Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
TRBL,BW. I
TRBL,BW. I EISTEDDFOD GORONOG Y WLADFA. I Diwrnod o ddyddordeb neillduol fu dydd lau diweddaf y '24ain o Hydref, sef dydd cynhaliad ein Heisteddfod flynyddol yn y Neuadd Goffa. Yr oedd y muriau a'r esgyn- lawr wedi eu haddurno. a'u prydferthu gyda banerau ac enwau beirdd a cherddorion y dyddiau fu. Llawer o ddarogan a dyfalu fu gan rhai pobl a gynhelid eisteddfod o gwbl eleni? Yr oedd y rhwystr hyn a'r anhawsder arall yn peri i rywrai feddwl, y byddai yn well rhoi'r goreu iddi am flwyddyn. Er fod yr hin dipyn yu anffafriol ychydig ddyddiau cynt, er hynny, erbyn canol dydd lau, daeth yn dywydd dymunol, a chafwyd eisteddfod lwyddiannus ac hwyl rhagorol, a threuliwyd dydd dymunol iawn. Cafwyd cynulliad cryf iawh,yn enwedig cyfarfod chwech o'r gloch. Trodd yr anturiaeth yn elw da iawn, yr hyn sydd yn galondid mawr i'r pwyllgor weithiodd mor eguiol i ddwyn y gwaith mor llwyddiannus i ben, a hyderaf y goddefer i mi awgrymu i'r pwyllgor gyfarfod yn ddi- oed, a mynd ati i drefnu ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Tybed a ellir cael dau ddiwrnod at yr eisteddfod nesaf? A barnu oddiwrth awgrymiadau y gwahanol feirniaid, a hyd y rhaglen eleni, gallwn feddwl fod yna ddigon o adiioddau i wneud yr eisteddfod' yn fwy o lwyddiant eto. Yr oedd y rhaglen am eleni yn cynnwys rhestr faith o destynau, a phe byddai cystadlu corawl wedi cymeryd lie, byddai rhaid cael rhan o ddau ddiwrnod i fynd drwy y rhaglen, Mae un ffaith amlwg wedi ei brofi ynglyn a'r eisteddfod eleni, y gellir ei chynnal yn hynod o lwyddiannus, a chaniatau na byddai cystadleuaeth gorawl yn cymeryd lie. Tra yn cyfeirio at y canu, goddefer i mi ddweyd yr hyn glywais gan ganterion am y beirniaid cerddorol, na chafodd neb gam eleni beth bynnag; oblegid dygai pawb o honynt y dystiolaeth oreu i gymhwysderau, gallu, unplygrwydd a gonestrwydd y beirn- iaid. Yr un fath am y beirniaid ereill, gwnaeth pob un ei ran i foddlonrwydd cyff- redinol. Dyddorol iawn yng nghyfarfod y pryd- nawn oedd presenoldeb Rhaglaw Darbodol y Weriniaeth, y Br. Robin Escalante, ar y llwyfan, ac yn gwasanaethu fel cadeirydd i'r cyfarfod. Cyflwynwyd ef i'r gynulleidfa gan yr arweinydd, sefy Br. Ivor J. Pugh, a chaf- wyd araeth fer, frwd a chynnwysfawr gan- ddo. Cafodd dderbyniad rhagorol, a* gallwn feddwl fod y gynulleidfa yn mwynhau ei araeth, Gwyliai yn fanwl bob peth a'i ym- laen gyda dyddordeb a dyfalwch, oblegid holai yn awr ac eilwaith i un opdd ar y llvyyfan ystyr bob peth. Disgwyliaf y gw^a rhywun oedd yn yr eisteddfod roddi cyf- ieithiad o'i araeth i ymddangos yn y DRAFOD. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn drwy i'r arweinydd ofyn i'r dorf godi ar eu traed, a chanwyd yn galonog Emyn Cenedlaethol y Weriniaeth Arianin, y Br. Joseph Jones, Arolygydd yr C.M.C. yn arwain. Caed ych- ydig sylwadau gan y Br. Ivor J. Pugh, ac aed at y rhaglen, Yng nghyfarfod yr hwyr yr arweinydd oedd Glan Caeron, a'r cadeirydd oedd y Parch, R. R. Jones, Niwbwrch. RHESTR O'R BUDDUGWYR: Prif Draethawd, Griffith Pugh Tair Stori W ladfaol, Griffith Pugh; Pryddest, "Gorch- fygwr," Prysor; Englyn, Emyn," Deiniol; Tair Telyneg yn dal cysylltiad a Bywyd y Wladfa, Prysor (hanner y wobr); Chwe' Englyn, Y Paith," Deiniol; Triawd, "Duw bydd drugarog," R. E. Hughes a'i barti; Deuawd, Mae Cymru'n barod ar yr wys," E. J. ac R. G. Evans Unawd Soprano, Bryn- iau fy Ngwlad," Olivia Owens; Unawd Tenor, "Baner ein Gwlad," E. J. Evans; Unawd Bass, "Y Fellten," Win. Myrddin Williams; Pedwarawd, "Hermon," R. E. Hughes a'i barti; Caiiu'r Piano, Blanche Roberts; Canu gyda'r Tannau, H. T. Hughes Ton efelychia<\ol i blant, Colegio San David, Trelew Dadansoddi ton, "Dow- lais," J. Carrog Jones Cyfansoddi, neb yn deilwng Adrodd i feibion, Nefydd Cadfan Hughes; Adrodd i blant, Enid Davies, Rawson Cyfieithu, "Cartre'r Tylwyth Teg," Aeron Hughes; Cyfieithu, "Shelley's Essay on Love," Prysor Cyfieithu, La hora de los heroes," Caeron Cyfieithiad mydryddol o'r emyn, neb yn deilwng; Ysgrif ar anifeiliaid llaethog y Diriogaeth, Griffith Pugh Casgl- iad o photographs, neb yn deilwng Froc i blentyn, Fones Cromwell Griffiths, Rawson; Afternoon tea cloth, neb yn deilwng Gwn nos i ferch, neb yn deilwng; Tea cosy, ni chafwyd enw y buddugol; Can i blant, Breuddwyd y Frenhines," Olwen Jones. Hoffwn nodi gair ynglyn a choroniad y bardd buddugol, sef Prysor. Wedi galw ar- no i ddod i fyny i'r llwyfan, galwodd yr Arch-dderwydd Glan Caeron ar y cylch barddol i fyny hefyd, yna aed ati drwy y seremoni arferol. Tarawiadol iawn oedd y sylwadau gan Glan mewn perthynas a'r gyf- lafan erchyll yh Ewrop, a hoffwn. yn fawr ei broffwydoliaeth, y ca' pwy bynnag fydd byw i fod yn yr eisteddfod nesaf, yr hyfrydwch o gael gweld seremoni y Cadeirio, yn ol yr arfer gyntefig, a swn y rhyfel wedi peidio. Coronwyd y Bardd gan y Rhaglaw, yna caed englynion a phennillion llongyfarchiadol gan Glan Caeron, Deiniol, Bwyr. Morgan Ph. Jones, Ithel J. Berwyn, ac eraill. Buas- ai yn dda gennyf gael ipleser o'u rhoddi yn y DRAFOD, ond ni chefais hwynt, feallai y gwna y cyfeillion eu hanfon i'r Golygydd, ac y cant ymddangos yn fuan. Wele enwau y gwahanol feirniaid :— Beirniaid y gerddoriaeth oeddynt y Bwyr. Joseph Jones a Joseph Davies, a J. T. Rees, Mus.Bac., Bow-street, Aberystwyth, Gog- ledd Cymru. Barddoniaeth, y Parch. Dyfn- allt Owen, Caerfyrddin (De Cymru), ac Arthur Hughes, B.A., Erw Fair. Rhydd- iaeth, Parch. D. J. Williams, M.A., Trelew Bwyr. E. F. Hunt. Thomas Jones (Glan Camwy), a'r Fones E. T. Edmunds, Gaiman. Adroddiadau, Bwyr. Thomas Morgan (Clyd- fan) a John Howell Jones, Trelew. Cyf- ieithiadau, Bwyr. E. T. Edmunds, B.Sc., ac Ithel J. Berwyn, Gaiman. Amrywiaeth, Bwvr. Thomas Morgan Williams, Gaiman E. F. Hunt, Ty Gwyn; Egryn Evans, E. T. Edmunds, B.Sc., a Joseph Jones Bonesau D. J. Williams, Trelew, a E. T. Edmunds, Gaiman. Ysgrifenyddion, Parch. D. J. Williams, M.A., Br. E. T. Edmunds, B.Sc. Haedda y ddau ysgrifenydd a'r pwyllgor ein diolchgarwch mwyaf cynnes am eu gweithgarwch gyda'r eisteddfod i'w gwneud y fath lwyddiant. Sicrheir i mi fod elw syl- weddol wedi ei gael oddiwrth yr anturiaeth eleni, ond gwell na hynny yw y ffaith fod cynnydd mwy yn nifer y cystadleuwyr ar lenyddiaeth a chanu nsfd oedd Ilynedd. X ).t GOHEBYDD.
Family Notices
PRIODAS. Dydd Mercher ger bron Ynad Trelew unwyd trwy briodas y Br. Arthur Woodley, C. M. C. Trelew, a'r Fonesig Susanah Owen merch y Br. a'r Fones Edward Owen Maes Llaned. Ger bron Ynad Gaiman, dydd Mercher, unwyd trwy briodas y Br. Evan Williams, Dyffryn Uchaf (gynt o Ffestiniog) a'r Fonesig Gwen Morgan, merch y Br. a'r Fones Edward Morgan, Bryn Crwn. Dymunwn bob llwydd i'r ddau bar ieuanc ar eu huniad priodasol.
Marwolaeth y Br. Lloyd Thomas.
Marwolaeth y Br. Lloyd Thomas. Boreu dydd Mawrth, Hydref 29am, ar ol rhai misoedd o wae!edd iechyd, bu farw y brawd hynaws, caredig- a chymwynasgar uchod, a rhoddwyd ei gorph i orphwys yn mynwent Trelew prydnawn dydd Mercher. Yr oedd tyrra fawr o wahanol ardal- oedd y Dyffryn wedi dyfod ynghyd i dalu eu cymwynas olaf iddo, ac i ddangos eu g-werthfawrogiad o'i lafur diflino a gonest fel Arolygydd Canghen C. M. C. Rawson, am lawer o flynyddau. Yr oedd hefyd yn swyddog ffyddlon a gweithgar yn Eglwys Tair Helygen, a bydd colled yr Eglwys hono a'r C. M. C. yn fawr ar ei ol. Cymerwyd y gwasanaeth crefyddol yn y ty gan y Parch. Tudur Evans, ac wrth y bedd gan y Parchn. D. D, Walters, Tudur Evans, R. R. Jones, a'r Cenhadwr Castro; hefyd rhoddodd y Rhaglaw air uchel i'r brawd ymadawedig. Datganwyd ar Ian y bedd gydymdeimlad a'r weddw a'r plant yn eu trallod a'u prof- edigaeth chwerw. Bydded Nawdd y Nef drostynt oil.
Iuwm Hen Tlaenor y Gan.
uwm Hen Tlaenor y Gan. Adwaenwn hen arweinydd Mewn eglwys yn y wlad, Yn arwain torf i ganu mawl A'i fron yn llawn mwynhad Bu yno am flynyddoedd Yn wastad yn ei le,- Ac nid oedd neb yn dyblu'r gan Yn debyg iddo fe. Yr oedd yr hen arweinydd Yn hen gymeriad glan, A'i lais yn donnog fel y mor Yn chwyddo mawl y gan; Ond aeth yn rhy hen ffasiwn I ganwyr coeth yr oes, Na wyddent fawr am ystyr mawl, A llai am ddwyn y Groes. Un arall welir heddyw, A chor ac organ dlos, » Tra yntau'n eistedd wrth y drws Yn canu yn y nos; Mae mwy o nod celfyddyd Ar ganu eglwys Dduw, Ond teimla pawb fod eisieu mwy 0 ysbryd y peth byw. Mae deall cudd gyfrinion A nodau caii yn fraint, Ond rhaid i sain o fawl i Dduw Ddod o galonnau'r saint; Ni all molawdiau'r Cristion Fod byth yn gaeth i ddeddf; Mae canu rhmiau Gwaed y Groes I seintiau Duw yn reddf. Mae llais yr hen arweinydd Yn mynd yn grug gan oed, Ond mae ei ysbryd pur mor Hawn 0 ganu ag erioed Rhowch sylw i gynghanedd, I sain, a nodau'r gan,— Ond cofiwn oil fod nerffaith fawl Yn dod o galon lan. t1ae'r hen arweinydd ffyddlon 0 Yn ymyl arall fyd, Ac hen emynau Seion Duw I' 0 hyd yn llanw'i fryd Nid yw ei enw'n hysbys Fel cerddor erbyn hyn, Ond pan gyrhaedda gartref can, Ca ganu fel y myn. Abergwaun. BRIALLYDD.
[No title]
Da fydd gan lawer ddeall fod y Br. Morgan Jones, Glyn Du, wedi myned yn llwyddianus o dan driniaeth law-feddygol yn Ysbyty Brydeinig Buenos Aires.,
Dyffryn y Camwy.I
hyd fynyddoedd yr eira, amryw filldiroedd oddiyma, a'r gwaelodion yn un cyfanwaith gwyrddlas o goed. l'r dwyraia yr oedd han- iad yr afon Camwy, ac i'r gogledd yr oedd llyn Nahueluapi, ac afon Limay yn tarddu o hono. Nid oedd y rhai hyn yn y golwg, am fod yspardyn o'r Pre-Cordilleras yn torri ar y golwg. Yr oedd pob afon welid y fan hon yn ganghenau ddylifent i'r Tawelfor. Ar ein dychweliad darganfyddwyd Pablo a'r milwr arall yn cysgu yng nghysgod coed cedrwydd, un o ba rai fesurais ac yr oedd yn bymtheng troedfedd o gylch ei hon. Ar ot tot o fati cychwynwyd i'r fan lie yr oedd y mulod, yr oedd Pablo megis yn reddfoi yn dynesu at y fan. Yr oedd yr haul wedi machlud cyn i ni gyrhaedd ein gwersyl!. (Tw barhau.)