Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Colonia Sarmiento.

News
Cite
Share

Colonia Sarmiento. Y DDIWEDDAR MRS. BEN. S. JONES. Yn agos i ddeuddeg mlynedd yn ol, y daeth Letitia Jane Jones i'r lie hwn (o Bed- linog Morgan wg) at ei hewythr a'i mhod- ryb-y diweddar gymeriadau parchus—Mr. a Mrs. Stephen R. Jones (brawd y Br. David Jones, Rhymni) ac ar eu haelwyd gysurus hwy, ar ddydd Gwyl y Gianiad (a phen ei biwydd) ddeng mlynedd yn ol, yr unwyd hi a'r mab, Benjamin, yn ugwmni annai gyf- eillion dreuliasant brydnawn hapns gyda hwynt yn nghwnnii iach a difyr y patriarch a'i briod. Mor belled ag y gwyddom treul- iasant y deng mlynedd yn gytun a chariadus. Y mae iddynt bedwar o blatit, tri bachgen a merch (y baban). Gadawodd S. R.Jones a'i briod ni dros 8 mlynedd yn ol am y Wladfa, ac oddiyno i Gymru. Cydmarol fyrr a chys- tuddiol fu eu harosiad yn y wlad anwyl honno yn enwedig Mrs. Jones, blaenasant Let (fel ei galwent) i'r Wlad welI-gwlad y Sabbath pur. Ar ddychweliad B. S. Jones a'i briod o'u hymweliad a'u perthynasau yn Ngymru oddeutu pum mlynedd a haner yn ol, daeth ei brawd a'i briod-Mr. a Mrs. Edward John Jones, gyda hwynt i'r lie hwn, y mae ef yn wr darllengar a deallus, yn hoffi dilyn a meddylu ar brif faterion y dydd. Rai mis- oedd cyn colli ei chwaer, yr oedd wedi der- byn hysbysrwydd fod ei frawd-swyddog yn y fyddin—wedi syrthio yn y rhyfel. Mor dda oedd gennym dderbyn tystiolaeth yr un a'i rhoddodd, fod y fam, sydd yn, ac wedi profi dyddiau tywyll, yn heu gvfarwydd a'r Gras sy'n ddigon yn mhob treial. Famau a thadau, a fydd ein bywydau yn help i dynnu ein plant at Dduw yn mhen biynyddoedd, o bosibl, wedi iddynt fyned o'n gafael ? Mae E. T. Jones a'i briod mor bell- ed yn preswy lio gyda B. S. Jones, y maent yn gwmni i'w cyfaill a'i blant bychain yri yr amgylchiad trist a'u goddiweddodd yn sydyn ac anocheladwy. Daeth i ran ei briod i fod yn famaeth i'r amddifaid oeddent gyfa.rwydd a hi gynt. Gorchwyl prudd i ni yw croniclo marwol- aeth ein chwaer ieuanc ymadawodd yn hwyr nos y 24ttill o Mehefin. Ar y 4ydd o Mai rhoddodd eriedigaeth i ferch, yr oedd yn teimlo yn gwella yn dda, cvstal os nad gwell nag yn yr amgylchiadau cyffelyb blaenorol, fel y mentrodd ddyfod allan i'r gegin yn mhen y degfed dydd, ond profodd y gwahan- iaeth yn nhymeredd y ddwy ystafell yn or- mod iddi ddal-teimlodd ias yr hinsawdd yn oer-rewol ar pryd, yr hyn achosodd enyniad yr ysgyfaint. Ni theimlodd lawer o boen wedi i wres yr enyniad ddarfod, ond cafodd byliau hirion o besychu diddolur. Niallodd ymdrechion dibaid ei phriod a'i pherthynas- au ei chadw yma, daeth yr eiliad olaf iddi yn sydyn a diboen i'n golwg ni. Mae'n ty- wyllu," meddai hi, gyda'r anadliad diwedda —aeth ymaith yn dawel, Yn yr olwg ar y wedd ddisymud, lonydd, yn nistawrwydd cysgod angau, a oes modd meddwl fod rhyw- beth heblaw cofio'r gorphenol i'r rhai oedd anwyl ganddi ? Bydd yn dda ganddynt allu myned i'r gorphenol, er drwy hiraeth, i ad- gofio yr holl ymddygiadau air gweithredoedd ddangosent ei chariad tuag atynt. Hoff fydd gan rai o honom gofio ei thuedd grefyddol-daeth yma o wres y Diwygiad yn Nghymru. Yr oedd ein capel ni yn rhy bell o'i phreswylfod iddi allu bod yn bresen- ol ond anaml. Ond wedi myned o fewn lig iddi, ar yn ail Sul,fegerddodd i'r cwrdd droion pan na fuasai ceffyl wrth law, a pharod oedd, i ddarllen pennod ac erayn, yr hyn a wuai hi yn eglur a phwysleisiol. Rhoddwyd ei phabell ddaear- ol yn naear myriwent y sefydliad Meh. 26ain. Daeth cynrychiolaeth o'r holl deuluoedd Cymreig a Seisnig sydd ar y dyffryn, ilr eyii- hebrwng, a lluaws o'n cyfeillion o wahanol genhedloedd eraill hefyd. Yn y ty—cyn cychwyn, canwyd yr emyn- au 0 fryniau Caersalem ceir gweled," 0 Ilefara addfwydd Iesu," a darllenwyd y i 5fed bennod o i Cor, a'r emyn 0 aros gyda ni, y mae'n hwyrhau," (yn spaeneg) a chan- wyd yr emyn, -1 Yn y dyfroedd mawr a'r tonau ar Ian y bedd. I Dduw y byddo'r diolch, na raid diweddu gyda'r olwg ar waith angeu ar y babell ddaearol, i amgylchiadau y ddaear y perthynai hon. Y mae ein Gwaredwr mawr wedi rhoddi modd i edrych tu hwnt i'r hyn sydd ddaearol. Y mae y rhai sydd yn byw yn agos iawn ato, nid yn unig yn ymwybodol o anfarwoldeb, ond hefyd, fod y bywyd yn helaethu-cynnedd- fau eu heneidiau yn cynnyddu ar ei ddelw- it ni a wyddom," yw eu hiaith hwy. Symud wnaeth ein chwaer i'r babell, anllygredig, oedd yn ei haros, lie y mae y (ieall, y eyd- ymdeimlad, a'r serch, yn eangach, purach a sancteiddiach. Ei hanwyliaid a'i chydnabod sydd mewn tristwch, neshewch at Dduw, clywch y I!a:s—Y niae cenadWTii chwi o'rtu hwnt i'r lien. Dymuniad yn perthyn i'ch heddwehtragwyddol yclyw,-O fy anwyliaid, Na roddwch eich serch ar y pethau sydd isod, trysorwch i chwi drysorau yn y nef- oedd, ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw, ceisiwch yn daer mynnwch brofi fod eich heneidiau o dan Ei arweiniad ali lywodraeth. Meddai loan,—Ni a wyddom ddyfod Mab Duw, ac Efe a roes i ni feddwl, fel yr adnab- yddom yr hwn sydd gywir; Ac yr ydym yn y cywir hwnnw sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw y gwir Dduw a'r bywyd tragwyddol. Yn nhre Sarmiento ar y 6ed o Orphenaf bu farw Mrs. Rosumando, y fydwaig gnredig yn 55 oed, o enyniad yr ysgyfaint. Gwelir ei cholli gan y rhai y bu ei chwmni siriol a'i gwasanaeth gwerthfawr o help iddynt, ac yn enwedig gan yr wyrion bychain (wedi colli eu mamau) oedd o dan ei nodded. Yr oedd y noson cyn ei marwolaeth yn nodedig o oer, yn rhewi hyd 17 gradd (centi grade), ac yr ydym wedi cael tywydd eithriadol o oer, am ysbeidiau o'r gauaf sydd yn ein gadael. D. J. om —————

O'r Cwm. I

"Effaith Mel Bod Ruffydd."

"1I!Iii"-Ebenezer a'r Cylch.