Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

V RHYFEL.

News
Cite
Share

V RHYFEL. [PARHAD.] Yn un o'i areithiau diweddar yn senedd yr Unol Dalaethau (America), dywedai un o'r gwleidyddwyr penaf yno nad yw y rhyfel presenol yn ddim mwy na ilal nac ymdrech rhwng anwariaeth a gwareiddiad, neu mewn geiriau eraill, rhwng y ddau ffurf ar lywodraeth fel eu personolir gan ymher- awdwyr, yr Almaen, Awstria a Thwrci ar un llaw, a chau Prydain, Ffrainc ac Ame- rica ar y llaw arall. Yn y gwledyda blaenaf a euwyd, un- benaeth filwrol sy'n rheoli pobpeth a'r deiliaid yn g-aethion-er na fynant hwy druain gael eu cyfrif felly ychwaith; yn y tair gwlad olaf a enwyd, y werin sy'n rheoli drwy fod y gallu yn eu meddiant i ddewis eu ilywodraethwyr eu hunain; gwir mai brenhiniaeth (mewn enw) yw'r ffurflywodr- aeth yn Mhrydain, ond ewyllys y werin sy' oruchaf yno, drwy ei chynrychiolwyr yn y senedd, ac ni faidd yr orsedd ymyryd mewn dim ond drwy ganiatad y senedd. Rhaid i bob gwlad gael rhyw un yn ben arni, gelwir y penaf hwnw yn Arlywydd mewn gweriniaeth, a'r wlad fwyaf gwerinol yn y byd, sef Prydain, a eilw ei phenaeth hi yn frenin-a dyna un o'r pethau sy'n ei gwneyd yn Brydain Fawr, gadarn a sef- ydlog, ydyw y ffaith na theflir mohoni yn ddyspeidiol-bob pedair neu ragor o flyn- yddoedd i ferw trybestlyd a chostfawr etholiad Arlywyddol megis y gwelir yma ein g-wlad ni, Archentina, a gweriniaethau eraill; ped amcanai y breuin Sior yn Mhrydain heddyw i geisio yr awenau i'w ddwylaw ei hunan, yfory gwelid Iihyw "Sior" arall yn ei orchymyn i ymbwyllo. Yn ystod yr haner can mlynedd diw- eddaf, cawn y daeth cyfnewidiad mawr a thrwyadl i mewn i hanes yr Almaen, cyfnewidiad a drawsffurfiodd bobl garedig a heddychol i fod yn beirianwaith dieflig rhyfel yn nwylaw Prwsia falch ac uchei- geisiol, oedd a'i bryd er's dau can mlynedd ar fod yn benaf yn mysg y bobl Almaen- aidd, a daeth ei chyfle ar derfyn y rhyfel rhyngddi a Ffrainc, a'r adeg- hono yr oedd Bismarck yn anterth ei ddylanwad yn Mhrwsia fuddugoliaethus, ac o dan ei ar- weiniad ef y dygwyd i fod yr Ymherdraeth fawr Almaenaiddd bresenol drwy uno y gwahanol frenhiniaethau a choroni brenin Prwsia yn ymherawdwr. Yn ddi-os, Bis- marck ydoedd y gwladweinydd cyfrwysaf a galluocaf yn ei oes ar gyfandir Ewrob, a phe byw efe yn 1914, ni fuasai y byd yn ei ofnadwy in.-oedd heddyw, oblegid y mae ar gof a chadw y cynghorodd y Kaiser presenol fwy nac unwaith i ymgroesi rhag myned ohono i ryfel a Phrydain, ond di- ystyru pob cynghor a wnaeth efe yn ei aw- ydd aniwall am gyrhaedd ei nod mawr o fydlywodraeth. Cymerodd y cyfnewidiad a nodwyd uchod le bron yn ddiarwybod i wledydd eraill Ewrob a'r byd, ac o bosibl heb i werin yr Almaen el hunan sylweddoli hyny, daeth dros y wlad megis gwallgofrwydd, ac fel y cynyddai, aeth y bobl yno i gredu mai yn eu plith hwynt yn unig i trigai doethineb, ac fod y miliynau pobl eraill drwy'r byd allan o'u synhwyrau-yn wirioniaid i dost- urio wrthynt, ac mai ei dyledswydd hi, yr Almaen fawr a dysgedig oedd eu cymeryd o dan ei nawdd-11 eu casglu yn nghyd megis y casgl yr iar ei chywion o dan ei hadenydd er mwyn eu daioni hwy eu hunain. Yn awr, dywed y meddygon mai y ddau beth anhebgor er adferiad y truau anffodus y b'o anmharedd ar ei ymenydd ydyw gorphwysdra a llonyddwch, ond y rhaid ei Iwyr feistrcli yn gynitaf wrth gwrs, a dyna'r driniaeth y rhaid i'r Almaen fyned o dani bellach cyn y .-law ati ei hunan—i'w dillad a'i hiawn bwyll yn mysg cenhedloedd y ddaear. Yn mhellach, nis gall y cyngreirwyr feiddio syniad qm un math o gyfaddawd (compromise) heddychol a hi heddyw, gall- esid hyny yn hawdd adeg toriad allan y rhyfel yn 1914, ond y mae yn rhy ddiw- eddar i hyny erbyn hyn ar ol iddi hi fynu dadweinio'r cledd gyda'r'bwriad o yru byd heddychol i'w groeshoelio ar Olgotha god- asai hi ei hunau i'r amcan hwnw. "Y sawl a ddadweinio gleddyf, a'r cleddyf y lleddir yntau," "a r sawl a gloddio bwll a syrth iddo," ebr Y Gair sydd wirionedd tragwyddol. Mae yn debyg na welodd y byd erioed adeg mor ofnadwy o fygythiol yn ei holl hanes o ddechreu amser hyd yr awr hon, a'r hyn a hongiai uwch ei ben chwe mis yn ol pan grynai cyfandir Ewrob o dan gerdd- ediad miliynau arfog y Kaiser a brysurent o'r ffindir Rwsiaidd ar ol y brad uffernol a wnaed yno—at ei fyddinoedd yn Melgium a Ffrainc i ymosod ar y cyngreiriaid, tori drwy eu rhengoedd a meddianu Paris a'r porthladdoedd ar y cyfyngfor; Ha! fel y daliem ein hauadl yr adeg hono gan ofn iddo lwyddo, a'r nefoedd yn unig a wyr, pa mor agos i ymyl y llynclyn anoddyfn orchfygiad y bu rhyddid a gwareiddiad yr adeg hono, erbyn heddyw y mae'r awyr- gylch wedi clirio cryn lawer a'r bygylwr a'i gefn tpa Pharis. Yn ystod y llwydd-a fu ar ei ymgyrch fawr, a mwyaf, wele gymreigiad o rai o'r gwefrebau a anfonwyd gan y Kaiser a Hindenburg at eu Ilryndiau,- Y Kaiser at Gynghor Talaethol Scheles- wig-Hoistein, Mawrth 2oed "Yfory daw gwobr buddugoliaeth yn eiddo i ni a chawn heddwch teilwng o fawredd yr Almaen". Hindenburg ar yr un dyddiad at Gynghor Posen, Yn nghymorth Duw ni a orch- fygwn y gelyn yn Ffrainc megis y gwn- aethorn yn Rwsia. a bydd y ffordd yn glir i heddwch manteisiol i'r Almaen", Y Kaiser at Lefarydd y senedd yn Berlin, Mawrth 27ain (yn mheh yr wythnos ar ol dechreu'r ymosod—) "Yr ydym wedi llwyr ysigo nerth milwrol Prydain. Bydded i'r genedl Almaenaidd feddu ffydd ddiwrthdro yn y cleddyf sy'n gwasgaru ein gelynion ac yn dwyn heddwch i ni, felly y cynorthwyed Duw ni." Cyn terfynu, wele eto ddangosiad neu ddau o deimladau y filwriaeth fel eu gosod- id allan yn mhrif newydduron y wlad ar y pryd,—Ebr y Volks-Zeitung (Cologne)— "Y mae yn amlwg- ddigon i bawb nas gallwn heddyw feddwl gwneyd heddwch a'r delerau mor ffafriol i'n gelynion a'r hyn fuasem yn barod i'w ganiatau iddynt fis yn ol. Bellach gorfodwn hwynt i dder- byn y telerau a welwn ni yn dda roddi o'u blaenau.A dyma a ddywedai y "Deutche -Zeitung" (Berlin)- "I lawr a'r siarad ffol am heddwch,! y mae dialedd cyfiawn a gwir lais yr Almaen unol yn gwaeddi heddyw drwy yr holl ym- herodraeth i gyd-I lawr a Phrydain. Dyna ddigon i ddangos y balchder Ys- pryd (o flaen' cwymp) oedd yn nodweddu yr Almaen haner blwyddyn yn ol, ac—"A newidia yr Ethiop ei groen, neu y Uewpard ei frychni" yw'r adswn a ddaw hyd atom dros ysgwyddau'r canrifoedd pell yn ol. W. H. H. I

GAIR 0 DDIOLCHGARWCH. I

Y RHYFEL.'

Ffactri Gaws.