Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

The Duke of Connaught and…

Gyfraniadau at y Groes Goch…

Rhan y Gweithiwr.

News
Cite
Share

Rhan y Gweithiwr. Yn ei anerchiad i'r "gweithwyr," ceir y sylwadau canlynol gan yr Arlywydd Wil- son,— Erein bod flwyddyn yn ol wedi sylwe- ddoli pwysigrwydd ein gwaith yn cyhoeddi rhyfel, eto erbyn hyn yr ydym wedi canfod ei ystyr yn gliriach. Gwyddem ein bod oil yn gydweithwyr, ac fod yn rhaid i ni gydsefyll a chydymdrechu, ond ni sylweddolasom fel yn awr ein bod oil yn ddynion ymrestredig, aelodau oun fyddin ag iddi amrywiol orchwylion, ond yn cael ei symbylu gan yr un ddyledswydd. Gwyddom yn awr fod pob arf i'w ddef- nyddio i'r un amcan ag y defnyddir y rhych- ddrylliau yn y fyddin. Arf i ba beth ? I ba beth y mae y rhyfel ? Paham yr ydym wedi ymrestru ? Paham y buasai arnom gywilydd pe na buaem wedi ymrestru ? Ar y dechreu prin yr ymddangosai yn ddim mwy 11a rhyfel amddiffynol yn erbyn ymosodiad yr Almaen ar Belgium. Sarhawyd Belgium a chyrchruthrwyd i Ffrainc, ac yr oedd yr Almaen ar y maes fel yn 1870 a 1866 i weithio allanei huchelgais ei hun yn Ewrob, ac yr oedd yn angenrheid- iol cyfarfod ei nherth gyda nerth. Ond mae'n eglur yn awr ei bod yn Ilawer mwy na rhyfel i newid mantol nerth yn Ew- rop. Ymasoda'r Almaen aT yr hyn y mae pobl ryddion yn mhob man yn ei werth- fawrogi ac am ei fynnu—yr hawl i bender- fynu eu ffawd eu hunain, i hawlio cyfiawn- der, ac i orfodi llywodraethau i weithredu ar ran y bobl ac Did er mwyn buddianau preifat a hunanol dosbarth lly wodraethol. Mae'r rhyfel i wneud cenhedloedd a phob- loedd y byd yn ddiogel yn ngwyneb pob gallu fel yr 1111 gynrychiolir gan yr Unben- aeth Almaenaidd. Rhyfel rhvddfreiniad ydvvv, ac nid cyti iddi gael ei henill y gall dynion anadlu yn rhydd, a myned oddiamgyleh eu gorchwylion dyddiol, gaii wybod msi eu gweision yw y llywodraethwvr ?,c nid en meistri. Mae hon felly, yn anad unrhyw ryfel, yn un y dylai llafur ei chefnogi gyda'i holl rym* Mae'r milwyr yn rhoddi eu hywydau er mwyn i gartrefi yu mhob man gael eu cadw yn gysegredig a diogel, ac er mwyn i ddyn- ion yn mhob man fod yn rhyddion. Dyna'r rheswm eu bod yn ymladd gyda llawenydd dwys, ac y maentyn anorchfygol. Mae goleuni argyhoeddiad newydd wedi treiddio i bob dosbarth yn ein phth. Yr ydym yn svlweddoli yn fwy nag erioed ein bod yu gymrodyr dibynol y naill ar y llall, yn anorchfvgol pan yn unol ond yn ddiallu pan yn rhanedig."

Advertising