Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Dyttryn y Camwy.I

Deigryn ar fedd y Cyfaill…

News
Cite
Share

Deigryn ar fedd y Cyfaill Hoff Ben Dar. Daeth deigryn dros fy ngrudd Pan ddaeth y newydd prudd Dy farw Ben Mi sefais yno'n syn, Gofynais, Beth yw hyn ? Aeth Ben drwy niwl y glyn Tu hwnt i'r lieu. Wrth son amdanat ti,. Prudd adgof ddaw i mi, O'th siriol wedd; Y bachgen gwrol gwar, Fy nghyfaill hoff a'm car, Pa fodd y rhowd Ben Dar Mewn cyfyng fedd ? Fe roddwn lawer iawn Pe dim ond deuparth gawn O'th ysbryd gwyn Gwroldeb fel y dur, Fu neb erioed mor bur, Ffieiddiai rodres sur Y dyddiau hyn. Cyfiawn, heb unrhyw fai Nid oeddyt, yr oedd trai A llanw i ti. Ond clywais ragrith htn, A malais dan ei gwen, Yn poeri a budur C-ii, Er llwydo'th fri. Os byth caf roddi tro, I weled tawel fro, Dy olaf hun Eiddunaf rti hedd, Rhof ddeigryn ar dy fedd, Os rhydodd min dy gledd, 'R wyt ti yr un. Yn awr rhaid canu'n iach, Ffarwel am enyd fach, Down oil cyn hir I'th ddilyn tua'r mor, Lie tyrr ei donau'n g6r Ar draethau pell yr lor, Dragwyddol dir. Y Neuadd Wen. J. P. JONES.

——————.......... Cyfarfod…