Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
 A#% r" Ca M. ? ?.?,— us Nwim tai n  DERBYNIA y CWMNI HADAU ALFALFA neu un- rhyw gynnyrch arall ar gonsign- meat, a gwerthir ef yn BUENOS AIRES dan ei fare priodol ei hun. Am y gwaith cwyd yr C.M.C. lai o gomisiwn na neb arall, ni chodir Hog ar. yblaendal, ac ni chodir ychwaith am ystorio y cynnyrch I yn Ystorfeydd y Cwmni i aros llong. Y mae yn ddealledig fod yn well gan y Cwmni i'r ffermwyr lanhau eu hadau eu hunsin ond iddynt fod i fyny a'r safon. YR AROLYGIAETH. Trelew, Gorph. 31, 1918. MEL. A Pryna'r C. M. C. fel mewn tyniau mawr, megls tynlau nafta, am bris da. Gofaler am el drln yn briodot. Trelew, Mehefin 24, 1918. YR AROLYGIAETH. c. M. C. Eisieu dyn cymwys i ofalu am Barraca Gwlan y Cwmni yn Nhrelew, disgwylir iddo fod wedi cael profiad gyda dosbarthu a phryiiu cynnyrchion. Ceisiadau yn nodi y gyllog i'w hanfon i'r Arolygydd CyfFredinol ar. neu cyn yr 2il o Dachwedd nesaf. Trelew, Hydref 15, 1918. YR AROLYGIAETH. 0. M. C. Derbyriir ceisiadau am y swydd o Ysgrif- ennydd yr Hyrwyddai o hyu i'r zil o Dach- wedd nesaf. Disgwylir i'r ymgeisydd alia y Gymraeg a'r Hisbaenaeg. Y ceisiadau-yn nodi'r gyflog, i'w hanfon i Gadeirydd y Cwmni yn Gaiman. Trelew, Hydref 15, 19 18. YR AROLYGIAETH. Mae y Br. MacWilliams wedi cyrraedd yma o Esquel, a'r Br. Moses Hunt o Tecka, a'r Br. Tryfan Hughes o Sacanana—buont lwcus gyrraedd cyn yr ystorom ddychrynllyd o fellt a tharanau nos Fawrth. Eisteddfod Goronog y Wladfa Gohlrlr yr Eisteddfod hyd Dyddlaujyd. 24,1918 -0- CYFARFOD Y PRYDNAWN.—Am 2 o'r gloch. Rhaglen yr Eisteddfod. CYFARFOD YR HWYR.— Am 6 o'r gloch. Rhan o'r Rhaglen a CHYNGERDD. Bydd y cystadleuaethau canlynol yn ych- wanegol at y rhai sydd ar y Rhaglen, i., Unawd Tenor, Bauer Ein Gwlad." 2. Unawd Bass, Y Fellten," (Y ddwy gystadleuaeth adawyd y flwydd- yn ddiwcddaf o herwydd diffyg amser.) 3. Unawd Soprano, Bryniau fy Ngwlad" (allan o Ceinion y Gaii. Gwobr $ 8.00 Enwau yr ymgeiswyr i fod yn nwylaw'r Ysgrifenyddion efbyn y 14eg o Hydref. -0- Mynediad i mewn i'r ddau gyfarfod $ 1.00 YR YSGRIFENYDDION. DALIER SYLW.- Bydd Tren Nelllduol yn cychwyn olp Gaiman am 1.0 p.m., ac yn dychwelyd yn ol am 9.30 p.m. Prls, $ .OO.
IC-Blaen y Gawod.I
IC- Blaen y Gawod. 0 holl ddinasoedd y dwyrain, nid oedd yr un a gyfrifid yn fwy diffygiol o ran ei chyflwr iechydol na'r "Ddinas Sanctaidd" -J erusalem. Ar hyd v canrifoedd ceid yno gronfeydd, lie yr ystorid dwfr gwlaw ynddynt at was- anaeth beunyddiol y trig-olion, a chan fod hinsawdd y wlad mor eithafol o boeth yno yn ystod misoedd yr haf a'r gwyntoedd cryfion yn parhaus godi cymylau o lwch, buan y Hybrid y cronfeydd nes y troid hwynt megis cynifer o welyau brwd, Ilawn- ion o bob mathau o hadau gwahanol glef- ydau ac afiechydon heintus. 0 dan lywodraeth fall y Twrc anwar, ni wneid dim i geisio g-wella sefyllfa anfodd- haol pethau yno, er fod yr hen ddinas enwog a chyfareddol o ran ei safle ddaearyddol yn un y gallesid yn hawdd ei gwneyd yn filwaith glanach ac iachach i fyw ynddi. Ychydig flynyddoedd cyn toriad allan y rhyfel presenol hefyd, talodd y Kaiser ff roenfalch o'r Almaen ymweliad a Jeru- salem gan ffugio cyfeillgarwch mawr a'r trigolion truain yno, eithr nis cawn iddo rqddi yr un awgrym o'r hyn ddylesid wn- eyd er gwella y sefyllfa dymhorol, ond mynodd fyned i'r brif eglwys fahometan- aidd yno i iveddio drostynt! Ond daeth tro ar fyd o'r diwedd; hedd- yw gwelir y Human Prydeinig yn lie yr un Tyrcaidd yn oruchaf yno, a'r Twrc gor mesol a chreulon wedi ei droedio allan o'r ddinas am byth, ac un o'r pethau cyntaf a wnaed gan y Cadfridog Allenby a'r fyddin Brydeinig ar ol meddianu y ddinas, ydoedd dwyn cyflenwad o ddwfr glan, rhedegog o'r bryniau cyfagos i ddiwallu anghenion,y trioIion. Er nad oes eto flwyddyn o amser er pan y mae Jerusalem yn meddiant y Prydein- iaid, y mae y gwaith bendithfawr a nod- wyd wedi ei orphen, ac ar lawn gwaith yn mhob cwr o'r ddinas. Costiodd y gwaith ugeiniau o filoedd o bunau, gosodwyd i lawr filltiroedd o bibellau haiarn a thwseli (taps) cyfleus i'r holl drigolion i dynu dwfr at eu gwasanaeth; dyna flaen y gawod o fen- dithion ddaw i'r hen ddinas enwog o dan nawdd Prvdain. I W. H. H.
Gatw Byddin Awstria yn 4 Moses.'
Gatw Byddin Awstria yn 4 Moses.' 11 Moses ywlr enw a roddwyd gan rai o Fechgyn Ysgol Sul Cymru ar Fyddin Aws- tria ar Fynydd yr Hwch. Yn llogellau rhai o swyddogion Awstria a gymerwyd yn garcharorion, cafwyd gorchymyn y Peuaeth- iaid Milwrol i'r Fyddin. Yn y gorchymyn hwnnw darlunid cyfoeth y gwastadedd yr ochr draw i Fynydd yr Hwch, ac addawyd i'r milwyr y caent yspeilio y cyfoeth hwnnw a'i gadw yn eiddo ar ol ennill ohonynt Gwlad yr Addewid. Clywodd swyddog y Cymry yn anerch y carcharorion ar Gefn yr Hwch wrth yr enw "Moses," a gofynnodd paham y gelwid hwynt felly. We], Syr," oedd yr ateb, "Cafodd Moses gynt fyned i ben y mynydd i gael golwg ar Wlad yr Addewid—ond ni chafodd erioed fyned iddi -ac felly yr Awstriaid hyn."—rSeren Cymru.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Waeth Pwy, Busi Body, ac Un Arall.- Fe welwch fod eraill yn ysgrifenu ar yr un peth.