Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Dyttryn y Camwy.I

Deigryn ar fedd y Cyfaill…

——————.......... Cyfarfod…

News
Cite
Share

—————— Cyfarfod Cystadleuol Bryn Crwn. Cynhaliwyd yr uchod dydd Mawrth y 26ain cynfisol, o dan nawdd cangen Bryn Crwn o "Gymdeithas Ddirwestol y Cumwy." Y dirwestwr pybyr y Parch. D. D. Walters a lanwai y gadair i'w hymylon. Y dawnus Br. David S. Jones, Twyn Carno, a arweiniai yn hwylus a threfnus. Yr athraw athrylithgar y Br. E. T. Edmunds, B.Sc., a gloriauai yr adroddwyr. Y cerddgar a'r gweithgar Br. R. E. Hughes, Bryn Gwyn, a osodai ei linyn mesur ar waith y cerddorion. Y llengar a'r ffyddlpn Bwyr. Hugh Griffith a David S. Jones, fu yn treiddio i ddyfnderau meddwl y ihyddiaeth- wvr. Y wniadwraig gywrain a medrus Mrs. Joseph Rogers a syllai yn ofalus ar gyfrin- ion bysedd merched y nodwydd. A'r prif englynwr Deiniol oedd i daflu ei olwg eryr- aidd ar waith y beirdd, ond och fi, yr oedd y "grippe" wedi gwasgu yr oil o'r beirdd all- an o fodolaeth. Yr oedd rhestr y buddugwyr fel yt can- 1\ n Ysgrif ar Hanes brwydr Cristion ac Apollyon" allan o "Taith y Pererin," goreu, Miss Myfanwy Morgan; yr attebiad goreu mewn cant o eiriau i, "Paham yr wyf yn llwyrymwrthodwr ? goreu, Miss Elizabeth Morgan her adroddiad, goreu, Miss Mary J. Morgan; adroddiad i blant, "Y cam o'i le," goreu, Geraint Gwyn Walters ail oreu, Owen E. Owen. Unawd i ferched, Yr eneth ddall," goreu, Miss Myfanwy Morgan; pedwarawd, Dechreu canu, dechreu can- mawl," Rhif 134 o'r "Perorydr," goreu, Br. Thomas Rowlands a'i barti; wythawd. "Hyf- ryd Ganaan," Rhif 148 o'r Perorydd," gor- eu, Br. Thomas Rowlands a'i barti gwneud arffedog, goreu, Miss Hayes ail oreu, Miss Rachel Morgan Ysgrifenu Psalm xxiii. i blant, goreu, Jane Mary Arnold ail oreu, Samuel Morgan. Darllen darn heb. attal- nodau, goreu, Br. Thomas Rowlands. Yn ychwanegol at y gwahanol gystadleu- aethau, cafwyd adroddiad gan Dafydd E.