Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
IAMYWION.I
AMYWION. I Dydd Mercher, Medi 18, cyehwyuodd y Parch. Morgan Daniel, B. D. yn ol am yr Andes ar 01 treulio rhai misoedd yn ein plith yn Nyffryn y Camwy. Gwerthfawrogwyd yn fawr ei wasanaeth gan eglwysi a chyu- nulleidfaoedd y Wladfa, a chaifif dderbyniad croesawgar pa bryd bynnag y gwel ei ffordd yn glir i ddyfod yma eto. Pob Ilwydd iddo gydai'i waith yn Nghwm Hyfryd ac Esquel. Deallwn mai gyda'r Br. Mihangel Ap Iwan, yn ei fodur, yr aeth Mr. Daniel yn ol. Hefyd yr un adeg yr oedd y Br. a'r Fones John Freeman a'u plant achefydy Br. Joseph Freeman yn myned yn ol ar ol treulio rhai misoedd yma. —o— Mae'r hen frawd ffyddlon David Coslett Thomaswediei gaethiwo gan waeledd iechyd er's wythnosau. Mae arwyddion ei fod yn graddol enill nerth. Dymuniad pawb yw iddo gael adferiad iechyd fel y gallo eto ddyfod i lenwi ei gylch o wasanaeth crefydd- ol fel cynt. -0- Y dydd o'r blaen gwelsoi-n yr hen frawd Josiah Williams yn edrych yn gryf ac efe yn 86 rnhvydd oed. Mae yntau yn parhau i ddarllen Ilyfrau da yr hyn wnai fyny am yr hyn golla o herwydd trymder ei glyw. -0- Yn Gynnadledd flynyddol yr Eglwysi Rhyddion gvnnaliwyd yn Rhyl, Gogledd Cymru, penderfynwyd rhoddi "medals," i aelodau hynaf yr Ysgol babbothol yn Nghymru. Rhoddir" medals" i blimp o'r aelodap hynaf bob blwyddyn. Dyma enwau y rhai sydd wedi eu derbyn eleni :— Mrs. Ann Parry, Carrog, Corwen, oed 94, ac yn aelod o'r Ysgol Sul er's 91 mlynedd Mrs. Jane Jones, Bethel, Porthmadog. oed 92, yn aelod o'r Ysgol Sul er's 89 mlynedd Mrs. Elizabeth Roberts, Penrhyndeudraeth, oed 89, yn aelod o'r Ysgol er's 86 mlynedd Mrs. Jone Williams, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, oed 91, yn aelod o'r Y sgol er's 86 mlynedd. Y burned i gael "medal" ydoedd Mrs. Jane Jones, Prestatyn. Bu Mrs. Jones farw cyn i ddiwrnod y gwobrwyo ddyfod. — o Dywedir fod Italiaid Trelew wedi gwneud swm mawr o arian tuag at Groes Goch y Cyd- bleidwyr. Diwedd yr wythnos ddiweddaf a dechreu'r wythrios hon bu ganddynt Nodachfa a Chynherddau, a bu I y naill a'r llall yn Hwyddianus i godi yn lied uchel Drysorfa'r Groes Goch. —o— Rhaid i blant ysgolion Berlin ddysgu y deg gorchymyn canlynol :— i. Rhaid i bawb gynilo. Os bydd pawb yn darbod, yna fe gaiff Germani ei digoni. 2. Na wastreffwch fwyd. 3. Cymerwch amser i fwyta a chnoi eich bwyd yn drwyadl. 4. Gochelwch fwyta rhwng prydiau. 5. Bwytewch fara rhyg yn lie bara gwen- ith, a byddwch gynil gyda'r bara. 6. Byddwch gynil gydag ymenyn bwyt- ewch gaws, a marmalade yn lie ymenyn. 7. Bwytewch yn helaeth o lysiau tires, fel yr arbedoch gigoedd a, bara. 8. Wrth y bwrdd gelwch am bytatws yn eu crwyn. 9. Prynwch felusion o bob math, ac an- fonwch hwy i'r milwyr sydd ar y tnaes. 10. Yn mhob peth a wnewch, cofiwch y gellwch trwy eich cyfran fechan fod o gym- orth sylweddol i greu gwlad newydd yr hoii ydym yn ei dysgwyl. -0- Uwchlaw pob peth meddai Victor Hugo dysgwch y plant i gynilo, o herwydd cynil- deb sydd sylfaen pob rhinwedd. -0- Mae ambell i ffermwr, meddir, yn defn- yddio ei fab er mwyn y fferm yn lie y fterm er mwyn ei fab. -0- Mae llwyddiant y plant, meddir drachefn, yn dybyuu i raddau helaeth ar eu cychwyn- iad mewn darbodaeth, ae ilr arferion' a ddys- gant oddiwrth eu rhieni. — Dydd gwener, Mehefin 20, yr oedd y Gwir Anrhydeddus Mabon, A. S., yn 77am mlwydd oed. —o— Nos Fercher cyrhaeddodd y Bonwyr Evan John Roberts, Evan Coslett Thomas ac Aeron Morgan yn ol o Buenos Aires, a deallwn fod y FonesJohn Henry Jones a'r Fones Richard Edwards yn gwella yn rhagorol yn yr Ysbyty Brydeinig, hefyd mae y Fones Ivor Rees wedi gwella ac yn bwriadu dychwelyd yn ol gyda'r llong nesaf.
Nodion.1
Nodion. 1 Gail GAIMANYDD. I Cynhaliwyd cyrddau yr Undeb Efengyl- aidd y tro hwn yn Methel gan ddechreu nos Lun Medi 16, a pharhau dros dranoeth. Y cenhadon oeddynt y Parchn. Esan Evans, R. R. Jones, Trelew, a M. Daniel B. D. Cyn- nulliadau lliosog ac achlust am wrando yr hen efengyl felldigedig a phawb yn teimlo fod rhyw eneiniad neillduoi ar bob oedfa,— y presenoldeb Dwyfol yn llanw'r babell fel nad oedd angen i neb oedd yno ofyn—" A daeth Efe ilr Wyl ? Arosed y fendith hyd fyth. -0- Yr oedd yn ddiwrnod mawr yma ddydd Gwener, yr 2ofed o Fedi, heblaw bod yn Wyl Goffa Garibaldi, rhyddhawr anfarwol yr Eidal, ac un o arwyr penaf y byd, bu yn ddwthwn neillduol hefyd yn hanes Ysby- ty'r Gaiman. Treuhwyd diwrnod Ilawn at amcanion daionus a dyngarol. Bwriwyd pentyrau o aur ac arian i drysorfa wag yr Ysbyty, draws-ffurfir yn alllaw yn ymgeledd fwyrl i'r claf, ac yn gymhorth cryf i'r ang- henus. Rhwng y casglu taer a dyfal am wythnosau, y nbdachfa frwd a byw, a'r cyngherdd fu'n gymaint 0 adloniantac adeil- adaeth, llanwyd hen hosan pwyllgor yr Ys- byty hyd y pen glin. Adroddirfod ynddi tua phum mil o ddoleri. Oiiie. y.\9" dyngar- wch dan ei goioa o hyi ar lan y Camwy ? --0- Trwy garedigrwvda lhywun neu gilydd cefais afael ar Rhaglen y Cyngherdd, a rhed- ai yn debyg i hyn,— Llywydd, Morgan. Anveinydd, Deilliol; y naill a'r llall i swyddi o herwydd absenol- deb Ap Gutyn a'r Br. J. Foulkes. Chwareu ar y piano yr Emyu Genediaethol, gan y fon- esig Alvina Amiconi; arawd gan Yuad y Rhanbarth Br. A. Faconti can gan yr Eos Unwaith eto'n Nghymru anvvyl adrodd- iad yn yr liispaenaeg gan y fouesig Cristina MacDonald detholiad ar y piano gan y fon- esig Hays adroddiad gan y fonesig Nest Edwards, Y Milwr"; "H wiaugerdd y fam gan gor merched y- Gaiman, dan arweiniady Parch. D. D. Walters adrodd Cyllafan Morfa RhnddJan" gan Deiniol "Myfanwy" gan gor meibiol1 y Gaiman dan arweiniad y Br. Phillip J. Rees adroddiad Sei.snig gan J. Sydney Jones auerchiad yn y Sbaeneg gan Ithel can a chydgan, Boed ysbryd ein cyndadau" a Gosteg For" gan gor Bryn Crwn (Ed. Morgan); adroddiad gan y fonesig Mafalda Amiconi, yn nghyd a chyf- eiliant gan ei chwaer Alvina; adroddiad The charge of the light brigade," gan Arthur Berwyn deuawd gan y ddau frawd E. J. a Bobbie Evans can Llwyn On," gall Alawen ;gair o gyfarch gan y Llywydd can gan Argentina Berwyn canig Y Gwan- wyn Hardd gan y cor merched canu ar y piano gan y fonesig Buddug Pugh y fones Berwyn yn diolch yn wresog i'r fintai fawro lodesi ieuainc yr ardal fu dan ei harolcgiaeth hi yn casglu ac yn gwerthu tocynau'r Nod- achfa er budd yr Ysbyty can gan yr Eos, "The old kentucky home Comrades song of hope" gan y cor meibion. Encor mawr, a "Codwn Hwyl yn dilyn. Diw- eddwyd trwy ganu Heii Wlad fy Nhadau a'r Eos feluslais yn arwain. -0- Nawu Sadvvrn diweddaf daeth tren arben- ig a rhag i gyrchu ein cor meibion, yn nghyd a'r Alawen a'r Eos i Madryn i gynnal Cyng- hcrdd clasurol yno yn swn y mor, er buddy Groes Goch Brydeinig. Adroddant iddynt gael croeso gwresog ar law y Madryniaid. Bu dda eu gweled wedi dychweljd yn ddi- anaf, serch i ddamwain y llwyfan eu byg- wth braidd.
Cronfa Goffadwriaethol Arglwydd…
Cronfa Goffadwriaethol Arglwydd Roberts. Casgliad Trelew. Swm dderbyniwyd o'r blaen $ 891.00 David Coslett Thomas 10.00 Thomas Pugh 10.00 v $911.00 Mae cyfraniadau eraill i ddyfod i law. ).c
The Newspaper of Nicolas.
The Newspaper of Nicolas. The press of Russia and Germany actually reproduces a series of extracts of the well- known newspaper of Nicolas, who is dead according to some, prisoner of the Kaiser according to others. "I have slept well It is a day of sun and frost "I read to Julius Cesar On awaking I found myself far from Divinsk Such are the notes with which the impotent Czar of all Russia occupied his time. Is it possible to imagine something pool-er in ideas and sentiments ? Deprived of the magnificent imperial cloak, and separated from the rascals, parasites and the perverse that surrounded him, Nicolas Romanoff is what he is, or was what he was less noble than a poor man, or as we vulgarly say, a poor devil, whose insignificance is coupled with his im- becibility. God knows how he would have managed to promote his work. And to think that the miserable Russian peasants rob their sons of a piece of bread to pay the expensive cost of the pompous show of that simulator sillier than any of his pages.— Atlaniida, Bs. As.
Ffactri Gaws.
trwyadl, dyddorol, ac addysgol. Mantais fawr i'r sefydliad yn Llandyrnog yw bod o dan nawdd Prif Ysgol Bangor, a mantais i bob sefydliad yw bod dan nawdd dynion dysgedig a phrofiadol. Dyma ddy- wediad glywir gan fechgyn yr ysgolion a'r colegau,—Peth hawdd yw gwneud honiad, peth anhawdd yw pasio arholiad. Mae genym niiiau ein ffactri gaws a dy- wedir fod yr C. M. C. yn bwriadu codi dwy arall, an yn y Dyffryn Uchaf a'r llall yn y Dyffryn Isaf. Prin y gellir dyweud fod y ffactri sydd genym eisioes wedi llwyddo i droi ailan gaws marchnadol; o leiaf, anfynych yr ydym ni pobl y WJadfa yn cael caws marchnadol. Dyma ddywedir am gaws ffactri Llandyrn- og Mae'r caws a wneir o ansawdd rhag- orol a blasus iawn. Gwerthir ef i brynwyr awdurdodedig y Llywodraeth." Gwelir hefyd fod ffactri gaws Llandyrnog wediderbyn ei pheirianau angenreidiol gan Fwrdd Amaethyddiaeth. Mor ofalus y mae pwyllgor y ffactri uchod wedi gweithredu. Yn gyntaf dywedir iddynt dderbyn peir- ianan'r ffactri gan Fwrdd Amaethyddiaeth, ac yn ail dywedir fod Prif Ysgol Bangor yn gyfrifol am y ffactri eleni, ac yn drydydd fod y Brif Ysgol wedi pennodi athrawes fedrusa galluog i ofalu am y lie. I Mor ofalus y mae'r pwyllgor wedi symud, ac mor ddoeth yn ei waith yn ceisio cyn- orthwy a nawdd pobl ddysgedig a pdrofiadel y Brif Ysgol. Mae gormod o duedd mewn rhai o honom i anwybyddu dysgeidiaeth, a'r Wladfa o herwydd hyny yn dioddef os nad ditywio. Beth sy'n cyfrif am y ffaith nad yw'r ffactri gaws sydd genym yn troi allan gaws olr ansawdd goreu ? Ai ar y peirianau y mae'r bai ? Neu ar y rhai sy'n arolygu y ffactri ? Un peth a' wn i—nad yw'r caws werthir yn ystordai y Cwmni, caws y ffactri, ddim o gystal ansawdd a chaws wneir gan rai o ferched y Wladfa. Talai yn dda i'r C. M. C. i ahfoti un neu ddwy o ferched y Wladfa i ffactri gaws Llandyrnog i dderbyn cwrs o addysg ac hy- fforddiant trwyadl. Ni chlywais ychwaith fod cymaint ag un Cy.mro na' Cliymraes yn gweithio yn ffactri yr C. M. C., a dichon fod pethau yn cael eu fjollvvng yn ormodol o'n dvvylaw fel Cymry.