill. It is going to be pretty hard on the poor patients German people, with all the other things they have to bear, not to have any more atrocities to look forward to. Germany professes to have had a change of heart. Be that as it may, Wilson and Lloyd George demand also a change of head. The Germans towards the end of the war were using armor that protects chest and abdomen, but not being reversible it proved of little use to them. Prince Max was back in '96, confined in an insane asylum, which fact perhaps es- pecially fitted him for handling his country's late emergency. The Allies wanted victory. The Germans wanted. Both wishes shall be fulfilled. Allied interests made a very good thing in cashing in their Czeches. The Allies advancing had one firm design, and that was to wind up the watch on the Rhine. The Crown Prince says now that he had no desire to annihilate the Allied armies. What will those German ships carry which are being built for trade after the war, and where will they carry it ? The Hinderburg line didn't mean so much after all, it's the Hohenzollern line that we went out to smash. The Kaiser must be taught there can be no wreck without a reckoning. There is a big difference between an un- conditional and a Hun-conditional peace. There can be no concert of the nations un- til Germany has learned to play second fiddle instead of the big bass drum. It is not true that the Kaiser has reashed the end of his rope, when he does that, his feet will lack four or five feet of reaching the ground. With Turkey it is merely a matter of deciding who is going to do the carving. W. H. H.
——i41....———— "Blighty."
—— i 41. ———— "Blighty." Sir,— Your correspondent does not say from where he got his information on the deriva- tion of the word blighty." It is interesting. but ought to be amplified. The Hindustani word is not spelt It belahti," as your corres- pondent puts it, but belait." The adjective from the word is belaitee." That by the way. It has been suggested that the word is derived from the Gaelic Balagh Ti," meaning" tell it in the hone." This was a catch phrase in one of the Highland regi- ments-I could not say which—stationed in India at the time of the mutiny and was soon taken up by the Hindoos who misinterpreted it and applied it to most things coming from England, e.g., I" belaitee pani," meaning whisky. See Lord Roberts' Forty One Years in India," and Memoirs of the Mutiny by Colin Campbell first edition, page 223, foot- note. BRITON.
Advertising
La Pasteleria I Paris' 0 "ØC Dymunaf wneud yn hysbys i'r cyhoedd fy mod yn prynnu WYAU, YMENYN a IEIR, etc. AVENIDA FONTANA (TRELEW).
I Yr Ysgoi Ganolraddol. I
aaswm o 803 ar 10 o bynciau cyfartaledd o 803 y cant. Gwilym Rhydderch Iwan (Form II.) cyf- answm o 890 ar 11 o byneiau cyfartaledd o 80'9 y cant. Emily Pugh (Form II.) cyfanswm o 836 ar 10 o byneiau cyfartaledd o 83*6 y cant. Lottie Roberts (Form 1.) eyfansmii o 586 ar 7 o byneiau cyfartaledd o 837 y cant. ——<t ——————————-