Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

TRELEW. I

News
Cite
Share

TRELEW. I MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH LUCY EVELYN JONES. Boreu Sal y 6ed cyfisol, ar ol cystudd byr ond caled o bedair awr ar hugain, bu farw yr uchod, sef merch leuengat y Br. a'r Fones Joseph Jones, Arolygydd yr C.M.C. Ychydig feddyiiai neb o'r teulu am ymad- awiad sydyn eu hanwyl Lucy, oud fel y crybwyllwyd, daeth y divvedd yn hynod sydyn ac annisgwyliadwy, yr hyn sydd wedi peri'r fath alar uwfn i'r oil o'r teulu, ac i'r perthynasau lluosog, Yr oedd yr ymadawedig yn un a fawr au- wylid gan bawb o'r teulu, ac yr oedd ei nhain oedranus yn hynod hoff o honi. Ym- daenodd y newydd pruddaidd am ei marwol- aeth sydyn i bob cwr o'r dyffryn gyda chyf- lymder, ac fel canlyniad daeth torf fawr a lluosog gerllaw y ty y preswyliai ymhell cyn dau o'r gloch, i ddangos eu cydymdeim- lad trwy roddi eu presenoldeb yn y cynheb- rwng. Cludwyd yr arch yn dwyn ei gwedd- illion i gapel y Taberuacl, a chynhaliwyd yno wasanaeth crefyddol fel y canlyn I ddechreu, darllenwyd yr emyn cyfar- wydd, Mae lesu Grist o'n hochr ni," etc., gan y Parch. R. R. Jones y gweinidog, a gal- wyd ar y Parch. D. D. Walters i ddarllen rhanau pwrpasol o Air Duw, mewn modd effeithiol, ac anerchwyd Gorsedd Gras. ;Gof- ynwyd i Senor Salvany (Cadben Byddin yr Iachawdwriaeth) siarad ychydig eiriau yn yr Hispaenaeg, siaradwyd hefyd gan y Parch. Tudur Evans a'r Gweinidog, yna rhoddwyd allan yr emyn todd- edig a phrydferth, "BugaiI Israel sydd ofalus," etc a chanwyd yn deimladwy iawn. Gorphenwyd y gwasanaeth yn y capel gan y Parch. R. R. Jones, Dyffryn Uchaf, drwy weddi ddwys a difrifol. Yna aed yn orym- daith drefnus tua'r gladdfa, tuhwnt i'r llyn, ar y bryniaiu gerllaw, ac ar hyd y ffordd yr oedd drysau pob ystordy a lletii pob ffenestr wedi ei gostwng, fel arwydd o barch i'r teulu ac o gydymdeimlad a hwy yn eu trail- od blin. Hyd yr wyf yn cofio, dyma'r ang- laddfwyaf i blentyn fu'm ynddi erioed. Yr oedd yn yr orymdaith rai ugeiniau o foduron a cherbydau, yn cael eu blaenori gan elor- gerbyd ysblenydd Senor Cabrero, yn yr hon y cludid yr arch brydferth. Wedi cyrhaedd hyd lan y bedd, darllenodd y Parch. R. R. Jones, Trelew, ychydig adnodau pwrpasol a ch ysurlawn, a siaradodd ychydig eiriau priodol iawn i'r amgylchiad. Gofod a ballai i mi roddi unrhyw grynhoad o'r hyn a lefar- wvd dilynwyd ef gan y Parch. D. D. Walters mewn ychydig eiriau tyner, ac an- erchwyd Gorsedd Gras gan ddymuno am gyuortliwy ilr teulu i fynd drwylr amgylch- iad galarus o ddaearu eu hanwyl Lucy. Dar- llenwyd gan y Gweinidog yr emyn poblog- aidd hwnnw, "0 fryniau Caersalem ceir gweled," etc., a chanwyd mewn liwyl addol- gtjir a theimladwy iawn gan y dorf fawr ddaeth ynghyd. Yr oedd presenoldeb y dyrfa ar lan y bedd yn dystiolaeth eglur pa mor barchus yn serch a syniadau hoi 1 drig- olion y dyffryn o bob cenedl ac iaith, ydyw y Br. Joseph Jones a'i deulu lluosog, a'u perthynasau. Gobeithio y bydd i'r gweddiau a offrymwyd ar eu rhan, a'r geiriau cvsur- lawn lefarwyd, fod yn nerth a chynhaliaeth iddynt yn rfydd eu profedigaeth. Gwn yr una pawb o ddarllenwyr y DRAFOD a mi, mewn estyn i'r teulu oil ein cydymdeimlad llwyraf yn yr amgylchiad pruddaidd o golli un oedd mor hoff ac anwyl iddynt. Gobeith- io y bydd iddynt ymgysuro yn y ffaith hon- no, gyfeiriwyd ati ar Ian y bedd mor bryd- ferth, fod dolen gydiol bellach wedi ei chysylltu rhyngddynt a'r byd ysbrydol, a daw llais tyner eu Lucy Evelyn hoff" atynt, o'r lie hwnnw, fydd vn dweyd, Dringwch i fyny yma ataf fl." Hyn yw dymuniad llaw- er un heblcnv- _il GOHEBYDD.

...,,-DIOLCHGARWCH. 1111

I Nodion.

ILlythyr o'r Hen Wlad.