Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
V RHYFEL.
V RHYFEL. Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) Hydref i i. LLUNDAIN. Swyddogol. Mae cadlu- oedd Gogledd America wedi gorphen cym- meryd Vauxandigny, a Saint Souplet. Yr ydym yn parhau i frwydro i'r gogledd oLe Cateau ac wedi cyrraedd ymylon Saint Wast a St. Aubres. Yr ydym yn symud yn mlaen i'r gogledd o Scarpe yn nghyf- eiriad Lens ac Equerchin. RHUFAIN.—Cyrhaeddodd Orlando i gylch y rhyfel ac aeth yn ddioed j'r PencadJys Cyffredinol i gael trafodaeth gyda'r brenin a'r caclfridog Diaz. BERLIN.—Mae rhan o'r blaid Geidwadol yn y Reichstag- yn gofyn am gydgynnulliad dioed o'r Llywodraeth i ystyried atebiad Wilson i'r cais am heddwch. VIENNA.-Bydd i Carlos gyflwyno yn fuan gyhoeddeb ynglyn a hawl y gwahanol genhedloedd i benderfynu ynglyn a'u dy- fodol eu hunain. BUDA PESTH.—Mae Hwngari yn edrych am anibyniaeth cenedlaethol, a nod Awstria yw cadw wrth eu gilydd ei phorthladdoedd tiriogaethol. PARIS. Swyddogal.- Yr ydym yn cadw mewn cyffyrddiad a'r gelyn ac mewn meddiant o Chevot, Moulins, Senide, Mont Saint, Martin, Corbon Briens. Hydref 12. BERLIN.—Dywed y "Kreuz Zeitung" fod gallu yr Almaen yn y Balkans wedi terfynu, ac nad oes obaith iddi allu sefydlu ei hun ar y ffrynt Bwlg-araidd. VIENNA.—Darfu i'r Checos gyda'u pleid- wyr y Slavs rwystro pwyllgor cyllidol y Senedd i gael digon o rif i basio eu pen- derfyniad, ymddengys mai eu hamcan oedd gwneud y senedd yn ddirym. LLUNDAIN. Swyddogol.—Neithiwr par- hasom i symud yn mlaen i'r gogledd o Sensee a chyrhaeddasom i Hamel, Bre- vieries a phentrefi eraill, ac i'r gorllewin o Aimy. Nid oes ond brwydrau lleol ar y gweddill o'r ffrynt. PARIS. Swyddogol. Disgynwyd gan ein peirianau awyrol 70 tunell o ffrwyd- beleni yn ranbarthau Vousrieries ac am- ryw orsafoedd y rheilffordd; dinystriasom 170 beirianau awyrol a 8 o awyrenau. Yn ystod Medi dygasom i lawr 211 o beirianau awyrol y gelyn, 62 o awyrenau. a disgynasom 369 tunell o ddefnyddiau i ffrwydrol. ZURlcH.-Mae'n wybyddus fod Pencad- lys cyffredinol yr Almaenwyr wedi cym- eradwyo os nad yn weithredol wedi annog y cynygion heddwch. LLUNDAIN. Swyddogol.-Mae'r Almaen- wyr wedi gwaghau Chemin des Dames. Yn ol sibrydion o ffynonell ymddiriedol mae Twrciwedi anfon cynnygion heddwch i'r Unol Dalaethau. Hydref 13. BERLIN. Haner swyddogol. —Gwedir fod Awstria Hwngari wedi derbyn yr amodau cadoediad fel eu rhoddwyd gan Wilson. PARIS. Swyddogol. Yr ydym wedi myned i mewn i Vouziers ac yn symnd yn mlaen ar holl ffrynt Champagne. HABANA.—Dywed adroddiad (sydd heb ei gadarnhau) fod daeargryn wedi achosi niwed difrifol yn Puerto Rico. AMSTERDAM.—Mae'r sibrydion yn nglyn a ffoad y Kaiser yn cymeryd ffurf fwy pen- dant, Mae poblogrwydd y Tywysog Co- ronog yn amlwg- yn colli. PETROGRAD.—Mae'r cysylltiadau rhwng y Cossacks a'r Almaenwyr yn ranbarth Don bron a thorri. Mae'r Cossacks ar fin gwrthryfela. SAN SEBASTIAN. Daeth pwyllgor o'r Gweinidogion o dan lywyddiaeth y Brenin i benderfyuiad pwysig ar y sefyllfa mewn canlyniad i dorbediad llongau Ysbaenaidd. STOCKHOLM. Pskoff.—Darfu i gadluoedd Almaenaidd orchymynwyd i fyned i'r ffrynt Ffrengig ddadblygu y faner goch. Darfu i fintai arall dafiu eu harfau i lawr gan alw am derfyniad y rhyfel a bwgwth myned i Berlin. LLUNDAIN.-Mewn cylchoedd dylanwadol mae atebiad yr Almaen yn cael ei ystyried yn gyfystyr a rhoddi arfau i lawr. Cwestiwn o ychydig wythnosau yw ter- fyniad y rhyfel. PARIS. Swyddogol.-Mae y Ffrancod wedi cymeryd Vouziers. Hydref 14. BERNE.—Mewn gwifreb i "Frankfurter Zeitung" dywed "Wolff's Agency" fod yr I Almaen neithiwr wedi ateb Wilson mewn termau sy'n cynwys ei bod yn derbyn y telerau. Hydref 15. PARIS. Swyddogol. Mae'r Ffrancod wedi cymeryd Laon a La Fere. Mae'r Serbiaifl wedi cymeryd Nish. LLUNDAIN. Swyddogol.-Gwnaeth y Pryd- einwyr a'r Ffrancod ymosodiad cryf yn nghyfeiriad Courtrai, ac y maent yn symud yn hynod lwyddianus. LA HAYA.—Mae'r Gweinidog Almaen- aidd a'r "Naval Attache" wedi eu galw i Berlin. PARIS. Swyddogol.—Ar yr holl. ffrynt yr ydym yn cadw mewn cyffyrddiad agos a'r gelyn. I'r dde o Chateau Porcion yr ydym yn rhoddi ein cadluoedd ar Ian ogleddol y Ca- nal, mae gweddillion gwasgaredig byddin y gelyn yn parhau i geisio gwrthsefyll. PARIs.-Mae'r newydduron yn ystyried nad oes gan yr Almaenwyr, yn ngwyneb ein symudiad lyn mlaen, ond encilio yn frysiog ar y llinellau o Lille, Mezieres, a Metz. BERLIN.—Dywed y "National Zeitung" fod mewn rhai cylchoedd ymddiswyddiad Max Baden yn cael ei ystyried yn anoch- eladwy. 4 RHUFAIN. Swyddogol. — Gwrthgurasom ymosodiad y gelyn ar y Piave. Aeth ein cylchwUwyr i mewn i safleoedd (blaenaf) y gelyn i'r gorllewin o Mori gan gymeryd defnyddiau a charcharorion. Ar y gwedd- ill o'r ffrynt y mae, ein ysbiwyr yn brysur. WASIIINGTON.-Mae Ysgrifenydd y Lly- wodraeth wedi cyflwyno i'r teyrngenad Swissaidd atebiad Wilson i'r drafodaeth Almaenaidd. Mae'r atebiad yn galw am waghad y diriogaeth mae'r Almaen wedi gymeryd. Rhaid gadael amodau y cadoediad i farn dynion profiadol milwrol y Llywodraethau Cydbleidiol. Ni ellir derbyn unrhyw drefniant nad yw yn cynwys gwarantiadau am ddiogeliad uchafiaeth milwrol presenol y byddinoe'dd Cydbleidiol. Yn mhellach ni wna'r Llywodraethan Cydbleidiol gydsynio i gael cadoediad hyd nes y bydd i gadluoedd arfog- yr Almaen roddi i fyny eu harferion anghyfreithlon ac annynol. Hefyd mae'n angenrheidiol din- ystrio pob gallu gormesol all feddu'r gallu i aflonyddu ar heddwch y byd. Bydd i'r Arlywydd Wilson roddi atebiad ar, wahan i Lywodraeth Awstria-Hwngari.
[No title]
——— > <——— Mae'r Br. a'r Fones Ebenezer Awstin a'r teulu wedi cyrraedd o'r Andes ar ym- weliad a'u perthynasau yn Nyffryn y Camvvy. II
Cyfarfodydd Gweddi ac Ymostyngiad.
Cyfarfodydd Gweddi ac Ym- ostyngiad. Mewn ymdrafodaeth fu cydrhwng eg- lwysi'r Gaiman a Bryn Gwyn, teitnlwyd vr angen am gwrdd gweddi o ymostyngiad a diolcligarwch. Teimlem yn ddyledswydd arnom ymostwng al-eiii i-haii ein hunain a'u brodyr sydd yn dioddef yn ngwahanol wledydd y byd o herwydd y rhyfel, ac hefyd i ddiolch am y wedci lewyrchus air tawclwch ydym yu fwynhau yn y Wladfa Felly dymunir gwneud apel at holl eg- lwysilr Wladfa i ymuno mewn cyrddau o ymostyngiad a diolcligarwch. Nodwyd ddydd Iau y 31aill cyfisol fel diwrnod man- teisiol i hyny. Credaf fod yr ysgrif ganlynol yn un hynod amserol. JOHN O. EVANS. Y DYDD GWEDDI AC YMOSTYNGIAD. AWST 4, 1918. GAN Y PARCH. JOHN WILLIAMS, DEGANWY (CAERGYBI) Barn Cymdeisthasfa y Gogledd oedd mai dydd gwaith fuasai fwyaf gweddus, am y golygai fwy o aberth, ac y gellid disgwyl, felly, fwy o wir deimlad yn yr ymostyngiad. Fodd bynnag, trefniant y Brenin yw, fod y Saboth, Awst 4ydd, i'w gadw yn ddydd gweddi ac ymostyngiad, a chan mai dyna y trefniant, hyderwn ycydsyniryn gyffredinol ag ef, gan gysegru y diwrnod, ymha wedd bynnag, i'r amcan hwn, a'r Deyrnas yn cyd- ymostwng. Tybed nad yw y priodoldeb o hyn, yn glir i bawb. Yr ydym yn myned trwy amseroedd enbyd a Ileoedd geir- woii," a gwyr Ilawer am dcleufor cyfarfod." Mor anghyffredin a difrifol yw yr amgyl- chiadau, fel y galwant am deimladau neill- tuol, ac ymddygiadau neilltuol. Cyfnod o chwyldroadau cymdeithasol yw. Y mae gorseddfeinciau yn siglo, y seiliau yn crynu, dynoliaeth yn ei gwaed, calonau yn cael eu rhwygo. Os oes miloedd yn colli eu bywyd- au ar faes y gwaed, y mae miloedd hefyd o rieni a pherthynasau'yn cael eu bwyta gan bryderon. Son glywir am ncwyn a heintiau a chymylog yw y ffurfafen. Mewu cyfnod o'r fath yr Ysgrythyr yw ein cyfarwyddyd, ac onid a'u Duw yrymofyn pobl." Dceth yn ddiau y trefnir dydd o ymostyngiad, er nad y'm heb ofni "y dydd- iau neilltuol," hyn, oblegid hawdd iddynt ddisgyn yn ddim ond ffurfmarw, heb unrhyw effaith ar fywyd beunyddiol cymdeithas. Gwyndom am hvd yn oed "yr wythnos weddi," ar ddechreu y flwyddyn, mai prin y gall pob! barhau hyd nos fercher mewn ym- drech. Ac am ddydd diolchgarwch am y cynhaeaf" rhyw ytiicli,ech diwrnod, heb ddylanwadu yn rymlls ar ddyddiau eraill y flwyddyn yw, yn banes llawer. Da fyddai pe gallem gynorthwyo i ddeffro cymdeithas i ymdrech neilltuol, i wneud y dydd apwyntiedig hwn yn rhywbeth heblaw ffurf, neu arddangosiad—yn wirionedd a syl- wedd. Y mae y llywodraeth yn llacio peth ar ddeddf y petrol" am y diwrnod, er hwvluso y ffordd i dy addoliad. Tybir felly, fod ymdrech neilltuol yn cael ei gwneud gan holl ddeiliaid y Deyrnas, i fod yn bresenol mewn rhyw addoldy ac ymostwng. Gyda hyn oil, y mae ein cvdymdeimlad dyfnaf. Gweddus yw, o bob safle. Onid y'm oil yn cyd-ddioddef, a phriodol hollol yw gweled holl ddeiliaid y Deyrnas ar eu gliniau yn cyd-ymostwng. Yn awr, tra y mae yr amgylchiadau allanol yn ddifrifol, teimlo yr ydys fod ystad ysbryd- ol crefvdd yn anfoddhaol, a diflfyg ymdeimlad o rwymedigaeth i Dduw a'i Dy, yn gyflred- inol. "Fv mhobl sydd ar feddwl encilio oddiwithvf." Gogwydd felly sydd i gym- deithas annuwiaeth vmarferol. Tybia llawer nad oes arnynt angen Duw. Pe deff- roai ein cyfyngderau ni, i'n hanghenion pen- naf, da fyddai. Y mae rhai wedi eu deffro, ond nid pawb. Ysywaeth y mae miloedd nad oes ond bwyd a chyflog" yn sylweddau iddynt, ac nid oes modd eu cyffwrdd ond trwy y pethau yna. Os bydd galw sylvv at y dydd ymostyngiad yn help i ddeffro rhyw rai, neu yn help i rai effro, wueud y diwrnod yn ddiwrnod ag ys-