Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

V RHYFEL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

V RHYFEL. Newyddion gyda'r Pellebr. (HAVAS AGENCY.) I Medi 30. (Dyma'r wifreb gyntaf i'r Drafod oddi- wrth "Havas" er's oddeutu tair wythnos.) PARIs.-Mae'r cadoediad ofynwyd am dano gan y Bwlgariaid wedi ei ganiatau gan y Cydbleidwyr ar ol i genhadon aw- durdodedig Bwlgaria dderbyn yr holl am- odau roddwyd gan General Franchit Es- pereny yn enw Llywodraethau'r Cydbleid- wyr. Hydref 2. AMSTERDAM.—Mae aelodau sosialaidd y Reichstag wedi rhoddi y Llywodraeth ar ddeall fod yn rhaid dyfnyddio gwaith Bwl- gajia yn rhoddi ei harfau i lawr i ddyfod i gytundeb gyda'r Cydbleidwyr ynglyn a heddwch cyffredinol. BERLIN.—Mae'r brenin Ferdinand wedi anfon gwifreb i'r Kaiser i'w sicrhau o ffyddlondeb i'r Gyngrair. LLUNDAIN. Tanbelenwyd Zeebrugge, Ostend, a Bruges gan ein peirianau awyrol, ac ymosodasant ar destroyers y gelyn; yn ystod yr ymosodiad dygasom i lawr 13 o beirianau y gelyn, y mae 10 o'n rhai ni ar goll., PARIS. Swyddogol.- Yr ydym yn par- hau i symud yn mlaen rhwng Aisne a Ves- le. Yr ydym wedi cwblhau ein buddugol- iaeth yn Champagne; a chymeryd Binar- ville a Condesles Tenoy. Er y 26ain cyfisol yr ydym wedi cym- eryd llawer yn garcharorion. Mae y car- charorion gymerwyd rhwng Suippe ac Ar- gonne dros 13,000 gyda 3000 o ynau mawr. LLUNDAIN.-Dywed adro-ldiad Gogledd America eu bod wedi cadarnhau eu safle- oedd rhwng y Meuse a'r Aisne er gwaeth- af gwrthymosodiadau cryfion. AMSTERDAM. Berlin.—Dywed y Vosges Gazette fod cynnadledd, dydd Sadwrn, o'r tair plaid cynrychioliadol o fwyafrif y Reichstag wedi cytuno ar yr angenrheid- rwydd o gydnabod hunanlywodraeth Al- sace-Lorrain. BASLE.—Mae'r Colera wedi torri allan yn Berlin, mae 7 wedi marw o hono. AMSTERDAM.—Yn mysg olynwyr posibl, Hertling awgrymir, Solf, Bethman-Holl- weg, a Beckensdorff. LLUNDAIN.-Gwnaed arddanghosiad gel- ynol mawr o flaen Arbrwyaeth Bwlgaria yn Berlin. Dlnystriwyd amryw o gofgolofnau cy- hoeddus. Nid oedd yr heddgeidwaid yn abl i roddi y terfysg i lawr. PARIS.-Mae cadluoedd Allenby o fewn 2j- milldir i Damascus, mae marchfilwyr Ffrengig yn symud yn mlaen i gyfeiriad Beirut. LLUNDAIN. -Dywed adroddiad serbiaidd eu bod wedi cyrneryd lleoedd pwysig ar ol brwydr ffyrnig. Mae marchfilwyr Ffrengig wedi myned i mewn i Skoptie. LLUNDAIN. Swyddogol. Yr ydym yn parhau i ymosod ar St. Quentin. Yr ydym wedi cymeryd Tilloy, Lesreyes a lleoedd eraill. Mae y gelyn yn ceisio gwrthsefyll. Mae'r Almaenwyr yn rhoddi Cambrai ar dan. Hydref 3. COPENHAGEN. Mae'r faner Brydêinig wedi ei chodi yn Spitzberg, a'r orsaf ddi- wefr Almaenaidd wedi ei dinystrio. AMSTERDAM.—Dywed y Cologne Gazette fod y cyfringyngor Tyrcaidd wedi pender- fynu glynu wrth y Cyngrair gyda'r Gallu- oedd Canolog. CORFU.- Yn ol adroddiad swyddogol yr oedd y Serbiaid, pan wnaed y cadoediad, yn agos i'r llinellau yn Aboyna yn y rhan- barth mynyddig elwir Malestyrni Karme i'r gogledd o Karcroselo, ac yn y nos aethant i mewn i Kucanovo. SAN SEBASTIAN.—Mae'r Gorfforaeth wedi penderfynu taenellu "disinfectant" ar yr heolydd (fel rhagocheliad rhag Colera.) LLUNDAIN.-Adroddir fod damwain wedi cyfneryd lie neithiwr ar brif iinell y rheil- ffordd rhwng Malmo a Stockholm. Aeth tren dros arglawdd a chymerodd dan gan achosi 60 o farwolaefhau, ac i amryw gael eu clwyfo. Dywed newyddion diweddarach fod lie i gredu fod o 300 i 400 o bersonau wedi eu claddu o dan yr adfellion myglyd. PARIS. Swyddog OI.-Enillasom dir i'r gorllewin o Reims; mae Masiso a Salen- tesney yn ein meddiant. Dim cyfnewidiad yn Champagne. LLUNDAIN. Swyddogol. Ymosodasom ar linell y gelyn yn ardal Beaurevois, bu yr ymosodiad yn hollol lwyddianus, torwyd y Uinell. Yn nosran Cambrai terfynodd y frwydr trwy ymosodiad llwyddianus allu- ogodd cadluoedd New Zealand i yrru y gelyn allan o Creve Court a Rumilly. Cymerasom amryw ganoedd yn garchar-, orion. LLUNDAIN.- Cyhoeddodd. y Gweinidog Rhyfel fod y Prydeinwyr wedi cymeryd Damascus ar Hydref iaf. LA HAYA.-Dywed "Les Nouvellis" fod yr Almaenwyr yn Belgium wedi gwneud pontydd o gychod dros y Meuse gyda'r bwriad o chwythu i fyny yr holl bontydd eraill cyn ymadael o'r lie. Mae preswylwyr rhanbai':h Roubaix yn symud i gyfeiriad Antwerp, a phreswylwyr Lille i gyfeiriad Liege. LLUNDAIN.-Mae pob plaid o'r wasg yn datgan digofaint mawr at waith yr Al- maenwyr yn llosgi Cambrai. Mae'r Daily Graphic yn hawlio i'r lly- wodraeth gyhoeddi y bydd i ddinas Al- maenaidd gael ei chadw gan y Cydbleid- wyr hyd nes i ddigollediad gael ei roddi am bob dinas berthynol i'r Cydbleidwyr ddinystrir. AMSTERDAM.—Mae'r Wasg Sosialaidd yn Neheubarth yr Almaen yn ymosod ar ddi- plomyddiaeth Almaenaidd am ddiffyg rhagwelediad i ganfod gwendid Bwlgaria. TURIN.-Mae'r Seneddwr Chironi wedi marw. AMSTERDAM.—Dywed y "Mittag Zeitung" fod Maxboden wedi ei enwi yn ganghellor. BERLIN.—Ddoe llywyddwyd gan y Kaiser mewn cynnadledd yn y palas, yn bresenol yr oedd Hertling, Hindenberg, Maxbaden a Von Payen. SOFIA. Mae'r dirprwywyr heddwch wedi dychwelyd. DUNKERQUE.—Dechreuodd y tanbeleniad gyda'r gwn mawr (long range gun) ddoe, heb achosi ond niwed dibwys. Clwyfwyd dau bersori. COPENHAGEN.—Aeth dau beiriant awyrol (Almaenaidd mae'n debyg) dros y ddinas yn yr uchder o 1500 metres, ac aethant o'r golwg i gyfeiriad y De. COPENHAGEN.—Mae 2000 o blant yr ys- golion yn dioddef oddiwrth "Spanish in- fluenza", mae amryw wedi marw yn Sweden mewn canlyniad iddo. LLUNDAIN. Swyddpgol. Mae'r Aws- traliaid oedd yn ymosod i'r gogledd o Da- mascus wedi cymeryd 15,000 yn garchar- orion, 2 o ynau mawr, a 40 o ynau peir- ianol. LLUNDAIN. Swyddogol.—Mae'r gelyn yn gwaghau safleoedd hynod gadarn yn agos i Armentieres, hyd yn hyn amddiffynid y lleoedd cadarn uchod gyda phenderfyniad cryf. LLUNDAIN.-Mae'r "Daily News" yn cy- hoeddi newyddion o Zurich fod Twrci wedi hysbysu yr Aimaen ei bod yn bwriadu gofyn am heddwch. Datganodd yr Almaen ei bwriad i gym- eryd meddiant milwrol o Bwlgaria. LLUNDAIN.-Mae'n hysbys fod y Llywod- raeth wedi anfon nodyn pendant i'r Almaen gan hawlio atebiad dioed ynglyn a chyf- newid carcharorion yr hyn oedir yn an- yladwy. (Daeth y newyddion canlynol gyda'r Pell- ebr i "11 RisveglioTrelew). Medi 30. Mae'r Cydbleidwyr wedi caniatau cad- oediad i Bwlgaria ar yr amod fod ei holl fyddin i roddi ei harfau i lawr. Mae'r Belgiaid wedi ailgymeryd Staden a Dixmude gan gymeryd 22000 yn gar- charorion a 300 o ynau mawr. Cymerwyd Malmaison gan y Ffrancod. Er dechreu yr ymosodiad diweddaf mae'r Cydbleidwyr wedi cymeryd 200,000 yn garcharorion, 3000 o ynau mawr, a 20,000 o ynau peirianol. ————

Treorci.