Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
TRELEW.
TRELEW. CYNGHERDD. Nos Fercher, Hydref 9fed, cynhaliwyd cyngherdd rhagorol yn y Neuadd Eidalaidd, gan aelodau o'r Ysgol Brydeinig (sef ysgol Miss Gilbee), yn cael eu cynorthwyo gan rai chwiorydd ieuainc y dref, fel y caf nodi ym mhellach ar y rhaglen. Drwg gennym i bedwar aelod o'r ysgol gael eu Iluddiais i gymeryd rhan amlwg yn y gyngherdd o her- wydd fod angeu wedi talu ymweliad ag un o'r teulu, sef teulu y Br. a'r Fones Joseph Jones, Arolygydd yr C.M.C. Daeth cynulliad cryf iawn ynghyd, a chredwyf i bawb fu yno, fwynhau eu hunain yn rhagorol. A ganlyn ydyw braslun o'r rhaglen Rhan I.-Yr Emyn Cenedlaethol gan blant yr ysgol, dadl gan Blanche Roberts a Patricio Vacas, unawd a chydgan gan Ann Ellen Jones ac aelodau'r ysgol, unawd ar y ber- doneg gan Senorita Vicca, amryw ganeuon (nursery rhymes) gan aelodau ieuengaf yr ysgol, unawd ar y berdoneg ,gan Gracie Helliwell. Deuwyd yn awr at ran ddyddor- ol a digrifol iawn, yr hyn a fwynheid yn anghyffredin gan y gynulleidfa, sef "A Fairy Sketch," cymerwyd rhan y prif gymeriadau gan y rhai canlynol :-Enid Jones, Nesley Mackenzie, Lucy Groom, Luisita Frei, Lily Braiici, Anti Ellen Jones, Phyllis Halliday, Cecilia Groom, loan Lewis, Norman Helli- well, Evan Roberts, Kenneth Mackenzie, Matthew Jones, Sami Jones a Herbert Jones. Rhan II. Unawd ar y berdoneg gan Blanche Roberts, adroddiad yn yr Hispaen- aeg gan y Fonesig Gladys Jones, triawd gan Ann Ellen Jones, Edith Lynn a Mable Morgan, adroddiad gan Patricio Vacas, Flag Drill gan aelodau hynaf yr ysgol, unawd ar y berdoneg gait Winnie Berry, unawd gan y Fonesig Vicca, yna deuwyd i derfyn drwy i bawb uno i ganu yr Anthem Genedlaethol Brydeinig, Duw gadwo'r Brenin." Hoffwn pe bai gotod yn caniatau, gael uodi rhai sylwadau ar amryw o'r darnau gafwyd, ond tebyg ua chaniata'r Golygydd i ini fod yn faith. Yr oedd Miss Gilbee a rhai pennau teuluoedd wedi myned i gryn gost i barotoi y plant mewn darparu dillad, etc., ac y mae yn glod iddynt fod wedi llwyddo i wneud y peth y fath lwydd- iallt ag a fu ac yr oedd y gymeradwyaeth, roddwyd ar derfyn rhai o'r darnau i'r plant a'Li, hathrawes yn brawf digonol, mai nid yn ofer y bu eu hymdrechion. Yr oedd rhai o'r items gafwyd, yn ddigri a doniol iawn, y plant yn adrodd yn dda iawn, pob un yn ei llordd ei hun. Teilynga Miss Gifbee a'i chynorthwywyr bob cydymdeimlad yn eu hawydd mawr i wneud yr ysgol yn gyfrwng o allu i gyfeiriad y da a'r dyrchafol yn y lie; ac hyderaf y bydd ffrwyth toreithiog i'w ganfod ym mywyd y rhai ieuainc sydd dan ei gofal yn y dyfodol agos. -0- Dydd Sadwrn y 12fed, aeth Miss Gilbee a mwyafrif yr ysgolheigion, allan am wig-wyl gerllaw ty y Fones Griffith T. Williams, ac aeth ycllydig, gyfeillioii gyda hwy. Treul- iwyd diwrnod hapusjawn mewn cfrwareuon a rhedegfeydd diniwed gyda'r plant, a dych- welwyd i Drelew erbyn chwech o'r gloch. Yn yr hwyr yn ysgoldy y plant, treuliwyd noson gerddorol. Cafwyd amryw unawdau a deuawdau, ac amryw ddarnau ar y crwth a'r berdoneg. Melus moes eto. GOHEBYDD.
Advertising
Bethel, Tir Halen. "GWERTH DYN I GYMDEITHAS." BYDD Y PARCH. ESAU EVANS yn traddodi ei DDARLITH ar y testyn uchod yn Nghapel Bethel Tir Halen, NOS LUN, HYDREF 28. Yr Ehv at ddiddyledu Ysgoldy Newydd Tir Halen. j, Medi 30, 1918.
I Rhan Prydain yn y Rhyfel.
I Rhan Prydain yn y Rhyfel. I Mae'r aberth sydd wedi ei wneud gan y gwledydd sydd yn rhyfela yn fwy nag y gellir ei bwyso na'i fesur na'i brisio, ac ar- swydir wrth geisio dyfalu uwch ei ben. Mae calonnau miliynau o deuluoedd wedi eu trywanu a'u harcholli gan bryder llethol a galar ingol. Ond ein gwaith yn arbenig yn awr yw ysgrifennu ychydig o'r ffeithiau sy'n dangos aberth Prydain yn y gyflafan ech- rydus, ac yr ydym yn codi'r ffeithiau o ysgrifau dynion ag sydd weditael mantais i gasglu ffeithiau didroi yn ol. Diwedd y flwyddyn ddiweddaf yr oedd gan Prydain Fawr 5,430,000 o filwyr ar y maes, ac os cyfrifir milwyr ei threfedigaeth- au yr oedd ganddi 7,500,000 o filwyr i wyn- ebu y gelyn ac i ymladd dros ryddid ac un- iondeb. Yr oedd mwyafrif mawr y rhif uchod yn wirfoddolwyr. Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhyfel daeth dros 2,000,000 o wirfoddolwyr ir fyddin Brydeinig, ac erbyn diwedd 1915 yr oedd 5,041,000 o'i mheibion wedi ymrestru yn y fyddin a'r Ilytiges- Di welodd y byd erioed y fath fyddin o wirfoddolwyr. Pa nifer o honynt sydd o dan wyneb y tir yn gorwedd yn rhiywle yn Ffrainc, yn Palestina, ac yn y mor? Sawl calon sy'n gwaedu, a sawl inynwes sy'n hiriaethu wrth feddwl am danynt ? Gwelir hen bobl oedd wedi ymneillduo oddiwrth drafferthion masnach yn ewyllys- gar roddi eu hysgwyddau o dan y baich orphwysa ar gefnogwyr gwareiddiad, moes, a rhin. Dacw wragedd a genethod, o dan y teim- lad o gyfrifoldeb, yn ymostwng i weithio yn galed mewn ffactris nwyddau rhyfel, ar y ffermydd a'r rheilffyrdd, a gyda'r gwaith o adeiladu llongau. Ond beth am Lynges Prydain ? Er pan dorrodd y rhyfel allan mae y llongau sydd wedi eu hychwanegu at Lynges wreiddiol Prydain (yn 1914) yn cynnwys gallu mwy nag oedd Llynges yr Alrnaen yn 1914. Yn ystod y flwyddy 11 ddiweddaf yn unig cludwyd dros y mor gan y Llynges Bryd- einig 7,000,000 o ddynion, 500,000 o anifeil- iaid, 200,000 o wahanol gerbydau, a 9,500,000 tunelli o nwyddau i'r gwahatiol faesydd rhyfel. P,c wele'r Llynges Almaenaidd wedi ei hysgubo oddiar y mor. Yn ystod chwe' mis cyntaf 1914 yr oedd ennillion yr Almaen oddiwrth ei llongau yn ^235,450,000; ond gorfu iddi edrych ar ei threfedigaethau yn cael eu cymeryd o un i un heb allu anfon dros y mor unrhyw gyn- orthwy iddynt, ac mae trgolion yr Almaen yn graddol ddioddef newyn. Ymleddir gan filwyr Prydeinig yn Ffrainc, Flanders, Itali, Mesopotamia a Palestina, am fod Llynges Prydain yn feistres y mor, a hi sydd yn sefyll wrtfi gefn y gwledydd cyd- bleidiol er eu galluogi i gynnal eu cadluoedd a'u holl drigolion. Buddugoliaeth ddistaw y Llynges Bryd- einig sy'n cyfrif am y ffaith fod yr Uno I Dal- aethau yn dylifo ei milwyr a'i nhwyddau i Ffrainc. Erbyn hyn mae colledion yr Almaen mewn sudd-longau yn fwy na'r nifer adeil- edir ganddi. Mewn canlyniad i wahanol fesurau gym- erwyd gan y Llywodraeth Brydeinig, i'r amcan o fod yn hunaagynhaliol hyd y gellid, ychwanegwyd dros filiwn o aceri at y tir oedd o dan yd a tatws yn ystod 1917. Erbyn canol Chwefror, y flwyddyn hon, yr oedd 1,200,000 o aceri, yn ychwanegol at yr hyn y cyfeirir ato yn 1917, wedi cael eu haredu. Ynglyn a'r cyflawnder o fwyd yn Prydain o'i gyferbynu a'r prinder yng ngwledydd y gelyn, y mae llawer o'r clod yn ddyledus i'r diweddar Arglwydd Rhondda, ac hefyd i gydweithrediad teyrngarol yr awdurdodau lleo], Mae Prydain heddyw megs gweithdy mawr yn troi allan ddefnyddiau rhyfel ac ymborth i'r milwyr. O'r fyddin fawr sy'n gweithio ddydd a nos i gynnyrchu nwyddau rhyfel, y mae 34 y cant o'r fyddin hon yn ferched. Mae gryn lawer dros filiwn o ferched yn gwneud nwy- ddau rhyfel yn Prydain heddyw. Nid yn unig y mae, hi wedi codi byddin enfawr, a chario y prif faich llyngesol a chynnyddu ei nwyddau rhyfel dros 30,000 y cant, a galw ynghyd fyddin o ferched i was- anaeth y rhyfel, ond y hi hefyd sydd wedi bod yn asgwrn cefn y cydbleidwyr yn arian- nol. Cyftifir ei bod yn gwario yn ddyddiol ^6,986,000, swm cymaiut ag a werid ganddi mewn pytheinos cyn y rhyfel. Erbyn di- wedd y flwyddyn hon bydd wedi rhoddi benthyg i'w chydbleidwyr y swm anferth o ^1,632,000,000. Mae dyled cenedlaethol Prydain wedi cynnyddu o ^651,000,000 i ^7,980,000,000. Nid beth mae'r Hen Wlad yn wneud ddylid ofyn, ond beth nad yw yn wneud ?
———) ? t
——— ) ? t <t <——— I Tynu,Tualr Diwedd. Nid yw diwedd y rhyfel fwyaf mewn hanes yn agoshau heb arwyddion a rhagredegwyr ei ddyfodiad. Er's amryw wythnosau gwefrebir newydd- ion o bob gwlad, o bob ffrynt, ac o bob sen- edd a llys milwrol, ag sydd yn amlwg ddangos nas gallai y diwedd—diwedd y gyf- lafan erchyllaf, fod yn mhell y mae y diwedd yn ymyl, ac wedi dyfod yn ystod yr wythnosau diweddaf mor gyflym fel mai prin yr ydym yn gallu sylweddoli gwirion- edd a chywirdeb cenadwri y rhagredegwyr sydd yn cludo y newyddion da o lawenydd mawr i'r holl wledydd cydbleidiol ae an- mhleidiol, ac i gorph poblogaeth yr Almaen a'i chydbleidwyr. Pwy all sylweddoli teimladau'r milwyr sydd yn gwyt)ebu ffroeiiau'r gynaumawr a man ? Gair swynol yw heddwch, a gair anymunol i'r teimlad yw rhyfel. Ond mae geiriau eraill sy'n hawlio eu lie, ie, yn hawl- io weithiau diorseddu heddwch a gorseddu rhyfel—y geiriau hyn yw dyledswydd, cyf- iawnder, rhyddid a'u nhod yw dinystrio'r egwyddorion sy'n myned o dan wraidd un- iondeb, rhyddid a heddwch. Gallasai Prydain a'r Unol Dalaethau gadw eu heddwch trwy beidio gorseddu rhyfel ond gwynebwyd y gwledydd hyn gan ddyl- swydd, cyfiawnder, rhyddid, ac anmhosibl eu troi heibio heb gwympo o dan warth a chondemniad mil a mwy o oesau. Mae dyledswydd, cyfiawnder a rhyddid bob arnser yn hawliolr aberth mwvaf, ac ni phetrusodd Prydain a'r Unol Dalaethau wneud yr aberth. Yn y man ceir cyfrifon ddengys mai Prydain sydd wedi colli mwyaf—neu wedi gwneud mwyaf o aberth—mewn dynion ac arian, a phwy yn ngoleuni ei haberth a wad fod ganddi hawl i fyw, a byw yn anrhyddus yn mysg gwledydd anrhydeddusaf y byd. Buasai cywilydd gan lu mawr droedio eto ddaear Prydain-a Chymru yn arbenig-pe buasai wedi llwfrhau yn ngwyneb yr aberth oedd yn ei gwynebu er mor fawr a chalon- rwygol ydoedd ond gan iddi ei wynebu mor aiddgar, mor hunanaberthol, mor ddiysgog, bydd troedio ei daear yn anrhydedd, a chofio ei hunanaberth yn lIawenydd, a myfyrio ar ei buddugoliaeth yn enyn parch ac edmygedd pawb sydd hoff ganddo ddysgeidiaeth Gwar- edwr y byd. Sawl calon yn Nghymru sy'n llamuo law- enydd wrth ragweled diwedd y rhyfel ? Y calonau oedd yn sylweddoli gliriaf yr aberth, sy'n llawenhau fwyaf yn y rhagolwg am heddwch dioed, Graddau sylweddoliad yr aberth yw gradd- au y Ilawenydd. A diamau fod pawb wedi ei lenwi a llawenydd mawr dros ben.
Advertising
YN EISIEU AR WERTH. Dwy gaseg waith, gyfebol, o ddosparth canolig drwin. Hefyd, cerbyd llaeth dwy olwyn. YN EISIEU. Teulu (gwr a gwraig) i ofalu am dyddyn. Y gwr i wneud gwaith cyffredin fferm, a'r wraig i goginio a godro. Telerau da i deulu cymhwys. Ymofyner a F. HADDOCK, HOTEL AMICONI, GAIMAN.