Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YR EISTEDDFOD. ",,

News
Cite
Share

YR EISTEDDFOD. Br. GOL.- Erfyniaf ychynig o'ch gofod am y tro, i draethu o'm Ilea ar y priodoldeb o gynal yr Eisteddfod yn unol a chyhoeddiad rhifyn di- weddaf y DRAFOD. Fel un sydd wedi presenoli ei hun yn mhob Eisteddfod gydag eithrio un neu ddwy leol sydd wedi eu cynnal yn y Wiadfa, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, ac wedi cymer- yd rhan yn ei chynal inewn rhyw ffordd neu gilydd, ac hefyd wedi bod yn gynrychiolydd yr ardal y perthynaf iddi ar y pvvyligorau lleol yn gystai a'r rhai cyffredinol yn y cyf- amser. Rhydd hyn dipyn o hawl i mi ddweud gair ar y mater hwn, ac nid gair yn unig ond fy mhrofiad hefyd. Y mae yr Eisteddfod yn sefyll yn nesaf at y gwasanaeth crefyddol yn fy ngolwg, ydyw, ac y maecytlwyniad oaml ifeddwlatheimlad wedi ei dderbyn trwyddi o dro i dro ag sydd wedi bod yn foddion gras, pwy 11a all deimlo i ddyfnderoedd ei galon pan y mae sefydliad tnordeilwng o'n galluoedd goreu yn caei ei dynu i lawr i safle Patch up o gyfarfod ar enw Eisteddfod. Pwy glywodd son am gynnal Eisteddfod heb gor, corau neu bar- tion I Onid y rhai yna yw bywyd yr Eis- teddfod, ac yn ol a ddeallaf nad oes gymaint ag nn yn ymbarotoi i'r ymgvrch ar ddarnau dewisedig y pwyllgor, pa raen a llwyddiant fydd hebddynt tybed ? Deallafy priodolir y bai i gantorion Trelew, pa'm hyny ? A holl gantorion y Wiadfa a'i dwylaw yn mhleth I I mi gorwedd y bai wrth ddrws y pwyllgor a dyma dri rheswm neu bwynt ddyleut fod yn faes astudiaeth y pwyllgor wrth drefnu rhaglen. i Dewis darnau heb fod o'r dosbarth mwyaf clasurol, fel gall yr adnoddau sydd genym wneud tegwch a hwynt trwy eu dvsgu yn drwvadl, a'u perfformio yn ddylan- wadol ar y gynulleidfa ddydd yr Eisteddfod, dyna goron yr Eisteddfod, a cheidw anrhyd- edd ar enw yr Awdwr (yn lie, wedi Ilafurio wvthnosau a misoedd gvda darn clasurol, ymladd yn galed ^er ceisio mynd drwvddo rhywsut ddydd yr Eisteddfod, dyna anfri ar yr Eisteddfod ac ar enw yr Awdwr). 2. Gofaler am ddigon o gopiau mewn pryd o bob darn i bob aelod yn mhobcor. 3. Dewis beirniad neu feiruiaid ar y gwahanol gystadleuaethau na bo un am heuaeth o allu barn, y mae amser wedi ein dvsgu fod diffyg yn v pwyntiau yna yn milwrio yn erbyn llwyddiant yr Eisteddfod. Hawdd yw i ddyrnaid o'r pwyllgor ben- derfynu fod Eistaddfod, a thatll1 y baich ar ysgwyddau y bwrdd lleol, nid dyna y fifordd, y mae cynnal Eisteddfod vn golygu costau, ac yn ol a ddeallafdisgwylir eleni feirniad- aethau o'r Hen Wlad trwy gable, a thren i gario dwsin neu ddau o bobl y Wiid i wrando y rhai hvny &c., a choroni yr Eisteddfod a methiant II Penboethni ac hunanoldeb yw meddwl cynnal Eisteddfod ar y rhagolygon presenol, ac nid cariad at ddyrchafu a chadw urddas ac anrhydedd lien a chan i fyny a safon teilwng o'n hanes fel cenedl trwy yr Eistedd- fod. Gohirier yr Eisteddfod a chwilier i mewn beth sydd yn llesteirio y paratoadau, a dew- isier hwv, ac vnagallwn ddisgwyl Eisteddfod fyddo yn anrhydedd i'r Wlad vr *yin yn byw ynddi, ac yn fendith i'n Gwladfa yn gyffred inol. LLEWELYN WILLIAMS. I

"BWRN Y BEGERA A'R CASGLU…

TREMYDD A'R CYNGHANEDDION.I

Marwolaeth y Tonesig Eunice…

Advertising