Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Marwolaeth Mr. W. 0. Williams.
Marwolaeth Mr. W. 0. Williams. Gofid i galon perthynasau, cyfeillion a chydnabod Mr. W. O. Williams gynt o Es- quel, oedd clywed am ei farwolaeth yn ei hen ardal yn Ffestiniog. Perthynai iddo nodweddion a rhinweddau oedd yn hawlio parch ac edmygedd cefnog- wyr iawnder, moes a rhin. Tra y bu yn y'Wladfa edrychid arno fel dyn ieuanc oedd yn tneddu meddwl diwyll- iedig ac argyhoeddiadau moesol cryfion yr hyn oedd yn ei gymhwyso i safleoedd o ym- ddiriedaeth ac anrhydedd, ac i gyflawni gwahanol swyddi gyda tnedrusrwydd ae eff- eithiolrwydd. Pan ar wibdaith i'r Andes cefais y pleser a'r fraint o lettya gydag ef a'i chwaer am ddwy neu dair noson yn Esquel, ac nid oedd ball ar eu caredigrwydd a'u croesaw. Pryderai ef, yr adeg hono, gryn lawer am eiddo'r Gwmni wasanaethai mor llwyddian- us, a gellir dyweud na fu yn ngwasanaeth y Cwmni neb ffyddlonach, neb cywiracli, neb mwy medrus, na neb mwy pryderus ynglyn a llwyddiant masnach y Cwmni. Ie, gorbryder am Iwyddiant a diogelwch eiddo'r Cwmni anmharodd ei feddwl. Mae dynion o'i alluoedd a'i argyhoeddiadau moes- sol cryfion ef yu brinion. Nis gallwn wneud yn well na chyflwyno i'n darllenwyr yr hyn a ganlyn ovr Genedl. WEDI BODDI. Foreu Iau, brawychwvd yr ardal yn fawr gan y newydd fod Mr, William Owen Willi- ams, Afallon, wedi ei gael wedi boddi yn Llyn y Manod. Canfu Mr. William Willi- ams, Bron Manod, ar ei ffordd at ei waith, got a het ar lan y Hyn, hysbysodd yr hedd- geidwad yn ddiymdroi, ac aeth Sart. Jones a P. C. Morgan i fyny yng nghydag ychydig bersonau oeddynt yn y fantais o wybod am yr amgylchiad prudd, a chafwyd hyd i'r corff yn fuan iawn. Yr oedd y trancedig yn wr ieuanc dysgedig iawn wedi bod yn gweithio yn y chwarel, ac wedi dringo i fyny drwy ddyfal barhad, i fod yn feistr ar chwech o ieithoedd, sef, Cymraeg, Saesneg, Ffraticeg, Germaneg, Hispaeneg, ynghyd ag iaith Por- tugal. Bu dair blynedd yn Ffrainc flynydd- au yn ol, ac yn ystod yr amser hwnw bu yn rhoddi gwersi i General Galliene (Llywod- racthwr Paris ar y pryd) ac i'w eieulu ar siarad Seisneg, a bu yn gyfaiil mynwesol i'r Cadfridog a'r teulu. Bu yn rhoddi gwersi cyffelyb mewn coleg yn Germany am amser, tramwyodd wledydd yr Hisbaen a Phortugal a chroesodd drachefn i'r WJadta Gymreig yn Mhatagonia. bu yn Fanager y Gymdeithas Gvdweithiol yn y wlad hono, yn mynydd- oedd yr Andes lie y cafodd ddiangfa gyfyng rhag cael ei ladd gan yr Indiaid, ac effeith- iodd hynny yn fawr ar ei feddwl. Daeth yn ot i Gymru, y 23ain o Hydref, 1917. Cafodd ei benodi yn Censor i'r Llywodraeth' yn Lerpwl. Gwnaeth pob yrr gais posibl er cael ymuno a'r fyddin, eithr gwrthodwyd ef bob tro. Dri mis yn ol ymbriododd ag un o foneddigesau caredicaf yr ardal, sef Miss Jones, Afallon, athrawes yn Ysgol Glany- pwll, a chwaer y Parch. D. R. Jones, Cerrig y Drudion. Brydnawn Mercher, y 23ain, un o'r gloch gadawodd ei gartref yn llawen, aeth heibiotyei fam ym Mhenybiyn, ac yna i fyny i gyfeiriad y llyn lie y cafwyd ei gorph fore Iau. Yr oedd y teulu yn gobeithio ddarfod iddo fyned i weled ei frawd Mr. Ed- mund Williams, sydd yn Brif Athro vsgol Talsarnau, gan ei fod yn cwyno. Arhosodd y teulu yn Afallon ar eu traed drwylr nos i'w ddisgwyl yn ol, ond ni ddvchwelodd. Mae ein cyd-ymdeimlad mwyaf pur a'i briod an- wyl, ac a'i fam, a'r teulu oil y ddwy ochr. Ddydd Gwener cvnhaliwyd cwest ar gorff y diweddar Mr. William O. Williams, yr hwn a gafvyd wedi boddi yn Llyn y Manod, fore Iau, yr 24am, gerbron Mr. Edward Jones, Dirprwy Drengholvdd, a Rheithwyr. Rhoddodd y meddyg Dr. R. D. Evans, dyst- iolaeth i'r perwyJ fod ei feddwl wedi amharu mewn canlyniad i ymosodiad arno gan lad- ron pan yn gofalu am ystordy Cymdeithas Gydweithiol Chubut ym mynyddoedd vr Andes ychvdig amser yn ol. Cafwyd tyst- iolaeth bellach gan Mri, John Edwards, brawd yng nghyfraith, a Miss Sidney Wil- liams, chwaer, am yr amser y gwelwyd ef yn fyw. Nid oeddynt erioed wedi cael lie i feddwl fod angen cadw gw/liadwriaeth ar- no, er y gwyddent y dioddefai fwy neu lai oddiwrth wendid nerfol. Yn unol a thyst- iolaeth y meddvgathvstiolaethau eraill, dlyg- wyd rheithfrn o "Cafwyd iddo gymeryd ymaith ei fywyd drwy foddi, tra'i feddwl wedi ei amharu, ac yn wallgof dros dro." Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'i briod a'r teulu yn eu trallod. 1 (--
I--11 Blighty."II I ?- - I
11 Blighty. ?- Perhaps every reader of Y DRAFOD does not happen to know the meaning of the word "Blighty" as used by the British soldier in the phrases Back to Blighty," Away from Blighty," and others of a similar kind. The word means Home," and also sometimes "a wound bad enough to necessitate a soldier's return home." It is a corruption of the Hindustani word belahti, and has no connection with the com- mon English word blight. A. H. I
AMRYWIOJN. - - * - ..... -
AMRYWIOJN. Mae ISygaid y byd yn awr i gyieiriad gweithrediadau y Gynnadledd Heddwch, ac y mae llwyddiant y Gynnadledd mor bwysig ag oedd llwyddiant y cadluoedd Cydbleidiol, oblegid dylai penderfyniadau'r Gynnadledd fod yn gynnyrch teilwng yr aberth wnaeth y cadluoedd ar faes y gwaed. -0- Credir gan lawer y bydd "heddwch "wedi ei arwyddo erbyn diwedd mis Mawrth, er na fydd, feallai, yr holl drefniadau wedi eu gorphen, ac y bvdd pvvyilgorau arbenig yn cael eu dewis i hyny. —o— Diwrnod gofnodir yn hanes yr Unol Dal- aethau, meddir, oedd y 4ydd o Rhagfyr 1918. Dyna'r diwrnod y cychwynodd Wilson, Ar- lywydd yr Unol Dalaethau, am Ewrob, a dywedir hefyd mai efe yw y cyntaf o Ar- lywyddion yr Uuol Dalaethau i adael y wlad. Ofnai rhai na fuasai Wilson yn myned i'r Gynnadledd o herwydd pwysigrwydd ei swydd a'i waith gartref, ond teimlai ef yn ddyledswydd arno fyned i wneud ei ran dros Heddwch y byd. -0- Mae senedd yr Unol Dalaethau wedi dech- reu trafod pedwar pwynt ar ddeg Wilson yngl) n a theterau heddwch. Gwelir fod Freyllinghuzzen, un o'r sen- eddwyr, yn dyweud na ddylai Wilson gyn- nyg penderfyniadau pwysig heb iddo fod yn sicr, yn gyntaf, fod pobl yr Unol Dalaethau yn eu cymeradwyo. —o— Mae gweithwyr Prydain, ar for a thir, yn gryf dros i'r cvn-Kaiser gael ei roddi ar ei brawf am y troseddau creulon y cyhuddir ef o houynt. Gwelir hefyd fod dirprwywyr Ffrengig, Italaidd a Phrydeinig sydd yn awr mewn cyd-drafodaeth yn Llundain wedi pasio fod y Kaiser i gael ei anfon o Holland, ac i gael ei roddi ar ei brawf am fod yn achos, gydag eraill, o'r rhyfel, ac o'r creulonderau gyf- lawnwyd ar dir a mõr. --0- Bwriada Llywodraeth Awstria wneud er- lyniadau cyfreithiol ar bawb sydd gyfrifol am y rhyfel. Yn mhlith y rhai erlynir y maeyr Ymher- awdwr Charles, Count Czernin, Count Berchtold, Grand Dukes Frederic Eugene a Peter Ferdinand, a'r Cadfridogion Von Arz a Von Hoentzendorff. -0- Dywed Mr. Lloyd George mai nid mael- feydd cad-ddarpar yr Almaen, na chwaith ei ierdydd ydyw ein gwrthwynebwyr grymus- af herldyw, eithr yn hytrach ysgolion yr Al- maen. Gan hyny, hai ati i berffelthio ein cyfundrefn addysg er gwneud yr ysgolion yn feithrinfeydd carictor a grym moesol y cen- edlaethau sydd i ddyfod, -0- Mae Carnarfon yn anfon ei chais am Eis- teddfod Genedlaethol 1921, a dywedir fod Manceinion hefyd yn gofyn am dani. -0- Penodwyd Llew Tegid, Bangor, i fod yn drefnydd yn Nghynaru dan Gyngrair y Cen- hedloedd Rhydd. Fel hyn y dywed un o Newydduron Cym- ru Bwriedir cyhoeddi Hanes y Wladfa Gymreig gan Llwyd Ap Iwan yn gyfrol wedi gorphen ei gyhoeddi yn y DRAFOD. Penod ddyddorol ond digon prudd ydyw fel llawer o benodau eraill hanes brwydrau Rhyddid." —o— Blodwen (Dr. Parry) yw y prif waith genir yn nghyngerdd Eisteddfod Genedlaeth- ol Corwen y flwyddyn nesaf. -0- Wrth gyfeirio at yr Etholiad gyffredinol yn Prydain, gwneir y sylw canlynol :— Allan o 3,000 graddedigion Prifysgol Cym- ru, dywedir fod mil yn ferched dan 30 oed, ac na bydd ond oddeutu 1,200 yn pleidleisio pan ddaw etholiad." —o— Dyma fel y cana Cybi" am Hedd Wyn a'i Gerddi > Ba hogyn oedd y bugail —a gwir ddawn Y gerdd wych a miwail Di fedd, o orsedd eursail I'w urddas ef yr oedd sail.
Family Notices
Priodas. Hydref 7fed, 1918, vn Llantrisant, Sir Fon, unwyd mewn glSn briodas Mr. T, Cairns Jones (Crown Revenue Officer), Tudor Lodge, Bebington, Birkenhead, a Miss Ellen Lloyd Jones, trydedd ferch y Parch. R. R. Jones a Mrs. Jones, Parciau, Dyffryn Uchaf. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. A. O. Evans, Llanfaethlu, yn cael ei gyn- orthwyo gan y Parch. D. R. Lewis, Llan- ddeusant. Wedi y seremoni aeth y gwahoddedigion, y rhai oeddynt dros 50 mewn nifer i Bod- deiniol, hen gartref teulu y briodferch, i fwynhau arlwy oedd wedi ei pharotoi ar eu cyfer ychydig yn ddiweddarach, cychwynodd y par dedwydd am Lundain a Deheudir Cyrtiru i dreulio eu gvvyliau. EWYLLYSIWR DA,
1" Dylanwad Cadwraeth y Sabbath…
Air, canu ei favvl, gwrando ar ei weision yn pregethu y Gair, a chydymuno mewn gweddi o ddiolchgarwch ac erfyniadau am nerth i orchfygu rhwystrau,—creawn, meddwn, y byddai y pethau hyn yn ddylanwad iachusol a dyrchafol ar gymdeithas yn gyffredinol, ac yn tra rhagori ar ddim ag yr ydym yn ei weied sydd yn ceisio llanw eu lie. Beth mor tiri-dd a chynulleidfa o bobl o bob oed, wedi ymdrwsio yn weddus, yn cydymgynull at eu gilydd i dy Dduw ar ei ddydd sanct- aidd, i dalu parch a gwarogaeth i'w Creaw- dwr a'u Cynhaliwr am ei ddaioni iddynt yn ystod yr wythnos oedd wedi pasio, ac i ertyn am ei arweiniad yn y dyddiau dyiodoi. Beth yn fwy dyrchafol yn ei ddylanwad ar gymdeithas na gwaith yr Ysgol Sul yn dwyu i fyny y hai bach yn ofn ac athraw- iaeth yr Arglwydd, a'u cyfarwyddo i cldar- lien y Gair a'i drysori yn y cof, ac i blanu egwyddorion yr Efengyl yn eu calonau i fod yn ganllawiau diogel i'w cadw ar hyd eu hoes, i rodio y ffordd sydd yn arwain yn ddifcth i wlad yr hedd a'r go!euni tragwydd- ol, Onid yw yingynnull ar ddydd yr Arglwydd i leoedd o addoliad i wrando ar genhadon Seion yn traddodi ffrwyth eu Hafur a'u hym- chwiliad yng Ngair Duw, ac i bregethu an- feidrol olud gras ar gyfer byd o bechadur- iaid, ac i gymhell carcharorion i droi i mewn i'r amddiffynfa am gysgod a lloches yn nydd y perygl, onid yw y pethau hyn yn fwy o ddylanwad er daioni i gymdeithas, ac er dyrchafu parch i fywyd ac eiddo, ac ufudd- dod i gyfreithiau y wlad, nag a fyddai dylan- wad Uu o wyr arfog. Dyma'r dylanwadau a barai Iai o lofruddiaethau a gweithredoedd ysgeler ag sydd yn anurddo cymeriad ein tiriogaeth a'r weriniaeth yn gyffredinol, Prysured y dydd y bydd trigolion ein gwlad yn talu mwy o barch i'r Sabbath a'i ordeiniadau, yn mynychu mwy ar leoedd o addoliad, ac yn cymeryd Gair Duw yn rheol y bywyd a'r ymarweddiad yna ni byddai y y gweithredoedd y soniwyd am danynt i'w cael mor gyffrediu yn ein gwIad. [Darllenwyd yr vsrif amserol uchod gan y Br. Hugh Griffith yng nghyfarfod Undeb yr Eglwysi Rhyddion gvnhaliwyd yn Nhrelew ddydd Mercher, Rhagfyr i8fed, a phasiwyd iddi gael ei chyhoeddi.—GOL.] —— 1 1 ■■ 1