Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
""iiriP 1 y )!>""■.—————-1…
""iiriP 1 y )!>■ .—————- TIIZ HAt-P-N. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH EDWEN OWEN. Boreu dydd Mercher y 9fed cyfisol, hunodd Edwen fach, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Owen Owen, Dedwyddfa, Tir Halen yn yroedran anwyl o flwydd oed, er pob gofal o eiddo'r tad a'r fam a'r meddyg Jubb ac amryw gyf- eillion eraill. Yr oedd Edwen fach yn un o'r babanod tlysaf, a phob amser yn ddiddig. Dioddefodd ei chystudd caled yn dawel am dair wythnos. Boreu dydd Iau erbyn wyth o'r gloch daeth torf luosog at y ty i gychwyn y cynhebrwng tua'r Gaiman. Gwasanaeth-' wyd wrth y ty ac ar Ian y bedd gan y Parch. R. R. Jones, D. U. Daearwyd hi yn hen fynwent y Gaiman yn mhresenoldeb amryw berthynasau a chyf- eillion. Yno cafwyd gair byr ac i bwrpas gan y Parchn. R. R. Jones, D. D. Walters, a Tudur Evans. Cydymdeimlwn a'r teulu ieuanc yn ei galar. Ond na wylwch fel rhai heb obaith, ymgysurwch yn ngeiriau'r Iesu. Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi.
——)...1-—— Myfyrion.| 1
—— ).1 -—— Myfyrion. 1 Mae Iesu heddyw'n galw ar bechaduriaid mawr, I dderbyn ei ymgeledd heb oedi munud awr; Mae'n dydd diwedda'n nesu, sef ail ddyfodiad Crist Bydd pob un a'i gwrthodo y diwrnod hwnw'n drist. Mae Iesu heddyw'n cynyg maddeuant ini'n rhad, A'n gwneud yn ddeiliaid cymhwys i'w deyrnas drwy ei waed; Mae'n cynygi'n ddiangfa drwy'n golchi'n wyn a glan Cyd-unwn i'w folianu mae'n destyn gwiw i'n can. Gadawodd ef bob cyfoeth, daeth er ein mwyn yn dlawd, Mae heddyw ini'n Arglwydd, yn Brynwr ac yn Frawd, Fe roes ei fywyd drosom ar groes Calfaria fryn Mae tyrfa ddirifedi'n ei foli ef am hyn. Efe fydd yn ein barnu i gyd ryw ddydd a ddaw Ei Dad a roddodd iddo bob gallu yn ei law. Ymdrechwn ninau ddilyn ei ol tra ar ein taith Drwy lwybrau garw'r anial i'rtragwyddoldeb maith Os byth cyrhaeddaf adref, caf delyn yn fy Haw, Lie na bydd yr un gelyn i beri poen na braw, Caf uno gyda'r dyrfa i ganu'r fythol gan, A fydd o hyd yn newydd'r'ol Ilosgir byd a than. GRIFFITH N. JONES (Tir Halen). 1 000 (
Premier and Peace.
Premier and Peace. DOMINIONS TO BE CONSULTED IN THE NEXT FEW WEEKS. "There must be no hugger-mugger peace; it must be a real peace. The god of brute force must this time and for ever be broken and burnt in its own furnace." This was the declaration of Mr, Lloyd George at a dinner given by the Ministry of Information on Saturday to the Canadian editors visiting this country. Lord Beaver- brook presided, In the next few weeks Canada, Australia, New Zealand and Newfoundland will deter- mine the conditions under which we are prepared to make peace, proceeded the Premier. Unless I am mistaken, we are pretty well in agreement upon them. You must have the monster consumed in the fires of his own order," said the Prime Minister, alluding to the German god of brute force. We are going together, and I am very glad that the British Empire is find- ing its own in such a struggle,"
YN EISIEU.
YN EISIEU. Fforddolwr i ofalu am ffyrdd gwaelod y Dyffryn Uchaf. Ar archiad Cyngor y Gaiman, derbynir cynnygion. TOMAS F. Puw, Ysgrifennydd,
Advertising
Dalier Sylw! WEDI CYRHAEDD GYDA'R "ASTURIANO" STOC HAF, SEF HETIAl MERCHED (Ultima Moda) AC AMRYW BETHAU ERAILL. os AM FARGEINION PEIDIWCH AC OEDI GAL W YN Casa Britanica, GAIMAN. Hefyd, fe fydd STOR BRITANICO, DOLAVON, yn ago red DYDD LLUN NESAF gyda'r stoc new- ydd. O. E. OWEN. Cwmni Yswirol Bywyd. lrt SUD aMERICa. Peidiwch oedi ar un cyfrif ag yswirio yn ddeatreg yn y Cwmni a gynygia yr Ysgrif Ddiogeliad (Policies) goreu, rhataf, a'r per- ffeithiaf a ellir sicrhau. Goruchwyliwr yn Dolavon- Br. IORWERTH WILLIAMS. Goruchwyliwr yn Gaiman- Br. HUMPHREY T. HUGHES. Ymofyner am y teleran, etc., i GEORGE E. CHADWICK, Hotel Piramides Trelew-sefydlydd goruch- wylwyr CHUBUT a SANTA CRUZ. Estudio Juridico DEL Doctor ENRIQUE L. HliERGO ABOGADO. Asuntos civiles, comerciales, criminales y administrativos. Acepta los ppderes a su solo nombre. TRELEW — CHUBUT CODWVD Rhwng Trelew a Rawson tyre perthynol i fodur. Trosglwyddir hi i'w pherchenog ond talu am yr hysbysiad. Am fanylion pellach, ymufyner yn Swyddfa'r DRAFOD. ENCONTRADO. Entre TRELEWy RAWSON unacubierta de.automovil. Se dara al dueno pagando los gastos del aviso. Por mas datos dirigirse a la Imprenta Y DRAFOD. FFERYLLFA HERMAN MANFRED (DYFFRYN UCHAF). -0- Dymunaf hysbysu'r Cyhoedd fy mod wedi ail gymeryd gofal y Fferylifa yn Nhre Dol- avon, ac fy mod yn barod i wasanaethu fy nghwsmeriaid fel arfer; y uwyddau o'r fath buraf ac am bris rhesymol. HERMAN MANFRED.
Eisteddfod Casteiinedd.
Eisteddfod Casteiinedd. Gan CEMLYN. Llwyddiant digyinhar bron ymhob ystyr yw hanes yr Eisteddfod yng Nghastellnedd. Cyn belled ag y mae llwyddiant ariannol yn mynd, y mae hwnnw'n uwch lawer nag y bu yn hanes yr wyl o'r blaen. Yn ol pob tebyg bydd yr elw rywle ar draws dwy fil a banner. Colled ariannol yw tair o bob pedair, ac y mae gwersi'r rhyfel drwy gadw'r Eisteddfod o fewn terfynau rhesymol yn rhwym o dder- byn sylw'r pwyllgorau yn y dyfodol. Hen gwyn ynglyn a'r Eisteddfod yw ei bod yn meddwi ar ganu, ac yn Ilithroln ddisylw dras bob cystadleuaeth lenyddol, heb eithrio'r Gadair a'r Goron ar brydiau. Beth bynnag oedd yng ngholl yn Eisteddfod Castellnedd, gofalodd o leiaf am ddodi sylw digonol i len- yddiaeth a barddoniaeth ymhob ffurf arnynt, ac ni oddefodd iddynt gael eu boddi yn swn y corau a'r cyrn pres. Yr oedd gwasanaeth y cadeirio elfeni yn un urddasol, fel y dylasai fod bob amser, a chafodd Job dderbyniad tywysog. Dyma ei drydedd gadair genedl- aethol; ennillodd o'r blaen yng Nghas- newydd a Llanelli, ac ar y Goron yn Eistedd- fod Lerpwl-y gystadleuaeth yr oedd Ben Bowen wedi gosod ei fryd ar ei hennill, a'r un a haeddai, yn ol barn ei edmygwyr. Ond daeth Job yn fwy na gorchfygwr o gystad- leuaeth y Gadair yng Nghastellnedd, a dichon nad oes unman yn Ilawenychu mwy yn ei oruchafiaeth na'r ardaloedd sydd yn ei ad- nabod oreu. Yn ol tystiolaeth pawb yn ddi- wahaniaeth, yr oedd ymddygiad y torfeydd enfawr yn bobpeth allesid ddymuno, ac y mae hynny yn gryn glod i weithwyr Mor- gannwg, yn neillduol pan gofiwn nad oedd y babell, er helaethed ydoedd, yn hanner digon eang i gysgodi'r miloedd oedd a'u bryd ar glywed a gwrando ar bobpeth oedd yn mynd ymlaen. Y GYMANFA GANU. Ar y cyfan yr oedd y Gymanfa Ganu yn ateb pwrpas ei charedigion. Ond er pob ymdrech nid yw eto wedi ennill ei lie o dan aden yr Eisteddfod. Gwn fod sylw o'r fath yn taro yn erbyn syniad cryn nifer o'm cyf- eillion, a bod y Prifweinidog o'u plaid hwynt; ond yng ngwyneb pobpeth nis gall- af deimlo fod y Gymanfa a'r Eisteddfod yn ieuad cyiiiharus-ond yn unig yn ystod y rhyfel. Y mae i'r naill a'r llall eu lie a'u cylch o wasanaeth, ond nid o angenrheid- rwydd o dan yr un to. Fath lewyrch fuasai ar y Gymanfa o'r cychwyn, tybed, oni bai am bresenoldeb y Prifweinidog? Yn yr Eisteddfod y mae'r nwyd gystadleuol yn hawlio sylw, ac nid gorchwyl rhwydd yw cadw'r nwyd o fewn terfynau gweddaidd a rhesymol. Ac, yn wir, dylid dodi i ysbryd cystadieuaeth y lie a'r sylw a haedda. Ond cryn gamp yw i'r torfeydd ymollwng o afael y naill a chofleidio ysbryd y Gymanfa Ganu. Dichon fod hyn o fewn terfynau posibl- rwydd. Wedi'r elo aflwydd y rhyfel heibio tybed nad oes modd cysylitu'r Gymanfa Ganu a Chylchwyl Gerddorol yn fwy na'r Eisteddfod ? Un o'r cylchwyliau hynotaf ydoedd Cylchwyl Harlech, ac yr oedd honno yn cadw ysbryd y Gymanfa Ganu o'r dech- reu i'r diwedd. Pe gallesid sefydlu dwsin neu ragor o gylchwyliau cyffelyb mewn gwahanol rannau o'r wlad buasai'n hawdd penderfynu ar le priodol y Gymanfa Ganu, a chawsai'r cantorion gyfle nid yn unig i gydganu emynau goreu Cymru, ond i ym- golli hefyd nghyfaredd traethganau'r prif feistri. CAMP YR ADRODDWR. Ar y cyfan, fodd bynnag, yr oedd yr Eis- teddfod yn Ilwyddiant mawr, a chafodd y Gymanfa Ganu a'i chenhadaeth lawn cym- aint o sylw a'r disgwyliad. Un o wleddoedd pennaf yr Eisteddfod ydoedd cystadieuaeth yr adroddiad Saesneg-" Marino Faliero's Address (Byron). Yr oedd cynifer a 38 o brif adroddwyr y wlad yn cynnyg ar y darn, a dyfarnwyd y wobr gyda chanmoliaeth ar- bennig y beirniaid i Mr. Eben Rogers, 18, Llantwit-street, Cathays, Caerdydd. Dyma'r chweched tro i Mr. Rogers enpill ar esgyn- lawr yr Eisteddfod Genedlaethol, ac y mae'r un mor gartrefol yn y Gymraeg ag yw yn y Saesneg. Ar lawer ystyr, cydnabyddir ef gan bawb yn brif adroddwr Cymru heddyw, a gelwir yn fynych am ei wasanaeth i'r prif eisteddfodau lleol fel beirniad. Y mae'r Adroddiad yn dechreu ennill ei le o'r diwedd yn yr Eisteddfod, a'r ffordd sicraf i'w ddodi yn ei le priodol yw gofalu am wasanaeth gwr o brofiad Mr. Rogers. Y mae ganddo ddegau o ddisgyblion ar hyd a lied y wlad, ac y maent hwythau yn dechreu dringo i fri o dan ofal eu hathro.