Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Mr. Lewis Loyd.I

News
Cite
Share

Mr. Lewis Loyd. Mr. Lewis Loyd a anwyd mewn ffermdy yn Cwm-y-to, Cil-y-cwm, Llanymddyri, Sir Gaerfyrddin. Cafodd y tad, sef William Loyd, addysg lied dda, a gwnaeth aberth mawr i roddi addysg dda i'w blant, yn en- wedig i Lewis, y bachgen hyuaf. Anfonwyd ef at Mi". David Price, i Lanbedr, lie y cafodd addysg ragorol, ac ystyried y cyfnod. Yr oedd y rhieni wedi dyfod i'r penderfyniad fod Lewis i fod yn weinidog, ac felly yn gof- yn am addysg dduwiiiyddol hefyd. Wedi gorphen ei dyinhor yn Llanbedr, bu wed'yn am ychydig amser yn Athrofa y Presbyter- iaid yn Abertawe. Yna pendferfytiodd ei dad ei anfon i Goleg Undodol Mauceinion, ag oedd newydd gael ei symud o Warrington. Nid oedd gan William Loyd nac aur nac arian i'w roddi i Lewis ar ei gychwyniad i Fanceinion, ond yr oedd ganddo ferlyn gwyn, a dyna unig gynnysgaeth ei dad iddq ac ar gefn y merlyn gwyn y marchogodd Lewis am tuag wythnos o amser—rhwng cant a haner a .dau cant o filltiroedd-gan gyrhaedd Manceinion Medi gfed, 1789. Er mai prif, os nad unig, amcaii Lewis Wrth ddyfod yiria ydoedd cwblau ei efrydiaeth dduwiiiyddol, eto cawn iddo awgrymu mewn riiodd lied gryf ac eglur, fel pe wedi cae l math o rag- welediad, y deuai yr ådeg pah y gallati dalu yn dda i'w rieni am yr aberth a wnaeht er- ddo. Wedi cyrhaedd y dref, ac ymgartrefu yn y Coleg a safai ar gongl Heol y Dywys- oges a Heol Mosley, cawn iddo gynnyddu yn gyflym yn ei astudiaeth. Ei athrawon oedd- ynt Dr. Barnes a Dr. John Dalton. Yr oedd dau Gymro yn mhlith ymddiried- oIwyr y Coleg, sef William a Samuel Jones, olwyr y Cole g(,B.?iikers), a thrwy fod Lewis yr Arianwyr £ Bankers), a thrwy fod Lewis Loyd yn llanc gobeithiol, cymerodd y ddau foneddwr gryn lawer o ddyddordeb ynddo. Yn bur fuan penodwyd Lewis yn un o Ath- rawon y Coleg ac yn weinidog capel yr Urt- dodwyr yn Dob Lane, Newton Heath. Yr oedd y merlyn gwyn yn parhau yn ei feddiant, ac ar ei gefn yr elai ar hyd y llwybrau culion, a gwledig y pryd hyny, nes cyrhaedd y capel. Erbyn heddyw y fath wahaniaeth I yh lie nieusydd a gwrychoedd heolydd a thai. Arferai y Parch. Lewis Loyd newid pwl- pudau a'r Parch. John Pope, ac wedi hyny a'r Parch. Thomas Throadhurst, gweinidog- ion capel Blackley, ar wahanol amseroedd. Gan fod v capel hwnw yn gvrchfan rhai o brif foneddigion y dref, daeth y gweinidog Lewis Loyd i gyfarfyddiad ag amryw ohon- ynt. Yn mhlith ei wrandawyr yr oedd, yr Arianwyr, William a Samuel Jones, a Miss Sarah Jones, eu chwaer. Tal pur wael gaffai y pregethwr yn Lloegr fel ac yn Nghymru. Deugain punt y flwydd- yn ydoedd cyflog y Parch. Lewis Loyd, ond byddai ambell i foneddwr hael yn rhoddi rkywbeth yn ei law yn fynych. Nid oedd prin dair blynedd oddiar pan y daeth yma, cyn iddo ffurfio cyfeillgarwch arbenig a'r Miss Sarah Jones ddywededig. Merch graff a chahddi synwyr cyffredin cryf ydoedd hi. Yr oedd wedi gwneud ei mheddwl i fyny i beidio priodi neb ond rhywun a chryu dipyn o synwyr yn ei ben, pa beth bynag a fyddai yn ei logell. A chan fod y Cymro o Lanymddyfri yn dyfod i fyny a'i safon, cytunasant a'u gilydd i fod yn wr a gwraig, ac ar yr iieg o Dachwedd, 1793— tua phedair blynedd wedi gadael anedd ei rieni—ymunodd mewn glan briodas a'r fen- yw ag ydoedd wedi gwrthsefyll ami i gvn- nygiad oddiwrth foneddigion eraill. Pan gymerodd y briodas le, penderfynodd ei dau frawd, weithian,i dori cysylltiad eu brawd- yn-nghyfraith a'r coleg ac a'r pwlpud. Y cam nesaf oedd ei gymeryd i'r Ariandy yh Heol y Brenin. Erbyn hyn daeth yr addysg elfenol a bydol yn fanteisiol iawn i Lewis Loyd. Penodwyd ef i swydd uehel, ac yn rhanog yn mherchenogaeth yr Ariandy. Yn. mhen ychydig amser trefnwyd iddo fyned i arolygu yr Ariandy yn Llundain. Y pryd hyny newidiwyd enw'r Ariandy, gan osod einv Loyd ynddo. Yn fuan wedi i Mr. a Mrs. Lewis Loyd fyned i'r brif dduias gauvvyd iddynt fab—eu hunig anedig blet)- tyn-sef ar y 2sain 0 Fedi, 1796, a galwyd ei enw 0 barch i'w ewythr hyglod, yn Samuel Jones, ac fel y Samuel gynt efe a [ gynyddodd ac a aeth yn dda gan Dduw a dyniou hefyd." I' 0 fyw lwydd y drigfa Ian-ar aelwyci Reolus a dyddan 'E dyner faethwyd ftniad-o rinwedd I loew fuchedd Samuel fychan." Cafodd y Samuel Jones Loyd hwn ei add- ysgu yn mhrif ysgolion y deyrnas. Bu am beth amser yn yr Ariandy yn Llundain. Yn 1821 bu farw Mrs. Loyd, yn 62 mlwydd oed, tra ar ymweliad a'i brawd. William Jones, yn Broughton New Hall, a chladdwyd hi yn ngladdfa capel Heol y Groes. Priododd Mr. Lewis Loyd eilwaith a bon- eddiges o'r enw Mrs. Champion, a hi yn ber- chen cant a haner o filoedd o butinau. Yn 1844 prynodd Mr. Lewis Loyd Bare ac etifeddiaeth Ovferstohe, yn swydd North- ampton. Daeth. y mab, Samuel Jones Loyd, yn Arglwydd Overstone, wedi bod yn Aelod o Dy'r Cyffredin yn flaenorol. Cyhoeddodd amryw lyfrau ar fiterioii ariaiiol, ac edrychid arno fel awdurdod uchel yn nglyn amasnach ariahdai. Yr oedd ef yri werthptith milium o bunnau. Bu ei dad farw Mai 13eg, 1858, yn 90 mlwydd oed, ac yii gyfoethog iawn. Arg- lwydd Overstone gafodd gyfoeth y ddau ewythr, W. a S. Jones. Gresyu na buasai cofadail o fynor wedi ei chqdi yn Manchester i Lewis Loyd a'i ferlyu gwyn. Bbed i'r Arian wr arol hyn A'i ferlyti gwyn godidog, Gofadail hardd, o fynor gwyn, Gwnai hyii y ddau yn ehwog. IONAWRYN WILLIAMS. ——————- i.L ——

DYDDlADURMEDI. I

Advertising