Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GAIR 0 EGLURHAD.

BWRN Y BEGERA A'R CASGLU YMA.

News
Cite
Share

BWRN Y BEGERA A'R CASGLU YMA. Br. GOL.- Byddem yn arfer meddwl mai peth hyll iawn oedd begera, ond erbyn heddyw ym- ddengys ei fod yn un o'r pethau mwyaf an- rhydeddus. Mae wedi dod yn faich ar y Wladfa. Rhwng y Groes yma a'r Groes arall, y Fund yma a'r Fund arall, y Fyddin yma a'r Fyddin arall, yr ydym lawer ohon- om bron a methu cael bwyd i'n plant ein hunain tra'r ydym yn anfon ein harian i ben draw'r byd i helpu plant pobl eraill. Da chwi, Wladfawyr anwyl, gwnewch rywbeth yn y Wladfa gyda-'ch arian. Gwnewch rywbeth i'r Wlad sydd wedi eich gwneud chwi. Pam y gadawsom ni yr Hen Wlad ? Onid am fod y Sais yn gwrthod i ni fyw yn deilwng yno ? Gwnewch rywbeth i'r Wladfa, y wlad sydd wedi eich gwneud chwi. "Charity begins at home." Mae yma yn y Wladfa ddigon o Groesau yn galw am help i'w cario, heb fyned i wledydd eraill i chwilio am danynt. Daw y stori a ganlyn i'm cof yn y cysyll- tiad yma. Yr oedd bachgen bach am- ddifad yn yr Hen Wlad, ac wrth gwrs nid oedd modd cael help iddo. Wei, we)," meddai rhyw hen wr call, Rhaid i ni bar- dduo dy wyneb di, a dy anfon di draw i Fryniau Khasia i'r India, ac wedyu mi ed- rychan ar dy ol di, Wnan nhw ddim i ti yma gartref." Ie, ie, peidiwch a myned a'r bara a'r man- teision, o enau eich plant bach eich hunain a'u rhoi i bobl arall ddieithr. Nid nad yw pob achos yn deilwng dweyd yr wyf fod yma yn y Wladfa lawer o achosion llawn mor deilwng, a rhai o honynt yn fwy felly nalr un o'r achosion yr anfonir cymaint o arian i ffwrdd o'r wlad er eu mwyn. Nawr, hai ati, chwi'r bobl sydd a chenycb ddigonedd o arian Gwladfaol, gwnewch rywbeth yn y Wladfa gydalch arian, er mwyn eich plant eich hunain. En nombre de la libertad de la Argentina, I hagamos algo para el pais que tantohahecho I para" nosotros. GWLADFAWR WEDI GWYLLTIO.

i TREMYDD A'R CYNGANEDDION.I

Dyffryn y Camwy.I

Gleanings.